Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
—Gwnaeth llawer un gamsyniad gwa(th nar hen frawd hwnw yn Ohio yn ddiwedd- ar, pan ddarllenodd: "Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weilhiwr dltoefl, yn iawn-gyfranu gair y gwirioneid."
YR HWYL GYMREIG.
YR HWYL GYMREIG. PEEYGLON Y DYLAI SIABADWYB CYHOEDDUS EU GOCREL-Y PWLPUD CYMBEIG. Dr. Ogilvie a ddywed yn ei Eiriadur Saes- neg fod y geiriau "sail" a "hwyl" yn berth- ynasau agos; ond os ydynt yn tarddu o'r un cyff gwreiddiol, y mae i'r gair Cymraeg ys- tyr llawer eangach nag sydd i'r Saesneg. Yn yr iaith Saesneg, sail yw yr enw ar lian cwch neu long, yr hwn a ledir i ddal y gwynt, fel ag i ysgogi y llestr yn ei fiaen. Defnyddir y gair sail hefyd am edyn creadur asgellog. Milton a ddarlunia Satan, At last his sail-broad vans He spreads for flight. "O'r diwedd i ehedeg taenai hwyl," medd I. D. Ffraid. Tra ar ei hynt trwy "orwyllt aphwys" tryblith bu raid i'r diafol wrth "both oar and sail,Rhaid iddo ef yn awr wrth rwyf a hwyl." Dyma ystyron oyffredin y gair Saesneg wedi eu dyhys- byddu; ond mor gyfoethog o ystyr yw y gair Oymraeg "hwyl," fel mai prin y mae neb ond trigolion glan y mor yn oysylltu y syn- iad o lian gyda'r gair. Eto, fe geir yn Shakespeare rai ymadroddion sydd fel pe yn nesau at helaethrwydd ystyr "hwyl" yn Nghymraeg,— "Tell the Dauphin, I will keep my state, Be like a king and show my sail of greatness." "Gan hwylio fy ngherddediad," medd y Salmydd, yr hyn a gyfieithir yn Saesneg yn "established my goings." "Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i," medd Elihu yn Llyfr Job, yr hyn a gyfetyb i'r Saesneg, "Now he hath not directed his words against me." Sonir yn Nghymraeg am "hwylio i fyned," sef parotoi i fyned, a desgrifir offeryn oymwys at waith fel yn un "hwylus." Tybiwn fod yr ystywn uchod i'r gair "hwyl" a "hwylio," yn gysylltiedig a'r defnydd morwrol,-dnlliau ffigyrol o lef- aru wedi eu benthyca oddiwrth yr arfer o reoli symudiadau cwoh gyda'r hwyl. Pan ddel yr awel llenwir y llian, a llithra y llestr dros wyneb y dwfr yn esmwyth, cysurus, a diogel. Symudiad y owch yn hwylio, a cholomen yn disgyn, feallai, ydynt symud- iadau mwyaf prydferth natur a chelfyddyd -maent yn "hwylus." Eto, pan sonir am "hwyl," nid rhyw symudiadau naturiol, graceful, fel yr uchod a ddeallir, ond rhyw- beth llawn o asbri, bywyd hyd ormodedd, heb fod dan reolaeth briodol. Cyfarfydd- wn a'r ystyr hon yn y gair hwnw yn nghyf- raith Moses, (Ex. xxi. 36), "Os gwybuwyd ei fod ef yn yoh hwyliog o'r blaen," h. y., ych tueddol i gornio; a thraohefn "Da gwaith Daw roi cyrn byrion i'r fuwch a hwylio,"—"A oow given to toss or butt," medd yr hen ddiareb. Felly dyn "hwyliog" yw dyn nad yw yn un hpllol ddiogel a di- berygl yn mhob amgylchiad, o herwydd y mae yn ddarostyngedig i gael ei gipio gan yr hwyl, ac i syrthio yn y tan yn fynyoh, ac yn y dwfr yn fynyoh. Pe gofynid i ni roddi desgrifiad byr o ddyn hwyliog, -dywedem mai un yw a thuedd wastadol i osod ei ben yn y lie y dylai ei draed fod. Ond gan nad oes unrhyw weithred a fwynheir ao a ed- mygir yn fwy gan y lluaws na gweled y prancian hyn, nid rhyfedd fod gwr hwyliog mor boblogaidd. Dyma a ddynodir yn fwyaf oyffredin wrth y gair "hwyl," a thybiwn fod yr arferiad hwn o'r gair yn oyfateb i'r ympdrodd Seis- nig, "three sheets in the wind." Y mae y Sais yn greadur mor anfarddonol fel y mae wedi cyfyngu ystyr yr ymadrodd hwn i ddesgrifio dyn wedi haner meddwi ar win neu wirod. Arall yw John Bull ao arall yw Taffy, ac nid yw y oyntaf eto wedi gallu bathu gair i ddynodi y cyflwr o fod "three sheets in the wind" yn feddyliol, yr hyn, yn ddiau, a ddarlunir yn gywir yn yr hen Om- eraeg, trwy ddywedyd fod dyn "mewn hwyl." Cydsyniwn yn hollol a sylwadau y Parch. Owen Jones, B. A., Drefnewydd, yn el lyfr ar Some of the Great Preachers of Wales, pan yn traethu ar yr "hwyl Gym- reig," sef y wir a'r gyfreithlawn hwyl. Nid yw hyny ond peth cyffredtn i ddynolryw. Dyma yw y wir hwyl, dyn a'i ysbryd mewn oyd-dymheredd a'i waith ac a'r amgylchiad- au-yn cyflawni ei orchwyl a'i holl egni, ao yn y dull mwyaf effeithiol sydd yn ddiohon- adwy iddo ef. Mae gan yr hwyl Gymreig ei gwedd ei hun, ac yn hyn gwahaniaetha oddiwrth yr hwyl Seisnig,fel y gwahaniaetha hono oddiwrth yr hwyl Ffrengig; ond yr un yw "hwyl" o ran ei hanfod yn mhob cenedl ac iaith. Nid ydym yn dirmygu hwyl, ond dymunem alw sylw at yr hwyl ffugiol, spur- ious, sydd mewn perygl o ymdaenu fel pla drwy bwlpudau Cymru. Yr ymdrech hwnw a wneir i gynyrohu teimladau ao argraffiad- au pan y mae y pregethwr a'r gwrandawyr yn gwybod yn eithaf nad oes yno ddim dylanwad, ac fod yr argraffiadau yn hollol arwynebol. Gellid traethu am yr hwyl eisteddfodawl, dan ddylanwad yr hon y bydd beirdd a llenorion ar y llwyfan yn ymsaethu yn dderoh ar i fyny, megys bera o dan, i'r en- tyrch gwyllt, neu yn ymboroupineiddio mewn eithaf eiddigawl ffrooh. Nid oes a fynom a'r beirdd yn awr. Buddiol fyddai datgan barn ar hwyl yr aelwyd, fel y mae llawer aelwyd, ao yn enwedig llawer ty capel yn cael ei darostwng i fod ya, fan i ad- rodd digrifwch ao ysmaldod yn lie bod yn fagwrfa i synwyr, a phwyll, a gwybodaeth addas i beri adeiladaeth. Ofnwn fod hwyl yn myned a lie hyfforddiant yn Nghymru mewn oylohoedd pwysig. Ond yn y pwlpud mae ymgais at hwyl yn fwyaf niweidiol ao anghydweddol a symlrwydd yr efengyl. Gellir ymdrin a'r hwyl bregethwrol y cyf- eirir ati-hwyl yr hon nid yw hwyl wirion- eddol, namyn efelyohiad ffngiol- I. Yn Gadarnhaol. II. Yn Naoaol. II. Yn Gymwysiadol. Nid ym, mwy na llawer hen frawd sydd yn engraifft odidog o'n testyn yn meddwl oyfyngu ein sylwadau dylynol at, ao o dan y penau uchod mewn dull trefnus. Yn unig nodwn hwynt am fod penau yn ymddangos yn barchus, a thybiwn hefyd y gellir cyfleu neu restru ein holl sylwadau o'r deohreu i'r diwedd o dan un o'r penau a enwyd. Yn ami temtir ni i ddywedyd, "Gwyn fyd y bloeddwyr yn Sion, y rhai a gawsant lais fel udgorn, y rhai a allant dynu hyawdledd pur o'r gair Mesopotamia." Hoffwn eu clywed yn chwareu eu llais mor fedrus a swynol. Maent weithiau fel gwenoliaid yn yr Hyd- ref, yn troelli yn yr awyr i bron en hedyn, oyn cychwyn ymaith ar eu taith i wledydd pell. Mor felus yw sain eu geiriau; nid oes odid air nad yw yn cael ei swnio ar ddau nodyn per. Wrth ymddyddan am eu llais gyda chyfeillion llai eu doniau yn y cyfeir- iadhwn, gall y brodyr hyn ddefnyddio geir- iau Paul wrth y pen cadben. Profiad llawer pregethwr yw, "A swm mawr o drafferth y dysgais i ryw don feohan gron sydd genyf, mawr fu fy llafur i ddysgu rhoddi ambell floedd;" ond am danynt hwy, "minau a an- wyd" yn floeddiwr. Dyweded y Saeson a fynont, a beirniaded y beirniaid mursenaidd a farnont, mae bloeddio i fod yn nglyn a phregethu yr efengyl. Mae yr iaith Gym- raeg, svdd mor gyfoethog mewn geiriau llawn o lafariaid agored yn addas at floedd- io; mae ganddi "good mouth filling words," ao nid rhyw eiriau, "mincing pepper-ginger- bretd" fel y Saesneg. Eto bydded bloeddio wrth fesur a barn. Ni ddylai pen olaf pob pr-.g 3th fod, gan nad beth a ddiohon fod y pwnc a'r rhwyddineb—"Yn drydydd, ac yn olaf, ni a floeddiwn dipyn." 0 barch i'r hen gewri fu, a rhag dolurio neb sydd yn awr yn fyw, ni ddymunem ysgrifenu geiriau trymion am y dosbarth hwn; yn unig dy- wedem fod tuedd y bloeddio gwastadol ar ddiwedi pob pregeth i osod gwedd o unre- ality ar tein gweinidogaeth. Credwn mai ooron odfa yw y wir hwyl fydd wedi naws- eiddio y galon a'r llais, ond gall pregeth fod yn gyflawn heb hwyl a bloeddio. Hyn sydd sier, fod llawer odfa weddol drom, wedi cael ei gwneyd can drymed a'r plwm, yn fa ich i'r pregethwr, ac yn faioh i'r gwran- dawyr, oblegid cais y blaenaf i godi hwyl trwy waeddi. Llawer mwy difrifol trosedd yw yr un a nodir yn y llinellau 'Tis pitiful To court a grin, when you should wooaeoul; To break a jest, when pity would Inspire, Pathetic exortatlon; and to address The skittish fancy with facetious tales." Yr ymgais hwn at wneyd argraff sydd mewn perygl o ysbeilio pwlpud Cymru o'i ddifrifwch, dwyn dawn i mewn yn lie ys- bryd, stori yn lie gwirionedd, dychymygion llesg yn lie adnodau byw. Diffyg ffydd yn nerth y gwirionedd sydd wrth wraidd yr holl ymgais yma. Mae sylwedd yr efengyl yn ddigon rhagorach nag unrhyw addurn- iadau areithyddol a ddichon y pregethwr eu hychwanegu. Gwirionedd yw nerth a grym pob hwyl ddidwyll, a gall gwirionedd wneyd ei waith heb ddim hwyl. Gallu Daw yw y gwirionedd. ao y mae hwn o'i draethn yn syml a difrifol, el draethu fel gwirionedd, a hyny hwyrach braidd yn sych ar adegau o herwydd afrwyddineb cnawd a chalon, yn sicr o'i nod. Pallai amser a gofod i ni ymhelaethu; ao ofnwn rhag i neb dybied ein bod ni mewn hwyl, wrth ysgrifenu, am hyny terfynwn. — O'r Goleuad. -w
Y GYNDDAREDD.
Y GYNDDAREDD. GAN E, G. BOBEBTS, M. D FAIR HAVEN, VT. EBTHYGL U. Fel y sylwyd yn yr erthygl gyntaf ar y testyn hwn, mae yr afieehyd braidd yn ddi- eithriad yn angeuol ao anfeddyginiaethol; gan hyny, mesurau ataliol ydyw yr unig rai y gellir dysgwyl daioni oddiwrthynt. Felly, y mae o bwys mawr i berchenogion own fod yn adnabyddus ag arwyddion y gynddaredd yn y oi, yn neillduol yr arwyddion rhag- rybuddiol, fel y gallont, mewn pryd, eu caethiwo, neu eu dinystrio cyn i'r haint ddadblygu yn ei rym, a pheri galanasdra. Tybiwn mai doeth fyddai i'r cyhoedd gael yohydig wybodaeth yn nghyloh yr arwydd- ion orybwylledig, a cheisiwn eu rhoddi o fiaen y darllenydd mor ddealladwy ag y gallwn. Gellir dweyd fod yna hanes brathiad yn mhob achos. Dylid edrych gydag amheu- aeth ar unrhyw gyfnewidiad sydyn yn arfer- ion y ci, ac ar unrhyw salwch arno. Dywed un awdwr fod oi sal bob amser i'w ddrwg- dybied. Mewn rhai engreifftiau y mae dwl- ni anghyffredin yn nghyd a difaterwch; mewn eraill aflonyddwch mawr, gwyliadwr- iaeth, a nervousness, yr archwaeth yn afiach, a thueddiad mewn own tai i bigo i fyny a llyncu gwellt, edafedd, nodwyddau, papyr- au, a gwrthrychau eraill, ac i fwyta eu torn eu hunain. Gwelir yn ami chwant at lyfu gwrthryohau oer a llyfn, megys ceryg, darn o fwn, neu drwyn oi arall. Weithiau mae gor-hoffder at y perchenog yn arwyddooaol; ond yn fwy cyffredin mae yna gyfnewidiad o dymer oedd yn flaenorol yn addfwyn i un filain, sarug a digofus. Os bydd i gi sydd naturiol dawel fyned i dymer nwydwyllt wrth weled ci arall neu gath, a cheisio eu brathu, dylid ei wylio. Cyfarth heb ddim gwrthrych nao amcan iddo, symud oddiam- gylch yn barhaus, chwilio a chwalu, a chrafu gyda tueddiad i ddryllio coed, dillad, &o., sydd arwyddion amheus, ac yn benaf oil, absenoldeb oddicartref am ddiwrnod neu ddan a ddylai greu pryder. Mae y cyf- arthiad neu'r udiad cynddarol, yr hwn, yn fynyoh, a glywir yn neohreu yr afieohyd, yn gryg, isel, a myglyd, fel yn gymysgedig o gyfarthiad ao udiad, y oyntaf yn rhedeg i'r ail, ac yn cynwys un udiad uchel yn cael ei ddylyn gan dair neu bedair eraill yn gradd- ol leihau, yr oil yn cael eu hynganu heb gau y genau. Rhwbia rhai y gwefusau fel pe yn ceisio symud rhywbeth annymunol allan o'r genau; cyfoga eraill fater gwaedlyd i fyny; gwelir eraill yn troi eu penau a'u Uyg- aid fel pe yn dylyn rhyw wrthryohau dyoh- ymygol, ac yn ysnapio atynt. Yn olaf, y mae tueddiad at gnoi neu grafu yr archoll yn arwyddooaol. Mae y llygaid, fel rheol, yn gochion, a ohroen y taloen ao wrth ben y llygaid yn gryohlyd. Dyna restr o arwyddion rhagrybuddiol, a dylai un o honynt roddi y perohenog ar ei wyliadwriaeth, ac i fod yn llygadog i edryoh am eraill, canys gellid ystyried cyfuniad o amryw neu yr oil o'r arwyddion hyn yn dystiolaeth lied Bier o'r gynddaredd. Y ddyledswydd gyntaf felly, fyddai neillduo y ci a'i gaethiwo i aros dadblygiad arwyddion eraill, ao arohwiliad gan feddyg anifeiliaid. Yn dylyn un neu yohwaneg o'r arwyddion uchod, meddienir y ci a ffit o ffyrnigrwydd oreulawn, eto yn oyloh-newidio a ohyfnod o dawelwch, yn mha un ni welir ond rhai o'r arwyddion rhagrybuddiol. Fel y dadblyga yr afieohyd, bydd y ffitiau yn amlhau a chryfhau, a'r duedd i frathu a llarpio yr un modd.. Os gall ddiano yn ystod un o'r ffit- iau hyn, or wydra filldiroedd gan ruthro at bob dyn ao anifail a gyfarfydda, ao os na ddystrywir ef yn un o'r orwydriadau hyn, gall ddychwelyd yn ol mewn oyfnod o daw- elwoh. Bydd yn beryglus iawn yr amser hwnw, gan, er iddo allu adnabod ei gyfeill- ion, ao hyd yn nod ddangos tipyn o hoffder atynt, eto mae yr ellyll dinystriol ynddo yn gryfach nag o'r blaen, ao yohydig o dwrf neu gynhyrfiad sydd ddigon i'w ddeffro i ffyrnig- rwydd. Pan mewn ffit, mae y ci yn ddiam- eu yn dyoddef oddiwrth anmhwylledd Ilym; bydd yn ysnapio ao yn brathu at bethau di- sylwedd, yn troi yn erbyn ei gyfeillion gor- en, yn brathu ei gnawd ei hun hyd at gnoi ei gynffon, neu fodiau ei draed ymaith. Gad- awa yr ast ei chwn baoh, neu llarpia hwynt, ao mae pob un yn dylyn y oymelliad anoroh- fygol i gnoi neu aroholli pob peth byw, a dangosir nerth anghredadwy braidd gan rai i dori cadwyni a neidio muriau uohel er oyf- lawni y oymellion creulawn hyn. Yn y cyf- nod o dawelwch bydd mewn ystad o wendid cyfatebol i lymder y ffit flaenorol, ac fel rheol oais le tywyll a dirgel Ile gorwedd yn farwaidd, ond gellir yn hawdd ei yra i ffyr- nigrwydd drachefn gydag ychydig dwrw, dangos gwialen, ac yn neillduol nesad anif- ail arall ato. Yn mhen tri neu bedwar di- wrnod deohreua barlysu yn ei aelodau ol, yr hyn, yn raddol, a ymestyna dros ei holl gorff. Mae hyn yn arwydd sicr fod y di- wedd yn agosau. Bydd wedi teneuo yn anghyffredin, a golwg wywedig arno; dir- dynir ef ar adegau hyd nes y gwareda angen ef o'i bangfeydd, yr hyn a gymer le yn y mwyafrif o fewn yr wyth diwrnod. Sylwyd yn yr erthygl flaenorol hefyd fod Pasteur yn honi ei fod wedi darganfod ffordd i atal ao iachau yr aflwydd hwn, ao feallai nad annyddorol fyddai byr hanes o'r dull y gweithreda. A ganlyn ydyw ei gynllun: "Haint-impir owningen gyda dernyn o fad- ruddyn oefn oi cynddeiriog. Yn mhen tua pymthegnos tyr y gynddaredd allan arni. Defnyddir rhan o fadruddyn oefn hon i haint-impio yr ail wningen, pa un hefyd sydd yn cymeryd yr haint, ond yn llawer oynt; cymerir madruddyn oefn yr ail wning- en i haint-impio y drydedd, ao felly yn mlaen. Sylwir fod yr afteohyd yn dod yn fwy angerddol ao amser deoriad yn fyraoh gyda phob cam a gymerir yn y oynllun hwn. Pan grogir madruddyn oefn un o'r anifeiliaid hyn a fuont feirw o'r gynddaredd mewn pib berffaith sych, mae ei wenwyn yn graddol wanhau, ac o'r diwedd yn diflanu. Oedwir oasgliad o fadruddynau yn barod yn wastad; rhai yn hen a dieffaith, eraill mwy ffres a bywiog, ao eraill yn hollol ffres a hynod fywiog ao effeithiol. I wneyd ci yn ddiogel rhag derbyn y oynddaredd, haint-impir ef yn gyntaf gyda chyfran o'r hen a dieffaith, yna gyda rhai mwy ffres a bywiog, ac felly yn mlaen, hyd at y oryfaf oil, pryd y delo yn hollol ddiogel rhag derbyn y gynddaredd trwy haint-impiad. Y flwyddyn ddiweddaf, fdygwyd bachgen naw mlwydd oed, o'r enw Joseph Meister, at Pasteur. Yr oedd wedi ei frathu yn y modd tostaf gan gi gynddeiriog, dim llai na phedwar-ar-ddeg o wahanol frathiadau ar ei gorff. Er fod yr achos yn edrych yn hollol anobeithiol, haint-impiodd Pasteur ef yn ol ei gynllun; y tro oyntaf ar Gorphenaf 6ed, 60 awr ar ol i'r bachgen gael ei frathu, gyda madruddyn oefn pymtheg diwrnod oed (yr hwn a gyfrifid dipyn yn hen a dieffaith); yna gyda rhai o gryfder gwenwynol cynydd- ol ddwy waith bob dydd hyd Gorphenaf 16eg, pryd yr oedd y madruddyn a ddefn- yddid yn hollol ffres a gwanwynig. Hyd yn hyn, nid yw y plentyn wedi dangos un ar- wydd o'r gynddaredd; felly y mae Pasteur yn ystyried ei fod wedi ei iachau yn drwyadL Y mae hefyd wedi gweithredu yr un modd ar amryw bersonau ar ol hyny a ddywedid eu bod wedi eu brathu gan gwn cynddeiriog, yn mhlith y rhai yr oedd amryw o blant a anfonwyd o'r wlad hon. Mewn perthynas i achos y bachgen uchod, rhaid cymeryd i ystyriaeth nad oes ond o 25 i 30 y cant o'r bobl a frethir gan gwn cyn- ddeiriog yn cymeryd yr haint, a hefyd fod amser y deoriad mewn bodau dynol weith- iau yn hir iawn, felly nis gellir derbyn yr ymbrawfiadau hyn fel prawfion diymwad a gorphenol ar y mater, er eu bod fel pelyd- rau o heulwen ar y testyn tywyll ac echryd- us hwn, yr hwn destyn sydd wedi trechu dysgedigion pob gwlad am dros ddwy fil o flynyddoedd. Rhaid dweyd eto mai amser a phrofiad yn unig a roddant sicrwydd di- amheuol o effeithiolrwydd cynllun y Ffrano- wr enwog. w.
ADGOFION O'R AMSER GYNT.
ADGOFION O'R AMSER GYNT. Ysgrif V.- Tuhwnt i'r Bwlch. GAN LEWYS GLYN DYFI, BOCKFORD. ILL. Bwlch-y-fedwen a olygir,ar y ffordd rhwng Mallwyd a Llanerfyl. Yr oedd T'wnt-i'r- Bwlch yn enw cyfleus am ranbarth helaeth ao anmhenodol o'r wlad o du y dwyrain i'r Bwloh uchod, a glywid yn dra chyffredin ar ein hochr ni o'r mynyddoedd. Yr oedd yn ddigon eang i gynwys holl fro Powys, a chymaint yn fwy na hyny ag y dymunid yn y cyfeiriad hwnw. Ond peidied y darllen- ydd a meddwl y bwriadaf fi gymeryd i mewn yn nghylch hyn o ysgrif y fath ddarn hel- aeth o Gymra benbaladr; oblegid un o brydweddion yr enwawd yw y gall gynwys llai yn gystal a mwy. Wrth droi rhyngom a'r cyfeiriad uchod, yr oedd ar ein chwith i'r de-ddwyrain gyfanswm mawr o fynydd- oedd, yn cyraedd o'r Foel Eiddew yn y de-orllewin, hyd nes y delyoh i olwg y Cann- Offis yn y dwyrain. Mynych y dringwn ar blygein-ddydd haf, pan y byddai "Awelon ysgafndroed y boreu, Yn chwareu rhwng dorau y dydd," mor heinif a'r iwrch ar ei uonel-fanau, i fyny i aelgerth gribog mynydd y Ffordd Gam, o'r tuoefn i Gwmmeidrol a'r Talyrnau, er mwyn gweled anian yn ysgwyd cwsg y nos oddiar ei hamrautau, a chael tremio ar y dyffryn islaw, trwy yr hwn yr ymddolenai y Ddyfi lan gan sibrwid, "Mor, mor i mi." Ond pell oddiwrth fod yn annyddorol oedd troi fy ngolwg y fford 1 arall i weled myn- yddoedd tudraw i fynyddoedd yn ymrolio rhyngwyf a'r terfyngyloh pell. Teimlwn yn treiddio trwyddof asbri dwy linell yr hen Edmwnt Prys: "Edrychaf i'r mynyddoedd draw, Lie daw I'm help 'wy.'lyegar." Ymddengys i mi fod yn anmhosibl i un a fagwyd yn mhlith y mynyddoedd, pa nifer bynag o flynyddau a dreulia ar wastadion diamrywiaeth gwlad alltud, beidio teimlo hiraeth achlysurol Am weled eto'r moelydd-a wenent Ar wyneb el gyn-ddydd, Am eto gael rhodlo'n rhydd A'n golwg ar ein gilydd I Yn fuan ar ol pAaio Cwmoewydd, ar ein rhawd tua'r Bwloh, dyma ni yn nghymyd- ogaeth hen nythleoedd "Gwylliaid y Du- goed" neu "Wylliaid Coohion Mawddwy." Drwg genyf nad oes hysbysrwydd wrth law i roi tipyn o hanes y rhai hyn. Pwy fydd mor garedig ag ymgymoryd a hyn yn y DBYCH ? Haid o ysbeilwyr pen-ffordd oeddynt a ysgafnent logellau llawer teithiwr di-am- ddiffyn. Wedi dyoddef am amser hir oddi- wrth eu difrodwaith, oynyrfwyd yr awdur- dodau o'r diwedd i roi terfyn ar eu han- rhaitb, trwy roddi orafano oyfraith ar eu gwar. Dywed traddodiad i un hen genawes o honynt ymhwedd yn ymbilgar a'r swyddog am fod yn esmwyth wrthynt. Wedi methu gwneyd un argraff arno, dywedir iddi ddi- osg ei mynwes gyda ffyrnigrwydd milienig, gan ddywedyd, "Magodd y bronau hyn feib- ion a olchant eu dwylaw yn ngwaed dy galon di;" ac i hyn ar ol hyny gael ei gario allan yn Ilythyrenol-i'r meibion hyn gym- eryd ei fywyd, ao iddynt ar 01 myned ym- aith ryw bellder, gofio gair eu mam, a dych- welyd yn ol at y marw a golohi eu dwylaw yn ei waed! Wrth ddringo y Bwloh gwelwn mai graddol yr elai yn uwch, uwch, hyd nes y safwn ar y gwastad ar y top. Ar y llecyn hwn doff ii dyfroedd y waun rhwng dau feddwl yn nghyloh pa gyfeiriad i gymeryd; ond wedi ychydig o fyfyrio deuant i'r pen- deifyniad o ranu'r ymrafael trwy droi cefn
Advertising
An A WEEKLY NEWSPAPER, ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, PBOPBIBTOB. UTICA, N. Y. » • i Important to Advertisers i-The attention of itutnees men In general Is called to Y DBYOH as a superior advertising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other publication; AND HAVINa A CUBOULATION EXCEED- tM THAT OF ALL THE WELSH WEEKLIES AND MONTHLIES PUBLISHED IN THE UNITED STATES OOKBINED.
- Y CHINEAID AR ORORAU Y TAWELFOR.
Y CHINEAID AR ORORAU Y TAWELFOR. GAN Y PilCR. J. A. JONES, S. VALLEJO. Y ewestiwn mawr sydd yn llosgi yn bres- enol yn California, Oregon, Washington Territory a British Columbia ydyw, Pa fodd y oeir ymwared o'r Mongoliaid? Wrth res- wm, y mae gan y Chineaid eu cyfeillion, a'r rhesymau a ddefnyddir yn gyffredin o'u tu ydynt y rhai canlynol: (1) Fod rhagluniaeth wedi eu danfon i'n gororau er mwyn eu Cristioneiddio, a'u haddysgu mewn gwar- eiddiad, moesoldeb a rhinwedd ao addysg Feiblaidd. (2) Danfoniad cenadon Chine- aidd yn ol i efengyleiddio China, ar ol oael gwell addysg yn America, nag addysg Con- fucius yn eu gwlad frodorol. (3) Fod gan- ddynt hawl i ddod yma fel pobl eraill, ao i aros yn y wlad yn unol a'r oytnndeb a China. (4) Eu bod yn gweithio yn rhatach na'r bobl wynion, ae yn well gwasanaeth- yddion yn y gegin na Bridget a'r Ellmyn. Ar yr olwg gyntaf y mae y rhesymau uch- od yn ymddangos yn Ued deg ao esmwyth; ond y mae ochr arall i'r ddalen, a rhesymau eraill sydd yn gwrthbwyso yr uohod yn holl- ol, yn ol meddwl nawdeg o bob cant ar or- orau y Tawelfor. Yn y lie oyntaf, y mae y cenadon yn lied gyffredin yn China, yn un- ol yn eu barn yn erbyn dyfodiad y Chineaid i America, am fod yn anmhosibl eu Oristion- eiddio yno draohefn! Pa beth fuasai y can- lyniad pe gallesid eu derbyn gyda dwylaw a chalon agored yma, nis gellir dweyd: ond y mae hyny yn anmhosibl, gan fod teimlad y lluaws yn lied unfrydol nad oes eu heisiau yma, ao na ddylent ddod yma. Mae yma lawer o weithwyr gwynion allan o waith, felly y mae golwg wgns a digofus yn oael ei ddangos at y Chineaid sydd yn heigio i'r wlad ar draws y gyfraith a basiwydi'whatal. Y oanlyniad naturiol o hyn ydyw, fod y Chineaid a ddeuant yma yn suro yn erbyn yr efengyl a'n holl ddefodau ni yn America. Pan ant yn ol i China, melldithiant y eyfan sydd yn perthyn i ni fel cenedl fawr, a gwladwriaeth eang a dymunol. Yn ngwyn- eb hyn y mae y drychfeddwl o'n hefengyl- eiddio yn fethiant. Nid ydyw y cenadon yn China yn credu fod llawer wedi cael eu har- gyhoeddi yn y wlad hon, mewn eyferbyniad i'r gost; ac anaml iawn y gwelwyd neb yn cael eu hargyhoeddi yn China, ar ol bod yn America. Felly, methiant, i raddau, ydyw y bwriad daionus o geisio eu hefengyleiddio yn y wlad hon. Heblaw hyn, barna y cenad- on mai nid doeth ydyw gwynebu y perygl mawr sydd mewn gwerthu eu hunain yn gaethion i'r un o'r ohwech Chineese companies, a gadael eu oartref er mwyn enill $20 y mis yn America, pan y mae $7 y mis yn Ilawn oystal yn China. Aeth fy nghydnabod, y Parch. Mr. Hager o Antiooh, Calif., yn gen- adwr i China dair blynedd yn ol, ao y mae yn ysgrifenu adref, mai dymuniad ei galon ef ydyw, i'r holl Chineaid aros gartref, am nad all efe gael dim dylanwad Cristionogol ar y rhai sydd yn dyohwelyd yn ol yn bagan- iaid; ao yn baganiaid y mae y lluaw8 yn dychwelyd, cofier. Dyna y ddau gwestiwn cyntaf yn syrthio i'r llawr yn aneffeithiol. Yn nghyloh y tryd- ydd cwestiwn, fod ganddynt hawl i ddod yma. Nao oes, yn awr, o herwydd fod y llywodraeth wedipasio oyfraith i atal dyfod- iad rhagor o honynt i'r wlad. Ond dyfod y maent, er hyny, gyda bogus tickets; ao y maent wedi bod yn glanio yn Astoria, Oa- nada, ac yna yn oroasi y llinell i'r Unol Dal- aethau. Dyna un o'r achosion sydd wedi oynyrfu y bobi yn eu herbyn yn Washington Territory a manau eraill. Y mae yn eithaf gwir hefyd nas gall neb yn gyfreithlon an- fon y Chineaid sydd yn y wlad yn barod, yn ol i China. Felly, y oynllun a gymerir yd- yw eu boycottio; hyny ydyw, peidio eu oyf- logi, a pheidio masnachu a hwynt, ao yna a y rhai sydd yma yn barod yn eu holau. Y mae cyfundrefn y boycottio yn gweithio yn dda yn Truckee, Santa Clara, Cloverdale, Marysville, Petaluma a manau eraill yn Cali- fornia. Trwy y dull hwn y mae y dinasydd- ion a'r gallu yn eu dwylaw eu hunain, i gael gwared o'r hyn a ystyriant hwy yn ormes drom ar iawnderau yr Amerioaniaid. Medd ylir yn y Dwyrain fod angen y Chineaid yn y wlad, er mwyn gwneyd rheilffyrdd, &o. Camsyniad ydyw hyny. Nid oes yma ddigon o waith yn California a manan eraill ar gyfer y dynion gwynion sydd yn tynu i ororau y Tawelfor, er mwyn osgoi y gauaf llyrn sydd yn y Dwyrain. Nid oes eu hangen fel gweithwyr. Gwir fod amryw yn eu cyflogi fel morwynion yn y gegin, ond barna llawer na ddylid gwneyd hyny, am nad ydyw llaw- er o honynt yn rhy lanwaith; ao heblaw hyny, y mae perygl oael y gwahanglwyf oddiwrthynt. Y mae genym amryw resym- au personol yn eu herbyn: I. Y mae y chwech Utinese Company yn dod a'r fath luaws o ferohed drwg i'r wlad, ao yn eu gwasgaru i bob tref a phentref trwy California. Y mae y merohed baoh yma sydd yn gyffredin o 4 hyd 5 troedfedd o dal- dra, yn gallu llwyddo, trwy eu digywilydd- dra, i hudo beohgyn gwynion o 10 hyd 15 oed atynt i'w ffauau, a dyna hwy wedi hyny yn ngenau uffern, ar y llithrigfa, yn agored i gael eu dystrywio gyrff ac eneidiau. Ar ol eu hudo i ffau y ferch anllad, hudir hwynt i ffau y dynion i ysmooio opium, ac yna bydd- ant yn regular California hoodlums. Ni ddeu- ant yn agos i'r Ysgol Sabbothol mwy. Bydd- ai mor hawdd cael y diafol at y groes a chael gan yr hoodlums hy n ddyfod i'r oyfarfodydd gweddio a'r pregethu. Cofier hefyd mai nid plant yn unig sydd yn myned i'r fath leoedd drwg; y mae yr ymwybodolrwydd hwn yn peri i ni y gweinidogion a'r cenadon cartref- ol gyfodi ein 11 ef yn erbyn yr anwireddhwn, a gosod ein gwynebau fel callestr yn ei er- byn. II.-Anfon yr arian o'r wlad i China. Yn ol adroddiad y Chambers of Commerce yn San Francisco, y mae mantoliad masnach gyda China yn ein herbyn ni am y tair blynedd diweddaf yn $23,716,085. Y mae hyn yn cynwys yr arian a anfonir yn ol i China gan y Chinese laborers. Pa Dalaeth neu wlad a all ddal y fath fantoliad yn ei herbyn? Onr bai y ffaith fod y fath doraeth o aur ao arian ar y Pacific Coast, byddai y fath ddihysbydd- iaeth a gwaghad ar y coffrau yn sior o'u gwneyd yn bankrupt yn fnan. Y mae tir- feddianwyr yr Iwerddon yn derbyn y rhenti, ao yn eu gwario allan o'r wlad. Y mae hyny yn dwyn tlodi a gwasgfeuon ar y wlad. Felly y mae diwydrwydd Chineaidd yn California. Anfonir yr arian allan o'r wlad wrth y mil- iynau, ao y mae hyn yn tlodi California yn ofnadwy, er mor gyfoethog ydyw yn natur- iol yn ei haur a'i harian. Nid yohydig o Wyddelod ar y sand lots yn San Francisco sydd yn gweled y ffeithiau hyn; na, y mae nawdeg o bob cant yn eu gweled yn Cali- fornia. Ond golyger fod tafoliad masaach yr Unol Dalaethau gyda China yn filiwnau o ddoleri o'n tu ni; eto y mae yr anfoesoldeb a ddygir i'r wlad trwy ymfudiaeth Chine- aidd, yn gwrthbwyso y cyfan. Y mae cryn lawer o waed drwg wedi dod i'r wlad hon yn barod, fel nad oes gan y Talaethau Unedig ddim modfedd yn weddill i gadw y wlad rhag suddo fel eodom a Gomorrah,Babilon a Rhufain. Y pwno sydd yn llosgi yn ein gol- wg ni y cenadon cartrefol ydyw, Pa fodd i gadw y wlad rhag syrthio i afael pechodau Rhufain, fel na fydd iddi syrthio i ddystryw fel Rhufain. TTT—Nid oes ar y wlad hon ddim eisiau rhagor o ymfudwyr annymunol o'r un wlad; ond cofier fod gwahaniaeth rhwng ymfud- wyr ao atgludwyr. Y mae yr ymfudwyr yn dod i'r wlad i aros, ao y maent yn dod yn Amerioaniaid yn fuan. Ond nis gellir dweyd hyn am y Chineaid; nid oes ond ychydig iawn o honynt hwy yn dyfod a'n gwragedd yma. Y mae deg bloc yn San Francisco yn meddiant y Chineaid yn gyfangwbl. Y mae yno dros 30,000 yn trigianu; ond nid oes yno ond ychydig o wragedd cyfreithlawn. Genir plant yno, ond ni wyddys pwy ydyw eu tad- au. Felly y mae oystal Sodom a Gomorrah yn y deg bloc sydd yn meddiant y Chineaid yn San Francisco ag sydd yn Utah, neu un- rhyw ran o'r byd. Nid dod yma i aros a dyfod yn Americaniaid y mae y Chine- aid, eitkr dod yma i fasnachu ac enill $300, er mwyn dychwelyd yn ol i China, o herwydd ystyrir fod $300 yn ffortiwn yno. Os bydd rhai o honynt farw, gorchymyn- ant anfon eu hesgyrn yD ol i China. Nid ydynt yn gofalu dim am y llywodraeth hon. Yr unig beth sydd arnynt eisiau ydyw y tri chant, er dychwelyd. Wrth ymadael yn San Francisco ca bass i ddychwelyd. Gwertha hwnw yn China i ryw un arall sydd yn deb- yg iddo mewn pryd a gwedd, a glania hwnw yn San Francisco, o herwydd ei fod wedi prynu bogus pass. IV.—Cyfundrefn o gaethiwed ydyw ym- fudiaeth Chineaidd. Y mae bron yr oil sydd yn dyfod yn gaethion i un o'r ohwech Chinese Co. Bydd hyn a hyn o'u henillion yn myned i'r Cwmni. Nis gallant hwy ddychwelyd hyd nes y byddont wedi prynu eu rhyddid. Nid oes arnom ni eisiau cyfun- drefn o gaethiwed yn Amerioa rydd. Gwar- eu rhyddid. Nid oes arnom ni eisiau oyfun- drefn o gaethiwed yn Amerioa rydd. Gwar- iasom yn agos i$2,500,000,000, a chollwyd oddeutu 500,000 o fywydau gwerthfawr i ddarostwng y caethiwed Negroaidd; ao nis g.illwn oddef caethiwed Chineaidd yn y wlad. Y mae y rhesymau yn erbyn dyfod- iad y Chineaid i'r wlad yn drymach na'r rhesymau o blaid eu dyfodiad o ddigon. Felly dos yn dy ol, John Chinaman.