Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

IYr Ysgol Gymraeg. I

News
Cite
Share

Yr Ysgol Gymraeg. I "NAG" A "NAC" ETO. I Oblegid diffyg gofod yr ivythnos ddiwethaf gorfu arnaf adael allan amryw bwyntiau ynglyn a'r geiriau hyn y carwn sylwi arnynt. Cymerwn yn gyntaf 'na' neu 'nag' (than) Torfynyglir brawddegau'n a.ml iawn â 'na' neu 'nag' ynddynt fel hyn "Gwnaeth Dafydd fwy na mi." Gol- yga'r awdur i Ddafydd vvneuthur mwy nag a wnaethai ef ei hun, ond I aid hynny a ddywed, eithr i Ddafydd wneuthur eraiil heblaw efe, felly, fel hyn y dylid ysgrifennu'r frawddeg "Gwnaeth Dafydd fwy nag a wnauth- um i." Y mae gwahaniaeth dirfawr I rhwng y ddwy frawddeg a ganlyn (i) "Gwnaeth Duw fwy na mi" a (2) "Gwnaeth Duw fwy nag a wneuthum 1.' Golyga (1) "God made more than me" a (2) "God made more than I" I h. y., "more than I made." Feallai y byddai cystal a dim inni gyfieithu 2) fel hyn, "God did more than I," h. y., "more than I did." Y rnae'n sicr y gallai llawer i ymladdwr ddywedyd y naill a'r Hall o'r ddwy frawddeg a ganlyn, a dywedyd y gwir wrth hynny: (I) "Curodd Freddie Welsh fwv na mi," neu (2) "Curodd Freddy Welsh fwy nag a gurais i." Golyga (I) "Freddie Welsh has beaten more than me," (2) "Freddie Welsh has beaten more than I," h.y., "more than I have beaten." I ddangos na wneir y gwahaniaeth gofynnol mewn brawddegau o'r fath dyfynnaf frawddeg a ymddangosodd yn ddi- weddar iawn yn un o bapurau wyth- nosol y Gogledd: Clust well na Mozart," lie y cymherir f; clust" a Mozart" a'i gilydd yn lie dust rhywun arall a chlust Mozart. Er mwyn gvvneuthur y frawddeg yn synhwyrol dylai ddarlten fel hyn: Clust well na chlust Mozart" neu "clust well na'r eiddo Mozart." Felly chwi wclwch ei bod yn bwysig iawn inni fod yn wyliadwrus wrth gymharu'r naill beth i'r llall, neu fe ddistrywir nerth y gymhariaeth drwy'n hesgeulustod, ac a'r frawddeg yn ddisynnwyr hollol dan em dwylo. Gofalwn am hyn bob amser pan fyddwn yn siarad neu'n ysgrifennu Saesneg, neu fc'n condemnir ar un- waith am dorri rheolau'r iaith. Bydd .1 em yn destyn gwawd ped ysgrif- ennem rywbeth fel hyn: "David's nose is bigger than Arthur." Dyma i chwi fwy na "hanner llath o drwyn y bachgen bach o Ddowlais" gan gan Ddafydd, felly y mae'n rhaid inni ddywedyd "David's nose is big- ger than that of Arthur" neu "David's nose is bigger than Ar- thur's." Y mae'r enghraifft hon yr un mor chwithig a chwerthinllyd yn y Gymraeg, ac fe wneir cymaint 0 gam a'i.- Gymraeg mewn enghreifftiau eraiil cyffelyb, er nad ydynt, fe allai, mor chwerthingar. 'Rwy'n sicr y cae pobl dpyn o 'sport' pe dywcdwn" Y mae tnvyn Dafydd yn fwy nag Ar- thur" yn lie "Y mae trwyn Dafydd yn fwy na thrwyn Arthur." Pe newid- iem ychydig bach ar yr ymadrodd "Clust well na Mozart" a'i roi fel hyn: "Clust fwy na Mozirt"* byddai'1 chwerthinllyd dros ben, oblegid bydd- ai'n "glust" aruthrol ei maint, a sicr yw y dylai chist o'r fath fod yn "weJl" na'r eiddo Mozart os maint dust sy '1 penderfynci maint athrylith a ga'lu cerddor, ond nid yw oernad asyn yn awgrymu hynny i mi, fodd bynnag, neu fe. elfid disgwyl mwy o fiwsig yng nghan creadur sydd a chlustiau mor rawr ganddo. NA, NAC. I Nodwedd amlwg a phrydferth iawn mewn brawddeg riegyddol yn y Gymraeg yw mynychu 'na' neu 'nac' i'w chryfhau, ac yn hyn y mae' n debig i'r Roeg, eithr yn wahanol I "J Saesneg a'r Ffrangeg a'r Lladin. V mae un negydd yn dinistrio nerth y llall yn yr ieithoedd hyn,c.c., yn y Saesneg, "I don't want nothing" ac "I don't want nobody" a glywir mor ami, ac fel y mae gwaetha'r modd, a" dafodau'r .I.)icpd-Shon-Dafydd a sier- yd Saesneg a'u plant. Grymuso'i gilycld a wna'r megyddion yn y Gym- raeg .a'r Rocgv Beth sy'n fwy swyn- ol a phcrsain na hyn yn y Gymraeg? G\vr oerach nag Eryri, Na Berwyn wyf i'm barn i; 'Ni' thyn 'no' chlydwr 'na' than ''Na' dt!!ad f'annwyd allan. Ieuan Brydydd Hir. Anfynych iawn fu yno Weled 'na' chlicied 'na' chlo, 'Na' gwall 'na' newyn 'na' gwarth, 'Na' syched fyth yn Sycharth. lolo Goch. 'Ni' thyn 'na' chlydwr 'na' than las Ionor y sy ynof.—Tudor Aled 0 f'einioes 'ni' chaf fwyniant Heb Fon, er 'na' thon na' thant; 'Nid' oes drysor a c.dorwn, 'Na' byd da'n y bywyd hwn, 'Na' dail llwyn, 'na' dillynion, 'Na' byw'n hwy, oni bai hon. Goronwy Owen Ceir gair ymhellach ar y geiriau hvn yr wythnos nesaf eto. Aeth 'difyrrach' yn 'difyrrwch' yng nghwpled Dewi Wyn o Eifion. Yr eiddoch, SAM YR HALIER. I 11

0 Fon y Clawdd.

!?!!_!i....!.<!.?JjL!J.J)Xt.…

I Aelwyd y '_Beirdd.

Advertising