Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

----.------"'--'"""--''-'---_---"-'-_r"-,.,,.…

News
Cite
Share

_r" Cymdeithasfa Connah's Quay, TACHWEDD 7, 8, 9. Llywydd: Parch. E, JAMES JONEiS, M.A., Rhyl. Ysgrifennydd Parch. R. R. WILLIAMS, M.A., Bala. DYDD LLTJN" Am 6 p.m, cyfarfu y Pwyllgor Trefniadol, ac am 7 p.m. yr ls-Bwyl-lgor D-irwestol. DYDD MAWRTH.' Am 9.30 a.m. cyfarfu y Cyfeisteddfod Ordeinio Am 10.30 a.m., y Pwyllgor Ariannol. Cenadwriaetbau. 0 Fon.—Yn ein Cyfarfod IVlisol a gynhaliwyd yn Llanddona, Medi 4, 1916, penderfynwyd hysbysu y Gymdeithasfa fod Mr. Edward Jones., Peihrbos, Llan- fech-ell, wedi cyflwyno- darn helaeth Or dir i Eglwysi Jerusalem a iLlanfechell, at adeiladu Ty Gweinido-g. -W. P. Owen, Ysg. 0 Ddyffryn Conwy.—Yn. y Cyfarfod Misol a gyn- haliwyd Hydref 18, 1916, yng Nghapel Saesneg Llan- dudno, penderfynwyd anfon y Cenadwriaethau a ganlyn i'r Gymdeithasfa I. Y Gomisiwn ynglyn a Phrifysgol Cymru.—(a) Yr ydym yn anghymeradwyo unrhyw ad-drefniad fyddo yn darostwng siafl-e ein Colegau Diwinyddol trwy wneud yn ambosibl i neb o'n myfyrwyr gael gradd Ddiwinyddol' ym Mhrif A'throfa Cymru heb breaenoli eu hunain yn Nosbarthiadau Diwinyddol y Colegau Cenedlaethol. (b) Dymunwn .alw sylw y Gymdeithasfa at y priodoldeb i ddod i gyd-ddeal'ltwr- iaeth a Chymdeithasfa y De, rhag i ni fel Cyfundeb ymddangos yn rhanedig o flaen y Ddirprwya'eth. 2. Ein. bod yn dymuno galw sylw y Gymdeithasfa at y gwahaniaeth yn safle ein myfyrwyr ni fe.1 Cyfun- deb gyda golwg ar y 'Military Service Act o'u cym- haru a myfyrwyr yr Enwadau Ymneilrltuol eraill yng Nghymru, a'n bod yn gofyn iddi gymryd mesurau i symud y gwahaniaeth hwn, a thrwy hynny roddi yr un hawliau a breintiau i'n myfyrwyr ni ag a fwyn- heir gan eraill.—H. C. Lewis, Ysg. 0 Ddyffryn Clwyd.—1. Yn y Cyfarfod Misol a* gynhaliwyd yn Nantglyn, Hydref 19, 1916, pender- fynwyd,—Ein bod yn cymell y Gymdeithasfa i ddwyn allan, drwy y Llyfrfa, lyfr neu gyfres, o lyfrau ar hanes y Cyfundeb, mewn ffurf hylaw, dyddoroi a rhad, er cyfarfod a'r angen a deimlir yn y cyfeiriad" hwn.—R. Roberts, Ysg. 0 Fflint.—GofiduS' gennym hysbysu am farwolaeth y Parch. J. M. !Humphreys, Hanley.-I. C. Roberts, Ysg. 0 Orllewin 'Meirionydd.-Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn 'Rehoboth, Corris, Hydref 9, 1916, ar gais y Parch. H. D. Jones, Ph.D., gynt o Benrhyn- deudraeth, pasiwyd i ofyn i'r Gymdeithasfa roddi iddo lythyr yn ei gyflwyno. i'n brodyr yn. yr America. —E. Trevor Evans, Ysg. 0 Henaduriaeth ilancashire, &c.-i. That we give a ,warm invitation to the Spring Quarterly Associa- tion, 1917, to be held at, Holywell. ii. That we as a Presbytery, after communicating with the various County Authorities, desire to calil the attention of the Association to the indefinite and inadequate character of the Biblical Instruction given, in our Elementary SchoolSl, and urge the Association to take such steps as may be deemed advisable to secure more effective contribution of such instruction.—E. L. Roberts, Secretary. AM 2 p.m., CYFARFOD CYNTAF Y GYMDEITH- ASFA. Dechreuwyd gan y Parch. R. Ernest Jones, Old- ham. Galw'r Enwau. Swyddogion y Gymdeithasfa.—Llywydd, Parch. Ellis James Jones, M.A. Ysgrifennydd, Parch. R. R. Williams, M.A. Cyn-Ysgrifennydd, Parch. John Owen, M.A. Trysorydd, Mr. 0. Robyns-Owen; Cyn-Ysgrifennydd Cyfarfod y .Blaenoriaid, Mr. John Owens, Y.H. Cyn-Lywyddion, Parchn. Daniel Rowlands, M.A., Owen Owens, John Prichard, John Williams, Bryn- T s;encyn, John Hughes, M.A., Edward Griffiths, Wm. Thomas, John Williams., Caergybi, John Owen, Elias Jones, Evan Davies, Mr. Edward Jones, Y.H. Aelodau Ychwanegol o Gyfeis,teddfod y Gymdeith- asfa.—Mri. Jonathan Davies., Y.H., J. E. Powell, __Y.H., William Venmore. Cynrychiolwyr.— Mon.-Parchn. T. Charles Wil- liams, M.A., Porthaethwy T. O. Jones, Tabernacl. Mri. W. Hughes-Jones, Y.H., Cemaes; John Owen, Benllech. ILleyn ac Eifionydd.—Parchn. G. Parry Hughes, I Morfa Nefyn Griffith Parry, Borth'. iMri. J. Roger Owen, Gam Abel Williams, Abersoch. Arfon.-Parohn. William Williams, Talysarn R. t W. Jones, M.A., G-erlan; R. 0. Hughes, Llanberis. t- Mri. S. Maurice Jones, Caernarfon; W. R. Jones, Bangor; William Williams, Hyfrydle, Taliysarn. ? Dyffryn Conwy.—-Parchn-. 0. Selwyn Jones, Deg- anwy; Thomas Williams, Capel Garmon. Mri. John Jones, Croesengan T. Rogers Jones, Y.H., Llanrwst; Dyffryn Clwyd.—Parchn. C. Ivor :Rowlands, Llan rhaiadr; R. Roberts, B.A., Ph.D., Caerwys. Mri. Joseph Davies, Clawddnewydd; John Evans, Llan- > sannan. .Fflint.—Parchn. William Williams, Helygain.; G. Parry Williams, M.A., yr Wyddgrug. 'Mri. Thomas Griffiths, Treffynnon; William Rogers, Coed-llai. Dwyrain Dinb-ych.—^Parchn. J. Lloyd, B.A., Cefn- mawr; W. J. Jones, Coedpoeth. Mri. J. Alban Jones, Wrexham Jonathan Williams, Pontoysylltau. "Dwyrain Meirionydd.—Parchn. Owen Ellis, Llan- uwchlyn; Robert Davies, Cwmtirmynach. Mri. John Roberts, Y.H., Pentrefoelas; Willi'am Williams, Llanfor. -> <- Gorllewin Mieirionydd.-Parch. Hugh Ellis, Maen- twrog. Mri. Ben. T. Jones, Y.H., Blaenau Ffestin- iog; H. G. Roberts, Croesor. Trefaldwyn -LTchaf.-Il,arclin. W. Roberts, Rhydy- felin Fred. J. Davies, Machynlleth. Mri. Thomas Jervis, Graig T. E. Evans, Capel Uchaf. Trefaldwyn Tsaf. I'archn. H. E. Griffiths, M.A., CroesoswaHt; Owen Jones, illanwddyn. 'Mri. Simor. Jones, Rhiwagor David Davies, Rhiwlas. Henaduriaeth Trefaldwyn, &c.-Piarch. G. White field Jones, Abermule. Mr. Evan Jor.es, Oswestry. Henaduriaeth Lancashire, &c.-Parchn. J. How,ell Evans, Orrell R. G. Jones, West Kirby. Mri. John Owens, Y.H., Caer; John Jones, YJH., Caer. Liveool.-Parchn. O. J. Owen, M.A, Rock Ferry; John Williams, Huyton Quarry. Mri. J. Bellis, Anfield Road John Williams, David Street. Man ch es,t er. -Parch. R. Ernest Jones, Oldham. Mr. Edward Jones, Altrincham. Llundain.—Parch. Francis Knoyle, B.A., Hammer- smith. Cymdeithasfa'r Gwanwyn. Gwahoddwyd y Gymdeithasfa nesaf i Dreffvnnon gan yr Egl^wys Saesneg; ond yn y Cyfeisteddfod barnwyd fod cynnal y Gymdeithasfa uwchlaw gallu yr eglwys. fechan hon. Cynhygiodd y Cyfeisteddfod fod yr Henaduriaeth i drefnu rhyw le arall, ond apeliodd y Parch. R. G. Jones, West Kirby, am i'r cais gael ei gani.atau, ac wedi peth siarad pasiwyd fod y Gymdeithasfa i'w chynnal yn Nhreffynnon, Ebrill 17, iS, 19, i9r7. Etholiadau. Am y Hywyddiaeth enwyd y Parohn. W. Williams, Talysarn, T. Gwynedd Roberts, Caeathxaw, Tohn Owen, M.A., Engedi, a Mr. John Owen, Y.H., Caer- li,eon. Dymunodd y Parch. W. Williams a Mr. John Owen, Caerlleon, am ga-el peidio myned i'r balot yr ail waith, a ohaniatawyd hynny. Dywedodd Mr. Owen yn chwareus, y byddai i'r Gymdeithasfa hwyrach ga-el cyfle eto i gynnyg yr anrhvdedd iddo. Pleidleisiwyd ar y Parchn. T. Gwynedd Roberts a John Owen, M.A., Engedi, a thrwy bleidlais ychwanegol y Llywydd, dewiswyd y Parch. T. Gwynedd Roberts. Ail-ddewiswyd y Parch. R. R. Williams, M.A., Bala, yn Ysgrifennydd am y t-air blynedd nes-af. Yn ArhOillwr ar Ymgeiswyr am y Weinidogaeth 1017—rg, yn lie y Parch. G. H. Havard, B.A., B.D.. dewiswyd y Parch. Thomas Hughes, B.A., y Rhiw. 'Mae Mr Havard wedi symud o gylch Cymdeithas- fa'r Gogl,edd. Materion Cymdeithasfa'r Gwanwyn. "Awdurdod y Reibl" (The Authority of the Bible). I agor y drafodaeth, y Parch. G. A. Edwafds, M.A., Croesoswallt. 'Duw pob gras" (God of all Grace). "Addysg Grefyddol." Rhodd o Dir, Diolchwyd yn gynnes i Mr. Edward Jones, P,en- rhos, Llanfechell, am. gyflwyno darn. helaeth o dir i eglwysi Jerusalem a Llanfechell at adeiladu Ty Gweinidog. Cenadwri o Ddyffryn Clwyd. Derbyniwyd cenadwri yn cymell y Gymdeithasfa i ddwyn allan, drwy y Llyfrfa lyfr neu gyfres o lyfr- ai-i ar hanes y Cyfundeb, mewn ffurf hyl'aw, dyddor- ola rhad, er cyfarfod a'r angen a deimlir yn y cyf- eiriad yna. Pasiwyd fod y genadwri i'w chyflwyno i'r Gymanfa Gyffredinol. Llythyr Cyflwyniad. Rhoddwyd l'lythyr clyflwvniad i'r Parch. (H. D. Tones, Ph.D., Igyllit o Benrhynd-eudraeth, yn ei gyf- lwyno i'r brodyr yn yr America ar gais IC.M. Gor- llewin Meirionydd. BLWYDD-DAL HEN WETNTDOGION. Y Llywydd a gyflwynodd adroddiad y Pwyllgor, a benodwyd i ystyrried y cwestiwn 0 ffurifio trysorfa er cynorthwyo gweinidogion, methedig ac oedrannus:- (I) Yn wyneb y rhoddion haelionus sydd wedi eu cyfrannu, ac yn unol a phenderfyniad Cymdeithasfa Bangor, i gasglu swm cyfatebol1 at y rhoddion hynny, ein bod yn ffurfio trysorfa i gvnorthwyo gweinidog- ion methiantus. ac oedrannus yng Ngogledd Cymru. (2) Fod y D-rysorfa hon i gael ei gwneud i fyny (a) 0' symiau a dan-ysgrifir i'w budd.soddi, y lloigau yn unig i'w defnyddio (b) Tanysgrifi-adau gan eglwysi neu bersonau unigol; (c) Cymunroddion. (3) Pod v cynorthwy o'r Drysorfa i'w roddi yn unig i weinidogion sydd wedi gwasanaethu'r Cyfun- deb drwy eu hoes fel bugeiliaid ar eglwysi, neu sydd wedi eu 'galw gan y Cyfundeb i swyddau sydd yn -galw am eu boll amser. (4) Fod y Drysorfa i'w harolygu a'i gweinyddu gan Gyfeisteddfod cynwysedig o lywydd, trysorydd, ac ysgrifennydd, a saith o fr-odyr a ben'Odir gan y Gymdeithasfa. (5.) Fod j'r Pwyllgor weinyddu'r Drysorfa yn ol teilyngdod yr achosion. ddaw gerbron. (6) Fod y gweinidogion a dderbyniant gynorthwv vn agored dderbyn cvhoeddiadau i bregethu, ond nid i dderbyn cyfloeau fel bugeiliaid ar eglwysi. (7) Fod i'r Cyfeisteddfod gyflwyno adroddiad o'i weithr-ediadau a chyflwr y Drysorfa yn flynyddol i'r Gymdeithasfa. !• Fo,l i'r Pwyllgor a benodwyd gan Gvmdeithas- fa !Bangor, yn Awst, barhau mewn swydd hyd nes y bo'r Drvsorfa wedi ei chwbl ffurfio. (q) Fod Mr. D. S. Davies, Dinbych, i gael ei ben- odi yn llywydd y Drysorfa, Mr. James Venmore, Lerpwl, yn drysorydd, a Mr. John Owens, Y.H., Caer, yn ysgrifennydd. (10) Fod i reolau y Drysorfa gael eu bystyrried 'u i hadolygu, os yn angenrheidiol, ymhen pum' mlyn- edd, a phob pum' mlyn-edd ar ol hynny. Mr. John Owens, Y.H., Caer, a gynhygiodd dder- byniad yr adroddiad. Dywedai fod cydymdeimlad cyffredinol wedi ei ddan-gos at yr aohos, a bod Syr Henry Lewis, Bangor, wedi danfon £100, a'r Parch. W. S. Jones, 'M.A., gynt o Ga,er, ^1,000. Ni bydd- ai un anhawster cael £ 6,000 i gyfarfod a'r swm addawedig. IMr. James. Venmore, Y.H., a gefnogodd. Yr Ysgrifennydd a ddywedodd fod y rhoddion can- lynol wedi eu haddaw:—Parch. W. S. Jones-, M.A., Aimwythig Ci,ooo; Mr. Edward Jones, Maes- mawr, £500; Mrs. John Owens, Caer, £ 500; Mr. John Owens, .,C,a,er, ;Cioo; '.Alri. Willliam a James Venmore, E250-; ;Mr. D. S. Davies, Dinbych, Miss Davies, Dinbych, ^250.; Mrs. Lloyd Jones, a'i Meibion, Ll'andinam, £ 210Mr. Robert Roberts, Trefnant, jEioo; Mr. J. E. M'orris, Lerpwl, ^roo Syr Jlenry Lewis, ;Cico; Y Barnwr Bryn Roberts, £ 2°; Mr. Tudor Hughes, Gwrecsam, £ 5.—Cvfan- swm, /3,38s- Pasiwyd y penderfyniad gyda chymeradwyaeth, a hysbyswyd f,od y Parch. Owen Owens, Llanelwy wedi addaw P-25 (cym.). Ctonfa Mr. David Jones Cymeradwywyd penodiad Mr. J. W. Roberts, YH., Bala, yn Yrnddiriedolwr ar Gronfa Mr. David Jones' fel olynydd i'r diweddar Barch. D. Charles Edwards, M.A. Pasio Arholiad. Hysbysodd y Parch. R. Aethwy Jones" M.A., iddo ef a'r Athro David Phillips arholi Mr. Percy G. Hughes, B.A., Penllech, fel ymgeisydd am ord-ein- iad, ac iddo basio yn anrhydeddus. Pasiwvd i Mr. Hughes gael ei ordeinio. Addysg Ysgrjrfcbyrol yn yr Ysgolion Elfenol. Derbyniwyd cenadwri o Henaduriaeth Caerlleon yn galw sylw at y dull, anfoddhaol o gyflwyno addysg ysigrythyrol yn yr ysgolion elfenol, ac yn dymuno ar 1 r Gymdeithasfa geisio si-crhau ar fod addysg mwy boddhaol yn cael ei chyfrannu. Cyflwynwyd y mater i sylw gan y Parch. A. Y\Telles-ley Jones;, B.A., 'B.D., yr hwn a dystiai mai ychydig iawn o addysg Feibl- aidd a gyfrennid, ac fod yr awyrgylch yn yr ysgolion eglwysig, lie y cawsai addysg Feiblaidd mwy o le, yn rhagori ar yr awyrgylch yn ysgolion y cyngor. Yr oedd hyn yn fater pwysig pan ystyrrid y lleihad mawr sydd yn aelodAu yr Ysgolion Sul. Ni chytunaiMr. W. R. Jones, Bangor, awgrym- iad fod yr addysg F-eiblaidd yn ein hysgolion yn anfoddhaol. Y peth mawr a phwysig oedd nid y ffeithiau hanesyddol a ddysgid, ond cymeriad y rhai gyfranent yr addysg, ac "felly- mae dylledsiwydd yr awdurdodau addysg yw bod yn ofalus fod yr athraw- on yn bob! o gymeriad, ac yn gyfryw y gellid edrych ,y Ily i fyny atynt. Hebl'aw hynny, ni ddylid ceisio tros- glwyddo cyfrifoldeb y rhieni ar ysgwyddau yr 'athrawon. Dywedodd y Parch. Aethwy Jones, M.A., nad oeddym fel Cyfundeb wedi bod yn bl'eidiol i gau y Beibl allan o'r ysgolion, tra yr oedd enwadau eraill yn ffafriol i hynny a chredai yntau fod y cyfrifol- deb mwyaf yn gorffwys ar y rhieni. Cynhygiwyd gan Mr. John Owen, Y.H., ac eiliwyd gan Mr. Jonathan Davies fod y mater yn cael ei gyf- lwyno i ystyriaeth Pwyllgor. Cymerwyd rhan bellach yn y drafodaeth gan y Parch. J. Williams, ac awgrymai fod sylw pellach ar y mater yn y Sas.- iwn nes-af; hefyd gan Mr. J. E. Powell, Gwrecsam. Pasiwyd cynhygiad IMr. Owen gan dderbyn awgrym- iad y Parch. J. Williams. Efrydwyr a'r Fyddin. Derbyniwyd cenadwri o Ddyffryn Conwy, yn galw sylw y Gymdeithasfa at y gwahaniaeth yn safle ein myfyrwyr fel Cyfundeb gyda golwg ar y Military 'Service Act o'u cymharu a myfyrwyr yr enwadau Ymneilltuol eraill yng Nghymru. Eglurwyd -y gen- adwri gan y Parch. Thomas Williams, Capel Gar- mon. Dywedodd y Llywydd fod penderfyniad wedi ei dderbyn oddiwrth bwyllgorau Cenhadaeth y Morwyr a Pwyllgor Coleg y Bala yn galw sylw at y gwahan- iaeth rhwng safle efrydwyr y Methodistiaid ac en- wadau eraill yn y Rh-eolau Milwrot. Yr oedd, hefyd, ohebiaeth wedi bod rhyngddynt fel pwyllgor a Mr. Herbert Lewis, A.S., yr hwn a ddywedai nad oedd gwahaniaeth yn bod o gwbl rhwng yr enwadau, ac na chaniateid eithriad ond i efrydwyr ar eu blwyddyn otaf. Mewn rhai enwadau gallai y flwyddyn gyntaf neu'r ail fod yn flwyddyn. olaf, ond nid felly gyda'r Methodistiaid, a hyn yw'r achos o'r gwahaniaeth y galwyd sylw ato. Y Parch. D. Davies, Cbnwy, a ddywedai fod rhe-olau diweddarach na'r rhai y cyfeiriai Mr. Herbert Lewis atynt, wedi eu cyhoeddi, ac yn ol y rhai hynny yr oedd efrydwyr diwinyddol yr An- nibynwyr a'r Bedyddwyr, er iddynt fod yn y colegau cenedlaethol, yn rhydd oddiwrth alwadau milwrol. Paluun, yr oedd yn rhaid gwneud y fath wahaniaeth a hyn rhyngddynt ag efrydwyr y Methodistiaid. Achlysurwyd yr ymdrafodaeth bresennol gan achos efrydydd Methodistaidd oedd ef y dechreu yn wrth- wynebydd cydwybodol, ac ar y cyfrif hwnnw ded- frydwyd ef i ddwy flynedd o garchar gyda llafur caled, Pe buas-ai hwnnw yn aelod o ryw enwad arall buasai yn rhydd oddiwrth afaelion milwriaeth. Yr oedd y cyfaill hwnnw yn awr allan o garchar, ond yn cael ei igadw mewn gwersyll yn Warwick. Y Parch. E. O. Davies, B.'Sc., Llandudno, a ddy- wedai nad oedd eglurhad y Llywydd yn un boddha- 01. Cafodd ef ei hysbysu fis yn ol nad oedd dim rheolau diweddarach nag a adnabyddid fel rlpf 1096 wedi eu oyhoeddi gan y Swyddfa Ryfel, ac yn y rhai hynny nid oedd son am y Methodistiaid Calfinaidd o gwbl, er fod enwadau, megis yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Presbyteriaid, yn cael eu crybwyll.