Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
34 articles on this Page
Advertising
Y DRYCH AM 188B. T Hevyddiadur Hynaf yn yr Iaith. GOSTYNGIAD EI BRIS I $2.00 Y rLWTTDDTTN, I BAWB A DALANT YN MLAtiN LLAW AM DANO. Tanysgrifiwch yn Ddioed am y Papyr Rhatat a Mwyat Dyddorol ei Grynwye-iad. Er yr ystyriwn y DRYCR yn bresenol Y NEWYDDIADUR RHATAF YN GYSTAL A GORAF yn yr Iaith, ar gyfrif helaethrwydd a natur ei gynwysiad, gostyngir ei bris i DDWY DDOLAR Y FLWYDDYN, gyda'r gobaith y gwna ein holl Oruchwylwyr a'n Cefnogwyr ymdreohion adnewyddol i helaethu ein oylohrediad, yn gystal a darbwyllo pawb i dalu yn mlaen llaw, fel y gwneir gyda'r papyrau Seisnig. Cofier nad ydys yn addaw y DRYCR am y pris gostyngol i neb ond a dalant ar ddechreu eu blwyddyn. AT HEN DDYLEDWYR. Y mae enwau lluaws o'r rhai hyn ar ein Uyfrau. A gawn ni wasgu yn garedig ar y oyfryw i anfon y symiau dyledus arnynt heb oediad pellaoh, yn gystal a thai yn mlaen am y flwyddyn bresenol. Peth dymunol fyddai Rhestr lan o Ddeng Mil o Danysgritwyr, oil yn glir hyd ddiwedd y flwyddyn. Anfonir DARL UNJ. W.JONES i Danysgrifwyr Newyddion, a dalant yn mlaen llaw; yn gystal ag i'n holl Ddyled- wyr ar dderbyniad yr cl-ddyled a blaendal. ANFONER ARIAN MEWN POST OFFICE ORDER, POSTAL NOTE, NEU REGISTERED LETTER, NET MEWN DRAFT AR NEW YORK, TALADWY I T. J. GRIFFITHS, DRYCR OFFICE, UTICA, N. Y. YMENYN AR "C0WIVIISSJ0N7" DAVID W. LEWIS & CO., 49 & 51 PEARL STREET, NEW YORK, A gymerant gynyrchion y ffarm i'w gwerthu ar gomisiwn, ac a anfonant y tal l'w cwsmerlald yn uniongyrchot ar ol y gwerthiant. Marclwch y eypynau a chyfeiriwch lythyrau- DAVID W. LEWIS & CO., New York. J. T. WILLIAMS (Gwyddon), Commercial Trawler gyda y Mri. BENNETT SLOAN & Co. W. BBOADWAY AO 82 THOMAS ST., NEW YORK Allforlwr a Masnachwyr Oyfanwerthol mewn TE, COFFI, SPICES, a gwahanol nwyddau perthynol 1'r Grocery Buri- "6, Arwyddalr y cwmnl hwn yw "Y Nwyddau eoreu am y Pris Iselat." Dymunagefnogaeth y Masnachwyr Cymreig EIN GOHEBWYR. Wisconsinydd.—Yn einlnesaf orS bydd modd yn y byd. Vox PopnlL—Gwelsoch hanes y cyfarfod yn y DRYCH diweddaf. R. 0. B., SLATINGTON.—Anlonwyd yr hanes gan arall. Y Beirdd.—Derbyniwyd y darnau Seienig can- lynol—"The Nanticoke Water Works" (J. J. Ej a "Love" (Glwysfryn). Mwy priodol lyddal eu hanfon i bapyrau Seisnig lleol. Oyfansodder darnau Oymrelg i'r DRYOB. Agents y Drych. BED OAK A HENDEBSON, IOWA.—W. B. Hughes (Baglllt). SIOUX RAPIDS. PETERSON, LINN GROVE A WILLOW CREEK, IOWA.—Henry Rees, Sioux Bapids. COLUMBUS, O.-R. A. Chapman, 24 Kiefer Ave. POSTAGE CITY, WIS.-David J. Williams. OSHKOSH, WIs.-H. M. Jones, 40 Franklin St.
[No title]
[No title]
ANFONODD y Pab ryw amwisg gysegredig o'r enw pallium i'r Archesgob CORRIGAN, New York, yn ddiweddar, a gwnaed seremoni fawr wrth ei derbyn yn eglwysdy St. Pat- riok, ddydd Gwener diweddaf.
[No title]
Bu gwraig y Seneddwr JOSEPH R. HAWLEY o Connecticut, farw yn Washington, o'r pneumonia, ar y 3ydd cyfisol. Yr oedd yn gyfnither i HENBY WARD BEECHEB, ae yn foneddiges ragorol.
[No title]
An yr 28ain oynfisol, bu farw gweddw GIDEON WELLES, Ysgrifenydd y Llynges yn Ngweinyddiaeth LINCOLN, yn 69 mlwydd oed. Yr oedd yn ddynes dda a defnyddiol. Yn Hartford, Conn., y oartrefai.
[No title]
PAN gyfrifwyd yr arian yn is-drysordy y Talaethau Unedig yn San Francisco, yr wythnos aeth heibio, oafwyd fod y swm $10,000 yn fyr. Penodwyd arohwiliwr neillduol i edrych i mewn i'r mater. Rhowch wel'd! Dim ond blwyddyn o'r Wein- yddiaeth Ddemocrataidd sydd wedi pasio.
[No title]
PBOPHWYDA rhyw Gypsen yn New Jersey, y bydd i THOMAS A. EDISON wneyd dyfeisiau cywreiniaoh nag erioed o hyn allan. Seilir y rhagddywediad ar y ffaith fod y wraig feu- ano a gymerodd yn ddiweddar yn seithfed plentyn ei rhieni. Pa bryd y daw diwedd ar adrodd a ohoelio y fath ffregod ?
[No title]
DYDD Gwener diweddaf, yr oedd dinas New York heb un street-car yn rhedeg yn- ddi, o herwydd streio y dwylaw, y rhai a gawsant ddychwelyd i weithio gyda'r nos, ar y telerau a ofynent. Nid oes neb yn y dref yn cofio y fath ddiwrnod llonydd a thraff- erthns o'r blaen.
[No title]
YN hytrach na sefyll treial am dwyll, yn New York, yr wythnos aeth heibio, ffoiffed- odd WILLIAM S. ROBEBTS, cyn-lywydd arian- dy yn I ugusta, Ga., ei rwymeb am $10,000, a gadawodd y Dalaeth; ond dywed ei gyf- reithiwr mai trwy gamsyniad yr oedd yn absenol o'r llys pan alwyd ei achos, ao y bydd iddo ymddangos unrhyw amser y gof- ynir am dano yn brydlon.
[No title]
HYSBYSIB fod holl gawrfil allanol y di- weddar "Jumbo" wedi ei osod i fyny ar ffram gref. Y mae ei groen yn fodfedd a haner o drwch, ao yn 1,538 o bwysau. Bydd ef a'r esgyrn yn rhan o Arddangosfa enfawr BABNUM, y tymor dyfodol. HENRY A. WOOD o Rochester, N. Y., fu yn darparu corff yr anifail, yr hwn a laddwyd yn mhell cyn iddo orphen tyfn, meddir.
[No title]
MABWOLAETH ddifrifol gafodd Mr. WIL- LIAM HEATH, yn Lskewood, N. J., ar y cyn- taf cyfisol. Ffaelodd yn New York, tua blwyddyn yn ol. Cyn hyny yr oedd yn fil- y iwnaer, a'i gyfeillion yn lleng. Ond pan ddaeth adfyd, bwriwyd ef i garchar, anghof- iodd ei gymdeithion ef, a gadawyd iddo dori ei galon a threngi, tra yr oedd ei wraig yn mwynhan ei hun yn Paris!
[No title]
AFLWYDDIANUS fu ymgais ddiweddar y Paroh. THOMAS K. BEECHEB—brawd ei frawd HENRY WARD i gael ei ethol yn Faer El- mira, N. Y. Byth er pan frasgamodd GBOVEB CLEVELAND o Faerolaeth Buffalo trwy Albany i'r Ty Gwyn, eisieu bod yn Faer rhyw ddinas neu bentref sydd ar bob swydd-geisydd cychwynol yn y Dalaeth Ym- erodrol.
[No title]
NrD yw Mugwumpiaeth yn marw ar frys. Parha yr Harper's Weekly a'r New York Times i frolio mwy ar CLEVELAND nag a wna llawer o newyddiaduron Democrataidd; ao ar y pumed cyfisol oynaliodd nifer o gyn- Werinwyr Boston gwrdd i ganmol y flwydd- yn o Ddemocratiaeth sydd newydd ddyfod o gwmpas. Mewn gwirionedd, ymgais at hunanddiffyniad yw ymddygiad presenol y Mugwumpiaid.
[No title]
BETH sydd ar Ddeddfwrfa Kentucky ? Nid oes ond yohydig er pan greodd WIL- LIAM OWENS gythrwfl enbydus ar ei llawr; ac ar y 4ydd cyfisol gwnaeth ROBERT G. THOMAS, pelod o Sir Muhlenburg, ymosod- iad ffyrnigwyllt ar y newyddiaduron, a'r ael- odau o Louisville, yr hyn a arweinodd i her i ornest rhyngddo ef a WILLIAM JACKSON, yr hyn a barodd i'r Llefarydd orchymyn eu hatafaeliad. Tynwyd yr her yn ol, rhag cywilydd- neu rhag ofn.
"CYMERIAD M JESOL DA."
"CYMERIAD M JESOL DA." Beth yw "cymeriad moesol da?" Dibyna hyny ar safon yr ymholydd, a dybyna y saf- on ar gysylltiadau y cwestiwn. Wrth res- wm, rhaid i ymgeisydd am y weinidogaeth fod "o gymeriad moesol da." Acnithrwydd- edir neb i arfer y gyfraith nen physygwr- iaeth, oni fydd "o gymeriad moesol da." Cyn y ca ymfudwr ei wneyd yn ddinesydd Amerioanaidd, rha.id i ryw gydnabod dynga ei fod yn ddyn "o gymeriad moesol da;" a gofyna pob dinas a phlwyf yn America i'r hwn a ollyngir i gadw dioty, fod "o gymer- iad moesol da." 0 ran geiriau, cymwysir yr un gofynion yn union at bob un o'r oymer- iadau uchod; ond rhoddir ystyr pur wahan- ol i'r geiriau yn mhob un o'r cylchoedd a nodwyd. Ymddengys mai y swm gofynol o "gymeriad da" yn mhob cyloh ydyw cymaint ag mae y cylch neiilduol hwnw yn ofyn. Gall oymeriad moesol" fod yn "dda" mewn Barnydd a fyddai yn ddrwg mewn Esgob. Yn gyffelyb, ystyrir "oymeriad' gwirod-werthwr yn "dda" can hired ag yr erys yn ei ddioty; ond y foment y ceisio es- gyn i alwedigaeth uwoh, ceir ef yn brin yn nghlorianau cymdeithas, yr hon, yn ymater hwn, sydd yn euog o ddefnyddio "amryw bwysau ao amryw fesurau."
DIGOLLEDU Y CHINEAID.
DIGOLLEDU Y CHINEAID. Ar yr ail oyfisol, anfonodd yr Arlywydd genadwri neiilduol i'r Senedd i'w chymell i basio mesur i ddigolledu o Chineaid ag yr ymosodwyd arnynt yn Bock Springs, Wyo. Terr. Ni hona Mr. CLEVELAND fod ganddo awdurdod i wneyd rhagor na rhoddi aw- grym cymeradwyol ar y cwestiwn. Seilir yr apeliad ar egwyddorion oyffredinol oyfiawn- der, ao ar ein cytundeb a China. Bernir na fydd i'r Senedd betruso derbyn awgrym yr Arlywydd, a thalu y $147,000 o iawn a ofyn- ir gan y Chineaid. Ond fe ymddengys mai nid i Rook Springs yn unig y bydd gofyn am i'r Talaethau Unedig anfon arian iawn- ol, oblegid fe ddywedir fod y llys-genad Chineaidd yn Washington yn darparu ei ffordd i ofyn am yr un peth i'w gydwladwyr sydd wedi cael oolledion diweddarach a mwy, yn Oregon, California a Thiriogaeth Washington. Gan fod y Talaethau Unedig wedi mynn cael iawn gan China am i rai o'i phobl hi anrheithio marsiandwyr Amerioan- aidd, dadleua y llys-genad crybwylledig mai teg gwneyd i'r rheol weithio y ddwy ffordd. Deallir fod Mr. CLEVELAND a'i Gyfringyngor o'r un farn ar y ewestiwn hwn. Os na fydd i'r farn hono gael ei chario allan, bygytbia llawer o Chineaid dylanwadol ad-dalu i ni, trwy erlid pob Amerioanwr o China, a dinystrio neu gymeryd eu meddianau. Byddai hyny yn drychineb i'r achos cenad- ol, ao i gangen bwysig o'n masnach.
Y OWN A JI. PASTEUR.
Y OWN A JI. PASTEUR. Rai misoedd yn ol cyngorodd M. PASTEUR o Paris bawb i beidio lladd ci ag y tybid ei fod yn gynddeiriog pan yn brathu personau a anfonir ato i'w meddyginiaethu, ond yn hytrach ei gaethiwo nes y gwelir y gwir di- amheuol am dano. Dengvs yr awgrym hwn fod y fferyllydd Ffrengig yn awyddus i roddi ei driniaeth newydd trwy brawf teg a sier; creda ei fod wedi darganfod ffaith an ianyddol bwysig i ddynolryw, a dymuna wneyd hyny yn eglur i bawb. Yr oedd ach- os y plant anfonwyd ato o Newark, N. J., yn dangos priodoldeb ei gyngor, canys oadwyd saith o gwn a frathasid gan yr un oi ag a'u brathodd hwy, a gwyliwyd hwynt o amser eu carohariad yn nechreu Rhagfyr hyd dde- chreu yr wythnos fynedol, pan ryddhawyd hwynt heb i un o honynt roddi yr arwydd lleiaf o gynddaredd. Ac nid yw y plant er- aill a frathwyd gan yr un ci, ac nad aethant i Paris, wedi teimlo dim anhwyldeb hyd yma, yr hyn a'i gwna yn bur amlwg Bad oedd y bechgyn o New Jersey a gawsant y pleser o groesi y Werydd, a gweled Ffrainc, ar gost pobl eraill, mewn dim perygl oddi- wrth y tipyn brathiad a gawsant. Ond nid yw hyn yn profi nad oes rhinwedd yn nhrin- iaeth PASTEUR, Taa yr un amser a gollyng- dod y saith ci yn Newark, yr oedd prif fedd- ygon Ffrainc yn rhoddi datganiad cyhoedd- us i'w ffydd yn ngwir werth ei ddarganfydd- iad, ac yn diolch iddo am dano. Nid yw efe ei hunan yn ameu dim ar rinwedd achubol ei heint-ircpiad yr hwn a ddarpara i'w gym- wyso at y diphtheria mor effeithiol ag at y gynddaredd, fel yr hydera yn gryf. Ni raid aros yn hir i gael arbrofion diymwad ar yr hoil fater hwn. Gofyna M. PASTEUB$40,000 at adeiladu ysbyty-ysbyty cynddeiriog--YIl Paris, a $12,500 y flwyddyn at ei gynal. Di- chon y byddai yn dda aros nes bydd gwerth y driniaeth yn fwy diamheuol.
IY FFORDD I FYW YN HIR.
Y FFORDD I FYW YN HIR. Ychydig amser yn ol, gwnaeth cofnodydd cyffredinol Lloegr adroddiad dyddorol ac addysgiadol ar efEaith cydmarol y prif al- wedigaethau ar barhad y bywyd dynol. Yn ol tafleni y boneddwr ymchwilgar hwnw, pe y oymerid nifer benodol o ddynion am dym- or neiilduol, byddai eu marwolaethau fel y Canlyn: 0 bregethwyr, 556; amaethwyr, 631; ysgolfeistri, 719; siopwyr, 771; meddygon, 1,122; paentwyr, 1,202; darllawyr, 1,361; pobyddion, 1,170; mwnwyr, 1,839; labrwyr, 2,020. Oddiwrth hyn gwelir mai y pregeth- wyr sydd yn cyraedd yr oedran mwyaf, ac mai y llafarwyr caled sydd yn marw amlaf. Yn Ewrop, amrywia cyfartaledd y bywyd dynol rhwng 28.18 a 39 8 mlynedd. Credir fod y oyfartaledd wedi oodi blwyddyn a haner yn y Talaethau Unedig, yn ystod y deg mlynedd aethant heibio, yr hyn abriod- olir i ddull mwy priodol pobl o fyw, a gwelliantau mewn physygwriaeth. Ym- ddengys nad ydyw llafur meddyliol rheol- aidd, gyda gorphwysiadau digonol, yn an- ffafriol i hirhoedledd. Yr oedd FRANKLIN, NEWTON, GOETHE, CABLYLE a HALLEY rhwng 80 a 90, a TITIAN, SOPHOCLES, ac ANGELO rhwng 90 a 100 pan yn marw. Ychydig o bethau sydd mor anffafriol i lawnder dydd- iau a phoeu meddwl. Diau mai dyma y rheswm am y ffaith mai ychydig iawn o freninoedd, o ymerawdwyr, acoBabau sydd wedi cyraedd 80 oed. Rhaid i'r oorff a'r meddwl wrth orphwysdra rheolaidd, onide rhedant i lawr yn faan, yr hyn a ddengys werth naturiol y Sabboth. Swm y cwbl yw, os ydyoh am fyw yn hir, byddwoh yn lan, mewn awyr pur, ac yn gymedrol gyda bodd- lonrwydd; cedwch gydwybod ao afn iachus. Ar yr un pryd dylid ystyried mai nid bod, anadlu, bwyta, a ohwedteua yw byw, ond gwneyd ao effeithio rhywbeth sydd yn gyru y byd yn mlaen rc i fyuv. Y mae rhai wedi gwneyd mwy o wir fyw mewn chwarter oan- rif na miJiynau a welsant ben eu pedwar ugain.
BLACKSTONE A'R CYMRY.
BLACKSTONE A'R CYMRY. Ganwyd Syr WILLIAM BLACKSTONE yn Llundain, Gorphenaf 10, 1723. Er iddo golli ei rieni pan yn blentyn, oafodd addysg dda, a phob mantais i ddadblygu ei dalent- au amrywiol. Efrydodd archadeilada eth, a ohyfansoddodd ddarnau barddonol, pan yn ieuanc. Yn 1741, ymroddodd i astudio y gyfraith, yr hon a arferodd, gyda llwyddiant oanolig, hyd 1758, pan etholwyd ef i lanw eadair gyfreithiol yn Mhrifysgol Rhydych- ain. Y owrs o ddarlithiau a draddododd yno ar Gyfraith Gyffredin Prydain Fawr, sydd wedi anfarwoli ei enw. Bu farw pan yn 57 mlwydd oed. Yn ei ddarlithiau sonia am ffynonellau deddfau Lloegr, so am y dylanwadau a un- asant i'w ffnrfio. Er nad ydyw yn rhoddi llawer o le i'r dyl^nwad Brythonaidd, y mae hyny a ddywed am y Cymry, eu gwlad, a'u cyfreithiau, yn hollol barchus. Diohon na arweiniwyd ef i feddwl yn drwyadl am eff- eithiau tebygol deddfau anysgrifenedig y Derwyddon, ar gorff mawr Cyfraith Gyffred- in, neu anysgrifenedig, y Deyrnas, ar ol i'r Saxoniaid a'r Normaniaid feddianu yr Yn- ys. Wrth son am lwyr uniad Cymru a Lloegr, yn y seithfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad HENBY VIII., dywed am ein oyn- dadau: H Thus were this brave people gradual- ly conquered into the enjoyment of true liberty Addefa y darJithydd dysgedig mai y Oymry oedd y rhai cyntaf yn Ynya Prydain i ranu tiroedd y tad trancedig yn gyfartal rhwng ei holl feibion, fel y parheir i wneyd yn Sir Kent. Bheol ddiweddaraoh, ac annhrbetnol annheoach, y goresgynwyr yw gwneyd y mab hynaf yn etifedd o'r ewbl. Yr oedd y "Welsh mortgage" hefyd yn dreTniad hynod garedig, 80 eto oyfiawn. Ei neillduolrwydd oedd gwahardd foreclosure, ao adferu ei eiddo i'r gwystlwr, unrhyw amser y talai yr arian oedd yn cael eu sicrhau ganddo, a gadael i'r gwystledig, yn y oyfamser, gael ei gynyrehion yn Hog, heb gyfrifiant. Nid yw yr engreifftiau hyn o hen ddeddf- au ein tadan ond digon i enyn ein gofid am nas gwyddom fwy am ragor o honynt. Aw- grymant fod gan y Cymry, o amser y Der- wyddon hyd HTWEL DDA, syniadau dyrehaf- edig am degwoh. Buasai yn fendith fawr i'r Deyrnas Gyfunol heddyw, pe buasai llai o olion y Normaniaid, a mwy o egwyddorion y Celtiaid, wedi aros yn ei holl sefydliada u.
SERVIA A BULGARIA.
SERVIA A BULGARIA. Ar yr ail cyfisol llawnododd Bulgaria a Servia gytundeb heddwoh. Er fod y teim- lad yn dra chwerw rhyngddynt, argyhoedd- wyd y naill a'r llall o honynt mai gwell idd- ynt beidio ymladd rhagor, rhag i'w diwedd fod yn ddifaneoll dan ormes rhai o'r Gallu- oedd cymydogol. Gwelai y Brenin MILAN a'r Tywysog ALEXANDER fod Rwsia yn ddig- ofus wrthynt ill dau. Hyd ddeohreu yr wythnos ddiweddaf, gwrthodai Servia gyd- synio i wneyd heddwch heb gael yohwaneg- iad o ranbarth Widin at ei thiriogaeth, ao ni fynai Bulgaria roddi ei harfan heibio nes cael ymrwymiad am iawn am y colledion a gafodd oddiwrth ymosodiad Servia arni. Ond ildiodd y ddwy ochr, a rhoddwyd y cleddyf yn ei wain, yr hyn sydd yn ganmil gwell na phe yr adnewyddid y rhyfel ganol yr wythnos bresenol. Heddwoh sydd yn gweddu rhwng y Ser- viaid a'r Bulgariaid, nid yn unig am fod gan- ddynt yr un gelyn bygythiol yn Rwsia, ond hefyd am eu bod yn gymydogion, ao yn per- thyn yn agos i'w gilydd. Nid oedd yn talu mewn un modd i'r naill dywallt gwaed y Hall, er difyrwoh i'w oaseion cylohynol. Os yw Groeg yn siomedig a Rwsia yn sorllyd, nid oes help. Y Tywysog ALEXANDEB sydd yn dyfod o'r cythrwfl diweddar hwn oraf. Heblaw oael Roumelia dan ei deyrnwialen, enillodd glod nid bychan am ei fedr a'i wr- hydri yn gyru MILAN yn ol o'i derfynau, megys ar flaen y bidog. Os tynwyd rhai plyf o gap Brenin Servia, diohon y bydd i'w brofiad ei wneyd yn wr mwy pwyllog a llai hunanol o hyn allan.
GWNEYD NIWED YN DDIFWRIAD.
GWNEYD NIWED YN DDIFWRIAD. Y mae yn hawdd iawn i gynadledd neu berson crefyddol wneyd mawr ddrwg wrth ymyryd a gwleidyddiaeth, tra yn amoanu at effaith da. Yr oedd tair R hirgofiadwy Dr. BUBCHABD, y rhai a droisant Dalaeth New York i'r Democratiaid, yn engraifft ohyny. Ond ni fu i bawb ddysgu y wers briodol oddiwrth yr amryfusedd dybryd hwnw. Y n fuan ar ol marwolaeth y Cad. HANCOCK ym- symudodd gweinidogion Bedyddiedig Bos- ton i anog yr Arlywydd i benodi y Cad. O. 0. HOWARD i lanw ei Ie. Sylfaenent eu hapel- iad ar y dybiaeth fod y Pabyddio n yn gweithio yn egniol ond lleohwraidd dros rywun arall. Ond yr wythnos ddiweddaf, apwyntiwyd y Cad. ALFBED H. TEBBY i'r lie cyfrifol hwnw. Y Cad. HOWARD oedd olyn- ydd rheolaidd y Cad. HANCOCK, ao addefa pawb ei fod yn filwr oymwys i gymeryd ei J e, Y tebygolrwydd yw mai pend erfyniad- au y boneddwyr parohedig o Boston, barodd Mr. CLEVELAND beidio ei benodi. Ar y 4ydd cyfisol, eyflwynodd dirprwywyr o Gymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid yn yr Iwerddon anerohiad croesawol i Iarll Aberdeen. Cynwysai yr anerohiad siorhad fod y Gymanfa yn deymgarol, ac yn wrth- wynebol i unrhyw symudiad tueddol i an- mharu unolrwydd y Deyrnas. Nis gall y fath beth wneyd dim ond oynddeiriogi y Pabyddion yn erbyn y ProteBtaniaid, a'u gwneyd yn fwy oeraidd at eu Rhaglaw new- ydd. Gwell fnasai i'r Presbyteriaid beidio gwneyd na dweyd dim fel enwad. Dylai pregethwyr a chrefyddwyr gymeryd dyddor- deb yn helyntion eu gwlad; ond dylent hefyd fod yn dra gochelgar rhag i'w gweith- redoedd gael effaith hollol groes i'r hyn a fwriadant-anffawd sydd yn bur d -by g o ddygwydd bob tro yr ymwnant a gwleidydd- iaeth fel oynryohiolwyr enwadau, yn hytraoh nag fel dynion a ciinasyddion.
AWGRYMAU I 8EFYDLWYR.
AWGRYMAU I 8EFYDLWYR. Parhan y mae dylifiad pobloedd o'r Hen Fyd i'r Newydd, ac o'r Dwyrain yn y Byd Newydd, i'r Gorllewin. Aohosir hyny gan orthrwm, amser caled, a gormod o boblog- aeth yn yr hen wledydd, a ohan yr argy- hoeddiad oywir fod y wlad eang y tu draw i'r afon Mississippi yn cynyg mwy o fanteis- ion i ddyn tlawd na'r hen Dalaethau. Yn mhlith y canoedd o flloedd sydd megys yn canlyn yr haul yn eu hymgais i gy raedd gwlad well iddynt eu hunain a'u disgynydd- ion, y mae llawer o Gymry; a byddai yn dda i'w nifer gynyddu, yn hytrach na'u bod yn treulio eu bywydau ar gyffiuiau n ewyn, tra yn cymynu ooed, ao yn gwneyd pridd- feini heb wellt, i'r Saeson trahaus a'r Am- erioaniaid hnnangeisiol. Ond owestiwn mawr y dydd yw, I ba le yr awn ? Nid rhwng lleoedd gwael a lleoedd gwych yn unig y mae yr ymofyniad yn dyfod i mewn, ond hefyd rhwng gwahanol fanau da. Dich- on y gellir crynhoi yr awgrymau mwyaf buddiol i ymfudwyr amaethyddol i'r pwynt- iau oanlynol: 1. Y tyst mwyaf oredadwy am gymeriad lie ydyw yr hwn y mae mwyaf o ddyn ynddo, yn gyntaf oil. Nid yw yn oanlyn, bob am- ser, fod un yn dweyd anwiredd, os bydd poblogi rhyw ardal newydd neillduol yn elw iddo ef. Ceir weithiau ormod o ddrwg- dybiaeth yn y oyfeiriad hwn. Bid sior, fod barn ffarmwr profiadol am ddiffygion a rhagoriaethan gwahanol froydd, yn llawer gwerthfawrocaoh nag eiddo rhywun dibrof- iad. Fel yr anfonir mwnwyr i ohwilio am fwnau, felly amaethwyr ymarferol ddylid anfon i arohwilio tiroedd, ao arnynt hwy y bydd yn ddiogelaf gwrando wrth ddewis cartrefle. 2. Y gwir am y Talaethau Unedig yw, fod o fewn eu terfycau laweroedd o fanau ag y byddai yn fendith i sefydliadau Cymreig gael eu ffurflo yn mhob un o honynt, tra nad oes un o'r manau hyny yn berffai th, yn mhob ystyr. Pan geir fod rhyw le yn dda, gwell ymsefydlu ynddo yn dawel, na bod yn anesmwyth gan ofn fod rhywlerhag- oraoh i'w gael. Ni ddaw dynion byth i gyd- farnu pa fan yw y goraf, mwy nag y deuant 1 gytuno gan bwy mae y wraig dlysaf. Hen ddywediad doeth yw hwnw: "Gad lonydd i ddigon da." Gormod o duedd orwydro sydd wedi bod yn Iowa, Nebraska, Kansas, Da- kota, Colorado, Montana, Washington, &o. Nis gall y dyn hwnw byth fod yn ddedw ydd sydd yn anfoddlon ar y peth da sydd gan- ddo, am ei fod yn tybio fod rhywbeth gwell yn y pellder. 3. Y mae rhai manteision pwysig mewn myned i le hollol newydd. Yno bydd pawb ar yr un tir oymdeithasol a gwleidyddol. Mewn hen Dalaeth, tuedd sydd i edrych yn rhagfarnllyd ar newydd-ddyfodiaid, yn en- wedig, os bydd eu golygiadau politicaidd yn wahanol i'r parti llywodraethol yn y Dal- aeth hono. Nid oes ouro ar le newydd am ddymchwelyd canol-furiau, a gosod pawh ar yr un gwastadedd, gyda yr un oyfleusder- au i esgyn. Gwna y oyflwr hwn i sefydlwyr newyddion gael llawer o hyfrydwoh gyda eu gilydd, a chael mwyniant neillduol a gofir gyda bias hyd derfyn ymdaith bywyd. 4. Os rhaid dewis rhwng tipyn gormod o oerfel a thipyn gormod o wres, diau mai i'r oerfel y dylid rhoddi y flaenoriaetb, a chau iatau fod pob peth arall yn gydradd. Tuedd hinsawdd pcethlyd yw gwneyd pobl yn eidd- il, dioglyd, ao anfoesol. Y mae perthynas agos iawn rhwng ulai ao athrylith. Profa hanesiaeth mai mewn Iledredau pur uohel y mae y meddyliau arweiniol wedi arfer ymddangos. Y mae y rhew-wynt yn well na'r poethwynt, a'r blizzard ogleddol yn iachaoh na'r simoon deheuol. Gwell i ddyn gael ei "rewi yn delpyn" na'i "doddi yn llymaid." 5. Fel rheol, ceir mai gwlad iachus ydyw yr hon ag y mae mor neu fynyddau yn ei thymeru; er engraifft, yr Ynysoedd Pryd- einig, y rhai y oynesir eu gauaf ao yr oerir eu haf gan ffrydlifoedd y Werydd. Ca ffrydlifoedd y Tawelfor effaith cyffelyb ar lanau gorllewinol y wlad hon. Hen "fedd- yglyn" godidog ydyw y mor mawr llydan. Oddiar ei wyneb ef gwasgerir awyr pur i bob cyfeiriad. Gwna ei anadliadau dyfn- ion a hirion ef i'w ororau flodeuo fel rhos- yn; cluda hoen y gogledd i'r deau, a balm y deau i'r gogledd. Y mynydd hefyd sydd drysorfa llawer o rinweddau. O'i aeliau uchel daw allan ddyfroedd bywiol i ireiddio ei ruddiau a'i ystlysau, ac i ffrwythloni y dyffrynoedd tawel wrth ei draed. Tyr nerth rhuthriad y gwynt, a gwna ohwaon tyner o'r corwynt dychrynllyd. Ar yr un pryd, bywioga y meddwl, gan ei wneyd yn gerddgar a barddonol, yn ogystal ag eofn a gwladgar. 6. Awydda llawer mewn gwlad newydd am gychwyn trefi blodeuog; ond nid oes dim mor ansicr a hyny. Yn yr oes hon gall y rheilffyrdd ddweyd wrth bob pentref newydd, "Yr hwn a fynwn a laddwn, a'r neb a fynwn a gadwn yn fyw." Er hyny, y mae rhyw bethau ag y byddai yn ddoeth eu hystyried wrth gychwyn tref mewn lie an- nghyfanedd. Hyd yma, y mae pob dinas fawr naill ai ar ]an mor, Ilyn, neu afon. Er fod y rheilffyrdd wedi lleihau y rheswm am hyny, ni ddileir ef yn hollol, mwy nag y mae y rheilffyrdd wedi gallu can i fyny gamlasau y wlad. Cyn pen pum' mlynedd ar hugain, gwelir y trefi mwyaf yn Dakota ar yr afon Missouri, fel yn Nebraska a Mis- souri yn aw r. Y mae Oymdeithas Dirol Gymreig wedi ymffurfio. Dymunwn ei llwyddiant. Rhodd- er pob chwareu teg iddi. Fel y dywed ei Hysgrifenydd, bydded i'r rhai nad ydynt am ymuno a hi, adael llonydd iddi. Nid oes yn y byd lawer o bethau mwy dirmygus na chi mewn preseb, yr hwn nas gall fwyta y gwair ei hunan, a'r hwn na fyn oddef i'r ych na'r oeffyl ei gael. Goreu po fwyaf y Gymdeithas a ffurfir. Y mae digon o le i 100,000 o Gymry gael cartrefi hyfryd iddynt eu hunain dan nodded ein Hewythr Sam. Llyfr campus ar rai o'r pynoiau fu dan sylw uchod yw Earth and Man, gan y diwedd- ar gadeirdraw GUYOT, o Princeton.
LLENYDDOL A CHERDDOBOL.
LLENYDDOL A CHERDDOBOL. VoxPopuLi a ofyna: "Beth pe bai lienor- ion a chantorion Glanau y Llyn yn ymuno a ni tua Cambria i ail gyfodi Eisteddfod y Gorllewin y Nadolig nesaf ? BYDD Liszt yn ymweled a Lloegr yn fuan, ond nid i wneyd dim cyhoeddus. Ar wa- hoddiad rhai o'i edmygwyr y mae yn myned. Mae yr awdwr athrylithgar yn 75 mlwydd oed. ANEUBINFABDD a ysgrifenu: "Diolohwyf i Mr. David Jones, Philadelphia, am ei ys- grif ar lyfr Ellis Pugh. Nid yn unig y mae yn ddyddorol, ond hefyd yn werthfawr ar gyfrif ei chyweiriad o'r hyn sydd yn "Llyfr- yddiaeth y Cymry."
DATGANIAD O'R OBATOBIO "ELIJAH"…
DATGANIAD O'R OBATOBIO "ELIJAH" YN UTICA. Yn unol a'r hysbysiadau, datganwyd "Elijah" Mendelssohn yn eglwysdy Episco- palaidd Calvary, nos Wener diweddaf, gan yr Handel Choral Society, dan arweiniad Mr. W. J. Stephens (Gwilym Brycheiniog). Yr oedd yr adeilad eang yn orlawn o wran- dawyr astud a deallus, llawer o'r rhai a ddaethent o leoedd cylohynol, megys Win- field, Rome, Maroy, Whitesboro, ac Albany. Gwnaeth Mrs. W. F. Hopkins ei rhan yn gampns wrth y berdoneg, a'r un modd Miss Etta M. Laughlin wrth yr organ. Mr. D. Gordon Thomas, Philadelphia, oedd y bas, ao aeth trwy ei ran bwysig er boddhad mawr i bawb. Canai yn gywir, rhwydd a theim- ladwy. Yn sior, ni raid i'r datganwr godid- og hwn betruso ymgymeryd a'r gorchestion sydd wedi enwogi M. W. Whitney o Boston. Cymerodd yr arweinydd y tenor, a ohanodd, "If with all your Hearts," a "Then shall the Righteous," yn gymeradwy iawn. Fel con- tralto yr oedd yn ofynol i Miss Eaton ganu cryn lawer, ao aeth trwy ei rhan yn fedrus a chalonog. Yr oedd Mrs. Lee hefyd yn fodd- haol. Aeth Mr. John Price Jones trwy yr anawd, "0 Man of God," yn bur wyoh. Gyda rhagor o ymarfer gellir gwella cryn dipyn ar y pedwarawd dwbl, "For he shall give his Angels Charge." Yr oedd y ped- warawd, "Cast thy Burden upon the Lord," yn well, er ei fod yntau yn ddiffygiol. Can- wyd "Lift thine Eyes" yn gelfydd gan Mrs. Oatley, Miss Norton a Miss Eaton. Aeth y corawd trwy ei waith yn wir ganmoladwy, gan siomi pawb ar yr oohr oraf o lawer. Rhoddodd foddhad neillduol wrth ganu "Blessed are the Men," "Thanks be to God," "Be not Afraid," "Behold God, the Lord," a "Then shall your Light." Y mae y oantorion hyn wedi cael adgyfnerthoedd, ao ymddiwyllio llawer iawn er pan roddas- ant gyohwyniad nowydd i Oratorios yn Utica, trwy ddatganu y "Messiah" yn Mai diwedd- af, Gyda sylfaen mor dda a ohefnogaeth oynifer o brif foneddwyr y ddinas, dylai y Gymdeithas hon fyned rhagddi nes cyraedd safle tra uchel. Wrth fyned trwy yr "Elijah" anhawdd a gorgywrain mor dderbyniol, dangosodd fod ynddi ddatganwyr rhagorol. Yn hytrach na gorphwys dan ei llawryf presenol, eled yn ei blaen at berffeithrwydd, gan gofio, fel am ryddid, mai ymarferiad tragywyddol yw pris rhagoriaeth oerddor- ol. Y tro nesaf gall roddi dau neu dri o g^rawdau a adawyd allan nos Wener, heb fiino y gwrandawyr; a byddai llwyfan uwch nag oedd yn y Calvary Church yn fanteisiol i'r cantorion ac yn ddymunol i'r gwyddfod- olion. Da genym weled fod holl newydd- iaduron y ddinas yn rhoddi canmoliaeth ddi- brin i'r hyn a wnaeth y oorawd, ao i'r un- awdwyr a'i I oynorthwyasant. Anogwyd hwy i fyned drysti eto ar fyrder. 1
[No title]
—Tra yr oedd y Parch. A. P. Jones, Frank- fort, Sir Spink, Dakota, oddicartref dros Sul yn ddiweddar, pregethodd ei wraig yn ei le, ac yn awr y mae y gynulleidfa yn hollol Eoddlawn iddo fyned i ffwrdd mor fynych Etg y myn, os penoda Mrs. Jones i Janw ei bwlpud.
WASHINGTON. D. C.
WASHINGTON. D. C. WASHINGTON, D. C., Mawrth 8.—Rhodd- oid brawd Mrs. W. C. Whitney $500,000 iddi i ddarparu gwleddoedd wythnosol i'w ohyfeillion, ac y mae yr arian yn cael eu gwario "fel lli'r afon." Dywedir mai hi sydd yn hulio y bwrdd godidooaf o bawb yn Washington—heb arno un awgrym o "symledd Jacksonaidd," nao o "retrenchment and reform" cymdeithasol. Gwnaeth Mr. Whitney ymgais i ddangos nad ydyw efe wedi bod yn halogi ei ddwylaw gyda rheil- ffyrdd heolydd dinas New Ym k; ond rhaid oael rhagor o amser i'w lwyr glirio yn medd- wl y cyhoedd. Nid oes dim newydd wedi dyfod i'r golwg mewn cysyiltiad a mater y Pan-Electric Company. Dysgwyl y mae pawb yn awr am ymchwiliad ac adroddiad Pwyll- gor y Ty. Cyhoeddwyd fod $2,702,000 o'r ddyled wladol wedi ei th&lu yn Chwefror. Penododd yr Arlywydd A. N. Childs o Mis- souri, i fod yn genad arosol yn Siam, a James C. Mathews i gymeryd lie Fred. Douglass fel cofnodydd gweithredoedd yn Rhanbarth Columbia. Negro o Albany, N. Y., yw Mathews; a chan fod y swydd yn werth $10,000 y flwyddyn, caisiai llawer o Ddemocratiaid croenwyn ei ohael, a phar eu methiant iddynt deimlo yn siomedig a phur ohwerw at Mr. CLEVELAND. Y mae Mathews yn allnog i lanw y lie, gan ei fod yn wr o ddysg, yn gyfreithiwr pur lwyddianus, ao yn Ddemocrat er 1873, Y SENEDD.—Cynwynodd Mr. Evarts gais oddiwrth swyddogion ariandai oynilo Tal- aeth New York, am i fathiad arian gwynion gael ei atal. Cynryohiolai yr apelwyr 1,116,- 500 o depositors, a$437,000,000 o arian. Dydd Gweuer gohiriodd y Senedd o baroh i Mr. Hawley yn ei brofedigaeth o golli ei briod. Pasiwyd penderfyniad i ofyn i Ys- grifenydd y Llynges am eglurhad ar gyflwr y gwiblongitu anorphenedig. Pasiwyd y mesur addysgol, yr hwn sydd yn rhoddi o drysorfa y Llywodraeth at gynorthwyo yr yagolion cyffredin yn y Talaethau a'r Tir- iogaethau, yn nghyda Rhanbarth Columbia ac Alaska, y symiau canlynol, i'w rhanu yn ol poblogaeth pob lie: Y flwyddyn gyntaf a'r seithfed ar ol pasiad y mesur, $7,000,000; yr ail a'r drydedd,$10,000,000; y bumed, $11,000,000; y ohweched,$9,000,000; y bed- waredd, $13,000 000; yr wj?thfed;$5,000,000 —cyfanswm,$72,000,000, heblaw$2,000,000 i wneyd ysgoldai mewn lleoedd gweiniaid. Cyflwynodd Mr. Gorman o Maryland, fesur i ddarparu ar gyfer dathliad cyffredinol gan yr 16 o weriniaethau svdd yn America Og- leddol a Deheuol, o ganmlwyddiant Cyfan- soddiad y Talaethau Unedig, Mawrth 4, 1889. Gohiriodd y Senedd prydnawn heddyw o barch i goffadwriaeth y Seneddwr John F. Miller o California, yr hwn a fu farw dipyn wedi un o'r gloch, ar ol dyoddef cystudd maith. Ganwyd ef yn Indiana yn 1831. Bu yn ymladd dros yr Undeb Gwerinwr yd- oedd. Cymerodd ei le yn y Senedd Mawrth 4, 1881. Democrat yw y Llyw. Stoneman, ar yr hwn y gorphwys apwyntio ei olynydd. Y TY.—Gwrandawodd Pwyllgor Ffyrdd a Moddau ar amryw ddirprwywyr a anfonasid o Dalaethau gweithfaol i resymu a gwrth- dystio yn erbyn gostwng y diffyndoll. Pas- iwyd i roddi $23,887,588 yn yohwaneg at wasanaeth y Llynges. Hefyd, pasiwyd mes- ur i ganiatau arian at dalu amryw dreuliau gorphenol a phresenol. Derbyniwyd oen- adwri oddiwrth Ysgrifenydd y Trysorlys, yn awgrymu y priodoldeb o newid y gyfraith fel y gellir rhoddi dirwy llai na $100 am fan- werthn gwirodydd heb dalu y dreth neilldu- ol. Llawer o siarad ao ychydig o weithredu oedd yn y Ty ar hyd yr wythnos. 'T
HELTNTIOM RACINE, WIS.
HELTNTIOM RACINE, WIS. Gwaith Dwfr-Y "Knights of Labor"—Mas- nach-Cwrdd Adloniadol. RACINE, WIS., Mawrth 2.—Pwno y dydd yma ydyw water works. Daw y cwestiwn i bleidlais gyhoeddus aryrl6eg oyfisol. Cwm- ni o Boston sydd yn cynyg y telerau goreu— gwell telerau, meddir, nag un ddinas yn y wlad. Mae gwahanol farnau ar hyn,fel pob peth arall; ond yn ol yr argoelion presenol, bydd i bleidwyr y system gario y dydd. Yr oil fydd yn disgyn arnom mewn ffordd o drethi fydd talu$13,500, fel ardreth ar 300 o fire hydrants. Ni fydd "un rhwymedigaeth ar neb i ddefnyddio y dwfr; ond rhaid i'r rhai a'i oymerant i'w tai dalu 40c. y mis am un faucet, a 15c. y mis am bob faucet yohwaneg- ol. Bydd y ddinas at ei rhyddid i brynu yr holl waith yn mhen 15, 20, neu 25 o flynydd- oedd; eithr cofier, nas gall y ddinas ei brynu heb i'r pryniad gael ei gadarnhau drwy bleidlais gyhoeddus. Dyma sylwedd y mesur; a rhodded pob Cymro deallus ei bleidlais o du y water works. Cymdeithas ag sydd wedi gwreiddio, bla- guro, blodeuo, a dwyn ffrwyth mewn byr amser ydyw Oymdeithas y "Knights of Labor." Tri mis yn ol y ffurfiwyd cangen yma. Rhifant yn awr 12,000. Safodd gweithwyr M. M. Secor, gwneuthurwr tryno- ian, allan am godiad o 25 per cent yn en oyflogau. Perthynai rhai o honynt i'r Knights of Labor; bu y gwr mor gyndyn fel y gosodwyd "boycott' ar ei eiddo, a'r canlyniad fu iddo godi 20 oents ar y ddolar. Dywedir fod y "boycott" yn creu arswyd ar eraill hefyd. Addewir adfywiad masnach yn faan wedi pasio mesur y water works. Marwaidd iawn ydyw bron bob cangen wedi bod gyda ni am ysbaid dwy flynedd. Hyderwn fod am- ser gerllaw. Cawsom dime entertainment yn addoldy y T. C., nos Lun, Chwef. 22ain, a dywed pawb fod rhaid cael un cyffelyb eto cyn yr elo'r dydd yn hir. Pobl ieuaino yn unig oedd yn cymeryd y rhan flaenllaw gyda'r peth hwn, ac yr oedd y oynulliad lluosog ddaeth i'w gwrando yn ddigon o dystiolaeth fod eu llafur yn cael ei werthfawrogi. Derbyniwyd $40 wrth y drws. Gwelir wrth hJ ny fod yno gynulliad mawr yn ol 10c. yr nn. Cwyno mawr a glywir o bob oyfeiriad yn erbyn y owmni goleunwy. Mae amrai o'r wards wedi gorfod atal goleno yr ystrydoedd o herwydd nad oedd modd cael digon o ar- ian i dalu am y gas. Tystia un wraig dda ar Campbell St., fod ei gas bill hwy wedi dyblu y ganaf hwn ragor y bu un ganaf erioed! Beth ddrwg sy'n bod, tybed ? Dyma englyn gyfeiriodd Hugh Whitting- ton at Wm. H. Rowlands, prif alarydd mar- wolaeth y Cymro hwnw ddylasai gael ei eni yn Chicago: Ai camraith wnaed a'r Cymro-fu farw Yn nhref fawr Chicago ? Er cysnr gwnewoh brysnro I ddweyd im' p'le claddwyd o. Gwnaeth ei gydweithwyr arch daclus o goed derw da yn anrheg iddo, er dodi ynddi y gweddillion, a chafodd gydymdeimlad y boys yn y fargen. Hai, hai —NEXT.
[No title]
RADNOB, 0., Mawrth 4.—Y mae yr achos goren yn myned ar gynydd y dyddiau hjn yn yr eglwys Gynulleidfaol yma. Cynaliwyd oyfarfodydd diwygiadol am dair wythnos yn Saesonaeg, ao erbyn hyn y mae Seion wedi esgor ar ei meibion a'i marched, oynifer a 36 wedi eu chwanegn at yr eglwys. Y mae ein gweinidog, y Parch. John B. Davies, yr hwn sydd yn weithiwr diflino a difefl, yr wyth- nosau hyn yn gweithio yn yr eglwys arall sydd dan ei ofal, sef Troedrhiwdalar, ac y mae 12 yno wedi taflu eu coelbren yn mhlith plant a phobl yr Arglwydd. "Nid i ni, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod ogoniant. Brawd.
[No title]
GOLCHWYD ymaith ragor na phum' erw ar hugain o Duck Island, yn afon Delaware, N. J., yn ystod y llifeiriant a'r tagfeydd rhew diweddar. Hynodid yr ynys hono gan ragoriaeth y tobaoo a godid arni.
[No title]
PYMTHEG mynyd gymerodd i'r rheithwyr yn New York, nos Wener diweddaf, i gael JAMES T. HOLLAND, o Abilene, Texas, yn "Ddieuog" o lofruddio TOM DAVIS, yr hwn a laddodd rai misoedd yn ol, am iddo geisio ei dwyllo wrth werthu arian ffugiol iddo.
[No title]
MAE Deddfwrfa Mississippi newydd wneyd eyfraith i wahardd dysgu athraw- iaethau y Mormoniaid, neu geisio troi rhai i'w mabwysiadu, yn y Dalaeth hono, neu allan o honi. Cosbir trosedd o'r gyfraith a charchariad a $500 o ddirwy.
[No title]
GWNAKTH dan gylohgrawn o nodwedd y North American Review, eu hymddangosiad er dechreu y flwyddyn hon, sef y Forum a'r New Princeton Review, yn y rhifyn diweddaf o'r hwn y ceir erthygl dra darllenadwy ar "Thomas Gray," gan JAMES RUBSELL LOW- ELL. Nid yw yr Americaniaid yn rhoddi digon o dderbyniad i gyhoeddiadau o'r cymeriad yma, i wneyd iddynt dalu yn dda.
[No title]
Y TWYLLWB Ysbrydegol diweddaf i gael ei ddynoethi yw un o'r enw "Professor" GEORGE SEABCH. Yn Lawrence, Kansas, ar y cyntaf cyfisol, y cafodd nifer o olrhein- wyr allan mai castiau oywrain oedd ei holl "ymweliadau ysbrydion." Cymerodd y goes mor fuan ag y gallodd.
[No title]
CAFWYD allan yn ddiweddar fod sypynau trwohus o bregethau ysgrifenedig ROBERT- SON o Brighton, wedi myned ar goll. Rhydd yr hysbysiad hwn ofid i laweroedd—yn en- wedig i'r pwlpudwyr hyawdl sydd wedi traddodi ei holl bregethan argraffedig, er ystalm.