Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

NODION PERSONOL.

News
Cite
Share

NODION PERSONOL. YN nghyfarfod blynyddol ymddiriedolwyr Col eg Prinoeton, New Jersey, yr hwn a gyn- aliwyd Chwef. 11 eg, anrhydeddwyd y Parch. WILLIAM DICKENS LEWIS, M. A,, a'r teitl o Ddoctor mewn Duwinyddiaeth. Ai tybed y bydd i Mr. Lewis, fel ei dad-yn-ngbyfraith parchus, wrthod y teitl o Goleg American- aidd ? Pa un bynag, bydd cynygiad Prince- ton iddo yn galondid i eraill ddyfod ar ym- weliad a byd y Gorllewin. AM lofruddio ei wraig, yr hon a omeddai gydfyw ag ef, rhaid i Gymro o Wolver- hampton, a'i enw JOHN DAYIES, ddyoddefdi- enyddiad. SYKTHIODD darn o graig ar goes GRIFFITH PBICHABD, Slatington, yn y chwarel, gan ei hanafu yn lied ddrwg. Mae yn gwella. LLADDWYD JOHN WILLIAMS ao anafwyd THOMAS OWEN, pit boss, gan ffrwydrad a ddygwyddodd yn nglofa Uniondale, Dun- bar, Pa., ddydd LIun diweddaf. M MAE Oymdeithas Cymmrodorion Llun- dain wedi trefnu y darlithiau canlynol am y flwyddyn bresenol: "Y Trioedd Hanesydd- ol Oymreig, gyda chyfeiriad at feirniadaeth- au diweddar," gan Mr. PHILLIMOBE, Golyg- ydd y Cymmrodor; "Oymrtl yn ystod y teyrn- asiad Tnduraidd," gan Mr. J. ROWLAND PHILLIPS, M. A. Ceir hefyd bapyrau yn ys tod y tymor gan Arohddiaoon GRIFFITHS, Mr. W. BOBLASE, A. S., Mr. IVOR JAMES, a JOSEPH PABBY. CYNALIODD Cymdeithas Anrhydeddus a Theyrngarol yr Hen Frythoniaid, eu 171ain gylchwyl ar Ddydd Gwyl Dewi yn Willis's Booms, St. James, Llundain. Oddigerth rhyw unwaith neu ddwy, ymae y gymdeith- as henafol hon wedi cynal gwyl bob blwydd- yn yn y brifddinas er adeg ei sefydliad yn 1715, pryd y cydwladdwyd o dan lywydd- iaeth Iarll LISBUBNE, yn Haberdasher's Hall. Eleni, llywydd y dydd oedd y barwnig ieu- ano o Wynnstay, yr hwn, felly, a ddylyna ol traed o leiaf dri "Syr Watkyn." CYHOEDDA Seren y Bala hanes cyflwyniad anrhegion i ddyn ieuano o'r enw ROBERT LLOYD JONES, ar ei ymadawiad o'r dref i ddyfod i America. Tystiai y siaradwyr yn ei gyfarfod ymadawol y byddai colled, fawr ar ei ol, nid yn unig yn nghapel Tegid, ond "trwy y dref yn gyffredinol." YN ychwanegol at Mr. G. OSBOBNE MOR- GAN, anrhydeddwyd un arall o'r aelodan Oymreig a swydd dan Weinyddiaeth Glad- stone, set Syr E. J. REED, yr aelod dros Gaerdydd. YB ydoedd y diweddar "SQUIBK LEWIS," Henllan, brawd Esgob Llandaf, yn perthyn i un o denluoedd hynaf Sir Benfro. Dy- wedir y gall y teulu hwn clrhain eu hachan yn ol at Gwynfardd Dyfed-eydoeswr a Hywel Dda, yr hwn oedd yn byw yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf. Yr oedd Gwynfardd Dyfed yn un o Arglwyddi Dyfed, ae o dyl- wyth Meurig, un o freninoedd boreuol Dyfed. YN nghyfarfod diweddaf "Chapter of the Order of St. John of Jerusalem," o dan lyw- yddiaeth Syr EDWARD PEROTT, penderfynwyd fod medelan arian yn oael eu eyflwyno i Mr. WILLIAM THOMAS, mining engineer, T. E. RIGHABD, L. PBIXCHABD, G. THOMAS, D. THOMAS, R. JONES, W. CLEE a D. EDWABDS, am y gwroldeb arbenig a ddangosasant wrth arbed colliant rhagor o fywydau drwy gyn- orthwyo 400 o ddynion allan o bwll glo y Mardy, ar adeg y danchwa yn Rhagfyr di- weddaf. OOFNODIB hanes marwolaeth REES LEWIS, Merthyr, yn 81 mlwydd oed. Efe oedd yr argraffydd a'r llyfrwerthydd hynaf yn y oymydogaethau byny; a bu yn flaenllaw gyda phob mudiad daionus. Llanwodd am- ryw swyddau yn Merthyr er anrhydedd iddo ei hun. TuA deufis yn ol, aeth RICHABD WILLIAMS o barthau yr olew i Pottsville, Pa., i gladdu ei fam. Ar ol yr angladd, yr un dydd, oaf- odd afael ar rai canoedd o ddoleri oedd yr hen wraig wedi gynilo, ae ymosododd ar eu hofera, yn ddioed, nes y oollwyd pob golwg arno yn yr hwyr. Dydd Sill diwedd- af, cafwyd ei gorff yn y Norwegian Creek, i'r hwn, yn ddiamen, y syrthiodd yn ei feddwdod. Gresyn i'r arian fyned ar goll. DEALLWN fod y Paroh. JONATHAN ED- WABDS, Hyde Park, Pa., wedi rhoddi atebiad cadarnhaol i'r alwad a gafodd gan eglwys Gynulleidfaol Spokane Falls, Washington Territory, i'r hwn le y bwriada symud yn ddioed. MAE y nodyn canlynol o eiddo Dr. E. PAN JONES yn y Celt yn siarad drosto ei hun: "Yr oedd fy ol-ysgrif yr wythnos ddiweddaf yn darllen—'Yr wyf yn myned i America yr wythnos nesaf.' Dylasai fod yn jy Uythyr nesaf. Rhydd hyn eglurhad i'r llu cyfeillion sydd wedi anfon yma am fan negeseuau." Gwelir mai nid y DBYCH yn unig a gamar- weiniwyd gan y sylw amryfus. DEBBTNIASOM lythyr oddiwrth y Paroh. THOMAS JOB (T. C.), Conwil, Sir Gaerfyrdd- in, yn oadarnhau yr hyn a gyhoeddodd y Parch. J. Thomas, Liverpool, am fwriad y Paroh. R. MORGANS (A.), o dalu ymweliad ag America. Dysgwylia y gwr parehedig fod yn New York erbyn y Sabboth cyntaf yn Ebrill. Syniad ei gymydog Job am dano yw, "ei fod yn un o'r gweinidogion mwyaf parchus a chymeradwy yn Nghyfundeb yr Annibynwyr." YN Danville, Pa., ar y 15fed o'r mis di- weddaf, o glefyd y galon, bu farw MARY JAMES, priod Francis James, a mam-yn- nghyfraith Mr. Gomer Thomas, y oerddor adnabyddus. Ei hoedran ydoedd 66 mlwydd. Yr oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr er's llawer o flynyddau. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan Mr. Chindle. DIWBNOD galarns i Mr. EDWABD OWEN, Albany, N. Y., ydoedd Dydd Gwyl Dewi, o herwydd marwolaeth ei anwyl briod Emma A. Smyth, yn 50 mlwydd oed. Merch yd- oedd i'r diweddar Edward Smyth, Linen Draper, gynt o Castle Square, Abertawe. "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Y DYDD o'r blaen, yr oedd Mrs. GWEN DA- VIES. gweddw y diweddar Rees Davies, Utica, yn cyraedd ei 90 mlwydd oed; a dathlwyd yr amgylohiad gan nifer o'i phlant a'i hwyrion, yn nhy ei meroh Mrs. HENRY B. JONES, Englewood, N. J., lIe y cartrefa. Y mae yr hen fam yn mwynhan ieohyd gweddol, ac mewn llawn feddiant o'i ohyn- eddfau meddyliol. AT Y PBIF-FABDD DYFKD!—A fyddwchchwi gystal ag hysbysu trwy y DBYCH, neu trwy lythyr cyfrinachol, os yw yn bosibl i chwi alw yn Alliance, Ohio, ar eich ffordd yn ol o'r Gorllewin. Y mae yma awydd oryf am eioh clywed eto, er pan y buoch yma ar eioh ffordd i'r Gorllewin. Awgrymodd rhai o'r cyfeillion withych y priodoldeb o alw yma, gan eich bod yn bwriadu myned i Johns- town, Pa. Bydd gair oddiwrthych yn dra derbyniol.— W. J. Morris. GWELLIANT GWALL.—Yn y DRYOH am Chwefror 18fed, dywedir fod W. J. EVANS, mab Beriah Gwynfe Evans, wedi enill ys- goloriaeth o 16p. y flwyddyn, er nad yw ond 16 oed. Mae yma ddau gaingymeriad, un yw, ei fod yn 16 oed; nid yw efe ond 13oed. Y llall yw fod yr ysgoloriaeth hono yn 16p. y flwyddyn, tra mai 15p. ydyw. Mae yn deilwng hefyd orybwyll ei fod ychydig wyth- nosau cyn hyny, mewn arholiad arall, wedi enill ysgoloriaeth fcarall o 25p. y flwyddyn; felly mae ganddo 40p. y flwyddyn at ei gynal yn y coleg. Peth go hynod mewn pl. ntyn 13 oed.lheb gael unrhyw fantais ond ysgol elfenol wledig; ond cofier mab i bwy yw. Yr oedd ei dad pan ya ddim ord saith oed, yn cystadlu mown adrodd mewn Eis- teddfod, yn mysg 18 o fechgyn, o 12 i 20 oed, ac yn cipio y wobr oddiarnynt oil; h'i fod ef a'i frawd, Alltud Gwent, ewythr W. J. Evans, wedi hyny, pan yn feobgyn bych- ain, trwy ganiatad eu tad hwythau, yn cael eu hatal i gystadlu mewn adrodd a darllen, rhag i hyny ddigaloni rhai eraill, fel na ddeuent i'r gystadlenaetb.-E. CAMBBIA, MINN., Mawrth 2.—Oyhoeddwyd yn y DRYCH fy niolchgarwch am y donation a gefais yn ddiweddar gan fy lluaws gyfeill- ion. Ond rhyw fodd neu gilydd y mae yn yr hysbysiad ddirfawr gamgymeriad gyda golwg ar y cynyrch. Nid "$25" fel y dywed y DBYCH ydoedd, ond$257.—J. S. Jones. HYDE PABK, PA., Mawrth 8.—BnDAVID A. JoNES, diweddar o Eynon St., Hyde Park, Pa,, farw ar ol oystudd byr, dydd Llun y ltaf oyfisol. Yr oedd yn dad i'r Anrh. D. M. Jones. Y mae yr Anrh. John T. Williams, aelod o Dy y Oynrychiolwyr dros y Rhanbarth hwn, wedi ymddiswyddo o fod yn inside foreman yn nglofa Sloan, ac wedi ymuno a firm fas- nachol A. L. Morris & Co. Henry T. Da- vies yw olynydd Mr. Williams yn nglofa Sloan.- Ollmydog. CHICAGO, ILL., Mawrth 5.—Mae y ddau ddiwygiwr hynod o Georgia, y Parchn. SAM JONES a SAM SMALL, yn tynu cynulleidfaoedd mawrion i'w gwrando dair gwaith bob dydd yn y ddinas hon, ac y mae eu cleddyfau yn Ilym iawn yn erbyn pechodau cyhoeddus y ddynoliaeth, yn neilldnol godineb ao an- Iladrwydd, anudoniaeth, meddwdod ac an- onestrwydd yn ei wahanol ffuifiau, a rbag- rith o bob math. Gobeithio y bydd yr Ar- glwydd yn bendithio eu gweinidogaeth i ddeffro proffeswyr crefydd i ystyried yn ddifrifol yr hyn a bregethir ganddynt. Mae eu llafur yn fawr, ond y mae yr Arglwydd yn eu nerthu yn rhyfedd a gwroldeb moesol yn gystal a nerth eorfforol. Rhwydd hynt iddynt, mcdd— D. H. GALWAD I T. CYNFELYN BENJAMIN. BBISBIN, PA., Mawrth 4.—Yn ddiweddar, rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr. T. Cynfelyn Benjamin, Hyde Park, Pa., i gyro- eryd ei gofal fel gweimdog, a da genym allu hysbysu fod Mr. Benjamin wedi ateb yn gadarnhaol, a bydd yn dechreu ar ei weinid- ogaeth y Sabboth cyiitaf yn Ebrill. Yn ys- tod y tri Sabboth y bu ynif*, v maa wedi creu llawer iawn o gynwrf yn y gwersyll, fel ag yr oedd y dorf oedd yn ei wrando y Sabbotii diweddaf yn tystio. Yn ddiddadl, bydd ei ddyfodiad i'r lie hwn yn gaffaeliad nirlbvch- an.-Gri.ffith Jones. DYFED YN CALIFORNIA. SAN FBANCISCO, Ohwef. 28. Bu y Parch. E. D. REES (Dyfed), gyda ni am bythefnos. Pregethodd deirgwaith y Sabboth diweddaf, a dwywaith y Sul blaenorol. Gwnaeth iddo ei hun lu o gyfeillion yms.- Taliesin o Kif- ion. OAKLAND, Chwefror 27.-Cafodd Dyfed groesaw mawr gan y Cymry yma ac yn San Francisco; a treat sylweddol i ni ar lanau y Tawelfor oedd cael ei gymdeithas. Preg- ethodd yn rhagorol. Bu yn gweled y coed mawrion a'r geysers, a mawr foddhawyd of. Cychwyna oddiyma heddyw am Portland, Oregon; oddiyno a trwy Washington Terr. i Minneapolis, erbyn y Sabboth cyntaf yn Mawrth. Drwg genym nas gallasai aros yn Oakland i dreulio Dydd Gwyl Dewi Sant. Hyderwn y bydd ei ymweliad byr o fendith i bawb.-R. Jones. DIOLCHGABWCH Y BACHGEN DALL. FAIR HAVEN, VT., Mawrth I.-Mae yn wy- byddus i gylch eang yn y Talaethau Unedig am y ddamwain a gyfarfu Robert P. Roberts tua mis Mehefln diweddaf, sef colli ei olwg trwy ffrwydrad pylor yn y chwarel. Mae wedi derbyn llawer o garedigrwydd er y pryd hwnw oddiar law oyfeillion; am yr hyn y dymuna gyflwyno ei ddiolchgarwch mwy- af diffnant-yn enwedig i Gymry Canada, Pennsylvania, Maine, Fair Haven a'r ardal- oedd oymydogaethol. Yr wyf yn sior nad oes neb sydd wedi dangos oaredigrwydd mewn rhyw fodd i Robert yn edifarhau, oblegid yr wyf yn oredu fod pawb wedi cael tal da am yr hyn a wnaethant iddo yn eu mynwesau eu hunain, o herwydd "Gwyn ei fyd yr hwn a dosturia wrth y tlawd" (dall). Nid yw Robert yn hollol sior eto pa beth a wna yn y dyfodol. Meddylia weithiau am fyned i'r ysgol i ddysgu rhyw gelfyddyd, a thro arall meddylia am dreio cychwyn bus- nes yma; pa beth bynag a wna, bydded i ni bob amser goflo am y baohgen dall sydd yn ein plith.-D. Thomas (Llew Bowydd). AT EGLWYSI ANNIBYNOL CYMRU. LONG OREEK, IOWA, Chwef. 27.—Bwriada y Parchn. John E. Jones, Long Creek, Iowa, a Henry Davies, Williamsburg, Iowa, ym- weled a Chymru tua dechreu Mai. Hyderaf y cant dderbyniad cynes gan yr eglwysi An- nibynol yn Nghymru, trwy y De a'r Gogledd. Deheuwr yw Mr. Jones a Gogleddwryw Mr. Davies. Y mae y ddau yn weinidogion parohus iawn, no yn bregethwyr rhagorol. Ni raid i'r cyfeillion yn Nghymru ofni eu rhoddi i bregethu yn eu prif gyfarfodydd. Er mai un o'r CorfE ydwyf n, eto teimlwyf rwymau Cristionogol i ysgrifenu y dystiol- aeth hon am y brodyr. Yr wyf yn adnabod Mr. Davies er's tuag lleg o flynyddoedd, ao wedi byw a llafurio llawer blwyddyn yn yr un ardal a Mr. Jones. Ymdreohu am yohyd- ig o adferiad i'w iechyd ydyw un amcan gan yr olaf. Gobeithir y llwydda i'w gyraedd, ao y caiff hefyd lawer o gymorth i bregethu Crist yn ngwlad ei enedigaeth. -Richard Hughes. --Á-

Canibaliaeth yn Mor y De.I

Ysgolion Dr. Williams.I

MASNACH jV LLAFUR.

GWEITHFAOIi A MASNACHOL.

I0 SIR SC HUYLKILL, PA.

Gwyl Dewi yn New York.I

[No title]

[No title]

HEFYDLIADAU CYMRKIG N. Y.

[No title]

[GYDA'B PELLEBYB TANWKBYDDOL.…

[No title]

Hancock a Seymour.

[No title]

Advertising