Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

----NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Cwestiwn y dydd ymhlith arweinwyr Ym- neilltuwyr Cymru ydyw d'ylfodol Addysg y Weinidogaeth. Ac y maent wedi ymrannu yn ddwy blaid. Mae un blaid yn credu mai bendith fyddai cael cadeiriau diwinyddol yn y Colegau Cenedlaethol, a'r Hall yn d'adleu yn wresog mai, camgymeriad dirfawr fyddai hynny. Amhosibl roi rheswm d'ros y gwa- hatniaeth amlwgi mewn barn ymhlith pob dos- barth, ymhob enwad. Nid yw'r prifathrawon, na'r is-athrawon, 'yr hen profiadol na'r ieuanc dysgedig, yn cytuno a'u gilydd, ac,yn sydyn mae'r wlad dlrwyddi yn rhanedig ar gwestiwn sydd o'r pwys mwyaf i ddyfodol Crefydd ac Anghydffurfiaeth. -+- -+- -+- Gyda'r Methodistiaid, fel gyda phob enwad arall, mae dwy farn, nid yn unig rhwng Cym- deithasfa'r De, dan arweiniad Principal Prys, a Chymdeithaisfa'r Gogledd, dan arweiniad y Pardh. John Willi,ams.mae, hefyd, wahan- iaeth barn ymhob Cyfarfod Misol. Profwyd, gyda hyn fel gyda chwestiynau eraill, nad doeth a diogel yw pasio penderfyniadau heb addysgu a ffurfio barn gyhoedd'us yn gyntaf. Yn Llanidloes cariodd un adran, y d'ydd, heb i'r cwestiwn fod o gwbl o flaen yr enwad, a gofalwyd nad oedd neb yn cynrychioli yr ochr arall yn aelod ar y Pwyllgor fu yn ystyried yr adhois, ac yn paratoi adroddiad i Gymdeifhas- fa Bangor. Gwnaeth yr Annibynwyr yn dbyg mewn rhanbarth o'r De. A"r canlyn- iad yw dadleu brwd wedi, datgan barn. -+- -+- -+- Yr Annibynwyr sydd wedi bod' yn fwyaf blaenllaw yn ddadl, ac ymdrechaf osod 01 flaen eich darllenwyr, mewn gwedd gyffredinol, olygiadau dau brifathro o'u plith hwy ar y cwestiwn,—y Prifatbro Walter J. Eivans, M.A., o Goleg Caerfyrddin, a'r Prifathro T. Rees, M.A., o Goleg Bala-Bangor. Y Prif- athro Eivans yw Cadeirydd Bwrdd Diwinydd- ol Cymru, yr hyn sydd yn brawf o'i safle uchel ym mywyd addysgol Cymru, er nad yw yn ysgrifennu yn swyddogol. Mae Principal Rees, hefyd, yn sefyll lawn mor uchel ymhob cysylltiad. -+- -+- -+- Eglura Principal Evans, mewn adroddiad o'i olygiadau, fod y mudiad presennol wedi ei gychwyn gyda'r amcan 0 11ewid siarters Colegau Cymru fel ag y gallont sefydlu cadeiriau mewn diwinyddiaeth, a pharatoi efrydwyr i raddio mewn diwinyddiaeth. Dau reswm a roddir dros hyn -Y dylai y Colegau gyfrannu add'ysg ar gyfer pob gradd a roddir yn y Blrifysgoil, ac y dylai y Cblegau Diwin- yddol gael eu rhyddhau oddiwrth y gwaith o baratoi ymgeiswyr am raddau'r Brifysgol, er defnyddio eu hadnoddau i bwrpas arall. Sylwer fod Principal Evans yn golygu ybydd y cyfnewidiad a gynhygir yn creu ehwildroad hollbl yng ngwaith Colegau enwadol Cymru. Mae y Bwrdd Diiwinyddol, yn cynnwys cyn- rychiolwyr holl Golegau Cymru, wedi pasio drwy fwyafrif cryf o blaid y cyfnewidiad. Er nad yw y Bwrdd1 wedi. ymrwymo' i'r oil o'r manylion, eto mae wedi cymeradwyo sefydl- iad o leiaf bedair o gadeiriau ymhob un o'r Colegau, i gymryd Giroeg Hellenistaidd, Hanesyddiaeth Eglwysig, Athroniaeth Gref- yddol, a Hanes Cefyddau. -+- Dyna'r cynllun. Pa beth yw',gwrthwyneb- iad Principal Eivans iddo? Rhanna ef dan. dri phennawd,—yr anhawsterau ariannol, y perygl i'r Birifysgol, a'r perygl i'r Eglwysi. Crolyga y draul ychwanegol, yn ol £ 350 y gadair, ^42,000, i'w gyfadod 0"r trethi ac o'r Trysorlys. Dyna gydhwyn helynt. -+- -+- -+- Ond nid dyna'r prif wrthwynebiad. Cys- ylltiad Grefydd a'r Wladwriaeth yw y pwnc mawr o egwyddor. Mae'n amhosibl cael undeb rhyngddynt heb niweidio y ddau. Addefa fod gwahaniaetlh rhwng Crefyddl a Diwinyddiaeth, ac y gall fod dyn yn ddi- weinydd da ac yn anffyddiwr yr un pryd. Ond yn ymarferol, nis gellir gwahanu crefydd oddiwrth ddiwinyddiaeth, a bydhan yw y gwa- haniaeth rhwng pregethwr yn cael ei dal o'r wladwriaeth ac athro yn cael ei dalu felly. Mae Mr. Evams yn glir na ddylid defnyddio arian y wladwriaeth i dalu cyflogau yr ath- rawon. Yr unig ffordd o'r anhawster fyddai i ryw filiwnydd eu gwaddoli; ond ni bycklai hynny yn symud y peryg-lon i'r Brifysgol a'r eglwysi, -+- -+- -+- Y perygl i'r Birifysgol' ydyw i ymgipris- en- wadaetjh ddyfod i mewn, a'r perygl i'r eg- lwysi yw i'r colcgau enwadol ddarfod a bod. Byddai yr ymgais am y cadieiriau yn creu drwgdeimlad rhwng yr enwadau, a'r enwad a lwyddai fyddai y llwyth brenhinol. Pen- odir yr athrawon oherwydd eu dysg neu eu henwad, ac felly llithrai yr addy'sg i un sianel, a phwy all ddweyd beth fyddi effaith: hynny ar fywyd crefyddol Cymru yn ysttod y ganrif nesaO-. Gwell gad'ael y Colegau Diwinyddol i weithio ymlaen fel y maent wedi gwneud. -+- -+- -+- Beth sydd gan Principal Rees i'w ddweyd ar yr ochr arall? Yn ei ystgrif yn y Dysg- edydd ami y mis hwn, dechreua drwy feio lie y mae Principal Eivans yn canmol. Nid yw Principal Rees yn foddlon ar sefyllfa pethau fel y maent. "o,"r holl bethau rhyfedd a ddywedwyd gan sgriblwyr dienw ar fater diwinyddiaeth y Brifysgol, y peth mwyaf hurt oood dweyd fod cyflwr a safle diwinyddiaeth yn ein plith yn hbllol foddhaol." -+- -+- -+- Mae Mr. Rees yn credu fod angen torri tir" newydd mewn diwinyddiaeth, ac nad yw Cymru wedi cael yr ysgolion, diwinyddol a haedda. Addefa fod pethau wedi gwella ar ol codiad 'Prifysgol Cymru, ond nid yw yn foddlon ar y radd 0' B. D., am nad yw yn cyn- hyrchu diwinyd'dion. Nid oes, arwydd fod dy,ddordeh gwir yn mhroblemau diwinyddiaeth na gallu ac amynedd i ymgodymu a hwynt yn myned nemor ar gynnydd. Ale y mae'r gyf- undrefn bresennol wedi cyrraedd nod ei piher. ffeithrwydd. Nid oes ynddi bosibilrwydd datblygiad pellach. Lleinw ei chyloh yn dra effeithiol, ond cylch cyfyng iawn ydyw. -+- ,-+--+- Nid yw, ychwaith, yn foddhaol ar y Coleg- au Diwinyddol presennol. Er fod nifer yr athrawon yn yr holl golegau diwinyddol wedi cyn'hyddu, maent eto ymhell o fod yn ddigon lluosog i wneuthur gw:aith o'r radd uchaf. Ac nid gormod o waith yw'r cwbl o anfantais yr athrawon. Mae eu safle a'u perthynas a chyfundrefn addysg y wI ad yn dra anfodd- haol. Gosodir diwiny-odiaeth mewn s,afle is- raddol yn y Brifysgol, a gosodir llyffetheiriau ar ffordd y rhai a'i dysgant. -+- -+- -+- Ni ddylid ang^hofto dylanwad y: drefn ar y myfyrwyr. Ant am flynyddoedd cyntaf eu haddysg i golegau'r Birifysgol. Mae rheiny bellaoh ytf adeiladau gwych, ac y mae gan fawred'd a harddwch adeilad ei ddylanwad fel y dylai. fod ar feddwl ieuanc. Er efallai mai pedwar neu bump o athrawon fydd yn eu dysgu yn bersonol, eto', mae'r rheiny'n rhan o gymdeithas o banner cant neu ragor 0 ddynion o ddysg a Safle, a rhyw faint o rin- l wedd ac argraff yr holl gymdeithas yn llifo all an trwy bob aelod1 o honi. Perthyn y myfyrwyr hefyd i gymdeithas o rai cannoedd o bobl ieuainc oreu'r wlad rhai o bob dos- barth, a'u hwynebau ar bob cylch 01 wasan- aeth y genedl, a braint anfesurol yw cael bod yn rhan o'r fathi gwmni. Hyn oil a fwynha'r gwr ieuanc sydd a'i wyneb ar y weinidogaeth tra! fvddo'n dysgu Groeg a Lladin all phynciau cyffred'inol eraill, mewn rhagbaratoad i.'w efrydiau diwinyddol. Ond pan ddaw at ei briod faes ei hunan, ac at y pethau mwyaf, alltudir ef i gongl lie bydd pedwar neu bump o athrawon, ugain neu ddeg ar hugain o fyfyrwyr, adeilad di-addurn 0 bosibl mewn cwr anghofiedig o'r wlad. Gall yr athrawon a'r gwaith fod cystal ag y mynnont, anodd fydd iddynt wneuthur yr argraff dyladwy o bwysigrwydd ac urdd'as yr efrydiau ar feddwl y myfyriwr. Befih bynnag sydd o rym unol- iaeth, o urddas brwdfrydedd a momentum ysbrydol mewn Prifysgol, ac y mae llawer, dylai diwinyddiaeth a, diwinyddion y dyfodol yng Nghymru gael manteisio arnynt neu ar ryw alluoedd cyfatebol iddynt. -+- -+- -+- Beth yw'r feddygini 'ale,th? Un 0 ddau beth, naill ai creu cyfundrefn newydd ac effeithiol o addysg ddiwinyddlol o'r tu allan i'r Brif- ysgol yn hollol, neu ynte dwyn y gyfundrefn bresennol i foerthynas mwy bywiol ac effeith- iol a'r Brifysgol. Codwyd. y ddadl yn ddi- weddar y byddai'r cwrs olaf yn anghyson ag egwyddorion YmneiUtuaeth. Os gwir hynny, mae amryw gwestiynau pellach a dyfnach yn codi. Am ddeng mlynedcr ar hugain neu ragor bellach, danfonodd, y colegau diwinydd- ol eu myfyrwyr i gael addysg yn y colegau cenedlaethol mewn Groeg, Hebraeg, Athron- iaeth, a phynciau eraill. Cbstia y graddau diwinyddol yn bresennol lawer mwy i'r Brif- ysgol nag a delir iddi, gan y myfyrwyr diwin- yddol. Aiff cynrychiolwyr y colegau diwin- yddol bob un i gyrddauV Bjrifysgol ar ei thraul hi iheb gwrdd ag un anhawster gan y gydwybod Ymneilltuol. Os yw ychydig yn rhagor o'r un peth yn anghyson â'n Hymneill- tuaeth, rhaid inni ail ddechreu adeilad newydd dr sylfaen i fyny. Rhaid cael ysgolion canolradd a cholegau i ddysgu'r clasuron. a'r gwyddorau, gwrthod y B.D., a phob trafnid- iaeth a'r Birifysgol a'i holl weithredoedd, a chreu colegau diwinyddol mawrion effeithiol a safant yn, eu nerth eu hunain ar uwch tir na'r Brifysgol. A oes, neb a gynnyg y feddyg'- inia,eth hon? Os oes, parcha, ei gysondeb a'i wroldeb, ond amheua a yw ei gynllun yn ym- arferol a phosibl, a mwy na hynny, creda nad yw'n gyson a. iffeithiaiu ac egwyddorion gwir- ionedd a bywyd. Nid yw Prifysgol yn deilwng o'r enw, oni bydd holl faes gwybodaeth yn agored iddi. Yr hyn a ofyn egwyddorion YmneiUtuaeth yw fod yr ymchwil am wybod'aeth yn drylwyr a diduedd, ac na bo a fynno'r Brifysgol a pher- swadio na chyimell neb i gredu na. gweithredu ar unvhyw ddosbarth o athrawiaetbau. Gall y Brifysgol egluro egwyddorion Diwydian- aeth a Gwleidiadlaetb heb eu defnyddio1 i am- canion y blaid Doriaidd na'r blaid Sosialaidd. Yn gyftelyb gall drin ffeithiau cyffredin hanes a natur crefydd, a gadael i'r eglwysi breg- ethu a chymell eu credoau a'u hatbrawiaeth- au arbennig, Nid yw wrth ddywedyd hyn yn golygu ychwaith fod gagendor rhwng "gwybodaeth a deall ar y naill law, a chredu a byw ar y "llaw arall. Mae"r bywyd oil yn un yn y gwaelod. Ond mae'r gwahaniaeth yn ddigon eglur ac y'n ddigon ymarferol i ddos- rannu meusydd llafur y Brifysgol- a'r eglwys yn llawer mwy eglur nag unrhyw raniadiau a wneir ym maes gwybodaetb ei hunaq,"