Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Byd y Bardd a'r Lienor.
Byd y Bardd a'r Lienor. GAN FERA. ¡ I BARDDONIAETH LLIW A LLUN. i Ysgrifennodd Mr. T. Gwynn Jones, M.A., erthygl ddiddorol i'r "Geninen" tua phymtheg mlynedd yn ol ar Lliw a Llun yn Lien Cymru," a dengys yn- ddi fod barddoniaeth y Cymry yn or- lawn o ddisgrifiadau prydferth a lliw- gar o olygfeydd natur ac o fireinder bun; ac nid oes amheuaeth nad yw hyn yn un o brif nodweddion ein barddoniaeth o ddyddiau Taliesin hyd yr awr hon. Ond myn beirniaid llen- yddol y Saeson nad c-es a wneJo barddoniaeth a lliw a llun; ac, yn an- ffodus, ni ddywed Mr. Gwynn Jones I air ar y pen hwnnw, eithr dywed wrth fynd heibio fod y ddawn i ddisgrifio lliw a llun yn "ddawn werthfawr," ond geill dawn fod yn un dra "gwerthfawr" heb fod yn anhepgor bardd-y ddawn i bregethu, er enghraifft. Pe datganasai Mr. Gwynn Jones ei farn ar hyn yr wyf yn sicr mai dywedyd a wnaethai fod disgrif- io'n dda yn farddoniaeth ynddo'i hun, oblegid fe geir cryn lwer o hynny yn ei farddoniaeth odidog ef. Sut byn- nag, tvb BEIRNIAID HOLLWYBODOL y Saeson yn wahanol. Dywed Basil Worsfold yn ei lyfryn ar "J udgment in Literature" mai "unsuitable sub- jects for the poet" ydyw prydferthwch dyn ac anian, ac os gwir hynny y mae ein holl feirdd ni wedi canu mwy na mwy ar "unsuitable subjects" -ar destynau anghymwys. Dywedodd Ysgotyn hefyd, sef Robert Louis Stevenson, nad oes a wnelo bardd ddim yn y byd a lliw; a dyna farn holl dyrfa fawr beirniaid llenyddol y Saeson. Yn eu tyb hwy ni ddylai bardd ddisgrifio dim gwrthrychol, gan mai ei waith ef yw mynegi'r effaith a gaffo'r gwrthrychau ar ei feddwl a'i galon ef. Er enghraifft, y mae Wordsworth yn ogoneddus o fardd- onol pan ddywed- Her beauty made me glad, ac nid oes farddoniaeth o gwbl yn llincllau disgrifiadol Dafydd ap (;N,ilym,: Diliau rhos, dail o aur rhudd A dorrwyd yn ei deurudd; Granau cwyr mewn grvniau calch-- Grawn gwingoed ar groen gwyn- galch. Pc dywedasai Dafydd rywbeth fel hyn ar ei gyfer- Ei gwych degwch diwegi Lawenhai fy nghalon i, buasai'r Saeson yn dotio at odidow- grwydd y cwpled Yr wyf i yn gwa- haniaethu'n ddirfawr oddiwrth feirn- iaici y Saeson, ac nid wyf yn petruso dywedyd yn groyw nad oes rithyn o farddoniaeth YN LLINELL WORDSWORTH, I a bod llinellau Dafydd ap Gwyilym yn farddoniaeth uchelryw. Ni ellir cyfrif cyfredinedd troednoeth yn farddoniaeth, a dyna a geit yn llinell Wordsworth. Dywedwyd yr tin peth gan bob rnab yn afiaith caru, ac ni allai'r un ohonynt ei ddywedyd melwil iaith fwy ystrydebol. O'r ochr arall, ni ddywedodd neb erioed ond Dafydd y llinellau uchod, am na fedrent. Yr oedd prydferthwch bun yn gwirioni llanciau pob oes cyn amser Dafydd, ond ni fedrent hwy ddisgrifio'r mir- cinder. Gwir fardd yn unig a fedrai wneuthur hynny. Dyna neges y bardd, a dyna'i gamp-rhoi myneg- iant dillyn i'r pethau a welir ac a deimlir gan bawb; ac nid yw hynny namyn rhoi tafod i'r, mudan. Mae gwir fardd yn cyflawni gwyrthiau felly bob tro y llunia gerdd. Dywedyd yr wyf nad barddoniaeth mo'r peth v deimlir ac, a fynegir gan bawb; a bod v pethau a welir gan bawb, ond nas mvnegir ond gan yr ychydig, yn wir farddoniaeth. Mae mwy o farddon iaeth yn nisgrifiadau goreu beirdd Cymru nag yn y rhan fwyaf o gerddi clodforedig y Saeson. Rhag i neb dybied ddysgif ohonof nad yw rhoddi mynegiant i effaith golygfa. ar feddwl a chalon yn wir farddoniaeth, gadawer imi ddywedyd yn bendant nad wyf yn dysgu hynny. Buasai, Ilinell Wordsworth yn fardd- onol petasai rhyw gamp arni, tebyg i'r gamp sydd ar linell Dafydd ap Gwilym- Dy wên yw'r pum Tawenydd. Mae Natur ei hun yn ymhyfrydu ym mhrydferthwch lliw ac yng ngheinder llun, a gwae'r beirniad a faidd ysgaru Barddoniaeth a Natur.
0 ABERTAWE.
0 ABERTAWE. GAN DALNANT. Ar ddydd oeraf y Gaeaf-hyd yn hyn. 0 tyred wres Yn nes, yn nes, Mi fydda'n bles os deui; Ae hyd fy mer Dy elfen der A dreiddio nes dadebru Y bywyd brau, Sydd nawr fel clai, A'i bibau wedi rhÐwi; Fy nhrwyn sydd goch, A glas pob boch,- Ochneidiaf bentigily' Ac yn ei ddydd Pa syndod sydd I'r Derwydd Haul addoli 1 Yn fyw does dim Ond f'awen chwim. Mae'n gyflym yn Uwytrewi; 0! tyred wres Yn nes, yn nes, Na fydd ddiles,—clyw'm gweddi, A chanaf gan 0 glod i dan, Ac arni ran gwrid gochni, A phoethder Haf,— Os hynny gaf, Ni pheidiaf a'i glodfori. 8/2/19.
I I. Newyddion.
I I Newyddion. Glais.-N os Fercher, wythnos i'r di- weddaf, bu cwrdd ym Mheniel i an- rhegu Mrs. Jones, Bank House, ar ei hymadawiad i'r Pyl. Bu Mrs. Jones yn aelod disglaer ac ni foddlonai'r eglwys iddi fynd heb gydnabod hynny. Cy- flwynwyd iddi wydrau a swm o arian. Cymerwyd rhan mewn adrodd a chanu gan Jenny Phillips, D. J. Morgan, Louis Harding, Q. Afan Jones, R. M. Gwilym, a phennill gan W.J.R. Llywyddwyd gan y gweinidog. Da gennym weled W. J. Roderick yn gwella cystal ar ol ei waeledd. Y mae adref am dro o'r llynges. Eglwys Hermon, YsiradfeHte. Nos Fercher, Chwefror 5, cafwyd cyfarfod i anrhegu Mrs. M. Llewelyn (Miss Powell gynt), Penfathor. Bu'r chwaer yn canu'r organ yn Hermon am dros bum mlynedd, a phan aeth Miss Powell yn Mrs. Meredith. Llewelyn, Penfathor, gwelodd yr eglwys gyfle i gydnabod ei gwasanaeth. Dewiswyd tair chwaer ieuanc i baratoi yr anrheg, sef Miss M. E. Evans, Penddaufryn; Miss Gwen Parry, Bronwydd, a Miss Phoebe Whalley Jones, Pant Llwyn. Er bod y tywydd yn anffafriol daeth cynhulliad da ynghyd. Llywyddwyd gan y gwein- idog, y Parch. W. Washington Jones. Cafwyd deuawd gan Miss P. W. Jones a Mr. A. R. Jones; adroddiad gan Miss Nancy Parry; anerchiad gan Councillor John Harries, Penllwyneinion. Cyfeir- iodd ef at y rhai oedd wedi bod yn ar- wain y canu cynulleidfaol yn Hermon, ac fel yr oedd caniadaeth y cysegr wedi gwella trwy help yr offeryn. Y cyntaf i ganu yr offeryn oedd Mrs. Harries, ac wedi i Miss Powell ddyfod gyda'i rhieni Bentretrosgoed, rhoddodd Mrs Harries ei lie iddi er mwyn cefnogi yr ieuanc. Cafwyd deuawd gan Miss Webber a Mrs. Washington Jones; dadl gan Miss M. M. Morgan a Miss G. Parry; adroddiadau gan Miss Ada Benbow a Mr. David Lewis, Eckley, a Mr. Thomas Benbow. Anerchiad gan Councillor Price, Cefnucheldre. Cafwyd unawd gan Mr. J. P. Jones, Wernbleiddiau adroddiad gan Mr. A. R. Jones; deu- awd gan Miss E. M. Powell a Miss Nancy Parry. Cyflwynwyd silver tea service a silver mounted oak tray, gyda'r geiriau hyn arnynt: Presented by Hermon Church to Mrs. M. Llew- elyn for faithful service at the organ. Cyfhvynodd Mrs. Washington Jones y rhodd i Mrs Llewelyn yn ei dull lled- nais ei hun. Cafwyd cyfarfod dymun- ol. a hyderwn y bydd yn symbyliad i ieuenctyd yr eglwys i fod yn ymdrech- gar.—J.R.A.
.HANNER MUNUD. -1-.-I
HANNER MUNUD. -1 I Yr wyf yn prynu danneckf gftsod, 6c. y (htnt wedi ei sicrhau ar V uloanite, 2s. ar Arian, 3s. ar Atu, ac 8s. ar Platinum. Dychwelir y daiinedd yn ddioed oni fydd y cynnyg yn foddhiiol, neu ysgnfennweh am lyfryn rhad a rydd i chwi syniad teg beth vw gwerth eich rhai chwi, gwna fe wna. E. Lewis, 29 London Street, Soutbport Lanes. I
Twyn-y-Gwcw, Mynydd-CaerlliJi
Twyn-y-Gwcw, Mynydd CaerlliJi GAN HERBERT KENYYN. Wyned yw'r eira guddia ystlysau yr hen fynydd yma, nes edrych ohono fel rhyw bendefig hen, a bys y blyn- yddoedd wedi ariannu ei wallt. Llith- ia awel sy'n llwythog ag ochenaid oer y dwyrain dros ei redyn crin, a'i lwybrau ydynt fel gwydr gloew gan y stania a orwedd arnynt. Gan lymed yr hin yr wyf finnau yn gorfod aros wrth fy mhentan fel rhyw feudwy unig. Ond nid unig chwaith. Caf gwmni Ilyfr dyddorus. Dyddorwyd fi yn fawr wrth wrando ar Emrys yn adrodd mor goeth Atgofion ei Weinidogaeth," a rywsut ar hyd llwybrau pell mebyd, a thaflodd rhyw ysbryd prudd ei hud felancolaidd dros fy meddwl. Rhodiodd hiracth i gyn- teddau fy myfyrdod, a daeth atgofion melys-chwerw i gadw cwmni i mi. Hwyrach mae prif achlysur fy mhrudd-der oedd ymawadiad fy hen gyfaill John Dafis, Ty Capel Wat- ford, a'r fuchedd hon, a mawr fu rhuthr hen atgofion pan wybun farw fy hen ffrynd. Trist oedd fy ysbryd wrth feddwl am y llu o'm cyfoedion a groesasent y clawdd ffin olaf tra bum ar grwydr yn y Gorllewin pell, a phan ddes yn ol i'r hen fynydd, ces dde- hongliad newydd ar gwpled trist Goronwy Cyfaill neu ddau a'm cofiant Prin ddau lle'r oedd gynau gant, a dyma John Dafis wedi mynd I MAB Y MYNYDD oedd John. Yma a ganwyd ef, yma y treuliodd flynyddoedd ei oes, ac wrth ei odre ym mynwent Capel Mar- tin yr huna hyd fore'r frawdle. Gwelsai ef oddiar y llechwedd yma "wareiddiad" Phi'istaidd yn ymwthio drwy enau du y twnel, canys cofiai am ymdaith gyntaf y tren. Gwelsai y gwastatir lie tyfai y gollen a'r wernen yn eu tawelwch gwledig ar gloddiau y meusydd yn cae! ei hacru gan simnei- au strydoedd. Gwelsai y Saesneg yn goresgyn y fro gan ddiorseddu yr hen Gymraeg, ac i John, nid oedd afhvydd mwy na hyn, oblegid mab y mynydd Cymreig oedd ef, a'r Gymraeg yn unig a fedrai ddweyd cyfrinachau dyfnauei fron. Ei bryd oedd dywyll fel Iberiad y dyddiau bore. U nlli N ag eirin duon drain oedd ei lygad, a'i gudynnau gwallt, yn ddiau, a droch- wyd gan y duwiau yng nghallawr y nos. Daled oedd ei gorff gosgeiddig union-syth fel y gwypai pawb -nai mab y mynydd ydoedd hwn. Carai gapel ac emyn a phregethwr a fedrai gamp yr hwyl Gymreig. Efe oedd un o golofnau Cymreig hen gapel y Wat- ford, a bu'n ffyddlon fel diacon am flynyddau hir, Cwsg yn dawel, gyfaiil cu. Melys i mi yw clywed PLANT YN CANU, I a'r noson o'r blaen es hyd ym Methel i glywed plant yr cglwys hono yn ymarfer mewn adrodd a chan. Ni fum yn yr addoldy hwn erioed o'r blaen, ond eglur yw ei fod yn llety cynnes i bererinion blin. C6s fwyn- had wrth wrando ar y plant ac adeil- adaeth hefyd pan roddodd gwraig brydwQddol o'r enw Mrs. John ei beirniadaeth. Bendithwyd hi a phar- abl ffrydlifol, ac a medrusrwydd digymhar i fantoli; ond bob! Bethel, gofalwch fod lie yn y llety i'r Gym- raeg bob amser. Gyda Haw a yw Mrs. John yn derbyn y DARIAN? Carwn iddi gofio, nad oes Iwybr gwell i sicr- hau meistrolaeth Iwyr ar y Gymraeg, na chymdeithasu yn fennyddiol a'i llenyddiaeth. Ces noson wrth fy modd yng nghapel y Twyn pan ymwelodd LLEW TEG ID a chymdeithas y Cymreigyddion. Ni welswn y Llew erioed o'r blaen. Gwr o daldra canolig yw, gyda phen llun- iaidd, osgo ysgolfeistr, wyneb caredig agored, a'i galon yn eirias gan zel dros Gymru a Chymraeg. Gresyn na chai pob cymdcithas Gymreig glywed y llais ariannaidd yn cyhoeddi ei ncges. Gahvai ar Gymry i ymado a'u llwfrdra, ac ymffostio yn eu gwaed, eu gwlad a'u hiaith, gan roddi ym- geledd serchus i'r Gymraeg, ar vr ael- wyd. Credwn, yn ol a glywswn, fod Dewi Aur, Abertridwr, yn weledydd clir, ond amlwg yw fod ei olygon yn nallu. Dywedodd y noson hon, mae'r ysgol ddyddiol yw meithrinfa oreu'r -1 I DARLUNIAU CR WT YR OFFIS. I Cadeirydd Mr. Abraham Jenkins, Gymraeg. Pa fodd y tywydlodd yr Aur! A yw Dewi Aur yn mynd yn Ddewi Gopr? Gwybydd Gymreigydd glew mae y Gymraeg o ddysgir ar yr aelwyd a erys yn gynhysgaeth ddiogel pan fo'r ysgol yn hepian a 'snobbery' coleg yn gwneud mince-meat o'r hen iaith. Fel y deuwn allan o'r cyfarfod clywn un ferch yh gofyn i'r Hall- "And how did you like the Llew to- night?" "Oh! he was grand." Yn union fel pe baent wedi bod mewn menagerie. Chwi rianedd beirdd, a a gwrid blodau y grug ar eich grudd- iau, o gloewder nant y mynydd yn eich llygaid, siaredwch Gymraeg, a pheidiweh mcddwl ei bod yn. fwy "swanky" i siarad Saesneg. Cadeir- iwyd drwy ddarlith Llew Tegid gan y j B.A., a dywedodd Tafwys, Tudwal a Llwchwr eiriau pwrpasoriawn. Nid oes odid neb o aelodau v Gym- deithas a ragora mewn serch at Gymru, gymraeg ac Eisteddfod a Mair Taliesin, priod y Cymro twym- galon Mr. Joseph Morgan, Heol Martin. Mae'n debyg i Mair wneud I SWPER MAW, R i ddathlu ymweliad y Llew a'r lie. Bu Mr. a Mrs. A. Jenkins, a Mr a Mrs. J. N. Jones, Celyn, Tafwys a Prycc Evans yno, a chawsant noson ddedwydd dros ben. Hyderaf y g.v na Mair osod fy enw innau ar ei rhestr v tro nesaf. Rhoddais fy swllt fe! arfer yn y blwch casglu-drwy chwech las v tro hwn-ond ni chynhygiwyd tocyn i mi.
Advertising
I want my money where I can get at it'  all like to feel that we  can lay hands on money if we want it. One reason why War Savings Certificates are so popular is that they are cashable on demand. You can cash one or all of your War Savings Certificates at any time by giving two or three days' notice to the Post Office. The wise man, however, will not part with his Certificates unless he is obliged to do so, for in five years the Government will pay a full £ 1 for every 15/6 invested in this way. Then put it into WARt SAVINGS CERTIFICATES You can buy them through any Bank, Post Office, Association, or Official Agent. 1llUI.' 3. SOME TOBACCO! 'Old Bridge Mimture. There is no other tobacco like "Old Bridge." It is the finest mixture made. It is made from the finest tobaccos grown. It is not expensive, because 2 ozs. of Old Bridge go as far as 3 ozs of common sorts. It is dry, therefore when you buy "Old Bridge you buy tobacco, not water. When you smoke you do so for pleasure, not for economy. Buy Old Bridge and enjoy your pipe. 1/2 per oz. packet, 4/8 per jib. tin, 9/4 per Alb. tin. Sold by Tobacconists everywhere. Manufactured by Percy E. Cadle & Co., Tobacco Manufacturers, CARDIFF.