Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Unwaith yn rhagor dyma enW Dr. Ethe a'i gysylltiad a Choleg Aberystwyth, wedi codi i sylw. Ac nid oes eisieu esgusawd am gyfeirio ato yn y golofn hon. Mae Dr. Ethe yn hen wr, yn ddeg-a-thriugain, ac wedi treulio tua deugain mlynedd fel athro yn y Coleg mwyaf cenedlaeth- ol yng Nghymru. Germaniad ydyw. Ganwyd ef yn Stralsund, yn agos i Berlin, yn 1844. Cafodd ei addysg ,ym Mhrifysgolion Greifswald a-'Leipsic. Nid yw yn un dianrhydedd arno i ddweyd mai Germaniad ydyw wedi bod ar hyd ei oes. Gwyr pawb ddaeth i gyffyrddiad ag ef y mai Germani oedd y gorfforiad perffeithiaf o'i syniad ef am wladwriaeth yn ei holl gysylltiad- au. Yn ei wlad enedigol y treuliai ei wyliau, yno y prynai ei nwyddau, ac yno,—er gofid er- byn hyn,—y buddsoddai ei arian. Byw yn Aberystwyth yr oedd; deiliad y Caisar ydoedd. Beth sydd yn cyfrif am y teimladau cryfion a gynhyrchwyd y misoedd diweddaf ynghylch yr hen wr? Paham y gwrthodai y naill gyngor ar ol y llall benodi cynrychiolwyr ar Gyngor y Coleg Aberystwyth am fod awdurdodau y Coleg yn rhoi blwydd-dal i Dr. Ethe? Amcanaf osod y ddwy ochr o flaen eich darllenwyr yn hollol deg, o safle y ddwy ochr mor bell ag yr wyf wedi eu deall. -+- -+- -+- Yn gyntaf oil, mae Dr. Ethe yn ysgolhaig o safle uchel iawn. Dywedodd rhywun fod ei glod led-led ag Iwrob. Mewn rhyw wedd mae hynny yn wir. Ychydig mewn cymhariaeth yw nifer y rhai hyfedr yn ei gangen ef, ac felly wrth :son am Iwrob yr hyn olygir ydyw y nifer o ddysgedigion yn Iwrob sydd yn astudioieithoedd dwyreiniol. Cyn dyfod drosodd i Loegr yr oedd yn dysgu yn y Bersiaeg, y Dwrceg a'r Arabaeg ym Mhrifysgol Munich, ac wedi cyhoeddi am- ryw "lyfrau safonol." -+- -+- -+- I Rydychen y daeth gyntaf i'r wlad hon. Nid wyf yn sicr pa fodd y daeth yno. Ond mewn hunan-gofiant a ysgrifennodd Dr. Ethe, defn- yddir y geiriau "called to Oxford." Yr hyn sydd yn sicr yw ei fod yn 1872 yn cydweithio a Dr. Sachau, Germaniad arall, i baratoi rhestr o'r llawysgrifau Persiaidd, ac ieithoedd dwyr- einiol eraill yn Llyfrgell Bodley. Dyma-'r adeg y rhoed iddo y radd anrhydeddus o M.A., gan Brifysgol Rhydychain. Yn ddiweddarach bu'n arholydd yn yr ieithoedd dwyreiniol yn y Brif- ysgol- Pa beth yw cysylltiad Dr. Ethe a'r Llywodr- aeth? Gwnaed llawer o hyn yn Nhy y Cyff- redin nos Iau. Wrth gwrs rhaid i bawb gael dweyd ei farn ar y priodoldeb o fod Germaniad, sydd yn ddeiliad i'r Caisar, yn dwyn dim math o gysylltiad a Llywodraeth Prydain dan yr am- gylchiadau presennol. Ond niwliog ddigon yw yr eglurhad ar y berthynas ryfedd hon. Gellif casglu fod Dr. Ethe, flynyddoedd yn ol, wedi cael y gwaith o wneud rhestr o'r Llawysgrifau Persiaidd sydd yn y Swyddfa Dramor. Cy- hoeddwyd y gyfrol gyntaf yn 1903, a chafodd yntau dal am ei waith. Byth er hynny, mae yn gweithio ar yr ail gyfrol; ac fel y bydd cyhoeddi wyr call yn gwneud bob amser, nid yw y Llyw- odraeth wedi talu dim iddo am yr ail gyfrol nes y bydd yn barod. Mae'r Doctor yn gweithio, ond nid yw yn agos i Lundain, a gall pawb fod yn dawel nad yw mewn cyfle i weled na c'llyw- ed dim o gyfrinachau y Brif-swyddfa yn Llun- dain. -it- Yn 1875 daeth i gysylltiad a Choleg Aberys- twyth. Nid oes angen llawer o ddychymyg i wybod pa fodd y daeth i Aberystwyth. Gwydd- t- ai Principal Charles Edwards ymha le yr oedd ysgolheigion, a chroesai foroedd a chyfandir- oedd i'w ceisio. Yn Aberystwyth y bu Dr. Ethe o 1875 hyd 1914. Pasiodd to ar ol to-o ddisgyblion drwy ei ddosbarth, a dygai y ?hai blaenaf ohonynt fawr sel dros eu hen athri.v. Darllenodd- Hebraeg gyda llawer, ond addefir nad dyna ei gryfder. Fel ysgolhaig Persiaidd yr ystyrir ef yn uwchaf, ac yn y gangen hen, caniateir yn rhwydd ei fod yn meddu "Euro- pean reputation." -+- -+- Yng Nghymru, o'r tuallan i'r Coleg, nid (- t-dd ond ychydig a wyddent ddim am Dr. Ethe. Yn Germani y cyhoeddodd ymron bopeth a gyn- hyrchodd tra yma, ac fe ddywedir fod nifer y cynhyrchion hyn yn lluosog. Yn Germani y treuliai ei wyliau, fel arfer, pan y torrodd y Rhyfel allan. Pa beth sydd yn cyfrif am yr helynt a dorrodd allan pan ddeallwyd ei fod yn dyfod yn ol i Aberystwyth ? 0 un tu yr oedd cysylltiad Dr. Ethe a'r Coleg yn un maith, a'r parch tuag ato fel ysgolhaig yn ddwfn iawn ymhlith ychydig. Heblaw hyn, yr oedd dolen o gyfeillgarwch holl- ol naturiol rhyngddo a'r awdurdodau, ac ar y pryd, pan yr oedd Dr. Ethe yn Germani, a'r rhyfel wedi torri allan, digwyddodd rhai peth- au, nad oes angen eu crybwyll, oedd yn gwneud dychweliad Dr. Ethe i'r wlad hon yn bwysig. Apeliwyd at y Llywodraeth am ganiatad. Hyd y mae yn wybyddus nis gwyddai Cyngor y Coleg ddim am y peth. Sut bynnag cyrhaeddodd Dr. Ethe yn ol. Pa fodd a phaham, nis gwyddis, -er fod y dorf yn Aberystwyth yn honni gwybod yr hanes yn fanwl. -+- -+- A oedd y cais a wnaed am i Dr. Ethe gael dyfod yn ol yn un doeth ? Nac oedd ebai'r dorf yn Aberystwyth. A'r dorf sydd yn ennill ydydd bob amser yn y pendraw. Bu raid i Dr. Ethe ymadael. -+- -+- Digon tebyg y buasai'r dorf wedi tawelu ac anghofio'r cyfan yn fuan onibai am. gwestiwn y blwydd-dal. Ymledodd y teimlad yn erbyn hynny i bob cyfeiriad. Gwrthodai y cynghorau benodi aelodau ar gyngor y Coleg fel protest yn erbyn rhoi blwydd-dal i Germaniad. Gofyn- wyd am eglurhad. Gwrthododd yr awdurdod- au ei roddi, gan ddisgwyl yn ddiau i'r cynghor- au ddistewi fel y gwnaeth y dorf yn Aberys- twyth. Tybiwyd y buasai tipyn o ddewrder, fel a ddefnyddiwyd yn Rhaiadr, yn ddigon. Ond camgymeriad fu hyn hefyd. Y camgymeriad cyntaf a wnaed, ebai'r beirn- iaid, oedd gofyn am i Dr. 'Ethe gael dyfod yn ol, ag yntau yn Germani, ac yn ddeiliad Llyw- odraeth Germani pan dorrodd y Rhyfel allan. Yr ail gamgymeriad oedd peidio cymryd y wlad i'r gyfrinach ar unwaith. A'r trydydd camgym- eriad oedd ceisio cadw y manylion yn ddirgel- aidd, a thrwy hynny roddi lledaeniad i bob math o chwedlau. Canlyniad yr hyn a wnaed, oedd codi gwrthwynebiad i'r Coleg drwy bron yr oil o Gymru, a gadawyd i hyn fyned ymlaen o wythnos i wythnos heb gynnyg eglurhad ar y cwestiwn. Dadleuir nad oes dim yn amgylchiadau Dr. Ethe sy'n wahanol i ugeiniau eraill drwy'r wlad. A chymryd un enghraifft, mae'r rhyfel wedi dinistrio cysur a bywoliaeth ugeiniau o ddynion ar y 'Stock Exchange' am yr unig reswm o'u bod yn Germaniaid. Ac ni ddylai cyfeillgarwch na dim arall, wneud gwahaniaeth rhwrig y naill a'r llall. Dyna'r olwg a gymerir ar yr achos gan lawer. Wedi hir ddistawrwydd, yn y cyfarfod yn Aberystwyth dydd Gwener wythnos i'r diwedd- af, cyflwynwyd gan Gyngor y Coleg adroddiad byr i'r Llys, "gyda'r amcan o symud cam- ddealltwriaeth oedd wedi codi o berthynas i'r achos." Dyma yr adroddiad, a gyflwynwyd gan Mr. D. C. Roberts, y cadeirydd:— Dr. Ethe held the post of professor of Ger- man and Oriental languages:. Hie had been a member of the college staff since 1875, and is a German subject. He resigned this professorship on condition that his pension, to which he had contributed' since the pension scheme had come into force, should become payable immediately. Under their contracts with Dr. Ethe the council were legally bound to accept the condition or to continue to pay his salary. "In May last a fiill statement of the facts leading up to the payment of the pension, to- gether with a copy of the pension scheme was forwarded to the Advisory Committee on Uni- versity Grants at their request, to' which body the matter had been referred by the Home Secretary. The Advisory Committee on University Grants has approved of the action of the college in pay- ing the pension." Yn y drafodaeth ar yr adroddiad hwn gwnaed amryw bethau yn hysbys. i. Rhoddodd y Llywodraeth drwydded i Dr. Ethe i ddychwelyd i'r wlad hon, ac felly yr oedd ganddo yr un hawliau a Phrydeiniwr, er ei fod yn Germaniad. 2. Ymddiswyddodd Dr. Ethe ar yr amod ei fod yn cael blwydd-dal. 3. Yr oedd gan Dr Ethe hawl i gadw ei swydd ac i gael ei gyflog, ac i osod ei amodau ei hun i lawr. 4. Nid oedd gan Dr. Ethe hawl i flwydd-dal am ddwy flynedd o dan ei gytundeb a'r Coleg, ond gan fod y cyngor yn awyddus am iddo ymadael ar unwaith, gwell oedd gan y cyngor roddi blwydd-dal iddo. Felly, yn ol yr hysbysrwydd hwn, yr oedd y Coleg dan rwymau cyfreithiol i dalu y pensiwn i Dr. Ethe er ei fod yn Germaniad. -+- Ar ol hyn bu dadl yn Nhy y Cyffredin. Ni chymerodd Cymru fawr" o ran ynddi. Adlew- yrchai yr afeHhiau olygiadau mwyaf eithafol y wasg, felen, a gellir yn rhwydd adael y wedd hon i'r mater i ofal y Llywodraeth. Nid oes a fyno a chwestiwn y blwydd-dal. -+- -+- Ond ni ddylai yr ysgolhaig na'r athro feio gor- mod ar ddyn y 'stryd. Mae gormod o ganmol wedi bod ar Dr. Ethe; mae dwy ochr i'r cwest- iwn yma, a dylai yr ysgolhaig a'r athro gofio hynny. Gwyddis yn ddigon-da beth ddywedodd gwr ddylai wybod am ddylanwad dysgeidiaeth y dosbarth ar y dynion ieuainq- A cham a Dr. Ethe yw dweyd mai meudwy ydoedd wedi ym- golli mewn llawysgrifau, heb amser na thuedd i droi at ddim byd arall. Nid dyna'r gwir, a i gwyr y dyn ar y 'stryd hynny yn eithaf da. "Ar hyd ei oes,' ebai Syr O. M. Edwards yn Cymru' am Dachwedd, "y mae Dr. Ethe wedi bod yn agor trysorau llenyddiaeth Persia' ac Arabia i Brydain nid i'r Almaen." Ond cofier fod Dr. Ethe ei hun yn dweyd mai yn Germani y mae wedi cyhoeddi yr oil o'i gynhyrchion oddigerth y gwaith o wneud rhestr o'r llawysgrifau. Ai tybed nad oes bellach ddigon wedi ei ddweyd ar y mater? Gallasai yr awdurdodau fod wedi atal llawer o'r teimladau a gynhyrch- wyd drwy gyhoeddi adroddiad llawn o'r ffeith- iau. Er mwyn y Coleg dylai y cyfan ddarfod bellach, a Dr. Ethe gael heddwch i fyned ym- laen gyda'r ail gyfrol ar lannau'r Hafren. Ac eto mae'r teimlad yn bod yn y wlad fod rhywun yn rhywle wedi bwnglera, ac i hynny droi yn fantais i Dr. Ethe. Yn Germani y buasai efe onibai i rywun brysuro i'w gael yn ol. Mae miloedd o Germaniaid yn Lloegr heddyw sydd wedi cael triniaeth pur wahanol.