Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Gobaitb. -Heddwch. I
Gobaitb. Heddwch. I Dydd Llun cyfhvynodd Mr Lloyd George i'r Senedd Fesur i osod i fyny ddirprwyaeth i wneud ymchwiliad i'r sefyllfa ynglyn a'r gweithiau glo. Rhaid i'r Ddirprwyaeth hon wneud ei gwaith erbyn Mawrth 31. Deuai rhy- buddion y glowyr i ben Mawrth 15, ond cynghorir hwy gan eu harweinwyr i ohirio'r streic hyd oni ceir ffrwyth yr ymchwiliad.
Mr. L. N. Williams, Y.H.,I…
Mr. L. N. Williams, Y.H., I Aberdar. "Y mae L.N. wedi marw" Dynar newydd trist fflachiai fel mellteii drwy y dref yma fore lau, Chwefror y 13, a hawdd gweld ar wynepryd pawb a glywai'r frawddeg, fod rhywun a an- wylyd yn fawr wedi marw, un oedd yn fawr ei barch yn y dref, ac un a ad- weinid gan y cyfoethog a'r tlawd, y inawr a'r bach, yr hed, ar ieu#nc- A pha ryfedd, yr oedd wedi bod yn ddarn amhvg o'r cyfansoddiad Trefol am gy- nifer o flynyddoedd. Ganwyd ef Mawrth yr 20fed, 1845. Bu fany 'Chwefror y 13eg, 1919. Dyna yn ymyl 74 mlynedd wedi eu treulio (mor bell ac y gwyddom) yn' Aberdar. Ganwyd ei' yn y Stag, Trecynon. Ei dad oedd v bardd a'r llenor Carw Coeh. Cych- wynydd a threfnydd yr eisteddfodau y sonir am danynt yn ami gan yr hen fro- dorion fel Eisteddfodau y Carw Coch. Gwelir felly i L.N. gael ei fagu mewn awyrgylch Ile'r oedd swynion cerdd -ac awen mewn bri, a pharodd yntau ar hyd ei oes i dafiu ei nawdd drostynt. jLiywyddai yn ami mewn eisteddfodau a chyngherddau, a diddorol oedd gwran- do arno yn ei anerchiadau yn gosod on blaen ddigwyddiadau'r dyddiau gynt. Yr oedd yn gerddor da ac yn meddu ar lais baritone ardderchog, a bu yn arweinydd Cymanfaoedd Canu yn ei enwad droeon. Y mae yr Undod- iaid wedi gweld colli gwr mawr o'u plith. Gwr a lanwodd bob safle o anrhydedd a fedrent roddi iddo. Bu yn gadeirydd eu Cymanfa yn y flwvdd- yn 1898. Galara yr eglwys yn Highland Place ar ol un o'u haelodau mwyaf ffyddlon a haelfrydig. Ni arbedai nac amser, yni, na cfcyyfoeth er hyrwyddo yr achos yn ei flaen. Ni chaniata gofod ni, ond bron cry- bwyll am y gwasanaeth enfawr wnaeth fel dinesydd, etc. Bu am 2H mlynedd yn aelod o'r Cyngor Trefol; bu'n aelod o'r Court of Governors of the Universi- ty of Wales Governor of the Aberdare County Schools; ac yn Uch Gwnstab! yn y flwyddyn 1895, a llanwai bob swydd gydag urddas a doethineb. Efe oedd perchennog y Cambrian Lamp Works, Aberdar, ac fel meistr, perchid ef yn fawr gan y gweithwyr. Yr oedd yn urddasol yn ei ymddangosiad, urdd- asol yn ei eiriau, ac yn urddasol yn ei ymddygiad tuag at bawb. Yn ei an- gladd Chwefror 18, gwasanaethwyd gan y Parchn. E. R. Dennis, Hen Dy Cwrdd, Trecynon; W. J. Phillips, Not- tage a T. Eric Davies, Cefn, Merthyr. Wrth sylwi ar y dyrfa luosog oedd wedi casglu ynghyd i'w angladd, yn cynrych- ioli y gwahanol gymdeithasau a dos- parthiadau, yr oedd yn amlwg fod o.es faith o wasanaeth urddasol yn cael ei gwerthfawrogi y dydd hwnnw.
[ Chwaon o Geredigion. I
Chwaon o Geredigion. I GAN EUROSWYDD. I Clywais wedi 'sgrifennu ohonof y nodyn hwnnw'r tro diweddaf, mai'r Parch. John Green, B.A., Twrgwyn, a ddewisodd Methodist-aid Llanddewi- brefi yn fugail fel olynydd i'r diweddar Barch. Rhys Morgan. Ond tybed a etyb efe yn gadarnhaol, a gado tegwch dyffryn Troedyraur am uthredd myn- yddau Llanddewi? Hyn sydd sicr, beth bynnag— y gwyr Mr. Green yn dda am eira a chorwynt y mynyddau, canys genedigol ydyw o Benuwch. Yr ydym i gyd erbyn hyn wedi cael gwybod pa faint o erwau y sy raid inni droi eleni. Gresyn bod gofyn ar y mynyddwyr i aredig cymaint yn ol yr henvydd ag sydd ar amaethwyr y wlad, a dengys anwybodaeth difrifol y sawl sydd mewn awdurdod, gan wirio gair yr Athro T. Gwynn Jones, "Yng I Nghymru y dynion na wyddant sy 'n edrych ar ol y rhai a wyr." Ond, a raid inni oddef hyn oil? A mi'n son am droi, fe ddaw i'm cof ddigwydd o'r llynedd, ac fel ei canwyd gan gantwr o Lanrhystyd mewn cyngerdd croeso yn ddiweddar: Er mwyn cael ein cadw yn fyw ac yn iach, Rhoed orders i'r ffermwyr droi grug Mynydd Bach, A phawb a'u holl egni a geisiai droi'r marc, Tra'n Haelod Seneddol yn gwrthod tro' i bare. Eithr nid dyna'r unig wrthuni a ddioddefasom y llynedd. Yr oedd cyflogau da i swyddogion am edrych fod orders y troi yn cael eu gweith- redu ar hyd a lied y sir, etc.—gwaith y gallai dynion gweinion a milwyr clwyfedig ei wneuthur yn hwylus. Ond i wyr ariannog a ffermwyr cryfion y rhoddwyd y t, swyddi, wrth gwrs. Deallaf mai dynion cyffelyb sy wrthi eleni etü-a berwa'm gwaed. Cofnodir marw y Parch. Stanley Jones, Caernarfon—y gweinidog a'r lienor adnabyddus. 0 Lanarth yr hanai. Da y gwnaeth Mr. T. D. Jenkins, Aberystwyth, gyflwyno swm o arian ) Drysorydd y Cyngor Addysg ar gyfer cael ysgoloriaeth flynyddol agored i blant. ysgol Alexandra Road, i Ysgol Sir y dref, a hynny i gadw'n wyrdd goffa ei hen 'athro, Mr. James Brad- bury. Clywais fod y cymrawd diymhongar, Mr. William Hopkins, B.A., Esger- maen, Tregaron, wedi dechreu ar ei waith fel athro yn ysgol hyglod Ystrad- meurig, gan bregethu bob Sul mewn dwy eglwys gyfagos, sef Eglwys Ysbyty ac Eglwys Ystradmeurig. Athro mewn ysgol yn Llundain oedd Mr. Hopkins cyn dod ohono adref at ei fam i ddal pen yr iau yn ffermdy'r Esgermaen. Wedi ei ddyfod i'n plith, bu cryn alw am dano fel beirniad yr adrodd a'r lien yn eisteddfodau'r cylch, ac y mae'n werth sylwi iddo wneuthur hynny bob amser yn rhad ac am ddim. Gan fod prinder offeiriaid, gofynnwyd iddo ers tua blwyddyn yn ol, er mai Methodist ydoedd, i was- anaethu ar y Sabathau yn rhai o eglwysi'r rhanbarth, ac yntau a ufudd- haodd i'r cais. Gwelaf ei fod am I gadw'r gwaith hwnnw ymlaen o hyd byda bod yn athro. Pob llwwdd iddo. Dyrna fi'n clywed yn awr fod y, cyfaill Hywel Myrddin yn wael iawn. Gobeithio'n deilwng fod y sibrwd yn waeth na'r gwir, canys yr ydys oil yng Ngheredigion yn hoff iawn o'r bardd- adroddwr talentog. Boed iddo adfer- j iad 11 wyr yn fuan yw dymuniad calonnau lu heblaw y galon honno o Benlhvyn. • Nid adwaen i Mr. D. J. Davies, post- feistr, Pontrhvdygroes, ond yr oedd yn dda calon gennyf ddeall fod cystal "mynd" ar ei ddrama, "Maesy- meillion, yn Aberystwyth. Bu raid i Mr. Davies ei hun ymddangos ar y tlwyfan yno, gan gymaint oedd y galw am ei weled, a chadd groeso cynnes gan y dorf. Actiwyd y ddrama ym j Mhontrhvdygroes hefyd yn ddiweddar. Yr ydych chwi, Mr. Gol., yn ddramodwr o fri, gyda hynny beth yw'ch barn am y ddrama, "Hepsi Andrew," yng Nghenhiner., lon- awr? Gadawodd rhyw ddylanwad rhyfedd arnaf fi, beth bynnag.
Nodion o Wlad Myrddin.
Nodion o Wlad Myrddin. GAN CE. Mae nifer yr ymgeiswyr am seddau ar y uynghorau Lleol yn yr etholiad agos- haol yn amlhau. Bydd y rhan fwyaf o hen aelodau'r Cyngor Sir—yn nhrefi Sir Gar o leiaf-yn gorfod wynebu yr ethol- wyr, a dywedir fod rhai o honynt wedi penderfynu ymneillduo yn He gwneud hynny. Nid "rhag ofn y gosb a ddel," wrth gwrs! "Discretion is the better part of valour," medd diareb y Sais, ac efallai bod rhai on Cynghorwyr wedi clywed y ddiareb o'r blaen. Un peth lied newydd yn yr etholiadau fydd y nifer o ferched sydd yn ymgeisio. Mae amryw o'r rhyw deg yn ymgeiswyr yn Llanelli, sef Lady Howard (dywedir yr aiff hi i mewn yn ddiwrthwynebiad— fod Plaid Llafur wedi penderfynu na wrthwynebir hi ganddynt hwy. Clyw- ais un o arweinwyr y Blaicl honno yn dweyd yn ddiweddar eu bod yn edrych ar Lady Howard fel "Unofficial Labour Member" ar Fwrdd y Gwarcheidwaid) Miss Trubshaw; Mrs. Davies, Cowell House Mrs. Brinley Jones, a Mrs Phil- lips (Old Road). Synmvn i ddim nad aiff Miss Trubshaw i fewn hefyd. Mae hi wedi cael cryn brofiad yng ngwasan- aeth y eyhoedd. Hi yw Cadeirydd Pwyllgor Pensiwn Llanelli, ac y mae hi yn aelod o Bwyllgor Pensiwn y Sir, a gwnaeth waith aruthrol (ac nid yn anfwriadol yr wyf yn defnyddio y gair) dros deuluoedd morwyr a milwyr y dref yn ystod y rhyfel. Merch i'r diweddar Mr. Trubshaw, o'r Western Works, Llanelli, yw hi, ac yn 01 pob hanes (' doeddwn i ddim yn adnabod ei thad) y mae amryw o'i nodweddion ef yn eiddo iddi hithau. Dywedir bod gan un neu ddwy o'r lleill "sporting chance" (os caniateir geiriau fel yno yn y DARIAN) hefyd. WeI, mae am- ryw o "hen wragedd," o un math, ar ein cynghorau yn barod, a buasai dwy neu dair o "young ladies" (chwedl y Tramp) yn gaffaeliad. Gyda Haw ('does a wnelo hyn ddim a Gwlad Myrddin, ond yn ddamweiniol felly) beth yw y rheswm fod y "Tramp" yn ysgrifennu mor anaml i'r DARIAN yn ddiweddar? Ydi'r hen grafaglach wedi bod mor anlwcus a gorfod cy- meryd jobyn yn rhywle 1 Sylwais, pan oedd o yn dychwelyd o Dy Gwyn ar Daf amser yn ol, nad aeth yn agos i Lanelli nac Abertawe—yr oedd o yn ofni mynd 'falle, am fod Swyddfeydd Llafur yn y ddwy dref. Ond fe aeth yn syth i Lansamlet ac i amryw bentrefi bychain dibwys eraill, afe ddywedodd ei stori yn ddigon llefn igael ei ddigoni ag ymborth o leiaf. Yn ol i Shir Gar 'nawr. Bu Llew Tegid yn annerch Cymrodorion Llan- elli nos Wener diweddaf ar "Draddod- iadau ac Ofergoelion Cymru Fu." Cefais gyfle i'w glywed—am y tro cyn- taf yn y De. Cadwodd y gynnulleidfa i wrando yn astud, ac wrth ei bodd am awr a hanner. Cyn clywed y ddarlith yr oeddwn i yn meddwl fy mod wedi cael gwared o'm holl ofergoelion er's blynyddoedd; ond wrth glywed y Llew yn rhoi enghreifftiau o'r hen ar- ferion a'r ofergoelion, rhaid i mi gyf- addef yn onest fod olion llawer ofergoel yn aros yn nyfnderoedd fy is-ymwy- byddiaeth i eto. "Anodd tynnu dyn oddiar ei dylwyth" onide? Cwyno yn dost y mae ffermwyr y sir o herwydd prinder gweision. Dywedir fod amryw fechgyn a ddaeth yn ol o'r fyddin yn gwrthod mynd yn ol "ar ffermi," a'u bod yn mynd i'r gweith- feydd i chwilio am waith, ac yn cael gwaith hefyd o ran hynny. A pha ryfedd 1 Pwy yn ei synnwyr sydd yn mynd i weithio ar y tir am ryw 31/- yr wythnos, neu gwpl o sylltau yn rhagor, pan geir 1/1 yr awr neu fwy yn y gweithfeydd dur ac alcan, neu gydag adeiladwyr 1 Gofynais i un oedd yn was fferm cyn y rhyfel paham nad elai yn ol "ar y tir." Ei ateb oedd: "Yr wyf fi wedi cael digon o gloddio a ffres air am fy oes yn Ffrainc 'rwyf fi am gael gwaith yn rhywle dan do o hyn nias." Ni allaf ei feio, gadewais innau y tir—"left the country for the country's good," feallai-ddeng iiilyn- edd ar hugain yn ol, am reswm pur debyg.
j Cais i .Glowyr.
j Cais i Glowyr. I BETH OS A'R GLO YN RHY DDRUD I'W WEITHIO. Ffasiwn rhai yw cymryd arnynt eu bod yn methu'n lan a deall paham y mae cymauit u anesmwythyd ym myd llafur ac yn enwedig )mysg y glowyr. "Y fath ddigwilydd-dra!" meddant. Tybir fod poo giowr o angenrheid- rwydd yn ddyn enillfawr ac yn cael ei arian am ddim, fel y mae'r cyfrun- ddalwyr yn derbyn eu llogau hwythau. Ond rhae digon o resymau dros yr anesmwythyd, ac nid oes eisieu craff- ter anarferol i'w canfod. Mae lluoedd o fudr-elwyr o hyd yn pesgi ar waed y werin. Mae ymborth yn afresymol o ddrud, a'r awdurdodau uchaf (yn ol pob golwg) yn helpu i gadw'r prisiau i fyny rhag i neb o'r budr-elwyr fod yn eu colled. Dywedir nad yw'r glowyr drwy fygwth streicio'n lleihau dim ar y budr-elwa a welir ar bob llaw, a gellir ateb nad eu busnes hwy yw hynny. Gwaith y wladwriaeth yw atal y cam- wedd, nid gwaith unrhyw ddosbarth o weithwyr. Yr unig Iwybr sy'n agored iddynt hwy yw ceisio mwv o dal am eu llafur—digon i gyfarfod ag anghenion bywyd heddyw. Pe tybiem mai'r budr-elwa yw unig achos yr anesmwythyd cyfieliorni fuasem yn ddiddadl. Mae'n gwes- tiwn gennym ai dyma brif achos yr helbul. Y peth sydd wrth wraidd y cynnwrf i gyd yw'r awydd angerddol sydd wedi meddiannu'r werin am gyfran deg o ffrwyth eu llafur a'r argyhoeddiad a deimlir bod yr adeg wedi dod iddynt fynnu eu hawliau. Nid lleol na rhannol yw'r mudiad. Mae yn genedlaethol—yn gyd-genedl- aethol. A, goreu oil i bob dosbarth o gymdeithas po gyntaf yr ymeflir yn y cwestiwn gan seneddau a chyd-gyng- horau'r gwledydd. Dichon y daw ymwared a chytundeb drwy gyfrwng y Cyngor Llafur Cyd-genedlaethol a sefydlwyd yn ddiweddar ynglyn a Chynhadledd Heddwch. Wedi dweyd cymaint a hyna mae'n iawn inni gofio bod y glo fel elfen yn nhrefnidedd wladol Prydain y pwysicaf peth a feddwn. Y glo yw sylfaen ein llwyddiant ymhlith teyrnasoedd y ddaear. Heb hwn gallu is-raddol a fyddem, bychan fyddai'r boblogaeth, a lie gwael a fyddai'n gwlad i weith- wyr. Ym myd masnach a diwydiant y glo sy'n rheoli'r cyfan. Hwn sy'n troi pob olwyn; hwn yw ffynhonnell gwres a goleu; heb hwn buasai gwaith yn darfod a newyn du yn rhodio drwy'r holl wlad. Mae'n wir fod dwr yn troi olwynion rhai ffactrioedd ac yn cynhyrchu trydan i oleuo trefi a gyrru peiriannau gweithfeydd. Diau y datblygir yr ad- noddau hyn yng nghwrs y blynydd- oedd, ond ar hyn o bryd nid oes iddynt ond lie dibwys ym mywyd mas nachol ein gwlad. Y glo a'i piau hi yn ein hoes ni, ac yn ol nob tebyg hwn fydd ben am amser eto, hynny yw nes y caffom rywbeth gwell a rhatach i gymryd ei le. Nid yw glo Prydain yn ddihysbydd. Hyn a hvn o dunelli sydd inni. Dywed daearcgwyr y bydd y cwbl wedi darfod ymhen pum cant o flyn- yddoedd. Mae'r difeddwl yn barod i ddweyd "Os felly, paham y rhaid mm bryderu? AVel neb ohonom ni'r dydd hwnnw." Mae pum can o flynydd- oedd yn gyfnod maith yn ein golwg ni, ond diwrnod byr ydyw yn hanes dynolryw. A gwastreflir cymaint o Jo o dan y ddaear ac ar y wyneb fel na fedr neb ddweyd yn iawn pa bryd y palla'r cyflenwad. Nid eiddo'r gen- hedlaeth hon yr holl gyflenwad, ych- waith. Mae'r glo yn costio'n ddrud i'r prynwyr ond yn ddrutach i'r sawl sy'n disgyn i waelod v pwll i'w dorri. Rhaid chwysu'n galed a mentro bywyd cyn tynnu'r un dunnell ohono o'r fan lle'i claddwyd gan Natur gan- irfoedd yn ol. Y glowr wyr oreu faint mae tunnell o lo yn ei gostio, j; mae gwahaniaeth dirfawr rhwng v gost a'r pris yn ami. Gall y prynwr ddadleu faint a fynno ynghylch y pris, ond peidied a son am y gost. Un peth a ddymunem—gweld • y glowr a'i deulu dipyn bach mwy cyn nil ar y glo yn eu cartrefi a dangos i'r byd eu bod yn sylweddoli pa mor ddrud ydyw i'w gynhyrchu. A chymryd y fasnach lo drwyddi rhaid addef ei bod yn peri mwy o ddioddef a blinder i'r glowr nag i neb arall sydd ynglyn a hi. Efe sy'n gweithio galetaf o bawb; efe sy'n peryglu ei fywyd fynychaf; efe a ddedfrydir i dreulio'i oes mewn awyrgylch fyglyd lychlyd a thai tywyll diawyr. Eto, rhaid i'r genedl, a'r gIowyr gyda hi, holi beth fydd effaith drud- aniaeth a phrinder glo ar ein masnach a'n bywyd cenedlaethol. Os na cheir glo am bris rhesymol fe ddaw elfen- nau ereill i'r maes i gystadlu ag ef. Mae olew eisoes wedi cymryd lie glo mewn amryw o'r llongau mawrion, a pho uchaf yr elo pris y glo mwyaf oil o alw fydd am olew. Ac fe ddaw llynnoedd ac afonydd a rhaeadrau Cymru i gynhyrchu digon o oleu a gwres fel na raid inni ddim dibynnu ar y glo hyd ddiwedd amser. A phan gyrhaeddo pris y glo ei cithafbwynt yn y farchnad, buan iawn y datblygir ei hadnoddau ereill. Wyr neb ddim pa mor bell nac agos ydym i'r eithaf- bwynt hwn, ond pan ddelo'r dydd y byddo y glo yn ddrutach na'r elfen- nau ereill y soniwyd am danynt bydd ei oes yn adeg honno yn dechreu dirwyn i ben. Feallai ein bod ymhell o gyrraedd y pwynt hwnnw ym mhris. y glo, ond mae cynnydd dwr ac olew fel ffynonellau gwres a goleu yn bur arwyddacaol. Os dinistrir masnach lo Prydaia bydd y golled yn ddifesur, nid i'r perchnogion yn unig ond i bawb ohonom, ac yn enwedig i'r glowyr. lawn yw i'r glowr gael tal teg am ei lafur, ond er mwyn ein gwlad a'n dy- fodol ninnau fel gweithwyr gobeith- iwn na arweinir ni i ddinistr gan an- noethineb g"\nT eithafol.
Advertising
UHEB Xa, OCti j WElsbA. ( aUININE BITTERS CWILYM EVANS. y TUiYLG LLliSlEUOJL. | I L"el Atalvdd in wyddom am ddim hafal » .itl.NLsf'; nlFfERS GWILYM EVANS. frorodd yciiydig ddognau crytion a gy- Herwyu. mown pryd yn etfeithiol lawer ^waitii i atal ymosodiadau o'r clefyd hwn, i ilwyddodd bob tro i ddofi eu iJymctra paD yddaii- claf dan eu hetfeitliiau. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. VVV li FEBI>iGINIAETH OREU AT IMFFLIVVENSA. Berkeley Road, Bristol, Mehenn 18fed. Foneddigion,—Bum yn wael iawn dan Inffliwensa, yn cael ei ddilyn gan Enyn. iad yr Ysgyfaint. Dair wythnos yn ol vr oedd fy nghyflwr yn beryglus, ac wedi i'r perigl fynd heibio, t-eimlwn yn isei ae yn wan iawn. Bytliefnos yn ol dywed- odd y doctor fod yn rhaid i mi gymeryd Tonic. Awgrymais Quinine Bitters Gwilym Evans. Y peth," ebe ef, 11 cytiirsveti ef dair gwaith y dydd." Oddiar hynny cymeraf ef yn rheolaidd, • theimlaf fy mod yn derbyn lies rhyfedd ol. Daeth a chryfder yn ol i'm haelod- au, a gwellhaodd fy holl gyfansoddiad. Yr eiddoch yn wir, B. P. CHICK. AR OL INFFLIYVENSA. Addefa cleilion yn gyffredinol eu bod yo wy isei eu hysbryd ar 01 cael InfFliwenga ia phan oeddent dan ei ddylanwad, ac yn wv nag ar 01 vmosodiad o unrhyw glefyd A DIGALONDID bron yn annioddefol. Y MAE'R GWAITH LLEIAF YN FLtN- DER. Y MAE'R PETH OEDD YN BLESER WEDI TROI YN LLUDDED. Y MAE'R ARCHWAETH I GYD WED) MYND. I SYMIO I FYNY-" MAE BYWYD YN FAICH i ddynion na theimlaeeat o'r blaen am un diwrnod y fath Brudd-der Llethol. BETH YW'R FEDDYGINIAETH r Y ffordd oreu i alltudio'r teimiadau prudd hyn yw cymryd Bwyd Maethlon, 80 Yxnarferiad Cymedrol, Osgoi Unigrwydd, ac ymgymysgu at Chwmni Siriol, a chym- ryd QOININE BITTERS GWILYM EVANS. arall. 'DOES DIM SIRIOLDEB. Y MAE ISELDER YSBRYD. Y MAE'R TEIMLAD 0 BRUDD-DER Nid gwin meddygol yw, ond y Tonic goreo i rai ar lawr ar ol Inffliwensa. Rhydd y dognau cyntaf wared o'r teimlad eich bod yn wan a d-,mddiffyn a geir ar 01 pwi drwg. Os oymerir tri neu bedwar dogD mewn pryd gyrr hyn ymaith ymosodiad. a lleddfa bob amser ei lymdra. Mae 'DOES DIM MYND. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. yn donic gwerthfawr ac yn arbennig at Inffliwensa, ao y mae yn amhrisiadwy at Wendid, Iselder Yshryd, Doluriau'r Frest, Methu Cysgu, Diffyg Traul, Gwendid Gieuol. QUININE BITTERS CWILYM EVANS. Gwyliwch eich twyllo. Gwelwch enw Gwilym Evans ar y label a'r botel, heb y rhai hyn, nid yw'r Feddyginiaeth yr uc iawn. GWERTHIR YM MHOBMAN. Mewn poteli 3s. a 5s. yr un, neu danfomi hwy wedi talu'r cludiad ar dderbyniad llythyrnodau yn uniongyrchol oddiwrth yr unig berchnogion- THE QUININE BITTERS MANUFAC- TURING COMPANY, LIMITED, Llanelly, South Wales.
IEin Senedd a'n Seneddwyr.
us; y gellid felly roddi mwy o amser y Ty ei hun i ymdrin ag cgwyddorion ac i benderfynu ar bolisi y wlad. Dadleuai y dylid sicrhau ugain diwrnod o leiaf at "supply," ac nid deuddeg fel y cynhygiai y Llyw- odraeth. Yn y diwedd caniateir ug'ain niwrnod i'r gorchwyl'. Beth ddaw o safiad Arglwydd French dros ryddhad y carcharorion politicaidd Gwyddelig? Ymddengys I fod y Rhaglaw French yn gryf dros I ryddhau y gwyr hyn, a thros roddi ymreolaeth i'r Iwerddon. Deil ef mai dyna'r ffordd oreu i heddychu'r Gwyddclod. Ar y Haw arall, myn y Llywodraeth yn Llundain gadw'r Sinn Ffeiniaid yng ngharchar, ac mai peryglus a fyddai eu rhyddhau ar hyn o bryd. Cedwir hwy dan glo heb ddwyn cyhuddiad yn eu herbyn, ac heb eu gosod ar brawf, yr hyn sydd yn anghyfreithlon a holl.ol anghyfiawn. Fel y digwydd y mae y Rhaglaw yn wael ei iechyd, ac felly gohirir y ddadl rhyngddo ef a'r Cyfringyngor. Anodd fydd iddo ail gydio yn ei swydd eto os gwrthodir derbyn ei bolisi a rhyddhau y carcharorion.