Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

PERSONOL.

News
Cite
Share

PERSONOL. Mae y Parch. John Williams, Caergybi, yn bwriadu rhoi i fyny ofal eglwys Hyfrydle. IT Mae'r Bedyddwyr a'r Methodistiaid yn newid pulpudau yn Llanrwst,—prawf ychwan- egol nad yw Llanrwst yn rhan o Gymru. II Y Parch. T. Timothy Diavies yw hugail cyntaf eglwysi Bwlchygrocs a Pontgarreg. y t, Bu cyfarfod ei sefydliad yr wythnos ddiwedd- at ir Mae y Parch. W. R. Williams wedi rhoi i fyny ofal eglwysi Carnedd'au a Creiglwyn er mwyn ymg-ymeryd a gofal eglwys y Dref- newydd ym mis Mawrth. IT Dywedir fod yr Orsedd yn son am roi type- writer yn anrheg i Eifionydd. Mae llawer yn hyderu nad sibrwd disail ydyw y son, obleg-id y mae gwir angen am dano. IT Yng Nghyfarfod Cyngor Elglwysi Rhydd Caerdydd a'r dosbarth, pasiwyd cynhygiad Mr. D. Lleufer Thomas ohlaid sefydlii cadeir- iau diwinyddor yng Ngholegau Cymru. IT Nyrs ydyw Miss Cooper, y ferch ieuanc sydd wedi ennlll calon Syr W. James Thomas, y miliwnydd adnabyddus o'r Rhondda. Yn Hastings y ganwyd hi, a daeth yn Assistant Matron i Ysbyty Caerdydd. u Mae y Parch. Tyler Davies, bugail eglwys Clapham Junction, wedi cael dau fis o seib- iant, ac yn eu treulio, yn awyrgylch ei hen gartref yng Ngheredigion. Gobeitrhio y caiff adferiad llwyr yn fuan iawn. t Yn ei ddarlith ar le Gwyddoniaeth ym mywyd y wlad, sylwodd Principal Griffiths, Caerdydd, fod ein holl gyfundrefn addysg-ol yn seiliedig ar astudiaeth o waith dyn ac nid o waith y Creawdwr. ir Gwr heb derfyinau i'w anturiaethau ydyw Arglwydd Rhondda. Adnabyddid ef fel per- chennog glofeydd, rheilffyrdd, a llongau. Yn ddiweddar y mae wedi troi ei sylw at newydd- iaduron, sanatogen, formaimint, a guano. IF Parhau i gynhyddu y mae'r alwad am1 breg- ethwyr, ac y mae hynny yn rhoi symbyliad i ami un oedd wedi cilio o'r gwaith. Mae Proff. Edward Edwards, Aberystwyth, wedi ail-gychwyn yn y Tabernacl y Sul o'r blaen. IF Ar awgrym Mr. R. J. Thomas, cyn-uchel siry;dd Mon, agorwyd trysorfa yng Nghaer- gybi er cynorthwyo teuluoedd y rhai gollasant eu hywyd drwy suddiad yl Cbnnemara.' Mae Mr. a Mrs,. Thomas wedi cyfrannu1 ^500 at yr amcan. IF Mae gohebydd yn "Seren Cymru" yn cwyno fod cerflun Dr. Lewis Edwards allan o le yn Neuadd Ceiriog yng Nglynceiriog. "It disturbfs, the atmosphere," ebai'r gohebydd. Dr. Edwards yn aflonyddu ar awyrgylch y cwmni'! Avel, wel. Dywed y Drych fod y* Parch. Peter Hughes Griffiths yn debyg o fyned i Patagonia i ofalu am eglwys y Methodistiaid, Bryn Gwyn, hen eglwys y Parch. R. Jones, a'i fab y Parch. R. J Jones, yn, awr O' T'wrgwyn, Bangor. Nid yw papurau diweddaf y Wladfa yn cadarnhau y stori hOon. # Newydd i lawer oedd yr hyn a ddywedai Dr. C. H. Herford' yn y Times, mai gadael Ger- mani oherwyddei wrthwynebiad i syniadau P'rwssia a wnaeth Dr. Eithe yn 1872. Ni byddai yn syn gennyf glywed: mai ei fwriad ydoedd myned yn bregethwr gyda'r* Method- istiaid 1F Mae dewis,i,ad gweinidog City Temple, Llundain, yn fater ag y cymer pawb ran ynddo, ac felly dyddorol yW sylwi fod Dr. J. Fort Newton wedi gwrthod yr alwad. Mae'r newydd wedi codi y doctor yn syniadau am- ryw o'i gyfeillion, ac yn eu plith y Parch.. Eynon Davies, Mae cryn ddisgwyliad am restrau yr ynadon sydd wedi eu hanfon i fyny i'r Arglwydd Ganghellydd1. Clywais fod amryw siroedd yn disgwyl am ychwanegiad pur sylweddol yn rhestr eu hynadon heddwch cyn dechreu'r flwyddyn. IF Rhoddodd y Parch. Hbwell Williams i fyny fugeiliaeth eglwys y Bedyddwyr, Hephzibah, Honeyboirough, ger Neyland. Trigain punt y flwyddyn oedd cyflog Mr. Williams. Cred- ai y dylasai gael rhagor, a rhoddodd y cais o flaen y swyddogion.. Ond nts gallai yr eg- lwys ganiatau y codiad, ac felly ymddiswydd- odd y bugail. Pe byddai rhagor o siarad plaen fel hyn, deuai pethau yn well. IF Hysbysir fod y Parch. J. T. Job, wedi deu- naw imlynedd o wasanaeth ffyddlawn yn y C'arneddi, Bethesda, newydd gyflwyno ei ym- ddiswyddiad fel gweinidog yr eglwys honno. Nid oes sicrwydd eto- ymha Ie yr yefydla Mr. Job-pa un ai yn y Gogledd ai ynteu yn y De. Y mae d'wy alwad eisoes ar ei law yn disgwyl am atebiad ganddoAbergwaun a, Thredeg'ar. Ond nid yw wedi penderfynu hyd yn hyn. Llongyfarchwn y Parch. W. Morgan Wil- liams, Neyand, ar ei benodiad yn Llywydd Cyfarfod Misol Sir Benfro (y rhan Saesneg) am y flwyddyn nesaf. Bu Mr. Williams yn Ysgrifennydd medrus.am dair blynedd. Da gwneuthur o honom hyn iddo, sef ei ddyrchafu o sedd yr Ysgrifennydd; i sedd y Llywydd. Y mae Mr. Williams yn feddyliwr cryf, yn weith- iwr difefl, ac yn gyfaill pur. Pob llwydd iddo yn v dyfodol. IF Cyfarfyddiad dyddorol oedd hwnnw yn eg- lwys Tanygroes, De Aberteifi pwy Sul, pan y pregethid yno gan y Parch. Dan Jones, Tre- garon. Yn eglwys TanygroeSl y mae enillwyr y Medalau Aur yn Arholliad Sirol y Cyfarfod Misol am 1914 a 1916,—sef Mr. Thomas, Is- lwyn., a Mis's C. J. Jones; a chan mai Mr. Dan Jones oedd enillydd yr un Fedal yn 1915, yr oedd cyfarfyddiad y Sul, a hynny am y tro cyntaf, yn un dyddorol a hapus. Cawd yno gyfuniad o athrawes, blaenor, a phregethwr, yn.esiamplau o ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Un o gymeriadau mwyaf adnabyddus a dyddorol Aberystwyth ydyw Mr. C. M. Williams, y maer newydd. Eife yw y mwyaf anfarwol o wyr cyhoeddus y wlad'. Pa sawl gwaith y bu mewn ysgarmesoedd ? Pa sawl gwaith y buwyd yn cynllwynio i roi pen ar ei fywyd cyhoeddus ? Ac eto, drwy'r cyfan, fe ddeuai yr anfarwol C.M. i fyny i'r wyneb, wedi i amryw o'r cynllwynwyr suddo, i'r dwfn. Mae yn awr am y bedwaredd waith yn faer y dref,—anrhydedd na ddisgynodid i ran. neb o'r blaen yn hanes y fwrdeisdref. 1F Gwr a llawer iawn o yni a medr yn perthyn iddo oedd Mr. W. S. Williams, y masnachwr adnabyddus 01 Landudno. Brodor o Ruthyn yd.oedd,-Il.e nodedig ar gyfrif y masnachwyr llwyddiannus a gylchwynoda eu gyrfa yno. Biu am dymor yn Llundain, ac yna, dychwelodd i Lanrwst, a datblygodd fasnach eang a llwyddiannus. Yr oedd yn aelod yn eglwys Rehoboth, Llandudno, ac yn athraw yn yr Y sgol Sul. Bu farw yn 68 mlwydd oed, gan adael gweddw, pedwar o fechgyn, ac un ferch. 16 Rhydd y Christian Commonwealth ddar- lun rhagorol o Dr. Timothy Richard, y cen- hadwr Chingai^a, ynglyn ag ymgom a gafodd gohebydd y papur gydag ef. Mae'r golygydd wedi darganfod mai pob-I gadarn, yw y Cymry,gyda Mr. Lloyd George yn rheoli Prydain, Mr. Charles E. Hughes yn America, a Mr. W. M. Hughes yn Awstralia. A thybia fod Dr. Timothy Richard cystal a neb o honynt. Mewn 'gwirioned'd, credaf fod y cenhadwr mewn gwell cyfle i ddylanwadu er daioni ar ei gyd-ddynion na'r un Cymro yn y byd. Eife yw cynghorwr crefyddol Llywodr- aeth China, a rhoddwyd iddo y teitl o Man- darin yn y dosbarth blaenaf. Ac y mae'r teitl cystal a'r goreu1 y medr y Llywodraeth Brydeinig ei roi. Llawenydd i'r Cyfundeb yw gweled Mr. John Owens, Y.H., wedi ei benodi gydag un- frydedd hollol yn sirydd Caerlleon at y flwy- ddyn nesaf. Dywed y 'Chronicle' fod Mr. Owens yn un o aelodau galluocaf y Cyngor, yn ddadleuwr galluog, ac yn ddyn craff o fus- nes. Fel cynghorwr ariannol Major David Davies, a'r Misses Davies, mae ganddo ran flaenllaw gyda materion ariannol o'r pwysig- rwydd mwyaf i'r holl wI ad. Dywedir mai y mater diweddaf sydd ganddo, dan. sylw yw cynllun er cynorthwyo milwyr clwyfedig. Mae ei gydymdieimlad yn ddwfn a phob symudiad da yn a thuallan i'r Cyfundeb ag y mae yn flaenor mor ffyddlawn ynddo. IF Mae anrhydedd haeddiannol wedi ei dodi gan Esgob Llanelwy ar y Parch. John Fisher, B.A., B.D., drwy ei benodi yn ganon mygedol yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, swydd a ddaeth yn wag drwy farwolaeth y diweddar Ganon Owen, Bodelwyddan. Brodor or Sir Gaerfyrddin yw Canon Fisher, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, lie y graddiodd yn B.A. yn 1884, ac gn B.D. yn 1891. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1886, ac yn offeiriad yn 1887, gany diweddar Esgob Hughes,. Llanelwy. Bu yn gurad yn Pont- bleiddyn, Llanllwchaiarn, a Rhuthyn, ac yn 1901 penodwyd ef i ficeriaeth Cefn, Llanelwy, ac yn llyfrgellydd Eglwys Gadeiriol Llanelwy yr un flwyddyn. Mae Canon Fisher yn ysgol- haig uwchraddol, ac wedi dwyn allan lyfrau safonol a gwerthfawr. Bu yn cydweithredu a'r Parch. S. Baring Gould yn nygiad allan bedair cyfrol o The Lives of British Saints,' ac y mae yn dwyn cysylltiad aigos ag amryw gymdeithasau henafiaethol, etc. IF Dyma fel y terfyna Gwili, B.A., ei erthygl- au yn Seren Cymru ar BrifysgOol Cymru a Diwinyddiaeth :—; Newidir cyfansoddiad y colegau enwadol, a diiflanna'r pwysigrwydd. Gwneir hyn, pa gynllun bynnag a ddewisir i apwyntio athrawon Diwin- yddiaeth y Brifysgol5. Tlybier bod holl athrawon dau goleg enwadol Bangor, er enghraifft, yn ■ffurfio Ysgol Ddiwinyddiaeth yn y Coleg Cenedl- aethol. Ni byddai, wed'yn, angen am fwy nag un athro yng Ngholeg y Bedyddwyr i ddysgu eg- wyddorion gwahaniaethol yr enwad, a rhoi hy- ,fforddiant ar bregethu, etc. A'r un modd, pe dewisid pedwar athro arall gan y Brif Ysgol, ni byddai alw am fwy nag un athro yng Ngholeg y Bedyddwyr, oblegid, o drefnu i'r boll fyfyrwyr fanteisio ar addysg y Brif Ysgol, ni adewid ond ychydig amser, bob wythnos, at waith y coleg enwadol, fel y cyfryw. D'rachefn pe ymddiriedid i'r Brif Ysgol ddewis iddi ei hun ei hathrawon Diwiniyddiaeth, hyhi, yn ol pob synwyr a tbeg- wch, fyddai raid eu cydnabod am eu gwasanaeth o hynny allan. Collai'r Colegau enwadol—ai er gwell, ai er gwaeth, barned y darllenydd-eu pwysigrwydd yn bur lwyr, hyd yn oed pe dych- welai cyfran o'r myfyrwyr iddynt am flwyddyn neu ddwy, cyn gortffen a'u tymoi addysg. Di- flannai eu bri yn raddol, a chollai'r eglwysi eu dyddordeb ynddynt. A yw'r Bedyddwyr yn bar- od i hyn? A yw'renwladau eraill, er cymaint a ddywedir am undeb yr enwadau? Heb inni son iam anhawsterau eraill y bwriadem gyfeirio atynt, dyma rai o'r creigiau y rhaid mordwyo heiibio iddynt, i oisgoi Ilongddrylliad. Y mae'n teimlad ni'n bersonol yn gryf o blaid rhoddi i 'Ddiwin- yddiaeth ei lie dyladwy yn y Brif Ysgol, ond methwn yn deg a gweled llwybr clir i ddwyn hynny i ben. Bellach y mae'n colofnau'n rhydd i'rn harweiniwyr • draethu eu lien ar bob ochr i'r mater dyrus. IF Un o nodweddion arbenigol Mr. Lloyd George ydyw ei fod yn glynu wrth ffydd ei dadau. Yn eglwys Castle St. y nos o'r blaen, v cymerodd ran mewn cwrdd croesaw i'r gweini- dog newydd, y: -Parch. J. Nicholas o Dony- pandy. Efe o hyn allan fydd I ogweinidOog Lloyd George,' ac y mae hynny yn gryn gyfrifoldeb —fel y cyfeiriodd y gwr enwog mewn ffordd chwareus ei hun. Ymihlith pethau eraill cyffesodd ei fod yn aelod o,"r gymdeithas er ys 26 mlynedd, a, da oedd gennym ei weled heb gywilydd arddel yr achos di add urn ger- llaw Oxford Circus. Gynifer o'r dynion enwog yma fel Simon a Birrell ac Asquith svdd wedi troi cefn arnom. Nid wyf yn gofidio gymaint oblegid y golled i ni, ond yn bennaf am y golled fawr iddynt hwy. Mewn geiriau plaen, dirywiad crefyddol sydd wrth wraidd hyn oil. Rhyw oeri ynghanol hin- sawdd afiach byd ffasiynol y West End. Rhaid cael dyn oadarn, cryf, i wrthsefyll y brofedigaeth, ac y mae ein prif Gymrü yn batrwm yn y peth hwn fel mewn llawer o bethau eraill i Gymry Llundain. 1