Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Heddwch y Byd.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Heddwch y Byd. GAN FEEIAH. Nid yw problemau Heddwch eto wedi eu llwyr ddadrys, na breintiau Hedd- wch wedi eu llwyr feddiannu. Eto i gyd teithio yn sicr, os ychydig yn araf, i'r cyfeiriadau hynny a wneir gan y Gynhadledd Heddwch yn Paris, a chan Wladweinwyr y Cenhedloedd, pob un yn ei gylch cartrefol ei hun. 8yn i'r efrydydd wrth ganfod Teyrnas Hedd- wch Byd yn datblygu o dryblith rhyfel y Caisar, yw sylwi pa fodd y mae egw-ydclorion sylfaenol Efengy] Crist yn cael eu derbyn, megys o raid ac o an- fodd gan apostolion y cledd a'r fagnel sydd wedi cyfarfod yn Paris. 0 gam i gam, o ris i ris, esgynant odyv-lyllwch paganiaeth credo'r dwrn a'r gwae di- fesur i oleuni llachar efengyl tangnef- edd a chydfrawdoliaeth. Erbyn hyn mae Cynhadledd Paris ymron wedi llwyr ymwrthod a'r ddysgeidiaeth mai trwy lu o filwyr a thrwy nerth arfogaeth yn unig y diogelir buddiannau gwlad a chenedl. Cydnebydd y Gynhadledd, eto megys o reidrwydd, nad yw syniad y cenhedloedd am iawnder wedi dod yn ddigon clir a chryf i gyfreithloni un- rhyw wlad i ymddiried yn gyfangwbl i ewyllys da pob cymydog iddi. Ceir plentyn drwg ymhob teulu iliosog felly hefyd yn nheulu y cenhedloedd ceir eto fwy nag un genedl sy'n barod pan "raffo gyfle, i dorri'r degfed gorchymyn. Rhaid yw cael darpariaeth at ddisgyblu y plentyn drwg yn y teulu, a'r genedl a fynn fod yn wrthnysig yng nghyd- gymdeithas y gwledydd. Felly rhaid yw i Gynghrair y Cenhedloedd sicrhau inodd i gosbi yr euog os bydd rhaid. Ond yn lie ymaflyd yn y pastwn mawr a dyrr esgyrn y cosbedig, ceisia ynghyntaf oil ddefnyddio goruchwyl- iaeth y wialen fedw; hynny yw, yn lie apelio yn ddiymdroi at rym arfau ceisir argyhoeddi'r pechadur drwy ddefnyddio moddion llai barbaraidd. Germani. Nid yw problem fawr Germani eto wedi ei "solvio" yn foddhaol. Un an- hawster yw fod arweinwyr Germani yn amharod i wisgo sachlian a lludw, nac yn wir I eistedd ar stol yr edifeiriol. Ymhob mynegiad cyhoeddus o eiddo ei harweinwyr gwaeo y caledi sydd wedi disgyn ar Germani, a beio America, a Phrydain a Ffrainc am beidio brysio i liniaru poen Germani, a glywir. Ni cheir nemawr byth air yn mynegu gofid nac edifeirwch am y dioddef anaele a achoswyd gan uchelgais ei mawTion hi ei hunan i bobl ddiniwaid gwledydd cylchynol. Synnant nad yw Cynhad- ledd Heddwch Paris yn brysio i estyn allan ei breichiau i gymeryd Germani i'w mynwes tra'r genedl heb olchi gwwed y cyfiawn oddiar ei dwylaw. Sonir yn awr am orfodi Germani i lei- hau ei fyddin i'r ugeinfed ran o'r hyn arferai fod, hynny yw ni cha Germani mwyach gadw ond un milwr arfog o bob ugain oedd ganddi gynt. Gyda hyn rhaid iddi ddymchwel yr holl am- ddiffynfeydd cadarn a godwyd ganddi ar lannau Camlas Kiel, a gwneud y fynedfa fawr hofino yn agored i longau masnach pob gwlad. Gorfodwyd hi hefyd i alw ei milwyr yn ol o' Poland. Rwsia. Problem dyrys arall sydd heb ei phenderfynu yw eiddo Rwsia. Meth- iant a fu ymgais synhwyrol Mr Lloyd George i gael y gwahanol bleidiau yn Rwsia i gyfarfod a'i gilydd er ceisio dod i gyd-ddealltwriaeth a ataliai y ty- wallt gwaed. Gwrthod cyfarfod y Bolsheficiaid a wnaeth y pleidiau eraill. Sonir yn awr am sefydlu cadwen o wladwriaethau annibynnol ar hyd cy- ffiniau Rwsia, gan roi cymorth i'r rhai hynny os bydd angen i wrthsefyll ym- osodiad y Bolsheficiaid, hyd nes bo pobloedd canolbarth Rwsia yn medru adsefydlu trefn yn y wlad. Ateb Gofyniadau. SYLW-—Ni ellir ateb ne b, trwy lythyr oni amgauer gyda'r gofyniad amlen yn dwyn cyfeiriad llaW11 yr ymholydd, ae wedi ei stampio yn barod. Ni chy- hoeddir yil y golofn hon atebion na font yn cynnwys gwybodaeth o ddiddordeb cyffredinol yn hytrach na phersonol. Treth yr Incwm (Sam, J.O., ac eraill).-Nid yw unrhyw flwydd-dal (pension) neu rodd (gratuity) a. gania- teir i chwi gan y Llywodraeth ar gyfrif eich gwasanaeth yn y Fyddin neu'r Llynges, yn galw am i chwi dalu treth yr incwm arno. Felly (1) Os nad yw eich enillion, neu inc'wm (heb gyfrif Bwydd-dal neu Rodd y Llywodraeth) yn eich gosod yn agored i dalu Treth yr Incwm, ni raid i chwi dalu'r dreth er fod cyfan- swm eich incwm (gan gynnwys y Bwydd-dal neu y Rhodd) yn hawlio'r clveth. (2) Os yw eich incwm (heb gyfrif Bhvydd-dal neu Rodd y Llywodraeth) yn eich gwneud yn agored i dalu treth yr incwm, ar y cyfryw incwm yn unig (ac nid hefyd ar y Bwydd-dal neu y Rhodd) y gofynnir i chwi dalu'r dreth. Byddardod (Nat, L., ac eraill),-Os dywed eich meddyg cich bod yn dioddef fel canlyniad "shock," neu glwyf, neu niwed tra'r oech yn y Fyddin, ac y dy- lech fyned o dan driniaeth law-feddygol, neu arall, mae gennych hawl i'r cyfryw driniaeth yn ddidal yn Yspyty Milwrol neilltuol ar gyfer y cyfryw ddolur. Cewch wybod yn y Post Office pa le i yrru am y caniatad angenrheidiol. Dyledion (W. Pari, Jim, ac eraill),- Os, cyn i chwi ymuno a'r Fyddin, yr oeddech wedi gwneud cytundeb i dalu symiau penodol bob wythnos, neu bob mis, neu bob blwyddyn, ac os nad yw cyfanswm y gahvadau hynny yn fwy na ddeuddeg swllt yr wythnos, geill Pwyll- gor Lleol y Pensiynau estyn cymorth i chwi i dalu. Os yw swm y galwadau yn fwy na deuddeg swllt yr wythnos rhaid gwneud cais at y Civil Liabilities Committee. Cewch bob gwybodaeth am hwnnw yn y Post Office. Dyn Mewn Busnes (John, S.J.).-(-)s oeddech yn cadw busnes eich hun cyn ymuno a'r Fyddin, ac os gorfu cau y shop a rhoi'r fusnes i fyny ar ol i chwi ymuno, mae yn bosibl i chwi gael rhodd o Drysorfa'r Brenin i'ch galluogi i ail agor y fusnes ar ol eich rhyddhau o'r Fyddin. 125 yw y swm mwyaf a gania- teir fel rheol,-oi-id o dan amgylchiadau eithriadol gellir cael llawer yn rhagor. Gwnewch gais at Bwyllgor Lleol y Pen- siynau, gan nodi'r amgylchiadau. Cewch ganddynt Iturflenn arbennig i chwi ei llenwi, ynghyda phob cyfar- wyddyd. Dim Pensiwn (Outo).-Os ydych yn hollol, neu yn rhannol analluog i weithio, ac os yw hynny yn ganlyniad eich gwaith yn y Fyddin, dylech gael Pensiwn! Os na chawsoch, gosodwch y ffeithiau ger bron y Pwyllgor Pensiyn- au Lleol. Gallant hwy gymeryd eich achos mewn Haw, a gyrru'r cais i'r lie priodol.

O'r Gogledd.I

[No title]

j Y Golofn Gymysg.

Advertising

m DYDOIAOUR.

Advertising