Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
-.q..o..o-.oo-.o.oO'.ooc-.o-<1"<>…
t Y WERS SABOTHOL. 1 6 6 17" class="col-xs-12 no-padding">
t Y WERS SABOTHOL. 1 6 6 17"
class="col-xs-4 article-panel-category">
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
.q..o..o-.oo-.o.oO'.ooc-.o-<1"<> t Y WERS SABOTHOL. 1 6 6 Y WERS RYNGWLADWRIAETHQL. | » A Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, I t M.A., B.D., Abertawe. +oøoooooo+1 TACHWEDD 25am.—Salm o Ddiolchganvcli.— Salm ciii. Y TXVSTYN HURAIDD. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd ac nac aiighofia Ei holl ddoniau Ef-'—Salm ciii. 2. GELWIR ni yn sydyn oddiwrth Llyfr Nehemiah at un o'r Salmau, ac ar yr olwg gyntaf edrycha'r drefn yn annaturiol. Oud pan gofir mai llyfr emynau yr Eglwys Iddewig ydyw Llyfr y Salmau, gwelir peth priodoldeb mewn dew is emyn yn Wers wedi adrodd am daith Nehemiah i Jerusalem. Cyfansoddwyd y Salmau mewn gwahanol gyfnodau, a diau i lawer Salm gael ei chyfansoddi a'i chanu yn ystod cyfnod y dychweliad i Jerusalem. Nid ydym. wrth ddweyd hynny yn golygu nvii dyna'r adeg y cyfansodd- wyd Salm ein Gwers. Ceir y nodiad, Salm Dafydd/ uwchben hon fel uwchben llawer o'r Salmau, ond dylid cofio nad yw'r geiriau hynny yn perthyn. i'r Salm ei hun, ac nad oes sicrwydd gyda golwg ar ystyr y geiriau. Dichon eu bod yn golygu mai Dafydd ydoedd yr awdur, ond nodiad diweddar ydyw'r teitl. Ac nid oes sic- wydd gyda golwg ar ei ystyr, a gall olygu rhyw- beth arall heblaw awduraeth. Galwad i foliannu'r Arglwydd am Ei ddaioni a'i dosturi ydyw'r Salm, a gellid meddwl oddi- wrth ei chynnwys mai ar ol rhyw waredigaeth fawr y 'i cyfansoddwyd. Gallai yn ddigon priodol fod yn Salm o ddiolch am waredigaeth o gaeth- iwed Babilon, ond nid oes gennym fodd i ben- derfynu. Gogoniant pob llyfr emynau ydvw cvfaddaster at wahanol gyfnodau. Yr ydym yn dathlu deucanrnlwyddiant Williams, Pautycelyn, eleni, ac yn cann llawer o'i emynau fel mynegiad o'n profiad personol ninnau mewn oes ddiwedd- arach. Gwelir yn y Salm hon draw-snewid o'r unigol i'r lluosog: yn y pum adnod flaenaf ymddiddana'r Salmydd a'i enaid, yna cysyllta ei hun a'i gyd-genedl. Yn wir, tueddir llawer i gredu mai parhad o'r Salm hon ydyw'r un sydd yn ei dilyn, a gellir meddwl am y Salmydd yno yn troi oddiwrth ci gyd-genedl at bawb dynion i'w hannog i foliannu'r Arglwydd. Gyda'i gilydd ffurfia'r ddwy Salm emyn i Ragluniaeth. Gellir edrych ar y Salm sydd dan ein sylw yn dair than. Adn. I-s.-Galwad personol i fendithio yr Arglwydd. A'r Salmydd dros y trugareddau a fwynheir 1 ganddo fel anogaeth i'w enaid foliannu'r Ar- glwydd. Ymarfer ardderchog i grefydd bersonol ydyw cyfrif bendithion bywyd. Count your blessings name them one by one.' Nac anghofia Ei holl gymwynasau Ef.' Mor anodd ydyw ymddeffro yn gyfangwbl, o ran meddwl a theimlad ac ewyllys a chydwybod, i fendithio yr Arglwydd Geilw'r Salmydd ar y cwbl jydd ynddo at y gwaith. Ac enwa'r doniau a fwyn- heir ganddo oddiar law yr Arglwydd. Y mae pump o gymwynasau yn berffaith glir ynghof a phrofiad y Salmydd. Yr Hwn sydd yn madden dy holl anwireddau. Annheilyngdod ydyw'r argyhoeddiad ddaw o feddwl am dano:m ein hunain yn ymyl Duvv. A'i barodrwydd Bt i faddeu ydyw te?tyn pennaf I diolch. Yr Hwn sydd yn tsc?aM dy holl lesgedd, neu dy holl glefydau,' neu wendidau.' Yr Hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw, neu o'r pwll.' Yr Hwn sydd yn dy goroni a thrugaredd ac a thosturi. Nid yn unig iacheir yr enaid o'i afiechyd ac yr adferir y corff o glefydau ac yr achubir y dyn rhag y pwll, eithr coronir ef megis brenin a thyner drugareddau. Yr Hwn sydd yn diwallu dy enaid a daioni. Cawsai'r Salmydd ryw waredigaeth fawr. Pan ddechreua'r corff fwrw'i afiechyd, daw arch- waeth at fwyd yn ol. Diet yr enaid ydyw daioni yr Arglwydd. Effaith cymwynasau'r Arglwydd ydyw adnewyddu ieuenctydffel yr eryr.1. Yn lie disgyn i'r pwll,' ehedeg fel eryr wedifadnew- yddu ei blu. Adn. 6-18.-Daioni yr Arglwydd yn gyfJ- rcdinol. Yma eto maddeugarwch yr Arglwydd ydvw'r prif destyn. Hynny ddaeth i'r golwg yn hanes y genedl. Hanes gwaredigaethau rhyfedd jydyw hanes Israel. Hysbysodd ei ffydd i Moses Ei weithredoedd i feibion Israel.' Y mae ffurf y gair hysbysodd yn golygu hysbysai yn barhaus.' Gofynnodd Moses am gael gweled gogoniant yr Arglwydd, a chafodd yr ateb— Gwnaf i'm holl ddaioni fyned heibio o flaeli dy wyneb,' &c. (Exod. xxxiii. 19, xxxiv. 6, 7). Uwchlaw dychymyg na mesur dyn ydyw tru- garedd yr Arglwydd. Tosturia wrth y rhai a'i hofnant fel y tosturia tad wrth ei blentyn. Tery y Salmydd ar wythien gyfoethog gwnaed cyn- nwys y wythien honno'n amlvvg gan Ie.m Grist. Eiddil yw dyn fel blodeuyn y maes, ond y mae trugaredd Duw yn lletach na'r ffurfafen-' 0 dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.' Er i un genhedlaeth roddi ffordd i arall, erys trugaredd yr Arglwydd yn obaith v naill genhedlaeth ar 01 y llall. Adn. 19-22.—Galwad■ ar bawb a phopeth i fen- d-ithio'r A rglwydd. Ynileda'r cylchoedd fwy-fwy. Yn awr gelwir ar holl luoedd y nef i foliannu'r Arglwydd. Cadarn yw Li orsedd Ef. Efe a selydlodd Ei orsedd yn y nefoedd,' ac ar bopeth y llywodr- aetha. Am hynny gelwir ar yr angylion i'w glodfori, a holl egnïon natur. Ond ynghanol yr anthem fawr myn y Salmydd i'w enaid ei hun fendithio'r Arglwydd. Gall yr anthem fod yn brin gerbron yr Arglwydd oni ddaw yr enaid unigol a'i offrwm mawl.
___m_J Brynberian. ]
News
Cite
Share
_m_ J Brynberian. ] —■ Marwolaeth Mrs. Lewis, Brynbanc.—Bore Sadwrn, Medi'r Isfeel, taenwyd prudd-der dwfn trwy'r'holl wlad gan y newydd galarus fod Mrs. Lewis, priod Mr. J. H. Lewis, Shop Brynbanc, Brynberian, wedi marw. Cyfarfyddodd a dam- wain y Mercher cyn hynny a drodd yn angheuol iddi, a hi ond 49 oed. Un o wragedd rhagorol y ddaear oedd Mrs. Lewis. Hanai o deulu a fu'n golofnau yn eglwys Brynberian. Yr oedd ei thad, Mr. John Morris, Tycanol, a'i thadcu. Mr. Lewis Rees, Gilwen, Y11 ddiaconiaid o radd dda, a'r hen dadcu, Mr. John Rees, Fagwrlwyd, yn un o henuriaid yr eglwys efe oedd tad y Parch. George Rees, D.D., Abergwaun. Der- byniwyd Mrs. Lewis yn aelod yn ieuanc ym Mrynberian gan y diweddar Barch. E. Lewis, lie y bu yn weithgar gyda phob achos 'da. Bu'n aelod selog o'r Ysgol Sul a'r Band of Hope, ac yn hoff o waith Cymanfa'r Pwnc a'r Gymanfa Gerddorol. Meddai ddawn da i adrodd y Beibl oddiar ei chof, ac yr oedd yn gantores ragorol canodd lawer o douau cynulleidfaol ac anthemau yng Nghymanfaoedd y Pwne, ac o unawdau yng nghyfarfodydd yr Ysgol Sul a'r cyfarfodydd dir- westol. Pan fyddai gwyliau te gan yr Ysgol Sul, neu gyfarfodydd mawr yn yr eglwys, byddai hi yn llawn gwaith yn paratoi lluniaeth, ac a'i chalon garedig yn ymdrechu gwneud pawb yn hapus. Hefyd yr oedd yn gwarchod gartref yn dda, yn ymgeledd cymwys i'w phriod, a phopeth yn drefnus ganddi yn y ty ac yn y siop. Yr oedd yn gymdoges garedig, yn ymweled a'r cleifion, ac yn haelionus i bawb. Nid oedd plentyn yn yr ardal nad oedd yn neslian, ati er mwynhau o'i haelioni hi. Y Mercher canlynol cafodd angladd tywysoges. Daeth tyrfa fawr o wyr bucheddol i'w hebrwng i fynwent Bryn- berian oedd yn agos i'w chartref, ac htawdd deall fod rhywun uwchraddol inewn parch a phwysig- rwydd yn cael ei chladdu y dydd hwnnw. Daeth ugeiniau o gerbydau a moduron yn llawn o ddynion o'r holl wlad a'r trefydd cylchynol, fel nas gallai'r capel gynnwys y dorf fawr. Gwein- yddwyd gan y Parchn. Dr. Rees, ei gweinidog J. T. Gregory, Peniel (ei chyn-weinidog) J. H. Evans, Trefdraeth J. Evans, Gideon T. Lamb, Gethsemane P. E. Price, Glandwr T. M. James, B.A., Rheithor Meline; J. D. Evans, Rheithor Eglwyswen a B. Morris, Pontyberem. Y prif alarwyr oedd Mr. J. H. Lewis (ei phriod) Mr. a Mrs. D. R. torris a'u plaint (brawd a chwaer- yng-nghyfraith), Glandwr Mr. L. R. Morris a Miss Morris (brawd a chwaer), Tycanol; Mr. John Rees (ewythr), Gilmwr, a Uu mawr o berthynasau eraill. Dangoswyd pob parch posibl iddi hi a'r teulu. Gorchuddiwyd ei harch a'i bedd gan nifer fawr o wreaths rhoddedig gan berthynasau a chyfeillion. M arwolaeth M ilwr .-Cafodd y wlad ei tharo a galar mawr pan ddaeth y newyddftrist fod I Pte. John Herber Llpyd, unig fab Mr. a Mrs. David Lloyd, Rofft-darl, wedi ei ladd yn Ffrainc. Ymunodd a'r fyddin dechreu mis Mawrth pan yn 18 mlwydd a 7 mis oed, ac aeth allan i Ffrainc tua diwedd Awst. a chafodd ei ladd yn y frwydr fawr ar yr 2ofed o I<*edi. Yr oedd yn fachgen ardderchog. Cafodd gorff lluniaidd a phrydweddol, ac yr oedd wrth naturiaeth yn siriol a chatedig--pawl) yn hoff iawn ohono. Amhosibl oedd peidio caru Herber Lloyd. Elai i'r cwrdd i Brynberian, lie y derbyniwyd ef yn aelod yn ieuanc. Yr oedd yn aelod selog o Ysgol Sul Pontgynon, ac efe flaenorai ei ddosbarth pan yn adrodd y pwnc. Yr oedd yn ganwr ardderchog hefyd. Cafodd anrhegion gan yr Ysgol ar ei fynediad i'r fyddin, ymhlith y rhai yr oedd Beibl hardd. Bydd ei gwrdd coffadwr- iaethol un o'r dyddiau nesaf, pan y traddodir ei bregeth angladd gan Dr. Rees, ei weinidog. Cysured y Nefoedd ei rieni a'i ddwy chwaer yn eu galar mawr. Marwolaeth Mrs. Williams.—Drwg iawn gen- nym hysby-su am. farwolaeth Mrs. Elizabeth Williams, priod Mr. David Williams, Rhosfar- cedfach. a hi ond 49 oed. Cafodd gystudd hir a phoenus, a bu farw Hydref iieg yn Ysbyty Hwlffordd, lie y bu o dan driniaeth law-feddygol. x Cludwyd ei chorfi adref y Sadwrn dilynol i Rhosfarcedfach, a chafodd gladdedigaeth an- rhydeddns y Linn, Hydref Isfed, ym mynwent Brynberian. Dilynwyd yr angladd gan dorf fawr o wS-r traed. Y prif alarwyr oedd Mr. D. Williams (priod), Miss Lizzie Davies (ei merch fabwysiedig), ei brawd a'i thair chwaer, a llu o berthynasan eraill. Gweinyddwyd gan y Parchn. Dr. Rees, ei gweinidog; R. H. Williams, Tyrhos, a T. M. James, B.A., Rheithor Meline. Amlygwyd pob parch i'r teulu galarus. Hanai Mrs. Williams o deulu a fu o wasanaeth mawr gyda chrefydd yn eglwysi Brynberian a Phen- ygroes. Derbyniwyd hi yn aelod yn ieuanc ym Mrynberian gan Mr. Lewis, a theithiodd yno'n ffyddlon ar hyd ffordd bell a garw, ac yr oedd yn enwog am brydlondeb. Mynychai Ysgol Sul Pontgynon. Cafodd ddawn da i adrodd y Beibl oddiar ei chof, a darllenai lawer iawn. Yr oedd ei phriod yn anfon y TYST iddi bob wythnos i'r ysbytv. Yr oedd hi'n ddarlun o'r wraig. rin- weddol a ddarlunia'r gwr doeth. Agorai ei genau yn ddoeth, a chyfraith trugaredd oedd ar ei thafod hi. Yr oedd calon ei gwr yn ym- ddiried ynddi. Hi a wnaeth iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. Yn marwol- aeth y tri hyn y mae yr eglwys ym Mrynberian wedi ei cholledi'n fawr. M.R.
I0 Fethel, Arfon, i Fethel,…
News
Cite
Share
0 Fethel, Arfon, i Fethel, Aberdar. Wedi tario oddeutu deng mlynedd gan was- anaethu ei wlad a'i Arglwydd ym Methel, Arfon, dychwelodd y Parch. John Richards a'i deulu i'w hen eglwys ym Methel, Aberdar. Teimlir gan bobl ei esgobaeth mai ehwith y tro a'i cy- merodd yn ol i'r De. Dyvvedaut ei fod yn' wr cadarn, nerthol, yn wladwr dyfal ei wasanaeth cyhoeddus, yn efengylwr croyw ei genadwri a beiddgar ei weledigaethau, ac yn gorffolaeth o gymwynasgarwch. Dywedwyd felly yn y cynull- iadau cyhoeddus ac o enau i enau. Ond efe a aeth, eithr nid cyn dweyd wrtho yng Nghym- raeg gweithredoedd Yr ydym yn hoff ohonoch a hiraethwn ar eich ol. Cymerwch y darnau aur yma er talu llogau eich taith. Nid ym llÎrym Methel yn hoffi'r arfer o gynnal gwyl galar gweinidog. Hebryngasom ein cyn-weinidog hoff, y Parch. Rhys J. Huws, heb arwyl pan yn symud i Bethesda, ac felly y gwnawn gyda chwit'hau. Y mae Mr. a Mrs. Richards yn dychwelyd o'r Eryri yn arnlach eu da, a phen ar y golud hwnnw yw Eryl Menai—genethig heb neb o'r un ddelw feddyliol a hi er dyddiau hogia gardd Eden. Merch y wlad a'r lllynydcl, chwaer Unigedd a Joe y ci ymgyll yn chwareuon y ddau. Ymgynhullodd tyrfa allan o bob llwyth yn Israel i wrando ar bregeth' olaf Mr. Richards. Daeth amryw o'i gyfeillion i fyny o Gaernarfon —twrneiod, athrawon yr Ysgol Ganol, a chyng- horwyr doeth. Cafwyd oedfa feddylgar, onest, a'i bwriad i gynhyrchu meddwl a meitlrin ysbryd Iesu Grist. Dechreuodd Mr. Richards weithio allan ei fwriadau yn Aberdar y Sul cyntaf yn Nhach- wedd. Llwyddiant fo"i gyfnesaf, ac a arhoso yma gyda ninnau. G.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Funs, Black, £ 10 10s. Set, Fashionable whole Skin Tango Stole and latest Round Muff New this Year. Accept Y,2 10s. Approval willingly.—3, Aubert Park, Highbary, London.