Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
PETHAU NAS GWYB PAWB.
News
Cite
Share
PETHAU NAS GWYB PAWB. Mae y Mesur Diwygiadol wedi ei fwrw allan o Dy yr Arglwyddi. Yr oedd 205 yn ei wthio maes, a phob un o'r rhai hyny yn cael ei ystyried yn Arglwydd, a dim ond 1,16 yn plycio arno yn ol— mwyafrif o 59 yn ei erbyn; ac allan y cafodd fyn'd! Ni bu erioed y fath dynu torch rhwng parwyd- ydd Ty yr Arglwyddi—pob ochr ar ei goreu. Yr oedd pwysau ofnudwy yn y mesur, anerth dihafal yn ei bleidwyr. Lapiwyd dwy filiwn o bobl ynddo, a'r rhai hyny i gyd mewn oedran teg, a gosodwyd rhes o'r tafodau ffraethaf fedd y deyruas i'w am- ddiffyn Ond bu raid iddynt ildio, gan fod mwy orifedi o driugain ond un yn ei lusgo maes nag ydoedd am ei gadw i mewn ao ymladd yn ddidrugaredd yr oeddynt nes ei yru dros y trothwy, a'i droedio wed'yn fel pel droed. Dan cant a phump o Ar- glwyddi cryfion ac ystwythgryf yn chwareu cricket match dg anwylyn y bobl, ac nid oes un ar- wydd eto fod neb ohonynt yn edifarhau am ei faeddu a'i dorfynyglu. Yr oedd yr Arglwyddi goreu yn bleidwyr ffydd- Ion i'r Mesur Diwygiadol. Nid oes ond un Ar- glwydd da yn bod, ac mae hwnw yn cefnogi Mesur y Bobl i'r gwaelod. Mae Arglwyddi ereill heblaw hwnw yn arglwyddiaethu arnom ni, ac nid gwiw i ni ddywedyd wrthynt mai ni biau ein hen- eidiau ein hunain. A rhyw goolies o Arglwyddi ydynt yn cludo newyddion drwg o'r India, Aifrica, yr Aipht, Soudan, a phob man; ac ni fynant ofalu am fusnes neb ond yr eiddynt eu hunain. Myself ydyw pwynt gwaith eu bywyd. Dau faes llafur sydd ganddynt i ddysgwyl ar eu hoi, sef lies y Bendefigaeth a'r Eglwys Lan Gatholig. Os dychymygant fod y rhai hyny mewn perygl, sathrant iawnderau pawb fel torn yr heolydd. Codant lwch heolydd ag olwynion eu cerbydau i orchuddio llygaid y tlawd, a gwnant gaethwas o'r gwreng ag adsain arian ea pyrsau. Peiliant eu byrddau a, bara gosod," a magant rengau o ddysgyblion ond pan dderfydd y torthau, ffarwel. Y mae 150 ond pedwar o rywogaeth arall yn Nhy yr Arglwyddi yn ceisio iawnderau i'r bobl. Ni fynant ddal y gwan mewn hualau, nac edrych ar y cryf yn ei farchogaetb. Y mae gorthrwm a breibiaeth yn ysu eu calonau. A dyna'r math a ddylai fod yn trafod mabrion yn y Ty Uchaf yn gystll a'r Ty Isaf. Arglwyddi yn ceisio lies y llaweroedd ydynt hwy, ac nid bunanles; Ar- glwyddi wedi eu dewis trwy y tugel gan y bobl, a bod safon gywir ganddynt i brofi eu gofal am helyntion y genedl, cyn ag y ciffont yr anrhydedd o gyfenwi en hunain yn aelodau Ty yr Arglwyddi. Yn awr, nid oes gan neb hawl i'w galw yn mlaen am ddim a wnelont. Y maent fel ymherawdwyr, Y neb a fynont a laddant, a'r neb a fyaont a gadwant yn fyw." Ychydig o fesurau da geuedl- odd llhyddfrydwyr yr haner can' mlynedd di- weddaf heb fod "cyliiU hirion" yr Hengistiau hyn yn brathu mwnwgl eu gyddfau yn yr enedig- aeth Bu dau iarll yn ymladd â'n gilydd yn Nby yr Arglwyddi—Cairns a Granville. Mae elten afry w- iog a chwerylgar yn mynwes ieirll ac arglwyddi, yn enwedig y Jingoes Toriaidd; ac nid yn rhy foneddigaidd i ymladd am arian yn ngbanol tri chant a haner o'u cydradd. Yr asgwrn cynen achlysuvodd yr ymladdfa hon oedd y trydydd person," sef Gladstone v. Salisbury—bwbach an- elwig yr Arglwyddi Toriaidd i gyd. Rhoes awgrym mewn araeth yn y Swyddfa Draraor ddarfod iddo roi cynyg da i blaid Doriaidd Ty yr Arglwyddi, a'u bod hwythau, My Lords," wedi ei wrthod, ac ymddwyn mor insulting tuag ato ag y gallasai Arglwyddi, heb gymaint a gwneyd sylw ohono ya eu dadleuon. Ond troes y tric yn frwmstan a than yn eu gwersyll; a boreu dranoeth, rhoes y papyrau newyddiou vent i'r achos, gan redeg draw ac yma trwy wenith addfed yr Arglwyddi a ifaglau wrth eu cynffonau. A thebygol fod rhai ohonynt wedi mentro dyweyd y nyddai Gladstone raff deircainc o'r cywa-rch dirmyg i'w gosod am wddf Arglwydd Salisbury. Ac nid oedd "My Lord" yn foddlon ymostwng i Gladstone, yn anad neb, i osod l'haffam ei wddf," rhag ofn y dygwyddai iddo rywbeth fyddai gwaetb. Cododd i fyny yn Nby yr Arglwyddi, gan wingo yn aethug yn erbyn yr idea, a dyrchafai ei lais fel udgorn am ysbaid awr ac wedi iddo lonyddu, wele bn dystawrwydd mawr. Yna daeth Iarll Granville yn mlaen i geisio amddiffyn Gladstone; ond cyn iddo allu llyncu ei boeryn ac estyn ei dafod dros ei wefus i ddywedyd My Lords," neidiodd Iarll Cairns ar ei draed, gan ddywedyd "My Lords hofyd. A dyma lie bu y ddau yn ymrysou gwaeddi My Lords" bob yn ail o flaen bwrdd yr Arglwyddi, nes i ryw Arglwydd arall gynyg iddynt bleidleisio yn ffafr yr hwa oedd i gael llefaru yn mlaenaf. Pleidleisiasant, ac wele ganlyniad achos y ddau hen ddyn-dros Granville, 27; dros Cairns, 26 llai o un dros fwli'r Tories. Wedi iddynt bafflo ill dan ar yn ail dros amser maitb, dropiwyd y ddadl bob fedru ohonynt gydweled, a cbewch glywed y bydd brwydr rhyngddynt eto, neu y daw rhyw arglwyddi ereill i'r maes yn second iddynt. Y Dyn Hysbys. ■ ♦
"Y GWYR IE UAIN C," -.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
"Y GWYR IE UAIN C," GAN Y PARCII. E ROBERTS, BERRIEW. Y gwyr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr.Titus ii. 6. CParhad o'r Rhifyn diweddaf). 4. Llywodraethwch eich geiriau.- Y tnae nerth a pbwysigrwydd mawr mewn gair, ac, o ganlyniad, dylem wylio ein hymadroddion. Gofalwch fod eich geiriau bob aroser mewn cydymffurfiaeth Iwyr a'r gwirionedd. Y mae pob anwiredd, mawr neu fach, yn ddibyn ceulan nas gall neb ond Duw ei blymio. Gellwch gyfnewid a gwella yr byn ydych yn ei gadw yn eich meddiant, ond unwaith y lleferir gair, nis gellir ei alw yn ol. A fuoch chwi erioed yn sefyll ar lan llyn i ba un yr oedd careg wedi ei thaflu, gwelwch fel y mae y wyneb wedi ei gynhyrfu, ac fel y mae y tonau man yn ymbrysuro y naill ar ol y llall tuag at y lan. Beth ydyw eich geiriau? Ceryg wedi eu taflu i for dynoliaeth. Bydd iddynt achosi tonau o ddylan- wad i ymdreiglo dros ddynion am genedlaethau lawer, os nad yn wir, hyd ddiwedd amser. Peid- iwch byth a chefnogi yr hyn a ddywedwch gyda llw. Nid oes dim lond dywediadau y diafol yn galw am brawfion y diafol. Cofiwch eich bod yn gyfrifol i Dduw am eich geiriau. Daeth y mater hwn i sylw mewn Ysgol Sabbijfhol yn ddiweddar. Gofynai yr athrawes i un o'r bechgyn, "A fuasecb chwi yn dyweyd anwiredd am geiniog?" "Na fuaswn ma'm," ebai yntau, yn benderfynol iawn. "A wnaeeh chwi am dair ceiniog ynte F" "Na wnawn," ebai'r bachgen eilwaith. A wnaech chwi am fil o bunau P" Petrusai y bachgen, Edrychai mil o bunau yn ddeaiadol iawn. Oni fuasent yn prynu llawer o bethau ? Ond tra yr oedd efe yn potruso, bloeddiodd un o'r bechgyn ereill, Na wnawn ma'm." Paham," meddai yr athrawes. Oblegid wedi i'r mil punau fyn'd i gyd, bydd yr anwiredd yn glynu yno yr ira fath." Cofiwn oil y bydd ein geiriau yn aros j'n cyhuddo yn y farn, oni bydd i Dduw eu maddeu a'u dilou er mwyn ei Fab. 5. Llywodraethwch eich blijsiau.—Gwyliwch rhag diodydd meddwol. Cedwch yn mhell oddiwrth y pechod o feddwdod, y mae wedi llanw miloedd o feddau anamserol, ac wedi damnio cynifer o eneidiau. Newidia ein cyrff, ein hamgylchiadau, ein teuluoedd, ac yn y diwedd dyga ein heneidiau i golledigaeth dragywyddol. Pa sawl un y mae y ddiod gadarn wedi ddarostwng o gyfoeth i dlodi, o lawnder i brinder, o annibyniaeth i ddibyniaeth ar garedigrwydd oer, o barch i anmharoh, o an- rhydedd i warth, o ganol moethau a diginedd i eistedd yn bruddglwyfus a dolurus yn ngbanol etifeddiaeth a fu unwaith yn deg, o gartref clud a dedwydd, i ystafelloedd drwgdybus a gwarthus, yno i farw marwolaeth yr annuwiol, ac i wiro y gair, mai caled yw ffordd troseddwr. Pwy all gyfrif y wrecks ar draethau anghymedroldeb ? Gwelweh y llong yna yn cychwyn o'r porthladd. Mor dawel a boddlongar yr edrycha pawb o'r teitbwyr. Y mae y llong wedi croesi y Werydd lawer gwaitb, ac wedi buddugoliaetbu ar ystorm- ydd ofnadwy, o ganlyniad, ymddirieda yr holl deithwyr vnddi. Ond ychydig cyn amser cychwyn, cyn i'r gloch gael ei seinio am y waith olaf, ac i'r teithwyr chwifio eu cadachau gwynion mewn ffarwel i hen wlad eu tadau, wele wr yn cyrchu parcel bach diniwed yr olwg arno ary bwrdd, wedi ei gyfeirio at rywun yn y wlad draw. Dodwyd y parcel yn ddyogel, a throdd y cludwr ei gefn. Hwyliodd y Hong. Aeth pob peth yn mlaen yn gysurus am beth amser ond, pan ar ganol y m6r yu mhell oddiwrth gartref, car, a chynorthwy, cymerodd ffrwydriad ofnadwy Ie. Niweidiwyd y Hong yn ddirfawr, a chollwyd amryw fywydau. Cafwyd allan mai y parcel bach diniwed yr olwg arno oedd yr achos o hyn oil. Cynwysai ddef- nyddiau ffrwydriad. Golwg ddigon diniwed gyfaill sydd ar y glasaid gwin yna, ond gwylia rhagddo. Os caiff unwaith ddyfod ar y bwrdd, sicr yw y gwnaiff ddinystr truenus 3mat ti, ac ar dy arngylchiadau. Ymogela rhagddo, fel pe byddai lew rhuadwy, neu sarff wenwynig. 6. Llywodraethwch eich meddyliau. — Y mae pechod wedi elleithio ar yr oil o ddyn-y meddwl yn ogystal a'r corff. Wedi y cwymp, y mae y meddwl yn bynod dueddol i fyned ar ol pethau gwaharddedig. Peidiwch caniatau i'ch meddyliau fyned ar gyfeiliorn, ac na osodwch hwynt ar betbau llygredig. Caisiwn, hyd y mae ynom, eu sefydlu ar bethau buddiol a llesol. Ceir fod y meddwl fel y felin yn malu pob peth a deflir iddo. Gofalwn ynte am roddi iddo bethaa sylweddol a thragywyddol. Myfyriwn ar ryfeddodau Duw yn nhrefn natur, ac yn nhrefn gras. III. EI RESYMOLDEB. Y mae hwrt yn gynghor rhesymol iawn. Rhoddir cyrghor weithiau heb un rheBwm drosto, ond nid felly hwn. Ceir amryw reaymau paham y dylai pobi ieuainc gydymffurfio ag ef. Nodwn rai ohonynt. 1. Bydd ieuenctyd yn fuan wedi myned heibio.- Gall yr ieuengaf ohonoin ddyweyd cyn hir, Mi a fum yn ieuanc, ac yr wyf yn hen." Dywed Job fod ein dyddiau yn myned heibio megys liongaa buain." Fel y mae y llong yn cyflyma gyda'r lli o flaen yr awel, felly y mae dyddian dyn yn ymdreiglo. Diangant o'n dwylaw yn ddiarwybod i ni bron. Coeliwch fi, bydd boreu oes ar ben yn fuan iawn. Fel y mae vr amaeth- wr yn treulio y gwanwyn i lafurio ac i hau y meusydd, felly y dylem ninau drealio boreu oes i barotoi ar gyfer y dyfodol, ac nid ei wastratfu mewn oferedd ac esgeu. lnsdod. 2. Bydd gweithrediadau boreu oes yn effeithio ar henaint.-Un o ddeddfau diwrthdroawl natur ydyw, fod i bob gweithred ei cbanlyniadau. Nid yw y pres- enol ond canlyniadau y gorphenol. The tissue of the life to be, We weave with colours all our own And, in the field of destiny, We reap as we have sown." Pa beth bynag a hauo dyn yn moreu ei oes, hyny hetyd a fed efe yn niweJd ei oes. Ar un Haw, bydd i ieuenctyd pur a diargyhoedd, sicrhau henaint anrhyd- eddus; ac, ar y lIaw arall, bydd i ieuenctyd gwyllt a dilywodraeth, sicrhau henaint poenus a gofidus. Os wyt am fedi gwenith gwyn, Gofala beth a heui; A wyt yn bau y dyddiau hyn, Yr hyn ddymunet fedi P" 3. Bydd Duw yn eich galw i gyfrif am eich gweith- rediadau. Gwna yn llawen wr ieuanc yn dy ieuenc- tyd, a llawenyched dy galon yn dy ieuenctyd, a rbodia vn ffyrdd dy jjalon, ac yn ngolwg dy lytfad end gwy- bydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oil." Yr ydych yn gyfrilol i Dduw am eich^weithredoedd, eich medd- yliau, a'ch geiriau. Daw dydd pryd y gelAir arnom oil i sefyll ger bron yr orsedd fawr i roddi cyfrif o'n goruchwyliaeth. Tybia rhai nad yw ieuenctyd yn gyfrifol l Dduw fel ag y mae rhai mewn cyflawnder dyddiau oad, yn sicr, y maent yn cainaynied. Mor fuan ag y daw un i allu gwybod y gwahaniaeth rhwng y da a'r (hwg, y mae yn syfrifol i Dduw am yr hyn a wna. Na thwyller chwi gan y syniad na bvdd i Dduw eich barnu a'ch cosbi am becliQdau boreu oes. Canys Duw a ddwg pob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." 4. Y mae brwydr bywyd yn gofyn parotoad yn mlaen Ham;—Nid ydych i ddysgwyl bywyd braf a thawel. Byddwch yn sicr o gyfarfod ag ystormydd a phrofedigaethau. Y mae bywyd dyn yn gyffelyb i for- daith lIonfl, ar adegau bydd yr haul yn tywynu, y m6r yn ddigyffro, a'r awel yn dyner; ond ar adegau ereill, ymosodir ar y llestr gan ystormydd ofnadwy. Rhua y gwyntoedd, cura y tonau, oisgyna y gwlaw, ac nid oes na seren na lloer i'w chanfod yn y ffurfafen uwchben. Felly hefyd y mae bywyd dyn, weithiau yn dawel ac weithiau yn ystormus, weithiau yn oleu ac weithiau yn dywyll, weithiau yn hindda, ac weithian yn ddryghin. Ac O! mor angenrheidiol yw i ni gael rhywbeth a'n galluoga i fyned drwy y treialon a'r profedigtaethau hyn yn ddianaf. Yr ydym yn byw mewn anialweh per- yglus, ac o ganlyniad, y mae yn ofynol i ni gael ar- weinydd medrus. Er's peth amser yn ol, penderfyn- odd masnachwr o Berlin ddringo mynydd St. Gotbard heb gynorthwy arweinydd. Ceisiwyd ei ddarbwyllo yn mhob modd rhag ymgymeryd a'r fath anturiaeth ffol. Dywedwyd wrtho am beryglon y mynydd, ond nid oodd dim yn tycio, ac aeth er gwaethaf pawb. Ni bu ar y mynydd yn hir cyn y anddyrysu a cholli ei ffordd. Boreu dranoeth cafwyd ei gorff marw wrth droed clog- wyn dros ba un Y" oedd wedi syrthio. 0 y mae can- oedd o ieuenctyd ein gwlad yn ymddwyn yn ffolach na'r dyn ynfyd hwn. Anturiant ddringo mynydd bywyd heb gynorthwy Crist fel arweinydd, a phan y ewyd ystormydd o demttsiynaua phrofeJigacthau, ym. ddyrysant a syrthiant dros ryw glogwyn o bechod i feddau anamserol a gwarthus. 5 Y mae ieuenctyd yn ogorecl i farvoolaclh.— Tyrant ofnadwy ydyw angeu. Nid yw yn myned heibio i neb. Cenad ydvw nad oes modd ei atal i gyBawni ei genadwri. Ar ba faint o ieuenetyd en swlad y mae angeu yn dodi ei law oer bob blwyddyn Dywed ystadegaeth wrthym, fod y mwyafrif mawr o ddynion yn marw yn moreu eu hoes, ac y mae hyn yn ualw.yn uchel arnom i ddwyn yr iau yn ddioedi. Nis gwyddom ar ba awr y daw Mab y Dyn, ac o ganlyniad dylem fodrn barod yn wastadol. Nis gallwn bender- fynu adeg ein hymadawiad o'r byd sydd yr awr hon i'r byd tragywyddol, ond gallwn benderfynu ar y cyflwr yn triha un yr ymaJa«n. Cydunwn oil i ddwyn i yui- arferiad gynghor yr apostol, a byddwn yn sobr ac yn gyfiawn yn y byd hwn, fel pan yr elom i'r byd arall, na bydd genytn ddim i'w wneyd ond llawenhau a gorfol- eddu yu oes oesoedd.