Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Y mae ir.ryw gyfarfodydd lluosog wedi eu cyni-,n I ya Llndain i bratestio yn erbyn pris uchel y bwyd.
!BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU'…
BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD GADEIRIOL TAL- YBONT, AWST 9FED, 1872. TRAETHODAXT. law/ider rn y Cymry" Y mae dau gyfansoddiad wedi dyfod i law ar y testnn hwn, sef eiddo Cobden a Glan Hirnant. Y mae traethawd Cobden wedi cael ei ranu i 7 o bennodau, sef 1. Sylwadau arweiniol; 2. Addysg rydd llwchraddol; 3. Cydraddoldeb eti- feddol; 4. Cydraddoldeb crefyddol 5. Cyfiawn- der a thegweh i brif swyddogion y Llywodraeth yn Nghymru i ddeall iaith y bob!; (!. Foi yn Ihaid i'r Cymry gael cynnrycliiolaetli gwell yn y Senedd 7. Fod iawnderau y Cymry yn gyrhaedd- adwy iddynt. Y mae Cobden yn ysgrifenydd medrus, ond y ma.e yn myned oddiwrth ei bwnc yn y drydedd a'r bedwaredd bennod o'i draeth- awd. yn y rhai y crybwylla am gydraddoldeb crefyddol nc etifeddol. Y mae'r iawnderau hyny yn iawnderau cyffredinol, ac nid yw y Sais yn fwy na.'r Gymro yn eu mwynhau. Iawnderau y Cymry, iawnderau arhenig ein cenedl ni ein hun- ain yw y tsetun. Y mae sylwadau pwrpasol iawn yn y pennodau eieill ar ein amddifadrwydd o brif-ysgol, ac ar ein llysoedd barn, a'n hesgob- ion. Nid ydym yn gallu gweled fod y diffyg- o gael cynddrychiolwyr seneddol gwell. yn beth a ellir ei alw yn un o "iawnderau" y Cymry, canys y mae'r gallu yn eu llaw i gael rhai gwell. Pan fyddo dyn o hono ei hunan, yn gwerthu neu yn rhoddi fyny ei hawliau dinasyddol neu ryw hawliau ereill, nid eisieu iawnder sydd ar hwnw, ond ei,;ien xe-nse ac egwyddor. Y mae Glan Hirnant wedi ysgrifenu traeth- awd cyhyd arall ag eiddo Cobden ac er nad ydym am feirniadu wrth y llath, y mae yn rhaid cyfaddef fod eangder yn fwy manteisiol na ehyfyngder, pan fyddo defnyddiau wrtk law, a thalent i'w defnyddio. Y mae traethawd Glan Hirnant wedi cael ei ranu i 6 o bennodau. Yn y hennod gyntaf, y mae yn cymmeryd golwg gyffredinol ar y testun. Y mae yn syrthio i'r un camsyniad a'i gydymgeisydd gyda golwg ar gynddrychiolwyr y Cymry. Pan fyddo'r Llyw- I odraeth yn gadael traed a dwylaw dyn yn rhydd, ac yntau yn myned i'r cyffion o'i fodd, ynfyd- rwydd yw gwaeddu "iawnder," "iawnder," wedi hyny. Yn y pennodau dilynol, y mae Glan Hirnant yn gwneuthur sylwadau pwrpasol ar yr hyn ydynt, ac ar y rhai nad ydynt, iawnderau cenedl; yna a rhagddo i ddangos i ba raddau y mae cenedl y Cymry yn cael mwynhau ei hiav. n derau. Wedi hyny. dengys yr annghyfiawnder o appwyntio rhai i swyddi yn Nghymru nad ydynt yn adnabyddus o iaith, arferion, a defodau y genedl, megys beirniaid cyfreithiol, esgobion, offeiriaid, ysgolfeistri. &c. Ysgrifena yn rymus hefyd am y cam ag ydym wedi gael gyda golwg ar addysg, a dangosa fel ag yr ydym heb brif- ysgol, o ran dim ag y mae'r Llywodraeth yn wneuthur drosom, heb ysgoloriaethau Cymreig yn y prif-ysgolion ag ydym yn talu ein rhan at eu cynnal, ac heb dderbyniad cyffredinol i'r ysgolion gwaddoledig ag sydd ar hyd ein gwlad brydferth. Dangosa Glan Hirnant pa fodd y mae'r Cymry wedi colli eu hiawnderau, a pha fodd y mae iddynt i'w cael yn ol. A chymmeryd y traethawd hwn at ei gilydd, y mae yn draeth- awd pur dda, ac yr ydym yn dyfarnu y wobr iddo. GmybotlaetJi sydd north." Y mae saith wedi cyfansoddi ar y testun hwn, y rhai sydd yn rhanedig i ddau ddosparth. Yn yr, ail ddosparth y mae Dinerth ap Anwybodusy Anthimus, Mwnwr o'r Mynydd, ac Ithel. Yn y dosparth cyntaf y mae Cadeil, Gilbert Davies, a Llafurwr. Cymmysgeaig a didrefn yw traeth- odau yr ail ddosparth, ond y mae ynddynt lawer o sylwadau rhugorol, ac y maent yn draethodau da. Y mae Ithel yn gosod gwybodaeth yn y rhyw wrrywaidd. pan mai i'r rhyw fenywaidd y mae yn perthyn. Y mae Anthimus yn rhanu ei draethawd i bump o adranau, sef 1. Beth yw gwybodaeth 2. Ei thrigfan ;3 Ei nerth 4. Yr angenrheidrwydd am dani 5. Y moddion mwyaf effeithiol i'w chyrhaedd. Gweler nad oes ond adran 3 yn cvffwrdd a'r testun. Y mae traethodau y dosparth cyntaf yn rhai da dros ben, ac y maent wedi cael eu trefuu yn dda oddeithr traethawd Llafurwr, yr hwn a ddylasai osod ei 5ed bennod, sef "Nerth gwybodaeth mewn crefydd," yn bennod olaf, canys ponaf peth yw gwybodaeth" grefyddol, ii'r pet/i penaf ddylasai gael y lie per.af. Y mae rhaniadau traethawd Gilbert Davies yn debyg iawn i eiddo Cadell, ond er ei fod yn ysgrifenu mor ddn. ac mor drefnus, y mae Cadell -yn rhagori ychydig arno. Y mae Cadell yn adranu ei draethawd fel hyn -1. Nerth gwybodaeth mewn perthynas i'r corff 2. Nerth gwybodaeth mewn perthynas i'r meddwl 3. Nerth gwybodaeth mewn perthynas i'r amgylehiadau 4. Nerth gwybodaeth mewn perthynas i gymdeithas 5. Nerth gwybodaeth mewn perthynas i wahanol gangenau addysg 6. Nerth gwybodaeth mewn perthynas i grefydd. Y mae'r nerthoedd yma yn cael eu hesbollio yn fedrus gan Cadell, ac y mae yn gwir deilynyn y wobr. BARDDONIAETH. Pryddest ar Ddaearr/ryn." Y mae 160 gyfansoddiadau wedi dyfod i law ar y testu-n hwn, sef eiddo Hen Forwr. Plentyn yr Ystorm, Ederyn, Alexander Yon Humboldt, Ieuan Fardd o Geredigion, Eryr, Awenydd, Syr Humphrey Davy, Llewellyn, Owain Glyndyfr- dwy, Vesuvius, Aneurin Gwawdrydd, Ffoadur, Boanerges (1.). Boanerges (2). a Boanerges (3.) Yr oedd pryddest Hen Forwr yn rhy ddiweddar yn dyfod i law-bron wythnos wedi'r amser. Y mae amryw o'r cystadleuwyr yn cymmeryd dinystr Lisbon fel yn destun, ac yn cymmysgu ffrwydriad llosgfalaidd a dasargryu, Y mae'r pryddestau yn bur dda ar y cyfan, ond y mae yma dair yn rhagori ar y Heill, ac v mae pob un o'r tail" hyny yn dwyn yr enw Boanerges. Y mae pryddest Plentyn yr Ystorm ychydig dros 300 o linellau ei hyd, ac y mae ei ddarlun o'r Ddaeargryn yn ei gweithrediad yn farddonol iawn. Y mne ganddo gorfanau cloffion, megys,- A chan ewyrnu'n wyllt rhwygent v creigydd." "Yn siarad gyda dyn wyneb yn wyneb," &c. Y mae ganddo Dor Mesur hefyd, fel "Am wraidd neu achos dwfn dy gynhvrfiadau." Nid yw bob amser yn ddedwydd yn ei ffigyrau, ac y mae yn defnjd-lio ansoddeiriau dyblyg df- aDLe irhaid, megvs "llaw gref gadarn." Y mae Pryddest Ederyn tua 230 llinell ei ond y mac yn llawn o gorfanau cloffion, a tW mesur hefyd. t1 Y mae pryddest Alexander Von Humboldt Y- agos i 300 o linellau o hyd. Nid yw yr awaW hwn yn feistr ar y mesur diodl, ac y mae Hioe11" au fel y canlynol yn waeth na bod yn.fflat:- Yn cymdeithasu gyda'r swynol, a." Hyfrydwch ereill yw gweithio i." Y mae yn fwy dedwydd yn ei fesurau ereill, aC f mae yn ygerdd lawer o farddoniaeth, ond y 11180 ynddi amryw gorfanau cloffion hefyd, fel,— Ond megis ysgafn mân lwch y clorianau," &C. Y mae pryddest Ieuan Fardd 0 Geredigion 4S0 o linellau. Prvddest ddidrefn hytrachydy^» ac y mae yn odli yn annghelfydd; ni gaWfl "eu a •' fy yn ollu ganddo, a "fy a "du," &0' Y man corfanau cloffion ganddo, ac nid yw bo" amser yn hapus yn ei gymhariaethau. Pan Y? darlunio y ddaear yn ngafael daeargryn, fel hyn,— Ei chwyn a'i gofid fel pe mewn Esgorawl boen, mai gwylaidd ferch." Gwraig sydd yn es^or, ac nid gwylaidd ferch." Y mae prvddest Eryr yn agos i 500 o linellatt, Y mae diffyg celfyddyd yn y gerdd hon, ac y JIlaØ "dyn" ac "uu," "eglur" a "frodir," &c., f0, odlau ?an yr awdwr. Y mae Tor Mesur ganddc hefyd, megys Yr haul, mawred(log gawr y nen, (8) tr O'r gorwel pell a gwyd ei ddysglaer ben (10). Y mae yn y gerdd lawer o linellau afrosgo ac all, ystwyth, fel.- .)' Certhrwymau y creigiau y sydd yn ymddatod. Y mae diffyg coethder i'w weled hefyd mewil ambell i fan, feI, Ymferwawl grych arias ail ffwrnes uffernol- Nid oes dim yn ail i ffwrnes uffernol" metfJI daeargryn. • Y mae pryddest Awenydd tua 240 llinell. yr awdwr hwn etto yn odli yn annghelfydd, »J5 yr ydym yn cael ganddo "claer" ac "aur, "sydd" a"rudd," &o. Y mae ganddo gorfana't cloffion hefyd. megys:- "Chwyrnellir bryniau i entyrch y wybrenau A symud wna cryf seiliau y mynyddau." Nid oes dim modd acenu o gwbl mewn lline^' 1 au fel yna. Y mae gan Syr Humphrey Davy tua 360 C | linellau, ond y mae yntau yn ddiffygiol mewJJ odli, corfanu, a eh waeth ambell i dro. *Y J}1a9 odlau fel hyn ganddo—" wyr a "pur," in '• dyn," &c. Y mae ei gorfanau cloffion yn dr; j lluosog, ac y mae yn dangos diffyg ehwaet mewn rhai llinellau fel hyn "Caiff hwnw 'i ysgwyd fel rhyw fretyn gwaeI." Y mae gan Llewellyn tua 160 o linellau, col" fanau llawer o ba rai sydd yn gloffion iawn. Y mae gan Owain Glyndyfrdwy tua 300 linellau. Cymhariaethau anmhriodol yw coned penaf yr awdwr hwn. Ambell i waith y maeo' yn myned yn rhy uchel, fel yn y llinellau byn Yr aw el falmaidd gynt chwareuarr g-erdd Ar daaau man telynau'r go'edwi^ werdd, Sy'n awr yn trydar ag wylofus lef Yn nghlustiau sereiff claer ororau'r nef." Bryd arall y maent yn myned yn rhy isel. fel Yo y llinellau canlynol:— A ffrwydriad croch ymrua'n by' A'r banawg fyd u siglai; Fel mam yn. siglo baban eu I gysgu rhwng ei breichiau." Nid mam yn siglo baban en" vw daeargryn ytt siglo gwlad, ac,yn dymchwelyd dinasoedd. Y mae gan Vesuvius 380! 0 linellau. Y mae? rhy hir cyn dyfod at ei destun, ac nid oes vn eI bryddest ond yohydig o yui barddonol. Rhyw 100 0 linellau y mae Aneurin Gwa>fd" rydd wedi gyfansoddi, ac y mae ganddo gymh»r" iaethau diofal, megys:— ° "Ar gledr ei llaw hwy a ddawnsient fel diin-' Nis gall "dim" ddim dawniio dim. Y mae fanFfoadur tua ISO o linellau. aC 1 mae rhai o honynt ya anmherffaith; 'dyØa enghraifft — 'Rol cau ffordd y goiilev/in fynu'n dyn." Y mae hona yn gloff yn ei cho) faniad, ac y 1110.e awdwr yn ysgrifenu fynu yn lie i fyny." t Y mae'r tri Boanerges yn I hedeg yn (I i-ystfaw o gyfochrog ac y maent wedi cyfansoddi f* awenyddol dros ben. Nyni a'u galwn hwynt Boanerges Ehif 1., Rhif 2. a Rhif 3. Y mae Boanerges Rhif 3. yn dechreu ei brydd' est fel hyn Y wlad a geir o gylch yr eang ardd, Prydferthwch amrywiaethol drosti dardd." Y mae ganddo 400 o linellau, ond y mae rhai 0 honynt^yn gloffion, dyma enghraifft „ Yn ddafnau,i'r mSr o gynhwrf sy yma'n aros.' Y mae yn sillgolli yn wallus hefyd, fel hyn,- "Pan fydd'r anghenfil safRgoch erchyll rhyfel-" Nis gellir -gillgollil ond ar ol bogeiliad, canys gall cydsain lechu yn nghesail cydsain. Y mae gan Boanerges Rhif 2., 252 o linellatt, ond y mae gwallau corfanol yn rhai 0 honynt. Y mae tua 260 o linellau gan Boanergf? Rhif 1.. yr hwn sydd yn dechreu ei bryddest tel hyn,— ,;v-. "Ddaeargryn! mor welw' y w gwedd y ddyuO iaeth, I Pan dreigla dy enw dros wefus hanesiaeth." Y mae'r bryddest hon yn bur gywir yn ei fanau a'u delweddau, ac yn llawn o dan bardd^ onol. I'r Boanerges' hwn yr ydym yn dyfa111 gwobr a chadair Talybont, (I'm' barhan).. —' '■
[No title]
Y muc 9,655 o heddgeidwaid yn Llundain ur;ig. Ac erbyn ycymmerir i ystvriaeth fod V nl uchoii i w\lio no i ofahi am heddweh a dio^e'w tu-< phedair miliwn o bobl ddydd » 110s, nid dcenjys >n llawer, ao y rnue.yn syndod na byd1 | y ivvyp., Lie- mae yr heddgeidwaid ? yn ° [C of-n yn amiach.v Ychxdii aavser vn ol, Cvfl-xwnwyd trosedd wv yn swycid Weber,, Utah. Cyfarfyddodd fachgen, 13eg a 14eg mlwydd oed, a geneth 'eU^8i0, 15eg oed ymosOdasant arn:, ac wedi ei thre y taflus :nt hi i fyn dwfn, lie y boddodd. Y" ddau rriewii dalfa;, yn aros uerbyn eu cyfiawn "a igaeth.I
EFAIL Y GOF.
EFAIL Y GOF. RHIF LII. Die.—Mae'r parliament, fel y gwyddoch, wedi tori fyny am dymhor etto; _mae r bech- gynach sydd yno wedi myned rhai ffordd hyn a rhai ffordd arall, ac yn awr yr wyf fi yn cynnyg ein bod ni i gadw parliament yma yn yr Efail. Caiff yr eingon fed yn orsedd, caiff Sion fod yn Brime-minister, caiff Walter fod yn Speaker of the House bydd i Mr. Pairy, wrth gwrs, i gymrneryd lie Disraeli, a chain Simon y Gwaddotwr waeddi amen gydag ef. a rhwng y cwbl ni wnawn fusnes yn iawn. Ni gawn alw yr Efail yma o hyn allan yn Bailia- ment. Walter —A chaiff Mallen a March a, ac ainryw o'r cym'dogion, ganiatad i fyned i r Strangers' Gallery, i wrando arnom yn siarad. Daniel.-O'r gore wir, fachgen, ni a'i tre:wn hi ynte, er mai yn ddigon annhebyg i senedd- dy ydyw'r Efail yma; ond waeth am hyny, Bid wrth eu hymddangosiad y mae adnabod pethau, fel ag y clywais unwaith am haul o ddynion yn sefyll tu allan i swyddfa cyfreith- iwr, yr hon oedd o ymddangosiad hynod iawn. Yn cael ei aflonyddu ar ei fyfyrdodan, gwth- iodd y cyfreithiwr ei ben allan. gan ^ddwey d mewn modd sarug, "'Nawr ffwrdd a chwi! Beth yw'r baldorddan sydd genych ? A ydych yn meddwl mai eglwys sydd yma V I. Wel, yn wir," ebe un o'r cwmnitn allan," yr oeddwn I wedi meddwl mai eglwys oedd yma hefyd, hyd nes y gwelais y diafol yn gwthio ei ben allan drwy'r ffenestr." Gruffydd.-Wel, o'r gore, fechgyn.-Gad- ewch i ni gael siarad yn frawdol a'n gilydd am wahanol welliantau ag y carem eu gweled yn cymmeryd lie gyda ni yn ngwlad y bryniau. Y mae ymawelliantan gwerthfawr wedi cym- meryd lie eisioes. Y mae'r wlad wedi ei goleuo yn annghyffredin mae llawer o'r hen ofergoelion wedi myned i'r wadd a/r ystlymod mae cwn bendith y mamau wedi darfod cyf- arth. a'r canwyllau cyrph wedi methu goleuo er's blynyddau; mae ymladd ceiliogod, a llawer o'r hen hapchwareuon, yn cael en cyfrif gyda y pethau fu a gallwn ddawnsio ar eu beddau heb un deigryn ar fy ngrudd, nac ochenaid yn fy mron. Ar y cyfan, mae'r ag- wedd bresenol ar Gymru yn dra gobeithiol; ond, er hyny, mae yn mhell o fod yu berffaith. Y mae yma lawer o Reform Bills eisiau eu pasio etto; ac yn awr caiff Sion y Gof, fel y Prime-minister, yr anrhydedd o gynnyg un- rhyw fesur sydd ar ei feddwl. Y bechgyn oil.—Clywch clywch Sion.-Mawr yw'r anrhydedd ydych wedi ei osod arnaf, drwy fy newis yn brif-weinidog y senedd-cly hwn. Y mae llawer iawn o bethau yn ymgynnyg i'm sylw, ac nis gwn yn iawn pa fesur i gynnyg gyntaf. Efallai fod gair ar feddwl Mr. Parry. Mr Parry.— Mae mwy o fwstwr gyda chwi, gwyr y sectau, na neb dynion yn y byd. Digon o stwr, ond ychydyg o sylwedd. Dyna lie yr ydych yn chwythu mewn udgyrn tin, yn curo padelli pres, yn saethu eich cannons gin- ger pop, ac yn gwneyd y twrw mwyaf yn y byd. Bydd eich pregethwyr o'u pwlpudau yn arllwys eu melldithion ar yr hen Eglwys, fel y gadwant hi, ar yr orfeiriaid, ac ar y deg- wm bid siwr. Melldithir y clochdy, y gloch, y wisg wen, yr allor, y clochydd, y dwfr sant- aidd, a phob peth sydd yn dal cyssylltiad a hi. Mae yn ddiamheu genyf y carech waled gwisg Wen yr offeiriad am gefn bwbach y brain, a buasai yn dda gan eich 'calon i bob cloch gael ei throi yn grochan i ferwi bwyd i'r moch. Mae genych hen elyniaeth at yr hen Eglwys ac yr ydych yn barhaus yn cynnyg at ryw welliantau neu gilydd, fel yr ydych yn eu galw. Cenedlaeth aflonydd, derfysglyd, ac anfoddlon ydych, yn twrio, yn dwrdio. yn ymgecru, yn brygawthan, yn estyn gweflau, ac yn noethi dannedd, ac yn chwyrnu ar bob peth. Mae anesmwythder yn eich croen, a cheintach a thuchan yn llanw eich cyfansoddiad. Wedi cael modfedd, mae eisiau arnoch gael milldir wedi cael phiolaid, mae eisiau crochanaid ac wedi cael owns, mae eisiau cael tnnell. Yr ydych fel y bachgen hwnw yn dweyd wrth ei feistr, eifod yn ymadael a'i wasanaeth. "Beth yw'r anesmwythder sydd arnat?'' ebe ei feistr. Ni wnaf aros," ebe'r bachgen, "os na chaf dri o bethau Llai o waith, mwy o dal, a cbael allwedd y cellar." Felly chwithau; mae yn rhaid i chwi fel ymneillduwyr gael crafangu'r cwbl neu ynte ddim Dyma chwi wedi cael y Ballot, ond mi wnaf fy llw ar gefn llo, na fyddwch yn dawel etto. Walter—Yn dawel ac yn llonydd ni fyddwn bid siwr nid creadur post clwyd, neu finger- post, ydyw dyn i tod; ond y mae i lafurio, i gynnyddu, ac i ymestyn at fwy o berffeith- rwydd a gwelliantau. Fel yr oedd merwr unwaith yn gweled caethfeistri yn gyru y caethion i'r farchnad, i gael eu gwerthu, dy- wedai wrth ei gyfaill." A wyudost ti beth, Jim ? os na fydd i'r cythraul roi ystwythfa dda j'r gormeswyr yma, buasai yn llawn cystal i ni beidio a chael cythraul o gwbl." Felly, os nad oes mesurau diwygiedig j gael eu pasio gan y Senedd, cystal i in beidio cael yr un Sene'dd. Nage, nage, Vlr. Parry, arwyddair yr oes ydyw cynnydd. Cynnydd mewn gwvbodaethau, cynnydd mewn gwyddcnau, cynnydd mewn darganfyddiadau, a rhaid i gynnydd mewn politics i fed yn gyfaital. Rhaid cael rhyw bethau yn awr heblaw yrhen fadau, yr hen gerbydau, a'r hen gyfreithiau. Y mae yn wir ein bod ni wedi cael y Ballot; dylasem fod wedi ei chael er's blynyddau. Bu ymdrech galed cyn ei chael; ond nid yw etto yn berffaith. Acyn awr, Mr Cadeirydd, yr wyf fi yn cynnyg fod mesur dadgyssylltiad yr eglwys a'r wladwriaeth i gael ei ddarllen a.'i basio. Mr. Parry.—Yr wyf fi yn cynnyg iddo gael ei ddarllen yn mhen chwe mis. Simon y G'vaddotwr,—Yr wyf fi vn eilio hyuy, Sion.Cynnygi weh ac eiliwch chwi faint ag A fynoch, mae mesur y dadgysylltiad yn sicr o ddod yn gyfraith mae hyny mor wir a bod clochdy Llaugyfelach yn yinneillduwr. Pri- odas annlieg ydoedd ar y cyntaf yr oedd mor annaturiol a phe cyssylltid Nadolig a chanol haf a'u gilydd. Nid ydyw un wedi bod o un help na chysur i'r Hall. Ysgarer hwy, a bydd y ddau yn iachach, yn gryfach, ac yn fwy llwyddiannus. Os na all crefydd gerdded heb gael cymhortk ffyn baglau, gad- awn iddi syrthio. Die.—Clywais 1111waith am ferch wedi cael gafael mewn chwe cheiniog ar y llo fit. Rhedodd a hwy i'w meistres, ond rhoddodd ei meistres hwynt yn ol iddi am ei gonestrwydd. Yn mhen ychydig wythnosau ar ol hyny, cafodd afael mown punt. Gofynodd ei meis- tres a welodd hi y bunt yn rhywle. Do," ebe'r forwyn. Wel, beth wnaethoch a hi 1" Celflwais hi am fy ngonestrwydd." Felly mae Eglwys Loegr wedi crafangu mewn meddiaunau na pherthynant iddi ac y mae wedi myned i'r fatii eondra, fel y mae yn gofalu cad w'r cwbl am ei gonestrwydd (?) Y mae yn rhaid i ysgariad gymrneryd lie rhwng yr eglwys a'r wladwriaeth, and the sooner the better. Ac wedi ei hysgaru, y mae yn rhaid chwynu llawer o'r llysiaii gwenwynig sydd yn tyfu ynddi. Gallaf fentro dweyd, fod ynddi ar hyn o bryd Atheistiaid, Jesuitiaid, Pusey- aid, Undodiaid, a llawer ereill na wyddant beth y maent yn ei gredu. Teyrnas wedi ym- ranu yn erbyn ei hun ni saif. Dywed rhyw un mai petli digon du ydyw fod dyn du yn ceisio dal cath ddu mewn ystafell dywell ar noswaith ddu, Dywedaf fin an, mai annhrefn- us o'r fath waethaf ydyw llawer o'r annhrefn- iadau ydynt yn cael eu cario yn mlaen yn eglwys y plwyf. Ac er fy syndod, gwelais yn ddiweddar holwyddoreg ar gyffesiad a ddiweddar holwyddoreg ar gyffesiad a maddeuant offeiriadol, a gyhoeddwyd yn Llun- dain, dan nawdd offeiriaid perthynol i Eglwys Loegr, yn yr hwn y dysgir mai y Pab ydyw pen yr eglwys, ac hefyd fod yr eglwys yn anffaeledig. Dyma ychydig ddyfyniadau o hono i chwi G.-A ydyw yr holl esgobion yn gyfartal. A.—Mae pob nn yn gydradd yn ei swydd ond y mae rhai yn uwch mewn anrhydedd nag ereill, megys archesgobion a phatriarchiaid, o ba rai y cyntaf ydyw Esgob Rhvfain, patriarch y gorllewin. G.—A all yr eglwys gyfeiliorni yn yr hyn a y ddysgir ganddi ? A.-Na all, nis gall gyfeilornijnrwn dim. G.-Pa rai ydynt y dyddiau ympryd ? A.—Deugain niwrnod y Grawys, dyddiau Gwyliau pennodol, dyddiau y Gweddiau, a dyddiau y Lludw. G.-Pa rai ydynt y dyddiau ymataliad ? A.—Pob dydd Gwener, oddieithr y dydd Gwener ar ba un y gall Nadolig syrthio arno. G.-Pa beth ydyw pedwerydd gorchymyn yr eglwys 1 A.-Cyffesn eio pechodau, pa bryd bynag y blinant ni, i'n bugail, neu i ryw offeiriad arall. G.-Pa beth yw bedydd ? A.—Sacrament, drwy ba un y gwneir ni yn Gristnogiou, yn blant i Dduw, ac yn etifedd- ion teyrnas nefoedd, y glanheir ni oddiwrth bechod gwreiddiol, ac befyd oddiwrth bechod gweitliredol, os byddwn yn euog ohono. G.-Pa beth yw penyd, neu ollyngdod. A.—Moddion drwy ba rai y madeuir i ni y pechodau gyflawnwyd ar waith yr offeiriad yn cyhoeddi eu rllyddhad. G.-Pa fodd yr ydych yn gallu profi fod gan yr offeiriad awdurdod i ryddhau dynion, os byddant yn wir edifeiriol 1 A—Oddiwrth eiriau Crist,—"Pwy bynag y maddeuoch eu pechodau, maddetiir iddynt." G.-Pa beth yw cyfFpsiad ? A.—Cyhuddo ein hunain o'n holl bechodau ger bron yr offeiriad, er mwyn cael madden-" ant. G.-Pa fodd y dylem gyffesu ? A.—Penlinio wrth ochr yr offeiriad, gwneyd arwydd y groes, gofyn am fendith, hysbysu faint o amser sydd er ein cyffesiad diweddaf, ac yna cyhuddo ein hunain o'n holl bechodau. G.-Pa beth ydych i wneuthur ar ol cyffesu eich pechodau ? A -Rhaid i ni ychwanegu, ''Am y rhai hyn, a holl bechodau fy oes, mewn cof ac allan o gof, yr wyf o galon yn edifarhau, acyn ostyng- edig erfyn am faddeuant Duw; a chennych chwi, Dad, yr wyf yn gofyn penyd, cynghor, a rhyddhad." G.-Pa beth yw iawn ? A.—Cyflawnu y pennyd orchymynir i ni gan yr oHeiriad. G.—Pwy yw y mwyaf dyrchafedig o lioll greaduriaid Duw ? A.—Y forwyn fendigedig. Argraffwyd yr holwyddoreg hwn gan Mrd. Painter a'i Gwmni, swyddfa yr Union, 343, Strand, Llundain, o dan nawdd offeiriaid Eglwys Loegr. Yr wyf yn barod i ofyn mewn syndod, Beth nesaf ? Oni fuasai yu fwy rhes- ymol i'r boneddigion hyn fyned drosodd ar unwaith i gusanu bawd yr hen dad, a'i gyd- nabod yn ben ac yn bont ? Mae mwy o Bab. yddiaeth yn ein gwlad nag y mae neb yn ei feddwl. Mr. Parry.—Oes, ac y mae mwy o Babydd- iaeth yn eich mysg chwi, yr enwadau, nag y mae neb yn ei feddwl ychwaith a'r tro nesaf y cwrddwn a'n gilydd, cawn siarad am danynt. Dros y gofiaid, D. OLIVER EDWARDS.