Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

ESGORODD,- Medi 5, priod y Parch. J. Jones, Felinfoel, ar ferch. PRIODWYD,- Medi 3, yn Bethesda, Abertawy, gan y Parch. W. Haddock, yn absenoldeb Mr. Jones, y gwein- idog, Mr. Richard Jones, a Miss Mary Anne Eliza Jones y ddau o Abertawy. Hir oes, a bywyd dedwydd iddynt. Yn nghapel High St., Merthyr, Mr. J. Prosser a Miss J. Hughes y ddan o Aberdar. Dwy galon bur a unwyd Trwy gwlwm cariad clyd, Bendithion fyrdd i'w dilyn, Tra'n bod ar faes y byd. TIYONYDD. Medi 5, yn nghapel y Bedyddwyr Rochdale, gan y Parch. T. H. Pattison, Mr. J. Nathaniel Edwards, Berlin House, Ffestiniog, a Margaret, ail ferch y diweddar Mr. J. Hughes, Tyntwll, Cynwyd. Dwy ffrwd ymgofleidient i ffurfio un afon, Ac yna eu dyfroedd gydredent i'r eigion Fel hyn y bo chwithau yn gywir eich uniad, Yn gwybod am ystyr a gwerth cydymdeimlad: Unigol wahaniaeth a fyddo'n ymgolli A'ch serch i un sianel o hyd yn ymdoddi. HYWKL CERNYW. BU FARW,- Medi 9, Mrs. Margaret Morris, mam-yn- nghyfraith y Parch. Dr. Owen, Caerdydd, yn '88 oed. Gorph. 21, yn 28 mlwydd oed, Mr. John Price, Foxen, Llawhaden. Ymunodd John Price a chrefydd yn moreuddydd ei ddyddiau derbyn- iwyd ef yn aelod yn Rhydwilym, a bu yn ddef- nyddiol gyda gwahanol ranau o waith y cyssegr. Symudodd oddiyno i ardal y Gelli, a bu yn ffyddlon gydag achos ei Waredwr tra parhaodd ei oes ar y ddaear. Bu yn ddosparthwr SEREY CYMRU am flynyddau lawer, ac amryw gyhoedd- iadau misol ereill. Dydd Mawrth canlynol, ym- gasglodd ei frodyr yn nghyd i hebrwng ei wedd- illion i dy ei hir gartref, ac yr oeddynt i gyd yn Yollol gredu fod eu colled hwy wedi troi yn ennill iddo ef. Gweinyddwyd wrth y ty ac yn y Gelli yn bwrpasol iawn ar yr achlysur gan y Parch. 0. Griffiths, gweinidog y lie. Yr oedd John Price yn Gristion didwyll, yn briod ffyddlawn, ac yn dad tyner a gofalus. Dywedodd yr Arglwydd, Gad dy amddifaid, myfi a'u cadwaf hwy yn fyw, ac ymddirieded dy weddwon ynof fi."—IOAN DYFED.

MARWOLAETH Y PARCH. J. MORRIS,…

ACHOS TEILWNG 0 BOB CEFNOGAETH.

[No title]

^refijddat +

[No title]

UNDEB YR. ENWAD ANNIBYNOL…

TYSTEB Y PARCH D. DAVIES,…

[No title]

'./ MEISTR A GWEITHIWR'