Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Y MILWYR CYMREIIG YN FFRAINC.
News
Cite
Share
Y MILWYR CYMREIIG YN FFRAINC. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Gan fod' cyfeillion yn parhau i ysgrifennu i'm hen gyfei-riad,^ a fydd- wch gar,ediced a chanatau i mi roddi fy nghyfeiriad1 yn YI CYMRO. Derbyniais yr wythnos hon. lythyrau bost- iwyd yng Nghymru ym mis Gorffennaf. Aeth- ant i ddecbreu i'r man lie yr oeddwn pan ddaethum allan i Ffrainc 'flwydd'yn yn ol, yna buont o fan i, fan, nes cyirraeddi yma. Cyn- hwysant ymholiadau ynghylch bechgyn glwyf- wyd, a rhai syrthia.sant ) n y rhyfel. Deallaf fod amryw lythyrau heb fy nghyrra-edd o gwbl, a'u bod wedi eu dychwelyd. Ceisiaf ateb ymholiadau sy'n fy nghyrra-edd y cyfle cyntaf, oblegi,d gwn ambryder y perthynas- au. Weithiau cymer bythefnos a rhagor na hynny, i ymholi ynghylch bechgyn nad ydynt yng nghatrodau y 38th Division. Fy nghyf- eiriad yw,-Head Quarters, 38th (Welsh) Division, B.E.F' France. Yr eiddoch yn ffyddlon, Tach. 9, 1916. R. PERIS WILLIAMS.
GOHEBIAETHAU.
News
Cite
Share
GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr).
GAIR ODDIWRTH HEN WRON. AT…
News
Cite
Share
GAIR ODDIWRTH HEN WRON. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Frawd,-Mae arnaf chwant diolch i chwi am y ffurf deg a manteisiol y gesyd y CvMRO bwnc y "Prynu" gerbron. Fu 'rioed gynifer o bor 'thmyn,(dealers).yn y wlad ac yn awr; a welais i erioed gymaint o open minds, yn y wlad. Yr unig ofn sydd arnaf fi yw, y bydd y drysau agored hyn yn gollwng allan lawer o bethau da., ac yn cymryd i mewn lawer o bethau heb fod felly. Mae llawer-o'r digrifol yn y mud- iad llu o rai diwaith drwy'r blynyddoedd yn dod allan yn oraclau bywiol; a 'recruits' yn cychwyn 'drilio' yr hen 'officers.' Beth ddywed- ai eich annwyl dad pe yn fyw yn awr? ar ba ochr y buasai? Ydach chwi wedi sylwi gynifer o'n 'financiers' sydd dros "y prynu?" Ond nid diogel eu dilyn yn siwr i chwi. 'Financier' oedd yr un o'r deuddeg gynt. Ond wrth grogi ei hun o drugaredd ni chrogodd Gristionogaeth. Dim diolch iddo fo. 0 fel mae y byd o hyd yn rhedeg ei 'barallels.' Llawenhaf weled llwydd eich mab,—y ddau fab yn wir. Yn bur fyth,
EMYNAU ANN GRIFFITHS.
News
Cite
Share
EMYNAU ANN GRIFFITHS. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Braidd yn rhy lawdrwm y bu'r Parch. Tecwyn Evans yn ei adolygiad ar gais Mr. Evan Richards i gyfieithu emynau a llythyrau Ann Griffiths i'r Saesneg. Nid wyf yn meddwl am foment fod modd canmol yr enghreifftiau a ddyry efe o fethiannau Mr. Richards, ac y mae gennyf lawn cymaint o awydd am wel'd beirn, iadaeth lenyddol Cymru yn onest a diduedd ag sydd gan Mr. Evans ei hun. Ond y mae gonest- rwydd felly yn rhagolygu dau beth: rhaid canmol yn onest a diwarafun ymhob ymdrech y pethau y gellir eu canmol yn ogystal a chon- demnio ffaeleddau. Ac yn hyn o beth y teimlaf fi fod yr adolygiad dan sylw yn anghymesur. Y ma'n debyg i'r hyn fuasai adolygiad ar ysg- rifau a llyfrau Mr. Evans wedi ei ysgrifennu gan wr a fuasai yn amharod i gydnabod eu heofndra a'u gonestrwydd deall gan ei brysured yn nodi'r torreth o briod-ddulliau Saesneg ynddynt. A cham dybryd a gwaith campus Tecwyn a fuasai rhoddi'r lie i gyd i fan feflau felly. O'm rhan i, gwnaeth Mr. Richards ddwy gymwynas a mi. Gyrrodd fi yn ol i ddarllen llythyrau ac emynau. Ann Griffiths yn fanylach a mwy difrif nag y gwnaethwn er ys blynyddau, a chefais lawer o bleser wrth ddarllen ei gyf- ieithiad ystwyth o lawer o'i llythyrau, ac wrth wrth ddo,tio ar gywirdeb a medr ei gyfieithiad o lawer lliijell. Yr eiddoch yn gywir, Y Barri. LLEW. G, WILLIAMS.
DR. ETHE.
News
Cite
Share
DR. ETHE. TO THE EDITOR OF THE CYMRO. Dear Sir,-As there still seems to be a general impression that during the continu- ance of a state of war an alien enemy as such is not entitled to' any relief at law as a plaintiff in the Courts of this country, and that, there- fore, the German Professor cannot legally claifn the payment of his pension, perhaps the following remarks may be to the point. Professor Hall, in his wellknown work on International Law, says: Where persons are allowed' to' remain either for a specified time after the commencement of war, or during good behaviour, they are exonerated from the disabilities of enemies for such time as they in fact stay, and they are placed in the, same position as other foreigners, except that they cannot carry on, a direct trade in their own or other enemy vessels with the enemy country." Accordingly a person resident in this country, who is registered under the Aliens Restriction Order and' Act of 1914, has, by virtue"of his registration, and by, virtue of the permisson thereby granted to him to reside m this country, a clear right to enforce a right "individual to himself in the Courts of this country v notwithstanding- the existence of a State of War. This, principle has been applied in the High Court and in the Court of Appeal. And it was on this ground that, in October, 1914, Princess Thurn and Taxis,, an enemy alien resident and registered in the United Kingdom, and whose husband was fighting with the Austrians, could maintain an action for libel against an English lady. The authorities at Aberystwyth by their special request to the Government to allow Prof-es-sor Ethe to return to England two, months after the declaration of war, and by their subsequent compromise with him on their finding that public opinion disapproved of their action, have themselves put the Pro- fessor in a position in which he has, a legal right to enforce his own, terms against those who called him back. Yours, etc., PRO-BRITISH.
CENEDLAETHOiLIAD Y FASNACH…
News
Cite
Share
CENEDLAETHOiLIAD Y FASNACH FKDDWOL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Llawenychaf yn-fawr weled y sylw cynbyddol a roddir i ddyfodol y fasnach feddwol yn y CYMRO. Yr wyf finnau o galon yn gefnogol i Ddewisiad Lleol a Gwaharddiad1 fel moddion i gwtogi neu ddinistrio gallu a dylanwad y fasnach yn ein gwlad. Ond gwa- haniaethaf oddiwrth ysgrifenwyr i'r CYMRO hyd yma trwy fod yn barod hefyd i gefnogi cynllun arall a yimddengys yn debyg 01 sicrhau yr un dihen. Ni chyfyngaf fy hun yn unig i'r hyn sydd ar raglen swyddogol y Blaid Ddirwestol. Ac wrth wneud hyn ni chredaf fod un yn ddirwestwr llai ffyddiog a chyd- wybodol na'r rhai a wrthwynebant Genedl- aetholiad. Pleidiaf bob cynllun :aduedda i lei'hau gallu y fasnach yn ein teyrnas. Ac os oes dyn a wad nad yw Cenedlaetholiad yn foddion i leihau'r tafarnau, diarllen-ed hanes yr hyn a wneir lie y mae'r cynllun wedi ei roddi mewn gweithrediad "Licensed pre- mises acquired by the Board of Control now number i i o,, and the sale of alcohol has been discontinued in 27 of them. There are 60 houses, the closing of which, as soon as structural alterations of retained houses are complete, is under consideration. Pe cawsid D'ewisiad Lleol, a yw yn debyg y ceuid cymaint 0 dafarnau mewn. amser mor fyr yn y Ileoedd hyn ? Pe dygid Cenedlaetholiad: i weithredad cyffredinol, ac i rywbeth tebyg gael ei wneud drwy y wlad, ceuid miloedd o dafarnau mewn ychydig amser. Onid hyn ddisgy lilr i Ddewisiad L¡}leoJi ei wneud, a siarad yn gyffredinol. Gallem ddisgwyl i Ddewisiad Lleol fod yn. foddion i gau yr holl dafarnau mewn ambell i Ie, ond a ellir credu y gwnai fwy na'u lleihau mewn llu o< ardaloedd poblog hyd yn oed1 Cymru? Ac os felly, paham "jl gwrthwynebir y cynllun 01 Genedl- aetholiad a addawa wneud cymaint a mwy na wnai Dewisiad Lleol mewn trefydd lie y mae'r fasnach yn alIu mawr, ac ymyfed yn arferiad lied cyffredinül1 Peth arall, rhaid pasio cyfraith drwy y Seneddi gael Dewisiad Lleol, a "mentraf ddweyd nad oes obaith am hynny yn. ystod y rhyfel yma, os y ceir ef yn fuan ar ol y rhyfel. Ond y mae Cenedlaetholiad mewn gweithrediad yn awr mewn rhannau, a gellid yn ddiau ei gael yn beth cyffredinol, ond i'r Llywodraeth dderbyn cefnogaeth mwy unol y wlad. Ai prawf o ddiffyg ffydd a chyd- wybodolrwydd ac ystyriaeth i agweddau moesol y mater yw pleidio1 cynllun a addawa ddiwygiad yn awr yn hytrach nag yn y dyfod- ol amhenodol? A raid gadael i effeithiau niweidiol y fasnach fyned' ymlaen yn ddi- lyfethair am dymor ansicr er mwyn inni ga,el diwygiad yn ein ffordd .ein hunan ? Beth yw ffrwyth ymdrechion dirwestol y gorffennol ar hyd yr hen linellau yn wleidyddoll Dywed y diweddar Mr. Edward' Smith, Y.H., yn ei bamfiled, "A Plea for State Purchase," nad oes dim wedi ei wneud yn wleidyddol yn ystod y trigain mlynedd diweddaf. Ac meddai Mr. Leif Jones, A.S., Llywydd yr Alliance,— Ychydg iawn yr aethom ni (y Blaid D'dir- westol) ymlaen mewn can' mlynedd. Ni ddymunwn ddibrisio yr hyn. a wnaed, ond ni wthiwyd y llanw yn ol, oherwydd yfir agos cymaint o alcohol heddyw y pen ag a yfid ddeg a thrigain mlynedd yn ol." Y mae Mr. Jones yn wrlhwynebydd i Genedlaetholiad y fasnach; ond üs gwir yr hyn a ddywed, onid yw yn bryd chwilio am rhyw gynllun mwy effeichiol i ddelio a'r gallu dinistriol hwn yn ein teyrnas? Gwnaeth dirwestwyr waith da a hanfodol bwysig mewnmagu barn a chyd- wybod ddirwestol mwy. foyw ac iach, a gwna'r rhyfel fwy tuag at hyn na'r oil, a bydd yn gaffaeliad amhrisiadwy i ddirwest yn. y dyfodol. Ond rhaid inni gofio fod i'r fasnach a dirwest eu hagweddau gwleidyddol yn ogystal a rxioesol. Cydnabyddir ac amddi- ffynnir y fasnach gan gyfreithiau ein gwlad, ac am hynny nis gellir ei did'dymu na lleihau'r tafarnau heb iawn. Cyn y gellir cael gwa- harddiad' llwyr, rhaid talu am dano1 0 arian y- wlad, neu newid y cyfreithiau. INT-eth-odd y Llywodraeth gryfaf mewn cof, a honnoi yn un Ryddfrydig, yn. 1908, a phaslo deddf i gwtogi gallu'r fasnach heb iawn digonol, ac a ydym i feddwl y gellir cael Gwaharddiad neu Dde- wisiad Lleol heb iawn i'r fasnach gan y Llyw- odraeth unedig bresennol? A oes gobaith i'r fath ddfiddf hasio trwy Dy y Cyffredin yn awr heb son am Dy yr Arglwyddi? A'm rheswm cyntaf dros gefnogi Cenedlaetholiad ydyw, y credaf ei fod yn ddiwygiad' posibl i'w ddwyn oddiamgylch yn ystod y rhyfel yma, ond cael cefnogaeth y wlad. Fy rheswm arall dros bleidio Cenedlaethol- iad ydyw, y credaf y byddai yn foddion i ddymchwelyd un o brif ddylanwadau y fasnach ar y wlad fel gallu gwleidyddol. Paham y mae pob ymdrech bron wedi bod yn fethiant i sicrhau diwygiadau- mewn perthynas i'r fasnach ? Rhoddaf yr ateb yng ngeiriau y dirwestwr pybyr Syr T. P. Whittaker:- Anghymedroldeb yw ein gwaradwydd mawr fel cenedl. Byddai y broblem o'i drin, yn llawer symlach pe tynnid 0 honi y dylanwad eang-politicaidd a chymdeithasol, gwladol a lleol—-a gwyd o fuddiant ariannol personol yn y fasnach, ac a wrthweithia bob ymd'rech i sicrhau diwygiad sylweddol. Bydd yr an,- hawster o ymyryd yn effeithiol ag arferion personol a chymdeithasol llawer 01 bobl yn ddigon mawr, heb ychwanegu ato wrthwyn- ebiad cryf a threfnus cannoedd o nioedd o bobl sydd mewn rhyw fodd yngiyn. a'r fas- nach. Y mae gan dafarnwyr, bragwyr, a dis,. tillwyr, eu gweision o bob math, cyfranddal- wyr yn y cwmniau, fuddiant per so not yn y golwg, a gwnant eu goreu i wrthwynebu un- rhy w gynllun a leihai werthiant y gwirodydd hynny y dibynna eu bywoliaeth a'u hincwm arno." Onid y buddiannau personol hyn yw prif nerth y fasnach a'r prif anhawster i'w diwygio, ac nad oes fawr obaith am welliant tra yr erys ar ei sail bresennol. Didd'ymai Cenedlaetholiad y buddiant personol hwn ar unwaith, a symudai felly y prif anhawster i dd'iwygio'r fasnach, a gwnai y ffordd yn hawddach i gael diwygiadau dirwestol eang- ach a mwy effeithiol yn y dyfodol agos. Oherwydd hyn, a'r rhesymau a nodais mewn llythyr a ymddangosodd yn. y CYMRO am Hyd. 25am, y cefnogaf a galon Genedlaetholiad y fasnach, fel pob cynllun arall, a addawa gwtogi gallu a dylanwad niweidiol y fasnach yn ein gwlad. Buasai Gwaharddiad llwyr yn lied debyg 01 fod yn ffaith ym Mhrydain heddyw pe buasai Cenedlaetholiad y fasnach wedi cymryd lie cyn neu ar ddechreu y rhyfel. Rhosddu. J. T. JONES,