Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PETHAU NAS GWYB PAWB.

News
Cite
Share

PETHAU NAS GWYB PAWB. Mae y Mesur Diwygiadol wedi ei fwrw allan o Dy yr Arglwyddi. Yr oedd 205 yn ei wthio maes, a phob un o'r rhai hyny yn cael ei ystyried yn Arglwydd, a dim ond 1,16 yn plycio arno yn ol— mwyafrif o 59 yn ei erbyn; ac allan y cafodd fyn'd! Ni bu erioed y fath dynu torch rhwng parwyd- ydd Ty yr Arglwyddi—pob ochr ar ei goreu. Yr oedd pwysau ofnudwy yn y mesur, anerth dihafal yn ei bleidwyr. Lapiwyd dwy filiwn o bobl ynddo, a'r rhai hyny i gyd mewn oedran teg, a gosodwyd rhes o'r tafodau ffraethaf fedd y deyruas i'w am- ddiffyn Ond bu raid iddynt ildio, gan fod mwy orifedi o driugain ond un yn ei lusgo maes nag ydoedd am ei gadw i mewn ao ymladd yn ddidrugaredd yr oeddynt nes ei yru dros y trothwy, a'i droedio wed'yn fel pel droed. Dan cant a phump o Ar- glwyddi cryfion ac ystwythgryf yn chwareu cricket match dg anwylyn y bobl, ac nid oes un ar- wydd eto fod neb ohonynt yn edifarhau am ei faeddu a'i dorfynyglu. Yr oedd yr Arglwyddi goreu yn bleidwyr ffydd- Ion i'r Mesur Diwygiadol. Nid oes ond un Ar- glwydd da yn bod, ac mae hwnw yn cefnogi Mesur y Bobl i'r gwaelod. Mae Arglwyddi ereill heblaw hwnw yn arglwyddiaethu arnom ni, ac nid gwiw i ni ddywedyd wrthynt mai ni biau ein hen- eidiau ein hunain. A rhyw goolies o Arglwyddi ydynt yn cludo newyddion drwg o'r India, Aifrica, yr Aipht, Soudan, a phob man; ac ni fynant ofalu am fusnes neb ond yr eiddynt eu hunain. Myself ydyw pwynt gwaith eu bywyd. Dau faes llafur sydd ganddynt i ddysgwyl ar eu hoi, sef lies y Bendefigaeth a'r Eglwys Lan Gatholig. Os dychymygant fod y rhai hyny mewn perygl, sathrant iawnderau pawb fel torn yr heolydd. Codant lwch heolydd ag olwynion eu cerbydau i orchuddio llygaid y tlawd, a gwnant gaethwas o'r gwreng ag adsain arian ea pyrsau. Peiliant eu byrddau a, bara gosod," a magant rengau o ddysgyblion ond pan dderfydd y torthau, ffarwel. Y mae 150 ond pedwar o rywogaeth arall yn Nhy yr Arglwyddi yn ceisio iawnderau i'r bobl. Ni fynant ddal y gwan mewn hualau, nac edrych ar y cryf yn ei farchogaetb. Y mae gorthrwm a breibiaeth yn ysu eu calonau. A dyna'r math a ddylai fod yn trafod mabrion yn y Ty Uchaf yn gystll a'r Ty Isaf. Arglwyddi yn ceisio lies y llaweroedd ydynt hwy, ac nid bunanles; Ar- glwyddi wedi eu dewis trwy y tugel gan y bobl, a bod safon gywir ganddynt i brofi eu gofal am helyntion y genedl, cyn ag y ciffont yr anrhydedd o gyfenwi en hunain yn aelodau Ty yr Arglwyddi. Yn awr, nid oes gan neb hawl i'w galw yn mlaen am ddim a wnelont. Y maent fel ymherawdwyr, Y neb a fynont a laddant, a'r neb a fyaont a gadwant yn fyw." Ychydig o fesurau da geuedl- odd llhyddfrydwyr yr haner can' mlynedd di- weddaf heb fod "cyliiU hirion" yr Hengistiau hyn yn brathu mwnwgl eu gyddfau yn yr enedig- aeth Bu dau iarll yn ymladd â'n gilydd yn Nby yr Arglwyddi—Cairns a Granville. Mae elten afry w- iog a chwerylgar yn mynwes ieirll ac arglwyddi, yn enwedig y Jingoes Toriaidd; ac nid yn rhy foneddigaidd i ymladd am arian yn ngbanol tri chant a haner o'u cydradd. Yr asgwrn cynen achlysuvodd yr ymladdfa hon oedd y trydydd person," sef Gladstone v. Salisbury—bwbach an- elwig yr Arglwyddi Toriaidd i gyd. Rhoes awgrym mewn araeth yn y Swyddfa Draraor ddarfod iddo roi cynyg da i blaid Doriaidd Ty yr Arglwyddi, a'u bod hwythau, My Lords," wedi ei wrthod, ac ymddwyn mor insulting tuag ato ag y gallasai Arglwyddi, heb gymaint a gwneyd sylw ohono ya eu dadleuon. Ond troes y tric yn frwmstan a than yn eu gwersyll; a boreu dranoeth, rhoes y papyrau newyddiou vent i'r achos, gan redeg draw ac yma trwy wenith addfed yr Arglwyddi a ifaglau wrth eu cynffonau. A thebygol fod rhai ohonynt wedi mentro dyweyd y nyddai Gladstone raff deircainc o'r cywa-rch dirmyg i'w gosod am wddf Arglwydd Salisbury. Ac nid oedd "My Lord" yn foddlon ymostwng i Gladstone, yn anad neb, i osod l'haffam ei wddf," rhag ofn y dygwyddai iddo rywbeth fyddai gwaetb. Cododd i fyny yn Nby yr Arglwyddi, gan wingo yn aethug yn erbyn yr idea, a dyrchafai ei lais fel udgorn am ysbaid awr ac wedi iddo lonyddu, wele bn dystawrwydd mawr. Yna daeth Iarll Granville yn mlaen i geisio amddiffyn Gladstone; ond cyn iddo allu llyncu ei boeryn ac estyn ei dafod dros ei wefus i ddywedyd My Lords," neidiodd Iarll Cairns ar ei draed, gan ddywedyd "My Lords hofyd. A dyma lie bu y ddau yn ymrysou gwaeddi My Lords" bob yn ail o flaen bwrdd yr Arglwyddi, nes i ryw Arglwydd arall gynyg iddynt bleidleisio yn ffafr yr hwa oedd i gael llefaru yn mlaenaf. Pleidleisiasant, ac wele ganlyniad achos y ddau hen ddyn-dros Granville, 27; dros Cairns, 26 llai o un dros fwli'r Tories. Wedi iddynt bafflo ill dan ar yn ail dros amser maitb, dropiwyd y ddadl bob fedru ohonynt gydweled, a cbewch glywed y bydd brwydr rhyngddynt eto, neu y daw rhyw arglwyddi ereill i'r maes yn second iddynt. Y Dyn Hysbys. ■ ♦

"Y GWYR IE UAIN C," -.