Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
NODION 0 FON.
News
Cite
Share
NODION 0 FON. Welle yr ail drychineb alaethus i Gaergybi, lie y mae galar, wylofain, ac ochain mawr. Y mae calon. y wlad yn mynd allan me;wn cydymdeimlad dwfn a'n cyfeilldon yno yn awr ddu y brofedigaeith. "Duw a drugarhao wrthynt, ac a'u bendithio, a thywyned ei wyneb arnynt." Da iawn Mr. R. J. Thomas yn addaw £500 i agoryd easgliad lleol grymus i swcro amgylchiladau adfydus. y rhai a adawyd. Mae Amlwch hwytihau yn yr un brofedigaeth. "Roedd tri .o'r Cymry anffodus o'r Porthladd hwn- 3 o frodyr rhagorol, ac yn swyddogion cyfrifol ar yr agertong fawr, la ,thai eu teuluoedd gofidus wedi eu gwisgo 1a galar. Claddwyd Mr. Prichard, Chapel St., nawn ddydd Iau gan dyrfa ddwys o'i hen gyf- eillion, Rhwng y rhyfel a'r mor mae Amlwch hefyd dan y tonnau y dyddiau hyn, a mawr eu sel dros: y diioddefwyr. Wedi hirfaith gystudd wel'e yr enwog Henadur Dr. Edwards, Y.H., wedi cwympo yng nghanol ei bobl a'i waith. Cafodd yrfa fywiog lwyddiannus, yn or- liawn o ddyledswyddau o bob math. Bu yn aelod o Senedd MiQrn er y cychwyn cyntaf, a gwasanaethai ar y prif bwyllgioirau. Pump o hen adodau difwlch o 1888 oedd yn aros eleni, ac wele 3 ohonynt wedi cefnu, sef Mri. H. Thomas, a McKillop, a Parry Edwards. Y ddau siydd yn aros hyd yn hyn ydynt Mri. O. Foulkes, a Lewis, Hughes. Gwnaeth Dr. Edwards ddiwrnod o waith ffyddlon i'w wlad, a'i genedl, a'i gartref yn Bod:edern. Mae yr Ymweliad Eglwysig dan ei lawn hwyliau yn y wlad, a'r oenhadwr yn cael1 pob croesawiad a chyfarfodydd rhagorol. Addawa yr ymgyrch fod yn Uwyddiant trwyadl. Dywed rhai swyddogion effro y dylai yr ymweliad fod yn sefydliad pendant bob 5 m.Dynedd a'r cyloh. Maf hyn yn arwyddo yn dda, gan faint y beio ar arddeliad ar y oyfarfodydd siriol iawn ymhioib eglwys.
..-",.--.._----BONO BLINDER1.
News
Cite
Share
BONO BLINDER1. Hen air dreiglwyd o'r hen amser, Ond a ddeil mewn bythol fri, Ydyw-" Peidier blino blinder Nes y blina blinder ni." Peidier cynneu cannwyll cwynion, Mynant ddod heb heb os i'n rhan, Dyn freuddwydia am drallodion, Weliielbulon ymhob man. Na phrysurer hyd ffordd soriant, Ceidw pwyll ddigofaint draw, Gwyllt fyrbwylldra Ladda. lwyddiant, Siomiant gwrddir ar bob lLaw. Rhagofalu rwyga filoedd O weithredoedd cyn eu bod, Myn heb oedi "—medd y bydoedd Ar y Nefoedd roi dy nod. Peidier ofni,"—medd y blodau, Hyd em llwybrau,—" Credwch Ef, Teflwch swynion,"—medd rhosynau, "Rhowch eich breichiau am. y Nef." Felly peidier blino blinder, Nes y blina blinder ni, Peidier a priodi pryder, Fel na fager cwyn na chri. GWILYM AKDUDWY.
O'R YSTWYTH I'R DDYFI.
News
Cite
Share
O'R YSTWYTH I'R DDYFI. ANEEAfWD BOENUS.—Ddydd Sadwrn cyfarfu plentyn bychan a damwain. a brofodd yn angeuol mewn ychydig o funudau, drwy i gerbyd redeg dros- to oddeutu carnal dydd yn Trefechan. Mae tad y bachgen. yn gwasanaethu ei wlad yn Sialonica. ILILBCHIGWIN Y GWYLL.—Dy wedir fod rhyw larpiau o ddynionach yn cymryd mantais o'r tywyll- wch aifftaidd sydd yn gorchuddio y cylich ar ol maahludiad haul, i ddychryn merched a phlant yn y ffyrdd oyfagos i'r dref. Diau y caiff y gwalch neu y gweiloh eu cosb haeddiannol cyn hir drwy gyfarfod a rhyw wr cryfach a gwrolach na hwy eu hunain. IOYFAjRFOD P!R:E)G.ETHU.-Nos Fawrth a Merch- et diweddaf cynhaliwyd gwyl bregethu flynyddol y Tabernacl, pryd y cafwyd pregethu igrymus gan y iParchn. John .Hughes, Liverpool, a Lemuel Jone9, iGoppa. Daeth cynulliadau lluosog ynghyd ef gwaethaf yr hin ddrycinog. SUL Y MAER.—Y Saboth diweddaf gorymdeith- iwyd yr heolrydd gan y maer newydd, yr iHenadur C. M. Williams, a'r gorfforaeth, a chymdeithasau cyhoeddus i gapel yr Annibynwyr Seisnig, lie y mae yn aelod. Pregetihwyd gan y Parch • T. A. Penry, y gweinidog. Dyma y pedwerydd .tro i C. M. fel ei gelwir fod yn y gadair faerol, ac mid oes yn y sir na'r cyffiniau gorff cyhoeddus nad yw C. M. wedi bod neu yn awr yn aelod ohono. Ymladdwr glew ydyw, fel pe yn awyddus .am fesur cledd ag unrhyw wrthwnebwr a ddaw i'r golwg. Gynrychiolydd YSIgol y Die-hards ydyw--nad yw y gair ildio ddim yn cael lie yn ei eirlyfr. Mae wedi ymladd llawer brwydr, ac yn barod i ymladd llawer un eto. Ed- rychir yml-aen am flwyddyn fywiog i'r cyiugor o dan ei lywyddiaeth ef. Mae ei brofiad o fywyd cyhoedd- us yn ei waihanol agweddau yn hynod amrywiol. DARLITH BOBELOlGAIDD.— Cafodd Cymdeithas iLenyddol Salem wledd nos I'au diweddaf mewn dar- lith gan y Dr. Lloyd Williams, ar "Hwyl Gymreig a Cerddoriaeth." Darlith ydoedd a hwyl ragorol ynddi, yn ei mater a'i thraddodiad, llawn o ergyd- ion pert ac o addysg hefyd.
ATGOFION.
News
Cite
Share
ATGOFION. Am Gapel a.c Eglwys Gwytherin (C.M.) o'r flwyddyn 1853 hyd y flwyddyn 1863. Yr wyf yn C'afio yr hen gapel cyn ei adnewyddiad cynrtaf, ac un boregwaith braf yn yr haf yr oedd y Parch. David Rowland, 'Llidiiardau, vr hwn oedd yn briod a Mrs. Lloyd, merch yr hen flaenor David Jones, Tyd.raw, yn pregethu, a thra yn disgwyl dyf- odiad y pregethwr, yr oedd rhyw hen frawd adna- byddus i mi yn gwau hosan y.n y set yn agos i'r drws. Ychydig o seddau oedd y pryd hwnnw. Dyna yr unig dro i mi weled y fath beth mewn cape]. Cof- nOOwn y pryd hwnnw mewn llyfryn bychan y testyn- aua phennau y pregethau er nad oeddwn yn naw oed. Pan agorwyd y capel newydd, ac o'r pregethwyr oedd yno, y Piarch. J. Davies, Nerquis, roddodd yr argraff fwyat arnaf. Ei destynau oeddynt, "Paham yr erys Dan mewn Jlongau," "Moeswch wr i ymladd a mi," Issqchar sydd asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dau bwn." Nid oeddym yn cael ein brerinfio a gwasanaeth pregethwyr mawr," ond yn anfynych a lied anaml oedd cael gweinidog ar y Saboth. Pregethwyr dieithr oedd yn b,edyddio y rhan amlaf. Y Parch. D. Dlavies, Trefecca, am bedyddiodd i mieddir. Ymhlith eraiH clywaia John Janes, Blaenan- erch, yn pregethu y tu allan i'r capel ar y Salm i. Nid wyf yn cofio dim ond ei waedd y pryd hwnnw. Y pre- tlw-vi cyson oeddynt: David Evans, Pandy, "e I Charles Jonies, Isaac Jones, Nantglyn, Evan Wynne, Llansannan, Samuel Jones, Clawddnewydd, Jacob Jones, Robert Jones, iLlanefydd, Robert Hughes, Dyserth, Robert Thomas, John Jones, Penmachno, Wm. Evans, Rhuthyr., &c., ac yn achlysurol Robert Owen a John Williams, Rhyl, Thomas Gee, Dav.id Davies, Penmaobnio, Robert Roberts, Llanrwst, Wil- liam Morris, Rhuddlan. Clywais Dr. Edwards, Bala, unwaith, a byddai myfyrwyr o'r Coleg yn dyfod yn fynych ar geffylau meinion, talion, a llawer tro trwstan a'u cyfarfyddent wrth groesi mynydd Hiraethog; yn lied fvnych oblegid dir-eidi y bechgyn fyddenit yn myned tua Oeirnioge 'Mawr i'w cyfarfod. Pan oeddwn yn fachgen, byddwn yn dilyn fy nihaid i'r ty capel, a rhyw dro yr oedd y Parch. Henry Rees yno, a chymerodd yr ymddiiddan a ganlyn Ie rhvng ddo ef a William Davies, Tycapel. Meddai Mr. Rees, Sut y mae yr hen benniM hwnnw ganwyd pan oedd y gweinidog Wesleyaidd Owen Davies (iaf) a minnau yn pregethu er vs talwm?" Atebodd Wm. Davies, Yn dyiach chi yn ei fedru o cystal a min- au." Na deyiwch o unwaith eto." Viele y pen- nill:— I maes a'r athrawiaethau, Sy'n rhwystro i ras barhau; Gan dorri'r hen gyfamod, -Rhwng Duw a dyn yn ddau A gosod dyn i weithii-o Heb allu ac heb rym 'Nol iddo weithio'r cwbl, Nd thai ei waith o ddim." IC,oflais ef wrth ei wrando, ac ysgrifenais ef ar ol mynd adref. Ni bu un Wesleyad yn y plwyf o amser Owen Thomas iaf hyd yr amser yr aethum i'r coleg. Goddefer un gair am gyfarfod pregethu yn Llan- gernyw pan oeddwn ond un ar ddeg mllwydd oed, oblegid yma y clywais "orfoleddu" gyntaf, ac y teimlais bwyslau y "neidio. Y pregethwyr oeddynt y Parchn. David Davies, Penmachno, Wm. Morris, Rhuddlan, a John Jones, T'alysarn. Testun John Jones y noson olaf oedd "Mellddgwch Mieroz am na Gdaethamt yn gynorthwy i'r .Alliglwydd, yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn." Oiedfa fythgof- iadwy. Mewn gwirionedd yr oedd y tri chawr ar eu goreu. Mewn ton anndsgrifiadwy o fawreddog gwaeddai "Pwy oedd o du y Brendn?" Ac ar hynny dyma waedd, "Bendigedig dyma un," ac nis gellir disigrifio yr olygfa ddilynol. Fy hoff bregethwyr y pryd hwnnw oedd John Jones, Penmachno,, Robert Hughes, Dyserth, Robert Owen (Apositol y Plant), gan yr hwn y'm derbyn- iwyd i gymundeb 57 mlynedd yn ol, yr hen weinidog ar ei Unrail1 wrth y fainc ar y llawr, a thri ohonom ar ein gliniau yn gwneud cyfamod difrifol a Duw yng Nighrist, ac er fy mod wedi bod yn wrthgiliedig fy ysbryd lawer gwaith ni cholilodd Efe ei olwg ar ei gyfamod, a'r cyfamod hwnnw sydd yn dal heddyw pan wedi cyrraedd fy 70 mlwydd oed, ac fie fydd ei gynnwys yn mynd ymlaen yn fywyd i oesoedd y tnagwyddol1 ei hun. Yr wyf yn awr yn dyfod at flynyddoedd deheulaw yr Arglwydd yng Nghymru—cyfnod y Diwygiad. Yr oedd wedi torri allan yng Nghapel Garmon. Aeth John Jones, Merddyn, a minnau yno- i gyfarfod pre- gethu. Y Parchn.. Thomas Hughes, Machynlleth, oedd yn gweinyddu, gyda'r Parch. D. Charles, Sir Fon, ac nis anghofir byth yr argraff wnaed ar ein meddyliau, yn enwedig bregethau y dyn ihyfedd hwnnw David Charles. Daethom adref, a gofynas- om am gyfarfod gweddi i'r bobl ieuainc, a chawsom bob oefnogaetrh gan y blaenoriaid annwyl, a'r dynion mwyaf duwiol, ond gwawdiaeth a sarhad oddiwrth rai o'n cyfoedion stoicaidd. A oesl rhai o'r dos- barth yn awr yng Ngwytherin?* Goddefwch air o gyngor. Gwyliiwch rhag traingwyddo, oblegid dyna'r unig rai na ohafodd y diwygiad unrhyw afael amynt. Daeth lliaws ynghyd a gofynwyd i un oedd yn annwyl iawngiNllnynl oil heddyw i ddod i'n harwadn (Mr. Morris, Tanywaen). Yr oedd 'Hugh Hughes, Factory, yr hwn oedd yn hyn na ni hefyd yn ffydd- lcJfc iawn; ac yn y cyfarfodydd hyn, y torrqdd y wawr. Ymledodn fel tan, a hawdd fuasai nodi llu o bethau rhyfedd gymerasant le, ond ifiaid ymatal. YsgiJb blaenffrwyth" y Ddwygiad oedd -Richard, mab Richard Roberts, Dolfrwynog. Dyn ieuanc pur ryfygus, ond a fu ar ol hyn yn enwog am ei dduwiol- frydedd a'i ffyddilondeb hyd ei farwolaeth ddisyfyd trwy ddamwain ar y rheiMfordd yn St. Helens, ILancashdre, os wyf yn cofio yn iawn. Ymhlith y rhai a ddychwelwyd y pryd hwn yr oedd y cymenad hynod Harry Jones, Nantybuarth. Yr oedd yn holl- ol anllythrenniog, ond dysgais y Salm gyntaf iddo tra yr oedd yn dyrnu yn Nhanywaen a rhyw nos,waith aeth i weddio mewn cyfarfod gweddi, a'i weddi dros- odd a throsodd drachefn oedd y Salm gyntaf, ac ni chlyvvais adioddiad cyffelyb hyd heddyw, a therfyn- wyd y cyfarfod oddeutu 11 o'r gliOch yng nghanol gorfoiledd mawr. Cymeriad arall diniwed, ond cywir iawn, oedd Robert Jones, y Llan, ac ni ohlywais erioed y fath Amen a'r eiddo Robin Jones.. Yr oedd yn treiddio fel trydan trwy yr holl gynullieidfa. Gwyn fyd na cha,em y fath "dine" eto. Yr oedd ytn llawer mwy effeithioi na',r e:ddo "loan," Rihuthyn. Yr anhaws- ter oedd ei chael. Nis gallaf orffen y rhan yma o'i hanes heb gyfeirio at y Cyfarfod Misol gynihaliwyd yr adeg yma. Y noson olaf pregethid gan John Jones, Geufron, ar y ".Swper Mawr," a Richard Williams, Llwynithel, ar Onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tan," a phan y canwyd Agor ddorau hen garcharau, achub beintewynion tan ar yr hen don M,oriah,' ac y daeth nifeir mawr i'r seiat, ac y gwaeddwyd "agor." Tierfynwiyd gan y Parch. John Evans, Eg- lwysbach, yng nghanol un 0 olygfeydd bywyd rhy- feddaf. Yn'hen ugain mlynedd wedii hyn yr oeddwn yn atgofio y noson i Mr. Dd. Owen, Hendre, pan y gwelwn ei holl natur yn cynhyrfu, a'i ddagrau- yn llifo, ond da.grau llawenydd oeddynt, oblegid dyna'r noson yr achubwyd ef. Cyn y nos^vaith fythgofiad- wy hon nid oedd ond ychydig o'r amaethwyr mawr yn aelodau o'r eglwys, er eu bod yn cyfrannu yn haelionus at yr achos ddydd diolchgarwch am v cyn- haeaf. Yn y cyfnod hwn yr oedd yn Gwytherin Ysgol Sabothol flodeuog, ac ynddi feddylwyr cryfion a.diw- inyddion goleuedcg, athrawon galluog a ffyddlon, a dosbarthiadau ymroddgar, yn elllwedig ymhldth y rha,i ieuainc. Dysgodd amryw ranau helaeth o'r Boeibl ar eu cof, ac adroddid penodau o flaen y bre- geth ymron bob Sabo-th, a bvddai llawer yn adrodd materion y pregethau yn y seiat. Yr oedd cydym- gais iachus'yn ffynnu, mi goeliaf, i adrodd yn well y niaill dro ar ol y Hal], nid mewn rhagori ar eu gilydd Yr oedd llywydd y Cyfarfod Ys.gol yn ein dysgu i ragori arnom ein hunain. Yr oedd y Cyfarfod Ysgol y pryd hwnnw yn allu ac yn ddylanwad er llwydd- iant, nid yn rhyw erthylod o gyfarfodydd fel y rhai sydd yn y sir hon. G'Ian Colllen oedd asgwrn cefn y cyfarfod, a deuai apostol y plant yn fynych atom, a mawr oedd ein disgwyiiad am dano, ac ar achlys- vron neilltuol y Parch. Thomas Gee. Dynion goreu pob Ysgol fyddai yn cymryd y rhan flaenllaw yn y cyfarfodydd, ac nid y rhai hawddaf eu hebgor fel y gwneir yn fynych y dyddiau hyn. Fel Ysgrifennydd Cymanfa Ysgolion Goglead Aberteifi ymdTechais am ddeng mlynedd gario allan gyda graddau o lwydd- iant yr un cyniMuniau, ac y mae y ffrwyth i'w ganfod yn awr. Nid eisieu gweH cynlluniiau sydd, ond dyn- ion wedi eu trwytho yn egwyddorion dyfnaf ein cref- ydd, a chariad angerddol tuag at yr Ysgol a'i gwaith. Gan nad oedd pregethwr gennym ddwywaith ond bob yn ail Saboth, yr oedd cyfarfodydd gweddiau gennym yn fynych iawn, ac heb betruster gallaf dystio mai cyfar.fodydd anghyffredin oeddynt yn fynych. Nid wyf yn ystod oes faith wedi bod yn unman lie yr oedd y fath nifer yn meddu yr hyn a gamenwir yn "ddawn gweddi." Nis anghofir byth y dylan- wadau dwyfol oeddynt mor amlwg yn y cyfarfod- ydd hyn. Cefais y fraint o ddechreu oadw dyled- swydd deuluaidd bob yn ail a nhraid pan yn ddeng mlwydd oed, a thybiaf y gellir dweyd fod hyn yn wir am deuluoadd eraill hefyd. Argratr aniJeadwy ar fy meddwl yw fod y brodyr yn Ngwytherin y pryd hwnnw yn dal cymundeb agos a chyson a D'lw, yn disgwyl am amlygiadau o'i bresenoldeb a'i foddlon- rwydd, ac nid. rhyfedd fod dylanwadau grymus yn canlyn. 'Yr oedd llawer ohonynt yn byw yng nghym- deitbas y dirgelwch, ac nid rhyfedd eu bod yn eu profiadau y cael Hawer o gyfrinach eu Duw yng Nghrist. Y blaenoriaid wyf yn gofio gyntaf oedd- ynt John Jones, y crydd, Wm. Williams, Tamrallt, Wm. Davies, Ty'nyrardd, Elias Owens, Gaeooed, a. David Hughes, y Siop-ol-1, yn ddynrion da, a dau ohonynt yn wir aliluog. Gadawaf fy sylwadau arnynt i'w darllen eto yn y Cyfarfod Eglwysig, 1 ynghyda'r pedwar y cymerais ran yn eu dewisiad. Y mae gennyf hefyd nodiadau ar y Seiat a pherson- au undgol ynghyda teyrnged o barch i'r hen bre- gethwyr bach yng nghyfrif ryw awdurdodau yn Slilt Fawr Drinlbyah, ond oeddiynlt yn fawr yng nghyfrif y nefoedd am eu mawr gariad at yr achios, a bu yn bles- er i mi gael lletya rhai ohonynt yn Carmel ac Ad wy'rclawdd. Y GWERSI. Ffyddlondeb cyson a diwyro, ac ymdrechion gonest yr hen flaenoriaid a'r pregethwyr i rannau ysbrydol gwaith yr Arglwydd. Yr ymdrechion clodwiw 'i sdcrhau llvvvddiant yr Ysigol Sul fel magwrfa i ddliwylltiant meddyliol pur, i eanigder, a thrwy hvyredd gwybodaeth ysgrythyrol, i eiddigedd dros foesoldeb, ac i arweiniad y meddwl ieuanc at bwysigrwydd hanfodol gwir dduwioldeb. Y dylanwad gryimis oedd ym mhresenoldeb a bywyd y dynlilon rhagorol hyn. Ein gweddi yw ar i Dduw trwy ei Ysbryd godi llawer o gyffelyb feddwl yn yr oes faterol arwyneb- ol, a phlesergarol hon, fel y byddo Eglwys Dduw eto yn allu a dylianwad dyrohafol ar y gymd,eithas. YF ydym wedi myned o'n lie, a Duw yn'unig a all ein hadfer. Ydwyf yn rhwymau cariad, Eich brawd, RICHARD MOKRIS. Gynt o Tanywaen.
Advertising
Advertising
Cite
Share
PENCE ENVELOPES at Gasgliad y Weinidog- I aeth, &c., wedi eu hargraffu yn eglur a destlus. An- foner archebion ar unwaith i Swyddfa'r eymito, Dol- I gellau. x I