Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

CINCINNATI, OHIO. j

News
Cite
Share

CINCINNATI, OHIO. Twyll Etholiadol-Law and Order League— Sam Jones-Priodas Wydr. CINCINNATI, 0., Mawrth 2.—Mae y ddinas hon er etholiad Hydrof diweddaf, wedi bod yn gyson o flaen llygaid y wlad, ac y mae wedi enill iddi ei hun hynodrwydd yn mhlith ei ohwiorydd dinasol, ond mae arwyddion yn awr fod ei drwg wedi cyraedd y gwaelod, ac fod dyfodol gwell o'i blaen. Mao yma fwy na saith mil o wyr y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal Democrataidd y lie, ac y maent yn benderfynol o orchfygu ei broff- wydi. Mae y p wyllgor ogant o blith goreu- wyr y ddinaa weM gwneyd gwaith mawr eis- oes; dygasant lawer o dwyll a melldith rhai o'r prif swyddogion i oleani, ac y maent yn ffereta yn ddyfal y llygod sydd yn difa eiddo y dinaswyr yn y sefydliadau cyhoeddus. Mae rhai wedi gadael eu tyllau a dianc i Canada, ac y mae eraill yn orynu yn eu nodd- feydd, a thebyg y daw rhai ohonyat yn fuan i'r ddalfa. "Yn ddalfa yr elo hi, bobl bach," ys dywedodd hen bregethwr yn Nghymru. Mae'r ymdrech a wneid i gael darlun heul- debol o returns cyichran C. y bedwaredd ddinasran, wedi cren cynwrf a brawf trwy holl wersyll y Democratiaid, ae y mae Dan Daltoc, tad y drwg, we.ii yialadd hyd at drothwy y earchar i'w cysgadi rhag yr haul, ond collodd ei wroldeb pan welodd y drws I "w dderbyn, a rhoddodd hwynt i yn a,,or fyny. Mawr fel mae plant y tywyilwch yn casau golaani, ac eto i'r goleuni rhaid i'w gwfeithredoedi ddyfod rywbryd, "oblegid nid oes dim cudJiedig a'r G..s datguddir, na dirgei a'r nas gwvbyddir." "Law and Order League." -Mae y Gym- deithas hon yn gwneyd gwaith eifoithiol yma. Ll wydduBaut i gau y chwareudai ar y Sabboth, ar ol brwydr bir a chostfuwr. Mae eu llygaid ar y saloon concerts, ac ni or- phwysant nes gweled deddf yn derbyn uf- udd-dcd. Pe gwnelai y Police Commission- ers eu gwaith yn ol eu llw, rhwyddbai hyn waith y League. Ond gan fod y Llywydd Foraker wedi eu diswyddo, ae y dysgwyiir i Uchadys y Dalaeth gadarnhau y diswyddiad heddyw, mae gobaith am well gwarchodlu, ac y ca y League bob cymorth yn eu hym- drechion gwir deilwng. Ham JbMM.—Bu y pregethwr rhyfedd hwn yn efengylu yma am bam' wythnos. Daeth heb fawr udganu o'i tlaen—heb ddarpariaeth gan weinidogion ac eglwysi, fel v bu i dder- byn Mr. Moody. Daeth yma ar wahoddiad Dr. Joyce, gweinidog llafurus Trinity Dr. Joyce, gweinidog llafurus Trinity Church, psrthynol i'r Metho listiaid Esgob- awl, ac ni fu yn hanes y ddinas bregethwr ar ymweliad mor boblogaidd ag ef Yr oedd y Music Hall, yr hon a ddeii o wyth i ddeg mil o bobl, yn llawn bob nos, ac ar nos Sui- iau yr oedd miloedd yn gorfod gadael wedi methu myned i mewn; a'r nos Sul diweddaf y bu. yma, dywedir fod tua deugain mil Wi:jdi troi ailan i'w glywed. Mae yn anhawdd eyfrif am ei boblogrwydd anarferol. Nid oes dim yn swynol yn ei ddyu oddiallan, ac nid oes dim yn maict a fftirf ei ben, ei wyn- eb, a'i lygaid i ysbrydoli pin y darlunvdd. Daw o flaen y gynnileidfa yn dawel ac hun- anfeddianol, a aechreua lefaru yn araf, ac eto llwydda i gudw pcb llygad arno, a phob clust i wrando o'r gair oyntaf i'r gair diwedd- af. jjNid ywmorhyawdlaBeecher.morchwar- yddol a Tal mage, mor gyflawn a Spurgeon, nac mor feistrolgar yn airodd hanesion Beiblaidd a Moody, ond gwyr y ffordd i gal- on pechaduriaid cystal ag un o honynt. Mae yn ddawn hollol newydd ac a* ben ei hun; trinia bechodau byd ac eglwys heb fenyg ar ei ddwylaw. Ca y salwns, y ohwarendai, yr hapchwareudai, y cardian a'r dawnsfeydd eu condemnio ganddo yn ddiarbed. Gwiaga ei feddyliau mewn iaith syml a chyffredin: britha ei bregethau ag ymadroddion ffraethlym, a gwna apeliadau difrifol a phersonol, yn awr ac yn y man, trwy ei bregeth, at ei wrandawyr, yn debyg i hen bregethwyr Cymrc, ac o ran hyny, Cymro yw yntau. Yr oedd ei dadou yn Gymro trwyadl. Mae ei lafur yma wedi profi nad yw'r eftngyl ddim wedi colli ei gafael ar y bobl g, ffredin, ac nad yw Cin- cinnati ddim wedi myned yn rhy ddrwg i ddiwygio. Mae y Music Hall yn cael ei llanw ar nos Sul, wedi i Mr. Jones gefnu, o wrandawyr ystyriol. Mae y gweinidogion yn llawn bywyd; mae'r eglwysi yn deffroi, ac y mae y rhai oeddynt yn estroniaid i'r capeli yn dechreu teimlo mai Iesu Grist ao nid Robert Ingersoll yw eu cyfaill goreu. Priodas Wydr —Chwefror 18 fed, derbyn- iodd Mr. a Mrs. S. Richards, Walnut Hills, ymweliad diarwybod iddynt oddiwrth luaws o'u eyfeillion i'w llongyfarch ar ddydd eu priodas wydr, ac i ddymuno iddynt fawr lwydd yn y dyfodo], fel yn y gorphenol. Cawsant lon'd bwrdd o lestri gwydr gwerth- fawr, y rhai a fynegant iddynt yn ddyataw, ond sylweddol, ddymuniadau daeuhanrheg- wyr. Treuliwyd rtai oriau dedwydd mewu ymddyddan, canu, a bwyta. Rhoddodd un o'r brodyr bregeth fer iddynt ar wersi priod- as wydr, ac adroddodd y rhigymau canlynol: Caed Richards a'i anwyl gymares, Fwynhau eu priodas yn hir, Eu dyddiau fo'n llawn o gysuron, A'u bywyd fel gwydr, yn but; Fel gwydr i dderbyn goleuni I'w tywys trwy lwybrau y glyn, Yn nghwmni gwasWdol yr Iesu, Cant ddigon o nefoedd yn hyn. Boed i chwi a'ch teulu tirioc Fendithion fyrdd y dda'r a'r naf, Fel y buoch, felly byddwch, Weithgar yn ei winllan ef; Pan cldatodir cwlwm daear, Ac y daw yr olaf ddydd, Mvned gaffoch fry i Ganaan, Yno head a phleser sydd. Mor o wydr a gewch yno, Dysglaer, taw el, heb un don, Gorsedd v Jehcfa arno, Tyrfa yn ei foli'n lion; Gwelwch yn ngoleuni'r orsedd Pob rhyw groes yn gymwys iawn, Pethau gynt a fu yn chwerw, Roddant 'nawr foddlonrwydd llawn. HEN GUIBO. nomm-

WHAT CHEER, IOWA.

CALIFORNIA.

Barneveld, Wisconsin.

Advertising

Family Notices

YMDDENGYS MANYLION AM Y RHAI…

HIAWATHA, KANSAS.

[No title]

Nid yr Arwyddion, Eithr y…

Yr Wyf yn D

PENOD I.

MEDDYGINIAETH ANFFAELEDIG…

íPRIS YMOFYNIAD 81.00.]

Advertising