Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

DYDD GWYL DEWI SANT.

News
Cite
Share

DYDD GWYL DEWI SANT. CYMRY NEW YORK. SCRANTON, PHILADEL- PHIA A NEWBURG YN El DDATHLU, Y DATHLIAD YN EFROG NEWYDD. Gwledd Urddasol yn Westminster Hotel- Dechreu Cyfnod Newydd yn Hanes Cymdeithas Dewi. I like the Leeke above all hearbes and flowers; When first we wore the same the field was ours; The Leeke Is white and green, whereby Is ment, That Britaines are both stout and eminent; Next to the Lion, and the Unlcorne, The Leek's the fairest emblym that Is worne." -Harleian Msg. Bydd y laf o Fawrth, 1886, yn ddiwrnod hirgofiadwy yn hanes prif ddinas y Gorllew- infyd yn gysylltiedig a dathliad Gwyl Dad- ogawl Dewi Sant, gan ei gyfenwol Gymdeith- as Haelionus yn ninasoedd Efrog Newydd a Brooklyn. Cynaliwyd y wledd yn y West- minster Hotel, ac yr oedd y cynulliad Iluos- og a'r gwesteion gwahoddedig o'r fath en- wogrwydd fel y rhagorai ar yr holl wyliau blaenorol. Dathlid Gwyl Dewi Sant yn y ddinas yn flaenorol i sefydliad y Gymdeithas hon gan Gymdeithasau Cymreig eraill, a chynaliwyd y wledd gyntaf Gwyl Dewi, 1832, yn Harmony Hall, cor. William and Duane Sts., yn yr hon oedd Daniel L. Jones, Brooklyn, ac y mae wedi ymbresenoli yn mhob gwledd oddiar hyny hyd yn awr, oddieithr y flwyddyn 1855, pryd yr ymwel- odd a Chymdeithas Dewi Sant yn Phila- delphia. Achlysurodd ei absenoldeb anar- ferol hwnw i hysbysiad gael ei roddi yn y newyddiadnron ei fod wedi marw. Hysbys- ai un iddo farw yn sydyn yn Neuadd Dewi Sant, tra yr hysbysai arall gaffaeliad ei gorff ar risiau Tammany. Ond nid oedd neb byw- iocach nag ef yn dathlu ei bum' deg pump Gwyl eleni. William Miles hefyd a ddathlai ei bum' deg ac un Gwyl Cymdeithas Hael- ionus Dewi Sant oddiar ei sefydliad yn 1835. Cynaliwyd gwledd y flwyddyn hono yn St. John's Hall, Heol Frankfort. John's Hall, Heol Frankfort. Yr oedd muriau ystafell-wledd yr Wyl eleni wedi eu haddnrno a Baner y Ddraig Goch yn y pen Ucblywyddol, a'r Ser a'r Brithresi yn y pen Islywyddol, a Baner yr Ynys Werdd a'i thelyn Hibernaidd ar yr oohr, fel y gellid dweyd rhwng yr arwydd- luniau a chynrychiolwyr gwahanol gym- deithasilu cenedlaethol y ddinas: "The Shamrock of Erin, so brilliant and green, Entwined with the Leek and the Thistle are seen." Ond rhaid cyfaddef fod y Geninen wedi ei hesgeuluso yn ormodol eleni, gan nad oedd oud dau eithriad cinmcladwy yn ei gwisgo yn mhlith y saith ugain ag oedd yn bresen- ol, saf y Brython profedig Daniel L. Jones, ac Ap P. A. Mon. Yr oedd y byrddau wedi eu haddurno yn dra chwaethns yn unol a'r en wan addurni&dol ar y Bwydreseb, yr hon oedd yn Gymraeg, lie o nodwedd darpar- iaetbol Gymreig, yr hyn sydd lawn mor wiri jneddol a phe baasai y Menu yn Ffreng- ig, gan nadyw y danteithion bob amsar yn llythyrenoi yn ol y Menu. Llywyddid wrth y prif fwrdd croes i'r yatafell gan y cyn-Bostfeistr Cyffredinol Thomas L. James, Llywydd y Gymdeithas. 0 bob tn iddo yr oedd y cyn-Ysgrifeuydd Cyffredinol Wayne MaoVeagh, Seneddwr y Tal. Un. Warner Miller, y Barnydd Noah Davis, Cad. Stewart L. Woodford, yr 10: Lyjagesydd Van Sintford; y Patch. Dad P. F. Dealey, Xavier Union; Horatio Gates Jones a Charles Emery Smith. Philadelphia, Mil. W. J. Brown, o'r Daily News, Cad. N. T. Williams, Cadben Coburn, Theodore Wil- liams, Albany; Dr. Warren James, a'r Post- feistr Pearson; Carlisle Norwood, yn cyn- rychioli Cymdeithas St. Nicholas; James Fraser, yn cynryohioli Cymdeithas St. An- drew, a Joseph J. O'Donohuo yn cynrych- ioli Cymdsithaa St. Patrick. Yr oedd y Parchedigion caoJynol wrth yr un bwrdd: D. Parker Morgan, Gap el yd d y Gymdeithas; Dr. Roberts, Elizabeth; E. J. Morris a H. Vaughan Griffitb, New York; a John EvaD3, Brooklyn. Yr oedd tri bwrdd hir ar hyd yr yatafell, y rhai a lywyddid gan yr 13- lywyddiou Robert Lewis, a Lewis H Wil- liams, a Chyngorydd y Gymdeithas, Richard J. Lewis. Yr oedd ogyn-iywj ddion y Gym- deithas yn bresenol, W. Miles, II. N. Morgan, Ed. A. Jones, Jno. T. Davies, Hugh Roberta, a'r ysgrifenydd. Anhawdd tynu gwahan- linell ar enwau y boneddwyr ymweliildol, ond bydd pob enw yn argratMig yn yliyfr- yn a gyhoeddir yn faan, yn cynwys hoil weithrediadau yr Wyl, a gall y neb a fyno ei gael gan Ysgrifenydd y Gymdeitbas, Howell C. Reef, ond anfou Dod ciud-dal. Arwein- ydd y gan oedd y Proff. Parson Price a Silas Rosser yn gyfeilydd ar y berdoneg. Yr oedd y darnau cerddorol yn ddetholion o ganiad- an a thonau Cymreig, rnegys Difyrwch Gwyr Harlech, Gwnewch bobpeth yn Gym- Gwyr Harlech, Gwnewch bobpeth yn Gym- raeg, Gwlad y Menyg Gwynion, &c.: BWYDRESEB. Llymeirch ar haner plisg, ISOELL, Crwban gwyrdd, dull Dewi Sint. Amryw DANTEITHION. Amryw Pastelod mewn modd Arbenig. PYSG. Gleislad berwedlg yr Wysg, sibr Esyllwg. Cloron Ovyddesol. BHWNG-DDODIAD. Cywlon grillledlg, dull y Oordovlgion. Pys ttlelsion. Bucholwyth "Mon, Mam Oymru," gyda maesrin. Cloron iihosllauerclirugog. Mysglyn Belrdd Bralnt a Devod. BHOST. Twrci y Sycharth, slbr ceiros Iolo Goch. Ffa drlcgjl.

TOASTS.

Y DATHLIAD CYNTAF YN SCRANTON.…

HYDE PARK, SCRANTON, PA.

DWY WLEDD YN PHILADELPHIA.

GWLEDD DDWBL YN NEWBURG, O.

CYMRY TASMANIA.

ADDUBNIADAU.

[No title]

ADGOFION O'R AMSER GYNT.