Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Llith y Tramp.

News
Cite
Share

Llith y Tramp. Mishtir Golycydd.—Mi ddigwyddws tro rhyfedd pan own i'n dod o Rhyd- lewis. Own i'n meddwl cerad bob ca-m i Bertawa, ond pan own i'n paso gat stesion Henllan, odd y trein yn barod i starto mas, a dyma un o gwmni'r relwe yn galw arna. i-hyri hyp old man! a bant a fi a mhvn i'r trein. Pan ddes i Gaerfyrddin dyma nhw'n gofyn i n a.m dicat. Mi wetas i nag odd gen i ddim un a nag own i ddim weti meddwl cwnni un chwaith, taw un o gwmni'r lein odd wedi galw arna i i gal lifft pan own i'n paso Henllan. Nhw dreiaon neud ticyn bach o row a bwcwth lot o bethach, ond Racs a,r stwbwrn things, ys gw.etws Twm o'r Nant. Mi gymres y trein o dre Dyfnallt i Bertawe, tre'r Mabinogion, a mi ges hyd i stop Tal- nant yn Waterloo Street, a miwn a fi. Mi welws Talnant ar unwaith mod i fel fynte'i hunan yn rhywun a mi ddiah- gwlws yn syn arni i. Ry'ch chi'n saS, mynte ie, ar ol dishgwl arna i am dicyn, wath rw i'n gweld y DARIAN yn ych poced chi. Weti iddo ddishgwl ticyn wetin dyma fesur petar lein mas fei bwlat: ..<, Hh;yw wr o nod, o ddcniau'n llawn! Mi fcntra bunt mewn arian— Mi t'yta'n het, o& nad wy'n iawn, Mat chwi yw Tramp y Darian." mynta finna, yr un mor sytan: Yr y'ch yn iawn, fy Nhalnant hoff) Myn yw Tramp y Darian; Oes cadairyma i grwydryn clog? Mae'ch het yn san a'ch arian. A dyma siglo Haw dair gwaith gan mor falch on i o weld y'n giddyl. Dewch i mewn i'r sanctwm yma i orffwys, mynta 'Talnant, a miwn a ni i gwtsh bach sy gyta fe wrth gefan y stop. Rhowch yeh pwys lawr ar y gatar yna, a wir i cbi theimles i ddim mor gartrefol aricd. Mi fu raid i Dalnant druan fynd a ngatal i. Ma ia'n catw shwd stwff da yn y stop na cheiff e ddim muned o lon- ydd na fydd rhywun isia pyrnu rhwpath o hyd. Tra fu e'n gwerthu pethach, mi ges inne gyBc i ddishgwl obothtu, a wehis i ariod gymint o bethach mwn lie bach a sy yn sanctwm Talnant. Ma yno stof a than ynddi, llyfra hen a di- weddar a chanol oed yn Gwrnrag a Sys- nag, dwy bib, pwtsh baco a'i lond e o Franklyn, jwg a llaeth, menyn, sepon, siwgir pen ag inc. bocsis o deis a. -choleri, tepot, twis shafo, maniw- 'sgribts, dan gwpan te, comi6 pepara, .cyllyth a nyrc, magasins, pictiwrs,! Rrimpan, tribana, plat, hannar torth o fara, a 'dwn i ddim beth i gyd. Welaa i ariod symint o ddarpariath ar gyfer corn a meddwl mwn lie mor fach. Own i ddim weti bod wrtho mhunan yn hir na ehlywn i ryw fardd yn dod i'r stop ag yn gweyd i bronad mwn mesur petar lein fel hyn Coryn gwyn gan y mynydd-yr awel Yn rhewi'r awenydd; Ni chwyd un uchedydd, A dyna son am dan sydd." Dishgwiwch pwy' sy yn y sanctwm, mynta Talnant, a phwy y'ch chi'n feddwl ddath miwn? Neb llai na Gwyrosydd, pen telynegwr Cymru. Ma fa-'n galw yn stop Talnant bron bob dydd er mwyn i iechyd a ma fa'n gneud mesur petar lein wrth ddod yn y tram a. phetar wrth fynd gartra os gall a. Mi fydd yn dda ganddyn nhw yn y Mownt, ,yn enwetig y Parch. John Phillips, "s;Iywad bod golwg hoyw a thywysocadd ar Gwyrosydd o hyd a'i awan afel bwr- Iwm y nant. Fel hyn y canws a i Dal- nant un diwrnod: "Melys yw rhoddi moliant—i awdur Mor hudol a Thahiant; Hynaws wr, tri chwarter sant, A'i foethau byth yn fethiant Mhen ticyn. mi ddath dyn o'r enw Morlais miwn a mi wetws Gwyrosydd wrtho ia, a phwynto at y stof: Ishtedd- weh fanna, a heb feddwl beth odd a.'n neud mi iateddws ar ben y tan. Tepig iawn i fardd, ynto. Own i'n disgwl yn siwr y bysa fa'n catw mwstwr ofn- atw, end wherthin am ben i hunan na.th a fel gwr bynheddig. Wrth gwrs isteddws a ddim yno'n hir, odd well dag e iste, ar waelod y star. Gwetwch wrth y printars yna am roi "i barhau" fan hyn a taw slop Talnant yw'n hadres i nawr. Mi ddylswn weyd mod i weti cal galwad daer ac unfrydol .iawn I Gaernili.

IO'rGogledd. I -

j Beirniadaetb.

Advertising

[No title]