Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

gglwogig. ..

News
Cite
Share

gglwogig. ccy DDARPAEIABTH ANGENRHEID- IOL I GWRDD AG ANGEN" Y BEDYDDWYR SEISNEG YN NGHYMRTT." Papyr a ddarllenwyd flan Dr. Davies, Hwl- ffordd, yn nyliijfurfod Undeb Bedyddwyr Cymru, Awst 22, 1872. :RM yw mor otynol yn awr, ag ydoedd rhyw Symmaint o amser yn ol, i brofi yr angen- t'heidrwydd o wneyd darpariaeth i gwrdd ag ^Ugen y Bedyddwyr Seisnig yn Nghymru. ae y gosodiad cyffredinol wedi ei brofi i t'addau, trwy ystadegau, fod lluoedd o Saeson i'w cael vn ein trefydd trwy y Dywysogaeth, yn galw am addysg" grefydd- 01. Nid yw yr Annghydffurfwyr wedi bod yn hollol esgeulus yn y eyfeiriad hwn. Mae llawer wedi ei wneyd, ond y mae Uawer etto i'w wneyd. Ar yr hen egwyddor at osodwyd yn rheol wrth ail adeiladu Jerusalem, pob UI). i gvweirio gyferbyn a'i cyfreithlawu a rhesymol vw i'r enwadau erefyddol wneyd darpariaeth i gwrdd ag angen y rhai a berthynant iddynt. Mae y Bedyddwyr wedi teimlo i raddau eu dyled- SWydd yn y dosparth hwn o'u gwaith efengylaidd, ac y maent wedi gwneyd dar- pariaeth, neu yn hvtrach, wedi cynnorth- "fryo i wneyd darpariaeth ar gyfer e u brodyr fctiaddifaid yn ngvvahanol barthau o Dde- teudir a Gogledd Cymru. Ymddengystod fria phump a deugain o eglwysi Seisnig Vvedi eu ffurfio yn ystod yr ugain mlynedd tliweddaf yn Neheudir a Gogledd Cymru. Wedi'r cwbl, raae't- angen dan sylw wedi Cynnyddu, yn y cyfnod hwn, yn gyflymach :nâ'r ddarpariaeth ar ei gyfer. Tra y mae y Saeson, wrth y miloedd, yn mudo i'n gweith- feydd, a'n trefvdd masnachol, yn enwedig l'ii porthladdoedd, y mae y genedl ieuanc, Jneibion a merched yr hen Gymry, yn mab- "^ysiadu y Saesonaeg fel eu hiaith fasnachol 8 chymdeithasol-ac yn cyfaddef eu hiraeth addysg grefyddol yn yr un iaith. Nid gwiw celu y ffaith fod y 'Saesonaeg yn ennill tir yn gyflym iawn trwy barthau hel- fceth o'n gwlad. Nid oes achos i'r Cymro bryderu yn nghylch colli ei iaith-" Tra tn.ôr tra Brython." Dhu y peru iaith Gwalia Wên hyd y milflwyddiant; ond nid doeth gosod syniad fel hwn yn erbyn Seithiau pwysig ac anwadadwy. Nid duw- ioldeb yw aidd cenedl o du ei hiaith. Da yn ddiau yw dwyn eel dros iaith ein gwlad, a'n tadau, yn enwedig iaith mor gyfoethog Itc ardderchog a'r Gymraeg; ond y mae Schos crefydd ac iachawdwriaeth eneidiau ftnfarwol [yn aufesurol uwch na iaith ac cened!. Nid ydym heb ar- tvyddion annogaethol fod y Cymry, yn Syfiredin, vn dcchreu edrych ar y pwnc yn y goleu hwn. Mae hanes yr eglwysi Seis- nig, yn amryw drefydd Cymreig, yn llew- y^chu anrhydedd nid byohau ar yr eglwysi a u gweinidogion yn y lleoedd hyn. Gellir enwi fel siamplau teilwng o efelychiad eglwysiCymreig Menhyr, Dowlais, Aberdar, Abertawy, a Llanelli. Gormod dysgwyl i n hen eglwysi a'u gweinidogion deimlo yn aollol foddlawn i golli rhai o'u haelodau lnwyaf parchus, gweithgar, a haelfrydig, i ffurfio neu adgyfnerthll egl wysi Seisnig¡ ond y mae hyn wedi eu wneyd, ac y mae y par- odrwydd i wneyd hyn yn cvnnyddu. Ac er i'r brodyr, y rhai ydynt dra liWyrfrydigi ddilyn yn y llwybr hwn, gellir &odi ar seiliau gwirioaeddo!, nad yw yr eg- iwysi Cymreig wedi cu gwanhau wrth ^eithredu ar egwyddor yu hytrach nag ar «eimlad yn yr acboi. Mae yn ffaith deilwng o .gofnadiad, fod yr cgiwysi Cymreig aSeis- Illig Yi, llwyddo ochr yn ochr, ac yn gysur yn fendith i'w g'lv>id. Mae yr ysbryd a ddango^r yn yr ymdrech hon Wneyd lies i erdll, ac helaethu teyrnas Ust, vn addurn i <. veiydd, ac yn sicrhau endith Duw'r cariad ile bvnag y mae yn SWeitliredu. Nid yw gvrcithga: wch lleol, a'r cffeithiau sydd wedi eu cynnyrchu heb gynllun cyffredin, heb wersi i'r Bedyddwyr, yn neillduol yn y cyfnod hwn. Y mae genvm wirionedd i'w ddysgu i ereill, a thystiolaeth i'w dwyn fel enwad. Tra y dylem fod yn seloij i ddarparu gweinidogaeth efengylaidd i'r Saeson yn ein mysg, y mae arnom rwymau pennodol fel Bedyddwyr i ym- drechu o b'aid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint. Nid yw gweithgarwch eglwysi nnnghydffurfiol ereill yn ein hesgusodi ni rhaa-gwneyd ein rhan, eithr, yn hytrach, dylem o herwydd hyn fod yn fwy ymdrech- gar, gan fod yn awyddus i fynegu i'r bobl holl gynghor Duw. Dylai ymdrechion yr Eglwysi Sefydledig a'r Pabyddion, vn neill- duol, ein symbylu i ymroddiad cyflawnach ,a mwy gorchestol yn y cyfnod sydd yn jiwr yn agoI' o'n blaen. Nid yw apostolion an. ffyddiaeth yn segur. Trwy ddarlithiau, a thrwy'r wasg, y maent yn dangos set deil- wng o achos gwell. Bydded i Fedyddwyr Cymru, gan hyny, ddeffroi o'u cysgadrwydd, ac ymegnio yn y gwaith o wneyd darpar- iaeth i gwrdd ag angen y Saeson yn mhob cwr o'n gwlad uchel ei braint. Nid vw y gwaith hwn heb ei anhawsder- au. Mae rhwystrau ar ffordd pob gwaith Cristionogol. Er fod hwn yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn dra diafrwydd, etto, wrth ail edrych, ni ddylem synu mai gorch- wvl digon anhawdd yw darbwyllo eglwysi a gweinidogion Cvmreig i ymaflyd yn galonog ynddo. Maediifyg vstyriaeth, goddefgar- wch, a chvmdeimlad yn yr eglwysi yn fyn- ych yu attaifa i'r gweinidog i roddi cyfran i'r Saeson a ddichon fynyehu y gwasanaeth cyhoeddus Mae enghreifftiau i'w cael o wrthwynebiad i fwy o Saesonaeg na darllen- iad y testan yn yr iaith hono. Byddai rhoddi pwnc neu bynciau y bregeth yn yr iaith estronol yn groes anhawdd ei dwyn. Dylai ysbryd hynaws a haelfrydig crefydd Crist arwain i ymddygiad gwahanol. Der- byniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad." Cam yn y cyfeiriad priodol fyddai i'r eg- lwysi Cymreig annos: eu gweioidogion i gofio yn eu gweinidogaeth feunyddiol am frodyr a chwiorydd amddifaid yn eu hymyl. Pe gellid, heb rwystro y gwaith cynnulleidfaol, megys yr ysgol, &c., roddi gwasanaeth eyfan yn Saesonaeg rhyw ran o'r Sabboth, meithrinid yr achos gwan, a chyflawnid cyfraith Crist." Deuai cyfnod yn rhediad y gweithrediadau hyn, pan fyddai tfurno eglwys Seisnig yn briodol ac yn angenrheid- iol. Rhoddir cyfleusdra yn awr i'r eglwys, neu yr eglwysi Cymreig yn y gymmydog- aeth, i ddatigos boneddigeiddrwydd ac hael- frydedd Cristionogol. Nid gwrthwynebu, a digaloni eu brodyr yn yr ymdrech newvdd a phvvysig eithr cynghori, cyfar- wvddo, a gweini cynnorthwy ynol eu gallu. Mae y Saeson, efallai, weithiau wedi ym- ddwyn yn feius, trwy fyrbwylldra ac uchel- gais, ac felly wedi sychu eydymdeimlad eu brodyr, ac attal eu cydweithrediad. Os ceir yma a thraw enghraifft o hyn,mae enghreifft- iau lawer erbvn hyn i'w cael o ymddygiad gwahanol. Mae Abertawe, yn y blynydd- oedd gynt, ac yn ddiweddarach, Merthyr, Dowlais, ac Aberdar, Rbondda, a lleoedd ereill yn nghymydd a broydd Morganwg, yn teilyngu clod. Aberdar a Llanelli a safant yn uchel yn banes ein henwad am yr ym- drech lwyddiannus a wnaed gan yr eglwysi Cymreig i sefydlu a chefnogi yr eglwysi Seisnig, cyfagos iddynt, y rhai erbyn hyn ydynt yn eglwysi gweithgar a blodeuog. Nis' gellir myned yn mlaen yn hwylus yn yr ymdrech heb addoldy. Mae anghen yn awr am ddoethioeb a chwaeth. Adeilad ysplenydd a ehostus, a baich o ddyled ar yr achos gwan, fyddai yn gamsyniad dinystriol. Adeiiad prydferth mewn lie cymhwys, mor agos ag y gellir ei gael i ganolbwynt y boblopwth, fyddai yn ddymunol iawn. Gall y Cymry cymmydogaethol wneyd llawer o gynnorthwy yn yr adeg hon ac os ffurfir cymdeithas bwrpasol i hyrwyddo yr ym- drechion hyn yn mhlith y Saeson yn Nghytnru, fel y cawn awgrymu rhagllaw, ni fyddai yn anobeithiol i agor addoldai fel hyn yn rhydd o ddyled. Wedi cael capel, gweinidogaeth fydrl y pwnc nesaf. Gydag ychydig o bwyll a threfn, nid mor anhawdd fyddai cael gwein- idogaeth effeithiol ar delerau esmwvth am- dymhor. Bydded i'r gweinidogion Cymreig yn yr ardal (ac nid oes nemawr o'r cyfryw erbyn hyn heb fedru pregethu Saesonaeg yn rhwydd a dylanwadol) roddi Sabboth yn awr ac eilwaith trwy bennodiad. Dichon y gellid cael cynnorthwy brawd neu frodyr i weini yn achlysurol, ar yr ammod fod i dreulion y daith yn unig gael eu talu. Fel hyn y meithrinwvd achosion gweinion yn Nghasnewydd-ar-Wysg, Aberdar, Castell- nedd, Llansawel, Maesteg, a manau ereill. Yn raddol, daw y cyfnod i gael gweinidog- aeth sefydlog. Priodol iawn fydd cydym- drech i gael hyn oddiamgylch, ond ei gael yn y fath fodd ag i gadw cymdeirolad ac ewyllys da yr eglwysi cylchynol. Ond gan na ddylai y gorchwyl o wneyd darpariaeth i gwrdd a'r anghen dan sylw orphwvs yn unig n In ar Fedyddwyr Cymru, doeth fyddai ffurfio cymdeithas bwrpasol i hyn. Trwy gyfrwng ygyfryw gymdeithas, gellid yn effeithiol gymhell ac annogymdrechion lleol, gwylied dros eglwysi ieuainc, cynghori a chyfar- wyddo hyd nes y cyrhaeddant nerth i weith- redu yn annibynol. Trwy gyfrwng y fath gymdeithas y gellid yn effeithiol ofyn, a sicrhau cynnorthwy Lloegr yn yr achus. Dyledswydd ein brodyr yn Lloegr yw dilyn, yn eu hymdrechion efengylaidd, eu cydwladwyr i Gymru, vn ogystal ag i barthau ereill o'r byd. Nid oes lie i ofni, oad i Ili drefnu yn ddyladwy at hyn, na ddylifai haelfrydedd llawer o Fedyddwyr Lloegr, am yspaid o leiaf* yn y cyfeiriad hwn. Mae gweithrediadau llwyddiannus enwadau ereill yn yr unrhyw amcan yn gefnogaeth i ni fel Bedyddwyr i wneyd ein rhan yn y gwaith pwysig hwn, ac y mae y ffaith fod Daw wedi bendithio ein hym- drechion achlysurol yn ein hannog i ym- orchestu yn fwy trefnus a rheolaidd yn y dyfodol. Byddai ffurfio cymdeithas i reol- eiddio, a chefnogi ymdrechion yr eglwysi yn y gwaith hwn, yn deilwng o Undeb Bedyddwyr Cymru, ac yn ddechreu cyfnod newydd yn yr ymgais i wneyd darpariaeth i gwrdd ag anghen y Bedyddwyr Seisnig yn Nghymru.

Y BAZAAR.