Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Colofn y Bobl Ienainc.

News
Cite
Share

Colofn y Bobl Ienainc. DAN OFAL AP HEFIN. 111 laith Aflan ac Anfoesoldeb. Dichon y caniata'r "Dyn Ieuanc," yr atebwyd rhai o'i ofyniadau y tro di- weddaf, i mi adael y lleill hyd ryw amser eto, gan fy mod am frysio i orffen y rhaglen a osodais i mi fy hun. Fe ddaw'r ateb i rai o'i ofyniadau'n amlwg wrth ddarllen yr hyn a ysgrifennir am bethau eraill a bydd y ffordd wedi ei pharatoi i ateb y lleill. Mae'r hyn a ddywedais parthed aflendid iaith ein pobl ieuainc wedi tynnu cymaint sylw meWIlJ rhai cylchoedd fel y credaf mat doeth fydd curo'r haearn tra byddo'n boeth. Dywedais wrth ddechreu ar yr ysgrifau hyn mai'r ail nod mewn golwg gennyf a fyddai ceisio codi syniad pobl ieuainc am Werth Purdeb Moesol. Nid oes dim amlycach na bod perthyn- as agos iawn rhwng iaith ac arferion. Ymddiddanion drwg yw un o'r prif achosion o amhurdeb moesol. Clywir llawer y dyddiau hyn gan feddygon, awdurdodau'r fyddin ac eraill am gyffredinolrwydd anfoesoldeb. Deuant hwy wyneb yn wyneb ag ef yn y "pla cudd" sydd yn un o'i ffrwythau. A phwy sy'n deilwng o'r enw dyn na ddychryna wrth feddwl am y ffeithiau a ddadlennir. Mae'r meddygon a'r awdurdodau mewn arswyd wrth feddwl am y difrod a wneir ar fywyd gan y pla hwn ym Mhrydain Gristnogol. Nid y dyn sy'n anfoesol ei hun yn gymaint sy'n dioddef oddiwrtho, Na, tros- glwyddir ei effeithiau i'r plant ac i blant y rhai hynny. Ymwelir ag an- wiredd y tadau ar y plant hyd y dryd- edd a'r bedwaredd genhedlaeth. Hynny yw, y mae dynion er mwyn eu hunan-foddhad aflan, anifeilaidd, yn foddlori cymylu ar ragolygori plant bychain sydd eto heb eu geni. Dych- welodd miloedd o bobl ieuainc cryfion o'r fyddin heb gymaint a gweled y gelyn, ac o ran hynriy* heb fynd allan o'u gwlad, wedi eu difetha eu hunain am eu hoes gan eu hanfoesoldeb. Itoedd yn dorcalonnus darllen llythyrau oddiwrth famau o Canada a lleoedd eraill, un adeg, yn cwyno oherwydd bod temtasiynau Prydain wedi profi'n elyn- ion mwy dinystriol i'w bechgyn na'r un gelyn a rail a allent gwrdd byth. Medd- iier am yr ysbytai mawrion sydd jnglyn a'r fyddin ei, mwyn rhai a. fo'n diuddef oddiwrth y "pla cudd" a'r niior aj,itlirol sy'n myned iddynt. Mor otn- f'dwy oedd y dinistr nes bu raid darpar cyfryngau a alluogai fechgyn anniwair i ymbleseru yn yr aflanwaith ac osgoi'r canljjfciadau. Heblaw hyn y mae'r pla mor gyffredinol ac yn gymaint ei berygl fel y gwelir hysbysiadau mewn papurati am leoedd y gall dioddefwyr gael iachad rhad a dirgelaidd. A lie bynnag yr awn gwelwn hysbysiadau ar y muriau )'1' un perwyl. A beth am y merched, druain Maeiit hwy wedi eu darostwng i ffyrdd y fagdclu fawr. A'r hyn sydd yn ddychryn i mi, yw mai ychydig iawn yn ol pob golwg sydd yn ein gwlad a fedr Deimlo na Chywilyddio I oherwydd y gwarth hwn. Dywedwn ni a fynnom am ogoniant ein buddugol- iaeth ar y Germaniaid, cenedl o hunan- geiswyr, o aflan-bleserwyr, ac o lyfriaid pydredig ydym tra'r ymdrybaedda'r miloedd yn y pwll hwn. Clywsoin, ynglyn a'r ymgyrch ddiweddar o blaid purdeb, lawer ynghylch y ffyrdd i rwystro'r pechod, ond teimlem na roddid y pwys dyladwy ar berthynas y drwg hwn a iaith aflan. Ni raid ond gwrando ar iaith pobl ieuainc, a. hen fel y mae gwaetha'r modd, na syl- weddolir gyn lleied o werth yw purdeb moesol yn eu golwg. Yn wir, mae'r sefyllfa'n' dorcalonnus, ac eto mae'n rhaid ymegnio i wneud l'hywheth rhag i ddynoliaeth yr ugeinfed ganrif fynd yn is na'r anifeiliaid a ddifethir. Bum yn siarad a llawer cyn ysgrifennu ar y mater hwn, a chyfaddefiad pawb oedd fod iaith pobl yn y gwaith, yn y swydd- fa, ac yn ami yn yr ysgolion yn fiiaidd o aflan. Ymddengys bod iaith y pyllau glo mor aflan ag y bu erioed ac yn fwy felly. Clywir dynion ieuainc yn y gwaith yn adrodd hanes eu puteindra ac yn gprfoleddu ynddo yng nghlyw plant fydd yn dechreu gweithio-a. dyn- ion mewn oed yn gwrando mor ddifater a chythreiiliaid ac efallai'n chwerthin yn afiach. Meddylier am blant oddiar aelwydydd pur yn mynd i blith anifeil- iaid felly. Nid yclynt yn cael cyfle 1 dyfu i fyny'n debyg i ddynion. Dywed llawer a gafodd achos i edifarhau o'u pechod, mai gwrando ar gleber annuw- iol a llygredig am antoesoldeb a fu'n achos i'w llygru gyntaf. Credaf yn sier y byddai rhoi atalfa ar siarad llygredig yn symud mwy na hanner yr achos o'r drwg. Apelio at Bobl leuainc yr wyf. Beth a ellwch chwi wneud? Gellwch apelio at weinidogion ac eg- Iwysi i symud yn y mater. Y mae digon o grefyddwyr yng Nghymru i roi ter- fyn ar iaith aflan os ewyllysiant. Gell- weh apelio at Gwmnioedd Rheilffyrdd, at Heddgeidwaid, at Gynghorau, at Gwmnioedd Gwaith, ac at Undebau Llafur. Gyd a Haw, fe streicia glowyr ar fater o gyflog, ond ni chlybilwyd am istrele yn erbyn yr iaith aflan sy'n an- dwyo bywyd ac enaid y miloedd plant sy'n mynd i'r pyllau glo. A gellir dweyd yr un peth am weithiau eraill. A'r meistri, mae'n bryd iddynt hwythau feddwl pa fath swyddogion a gant ym- ddiried danynt. Ni ddylai rhai o hon- ynt gael gofal cwn heb son am ofal dynion, gan mor aflan ac anfoesol yw eu hiaith. Ychydig o fantais i gwmni- oedd yn nydd y farn sydd wedi dechreu fydd bod rhegwyr a godinebwyr wedi dwyn iddynt elw mawr o'r gwaith. Efallai mai ysgafn yn eu golwg yw bod miloedd ar filoeddo bunnoedd o'u har- ian wedi eu talu allan o swyddfeydd am buteindra swyddogion gyd a gwragedd gweithwyr. Cafodd meistri gyfle i ofalu am les eu gweithwyr a rhoddi ar- nynt swyddogion a fyddent yn esiampl iddynt ymhob peth sydd dda. Ond collasant y cyfle ac y mae'r cynhaeaf erch yn ymyl. Bobl ieuainc, ni chaw- soch chwaraeteg gan yr hen fyd. Clyw- soch lawer yn ddiweddar am fyd new- ydd. Nid y rhai sydd wedi bod uchaf eu swn hyd yn hyn sydd yn mynd i'w adnewyddu. Mae'n aros ar eich llaw chwi i godi Baner y Dyn leuanc o Nazareth I ac arwain cenhedlaeth newydd i fyd santaidd a glan lie na byddo cnafon rheglyd ac anfoesol yn berygl i bob bywyd ieuanc a fyddo o'i fewn.

ROEDD Y PLENTYN YN Y DARFOD-EDICAETH.

[No title]

Advertising

! Colofn y Celt. !:

Y Cymdeithasan.

ILlythyr at y Gol.