Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
Rhamant y Rhos (MOELONA), Yn awr yn barod. Pris 10c.Drwy'r post 1112-9. Anfoner yr archebion i Swyddfa r DARIAN.
MUW—III"ITTIii Vni«"i i f…
MUW—III "ITTI ii Vni«"i i f II •1W PETH O'R CYNNWYS. [ BarddomaethyMSrganFera 2 Y Manijar a'r Check 2 Y Cymdeithasaa 2 Y Cenhadaeth Dramor  Atgofion Hywel o'r Clyn 3 cynhadledd Caerdydd eto *? Senedd a Seneddwyr » Cyfamod Cwyl Ddewi » Carnelian, gyda a darlu. 6 Y waedd o Gymru gan Ddyfnalit 6 Aelwyd y Beirdd 6 Ymrcolaeth i Cymru 7 penygraig Yr Ysgcl, Cymraeg Heddwch y Byd g <0 Lyn Ebwy 8 Yn y Nesaf.—Tysteb Dr. Morris, lie- ■ orchy.
AWEL O'R MOR.
AWEL O'R MOR. Awel o'r mor oedd yn chwarae, Chwarae yn nhresi ei gwallt; Awel o'r mor a Trciglo y deigryn hallt. Awel o'r mor a fu'n rhoddi Gwrid i enhuddo ei boch; Awel o'r mor fu'n ei phaentio Unlliw a'r mefus coch. Awel o,r i-nc)r a fii'n cludo Newydd wnaeth fynwes yn brudd; Awel o'r mor sydd yn deffro, Deffro ei gofid cudd. j Awel y mor sydd yn dawnsio Lle'r huna rhywun mewn hedd; Awt,l oli., m&r bair_ei,gofio- Fab y diflodau tedd. Cross Hands. J. Jones. j
Cymru yn Cofio'r Sant.
Cymru yn Cofio'r Sant. Chwyddo fel llanw'r mor y mae dy- lanwad Dewi Sant yng Nghymra. Njd vdym yn tybied ein bod yn orhyderus wrth ddweyd hyn. Mae'r cyfnewidiad a fu ynglyn a chadw'n Gwyl Genedl- aethol yn rhywbeth i lawenychu ynddo. Erbyn hyn mae cyfarwyddwyr addysg ac athrawon ein cenedl-lu o honynt, wedi cymeryd mewn llaw i wneud ar y dydd hwn rywbetl1 a fyddo'n deilwng ,0' r Sant ac o fudd arbennig i'r plant ac i'r genedl. Mae'r hyn a wneir ar y -dydd ynghyd a'r paratoad ar ei gyfer vn golygu gwaith Ha all lai na gadael ei 01 ar Gymru. Ychwaneger at hyn <eto yr Eisteddfodau Plant a gynhelir mewn llawer lie gyda'r amcan o hyr- wyddo gwybodaeth o'r Gymraeg a chyn- efirio plant a llenyddiaeth eu gwlad, a phwy a ddywed nad yw'r wawr yn torrid Yn wir, arwydd mawr er dai- oni yw bod cynifer o'n cydwladwyr yn .rhoi eu haii-iser a'u llafur mor ewyllys- gar yng ngwasanaeth eu gwlad, eu hiaith a'u cenedl, a hynny, mewn llawer .0 gysylltiadau, heb ddisgwyl nac enw na gwobr, jjieblaw'r pleser sydd yn y gwaith a lies eu gwlad. Gwyn eu byd! Diolchwn i Gymrodorion Abertawe -UDI wahoddiad i'w plith hwy am bryn- hawn dydd lau. Yr ydym er pan ehangwyd terfynau'r Fwrdeisdref yn vyw yn Abertawe, ac wrth gwrs yn teimlo diddordeb mwy yn y dref a'l gweithrediadau. Mae yma lu o Gymry rhadlon, a diymffrost sy'n llawn sel dros bopeth da a berthyn i'w cenedl, ac yn amcanu ynglyn a'r pethau hyn wneud Abertawe yn deilwng o'l chyfrif yn Brif Ddinas Cymru. Trefnasid i'r Parch. Ben Davies, Panteg, bregethu yng Nghapel Gomer yn y prynhawn, ond oherwydd claddu ei unig rab y diwrnod hwnnw fe'n siom- wyd. Bydd yn flin gan lawer glywed am drallod y bardd, ond fe fedr ef fynd y "Tuhwnt i'r Lien" yn well na Uawer. Ar fyr rybudd cymerwyd lle'r bardd o Banteg gan Ddyfnallt. Gan fod y Parch. R. S. Rogers, B.A., gwein- idog Capel Gomer, mewn lie arall, dechreuwyd yr oedfa a llywyddwyd hi gan y Parch. D. W. Waters. Pregeth- odd Dyfnallt ar eiriau o N ehemiah-y gwr a garai ddinas beddrod ei dadatl. Ni chlywsoirl, mo Ddyfnallt erioed yn well, os cystal. Hyderwn y clywir y bregeth hon mewn llawer cylch, ac ru allna ddeffry rywrai o'r newydd i fynd ati i adeiladu muriau amddiffyn y gen- edl o'r newydd. Fel Nehemiah yr oedd ] Dyfnallt yntau yn sylweddoli mawredd y rhwystrau a'r anawsterau, ond yn credu gyda phwyll, penderfyniad ac egni y gellid gorchfygu'r oil. Cafwyd te yn y Grosvenor rhwng y ddau gwrdd. Yn yr hwyr llywyddwyd gan y Cyngh. J. Lewis, Gadeirydd y Cymrodorion. Cafwyd unawd gan Mr Josiah Thomas, L.R.A.M.; yna anerch- iad coeth ar Wladgarwch a Diwinydd- iaeth gan y Parch. R. S. Rogers. Un- awd eto gan Miss Gladys Samuel, merch Mr. Morlais Samuel. Yna caf- wyd darlith Dyfnallt ar Ddewi Sant, a, danghoswyd i ni fel yr oedd delfryd y Sant yn galw ar i Gymry briodi diwyll- iant a duwioldeb ynghyd a byw bywyd syml. Diolchwyd i'r siaradwyr gan Olygydd y DARIAN a'r Parch. Dyfo- dwg Davies; i'r unawdwyr am ganu ac i Megan Glan T'awe. am gyfeilio gan y llywydd a'r Parch. Vaughan Jones yn terfynu gyd a'r fendith Apos- tolaidd. Ceir gair am ymweliadau ag ysgolion y tro nesaf.
Chwaon o Geredigion.
Chwaon o Geredigion. GAN EUROSWYDD. Ac nid yw'r cyfreithiwr adnabyddus a pharchus, Mr. A. J. Hughes, Aber- ystwyth, mwy! Bu'n wael am gryn ystod yn ddiweddar, ond gobeithid y byddai iddo adferiad. Eithr, fel arall y bu'r dynged. Gwel y gwahanol lys- oedd.a phwyllgorau cyhoeddus, a'r cylchoedd yn gyffrcdinol, mac'n sicr, ei sisiau'n fawr. Ni wyddwn i hyd ddoe mai Pabydd ydoedd. Bydd lecshynau'r Cyngor Sir, etc., tua dechreu mis Mawrth. Bu nifer o'r hen ddwylo a, vll eu sedd yn y byd? Cawn weled. Dylaswn fod wedi llongyfarch y llencyn llengar, H. O. Edwards, Blaencaron, ar ei waith yn ennill ar y traethawd yn Eisteddfod Treforus dydd Gwyl y Bocsio. Fodd bynnag yn awr, a mi'n cofio hyn, caf gyfle i'w longyfarch hefyd ar fuddugoliaeth ddiweddarach o'i eiddo, sef ei ennill ar ddarn adroddiadol yn Eisteddfod y Borth mewn cystadleuaeth dda tan Mr. Isgarn Davies. Dalied ati. A ddaw'r "Wawr" allan y Pasc yma yn y byd? Oherwydd rhyw helynt digri ynghylch ysgrifau amheus (?) a oedd yn Haw'r golygydd, fe'i hataliwyd gan c,y gor-wlatgarwyr," fel eu galwodd un, y Pasc diweddaf. Felly, fechgyn, a'r rhyfel ar ben, dowch a'r "Wawr" eto allan y Pasc hwn, er mwyn gwneuthur Cyfrol V. bwn, er mw),n ,,wn yn gyflawn, ac yna gadw 'mlaen. Ni feddai Cymru well cylchgrawn na'r Wawr. Fe'm gofwyodd bardd yma pwy noswaith, a thyma'r cwpled a oedd ar ei fennydd: Pob rhyw newid bid fel bo, Cyn hir e dreiddir drwydda. "Nid oes blvnvddau maith," ebr efe, "er pan ddaeth y Gadair a'r Goron Farddol i'r fath fri yn ein' Heistedd-II fodau, ond gwelaf bod newid ar ddigwydd yn awr." "Sut hynny?" gofvnnais innau. Ar hyn estynnodd imi brogram Eisteddfod o'r De, a darllenais hyn: Pryddest (not over 150 lines), prize,, £ 1, and an umbrella, value ios- 6d. Pwy a ennill y "Number L," tybed? Newyddion.
I. PIANOS.II
PIANOS. Cynghygir yn awr fargenion rhyfeddo! i —pianos cystal a newydd, gan wnuethur- wyr Prydeinig gwir adnabyddus; dycfc- welwyd y rhai hyn gan y rhai a'i huriodd wrth ymadael i faes y g&d. lihestr yn rhydd. Thompson a Shackell, Oyf., 25 Heol y Frenhines, Caerdydd, ac yn Abertawe. Casnewydd, Caerodor, Pontypridd, Peny- bont, Glyii Ebwy, Bargoed, Chepstow, Llanelli, 23 Heol Fair, Caerdydd. Ni ddylid colH'r cyfle hwn.
-.-. I LIith y Tramp.I
LIith y Tramp. Mishtir Golycydd,—Yn 'Bertawa own i pan sgyrfennes i ddwetha, a 'rown i wedi trenfu i aros mish yno, 'blecid ma hi'n meddwl taw hi yw prif ddinas Cymru, a rwy i'n dala fod i chleim hi mor gryfed a chleim unrhw dre arall ac yn gryfach he'd; a miwn pyblic resepshwn o'dd X Gymdithas I Gymrag yn drenfu i fi Dy Gwyl Dewi 'rown i'n mynd i setlo'r cwestiwn, a chyhoeddi taw 'Bertawe o'dd prif ddinas Cymru o hyn i m'as. Ond gorffod i fi adal yn svtyn, a fel hyn y buws hi. 'Rodd y'n landledi i newydd fynd ma's, a rown inne'n clasgu'r llithie wy'n hala i'r DARIAN, i ddod a nhw ma's yn llyfyr mor gynted <b y daw papur dicyn yn chepach. Hanas y nheithie i drw'r Sowth fydd yn y llyfyr. Fues i ddim ond unwaith yn y North a'riod. Fe licwn i fynd yno eto, he'd, ond 'dwy ddim yn meddwl fod Casnodyn yn folon i fi fynd, ne fe fyse weti ngwa'dd i cyn hyn. 'Rown i weti ca'I lot o Iytlryron yn began arno'i dded a llyfyr ma's, ond rwffor ne giddil 'rown i'n oeti o hyd, ond pan weles i yn y DARIAN rhw fish yn ol fod Wil Ifan yn mynd i ddod ma's a- Uyfyr arall, fe setlws hynny'r cwesti- 'k?n' A fe weles he'd yn y DARIAN 'f'od y pyrdyddion yn hala ordors am dano fe miwn pyrdvddieth, a fel'ny y dylen nhw. Fe ddyle pyrdydd ordro popeth miwn pyrdyddieth, ne wa'th iddo fe bido a bod yn byrdydd. Pan ma' fe'n pyrnu pSr o scitshe gwaith, os bydd dwy go's 'dag e, fe ddyle ofyn am danyn nhw mhvn mesur petar lein, ond cofiwch chi 'dwy ddim yn gweid y dyle fe dalu am danyn nhw yn y mesur hynny. Talu am danyn nhw isht a dyn arall gita John Bradbury. Ond fe wetws Dafydd y Crydd wtho i os cetyn yn ol, pan o'dd e'n tapo'n scitshe parch i, nad yw pyrdyddion yn rhw lawer o withwrs, a barnu wrth y scitshe gwaith ma nhw'n byrnb. 'Rwy'n diall fod Wil Ifan ishws weti cal ugeinie o enwe. We!, Iwc dda iddo fe, weta i; ond chi, boys a'r tocins, pidweh a'n anghofio inne, a halwch ych enwe i, "Tramp, Offis y DARIAN, 'Berdar," a 'rwyn addo printo yn y llyfyr bob petar lein fydd yn i ordro fe. Hanner coron fydd prish y llyfyr. Dou swllt yw prish llyfyr Wil Ifan, ond wetny ma' 'na lot o wast mewn barddonieth, a ma' rhai'n dala'n gryf taw wast i gyd yw e, ond weta i ddim o hvnny am byrdyddieth Wil Ifan. Ond i ble'r etho i? Rwy'n timlo isht a Myfyr Emlyn, fod ynnwy' "duedd crwydro," a dyna sy'n cyfri, spo, mod i weti mynd yn Dramp. 0 ia, gweid own i- 'Ti-iod i weti gorffod gadal 'Bertawa'n sy.tyn. Pan own i'n dishgwl dros y mhapure, dyma rat- tat-tat ar y drvvs, a dyna ble ro'dd y dyn bach smarta "weJsoeh chi ariod, a mynte fe'n gwmws, ac ar dorri 'wynt, hcb "Good-mornin' :'J d P D' "Jordan, Pare yen, w i, a 'rwy weti ca'l telegraff o'dd wrth agent Cwnsilor Howrells, Caerffili, yn gweid fod yn rhaid i chi fynd ar unwaith. Ma fe'n onfi y bydd hrn lecshiwn wyllt yno. Dyma'r telegraff: Send the Tramp here by first train; keenest con- I test loom ing- S alathiel. "Fe glwes i chi speechan yn y City Hôl pwy ddwetydd Satwn, myntwn i, a fe nethoch yn biwr digynnyg. Fe wetsoch beth o'dd ishe'i weid, a fe'i gwetsoch e'n net he'd. Bendith y mame ar ych pen chi, a'ch sort, weta i-" "Thanciw," mynte fe, a bowo'n .Iedileic. Ma tren yn mynd o High Street sha Chaerffili miwn bothti han- ner awr. Fe af i ddishgwl am tacsi." "Ma'n rhaid i fi aros nes daw'n landledi yn ol i fi gal talu am yn lodgin, ta beth. "Cer'wch chi i ddoti'ch hunan yn barod, ac os na fydd hi'n ol, fe gewch adal yr arian ar y ford, a notyn bach gita nhw. Pidweh a bod yn hir, 'blecid fe fydda i'n ol a tacsi miwn pum munud. A phan o'dd Mr. Jordan yn ffarwelo a fi yn y Steshon, mynte fe- "Good lyc i. chi, newch ych gore i gal Cwnsilor HoweIls 'nol i'r Cownti Cwnsil, 'blecid dos neb ond y chi all i ddoti e miwn. A ma'n rhaid i ni i gal e'n ol, wath y fe yw'r eulod gore sy gita ni." And so say all of us. 1 KAMr.
IOr GogIedd.
I Or GogIedd. ) GAN GASNODYN. Postiais lythyr yma Difiau di- waethaf, a chafwyd ef yn Aberdar fore'r Llun A gwelaf ar fy llith yn y Darian heddyw mai'r un peth yn union a ddigwydd imi fel gohebydd hefyd. A yw hyn yn deg ? 0 ble y daw ymwared? Mae'n rhaid imi gredu nad yw popeth yn dda. Ar bwy mae'r bai ? Peth diflas iawn yw hir-aros fel hyn, ac ni ddylid ei oddef. Ac ar bwy mae'r bai am y ff aith ceir cynnydd yn rhif yr eglwysi d:- fugail a'r bugeiliaid di-eglwys? Yn sicr, dylid edrych i mewn i hyn yntau, a hynny rhag blaen. A fyn yr Ym- neillduwyr fyw heb fugail o'r byd ? Bu agos iddynt a'i. lwgu yn ddiweddar, mi glywais. j Yr oedd gynt, cyn y rhyfel felly, lu o longau ager yn rhedeg rhwng y Gog- | ledd a Lerpwl, gan ddwyn ymwelwyr yn Ilu mawr i Landudno, Bangor, Biwmaris a Chaernarfon, er elw a 1 gwaith i luoedd; ataliwyd hynny gan y rhyfel, ac fe afaelodd y Morlys yn y llongau. Ac aeth Menai heb odid long ar ei thon hiraethus' Ond mae byd newydd ar gwawrio. Holodd Syr O. Thomas, A. S., awdurdodau'r Morlys ar y pwnc yn y Senedd y nos o'r blaen, a chafodd atebion cwbI foddhaol. AMon ac Arfon a law- enha. Ceisiodd y Parch. Lewis Williams gan Gyngor Tref Bangor gau ei Gaz- elle Tavern, ond yr oedd un o fwy- afrif dros beidio a gwrando ar y cais. Mae Cymdeithas -Amaethyddol Llan Gollen am gynnal Arddanghosfa eleni. Cafodd y Parch. W. R. Williams, Eghvys Gymraeg y Drenewydd, ^,30 I o war bonus gan ei eglwys y dydd o'r blaen. Go dda, a hynny mor agos i wlad y Sais. I Mae rhyw annwyd trwm ar y wlad hon yn awr, a'r fc'fiiw yn y gwynt! Syrth rhywun. neu giJvdd i'r 11awr bron bob dydd. Ac nid yw'r cryf nem.or well na'r gwan rvvan drwg gennyf ddeall mai claf Mrs. Lloyd George hithau, ac wedi ei chyfyngu i'w hystafell hefyd. Dylal r gwan "edrych ati." Yn Abergele, ddyliwn i, y trig Myfyr Eifion, Llundain gynt, bellach. A gawn ni Steddfod yno, tybed Ni bydd heddwch heb Eisteddfod He bo ef. Myfyr oedd Ysg. yr Eisteddfod honno yr enillodd Ben Bowen ei Gadair Llundain ynddi, ac ef yn Affrica yn canu'r Bryddest. Chwef. 22, yr oeddis yn claddu yr hen "Fodryb Sian," Blaen y Waen, Rhos Tryfan, Arfon, a hi yn 77am oed. Niwlog a glaivog iawn oedd y dydd Lie du oer a thrymllyd yw—y lie hwn, Is llenni'r niwl lwydwyw; Ac wrth fedd Modryb heddyw Mae eisieu balm Iesu Byw. Iechyd i galon Dr. Lloyd Owen, Criccieth Be feddyliech chwi a wnaeth e y dydd o'r blaen? mynd i'r Llys Irwyddedol, ar ei gyfrifoldeD ei hun, ac ef yn Swyddog Iechyd Lleyn ac Eifionydd, a gwrthwynebu'r hot" drwyddedau namyn un, a dywedyd -iio, I-" N -id dim yn erbyn neb Tafarn- wr sy gennyf, yn erbyn y gyfundrefn drwyddedol y mae fy llais; canys y mae honno fel cancer yn difa bywyd gwlad a thref. Cyffur y Gwirf. Heblaw hynny y mae yng Nghricieth dafarn ar gyfer pob 200 o'r boblog- aeth—yn wyr, gwragedd a phlant, gormod o ddim ddim rheswm dan un- ryw amgylchiad." Pa bryd y cawn ragor o feddygon fel hyn ? Byddent yn iechyd i'r wlad-ym mhob ystyr. Mae eglwys y Tabernacl, Ffestin- iog yn codi 24p. y flwyddyn yng nghyflog ei bugail, y Parch. R. R. Morris, ac am roi 2p. y Sul i'r llefar- wyr achlysurol. Gobeithio y dilynir ei hesiampl gan holl eglwysi'r dalaith —pob un un yn ol ei gallu. Yn sicr, f" ddaw budd o gadw swn hyd yp z: ar y saint. Gwrthododd y Swyddfa Rhyfel ryddhau Caplan D. C. Herbert, Bryn Siencyn, Sir Fon, fel y gallai gymryd swydd Ysg. Y.M.C.A. ein talaith, am fod arni ei eisieu i lenwi swydd bwysig yng nglyn .a'r dadfyddino yn awr. Hen dro. Tawaf i edrych a aiff hyn i Aber Dar cyn SuH A 27/2/19 yw hi. jDaeth i law'r tro hon 28/2/19!- Gal. ]
Y Cymdeithasau.
Y Cymdeithasau. Cymrodorion Aberpennar. Yr Hybarch H. T. Stephens, Trecynon, Aberdar, oedd yma nos Wener yn darlithio ar y dKveddar Barch. W. Prydderch. Bu wrthi am dros awr a hanner, mewn hwnl gyda'r hen bre- gethwr enwog. Er cymaint a ddywedodd, ni fynegwyd mo'r hanner, ac addawodd ddyfod yma'r tymor nesaf i ddweyd am awr a hanner eto. Diolchwyd iddo gan Ap Pedr Hir a'r Parch. Gwilym Jones, B.A. Llywydd- wyd gan y Parch. Gwmryn Jones. Llwydcoed. Cadw'r Wyl: Yn Y sgol y Cyngor rhoddodd yr athraw- on wersi ar Ddewi Sant a Chymry enwog eraill, a chafwyd ymgom ar en- wogion Heol, megis Alaw Goch, etc. Adroddcdd y plant ddarnau Cymraeg, a chanasant alawon Cymreig. Chwar- aewyd drama o waith Mr. John Davies, swyddog v plant, gan ferched Dosbarthiadau Ilf. a IV. Adroddodd Netta Evans "Vr Iaith Gymraeg." Canwyd H wiangerddi gan Ddosbarth- iadau I. a II. Canodd Mr. D. R. Davies benhillion o'i waith ei hun, a Mr. T. Davies yn cyfeilio. Rhoddwyd tystysgt ifau i 26 o blant nad oedd wedi colli diwrnod yn ystod y flwyddyn, a thri medal i rai oedd wedi mynychu'n llawn am dair blynedd. Cyflwynwvd hwy ar ran y pwyllgor addysg gan y Cynghorwr J. Griffiths. Gwasgai'r prifathro, Mr. W. W. Price, ar v plant nad oedd gwisgo cenhinen neu het tichel ar Wyl Ddewin ddigon, ac y dylent siarad Cymraeg ymhob man. Cafwyd mwynhad mawr wrth weled dawnsfeydd gan y plant lleiaf drwy garedigrwydd Miss Charles-