Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CYFARFODYDD MISOL.-

News
Cite
Share

TREFALDWYN UCHAF.—Aberangell, Hyd. 19, 20. Llywydd, Mr. Richard Rees, Y.H. Dechreu- wyd am 11.30 gan y Parch. D. Lloyd Jones, M.A. Cadarnhawyd cofnodion y C.M. diweddaf, a phas- iwyd i gynnal y C.M. nesaf yn Machynlleth (S.), dydd Iau, Rhagfyr 7. Adroddiad yr ymweliad i'w gyflwyno a'i drafod yng nghyfarfod y bore. (Y Pwyllgor i gyfarfod y noswaith cynt). Pasiwyd i anfon ein cofion at Mr. Edw. Morgan, Dylife, mewn profedigaeth, a Mti. D. M. Wigley, Graig, E. D. Evans, Gleinant, a Mr. W. Ashton, mewn gwaeledd. Hysbyswyd fod llythyrau yn cydnabod cofion y C.M. wedi eu derbyn oddiwrth amryw frodyr. Treuliwyd gweddill cyfarfod y bore i drafod sefyllfa yr Ysgol Sul. Cyflwynwyd y genadwri o'r Gymanfa Gyffre- dinol gan y Parch. Elias Jones, a siaradwyd ymhell- ach gan y Parch. J. Williams, Seion, Mr. W. Ed- wards, a'r Llywydd. Dechreuwyd cyfarfod y pryn- hawn gan Mr. E. Roberts, Derwenlas. Cafwyd anerchiad gan y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., am y nodded gaiff ein bechgyn yn Huts y Y.M.C.A., a gwniLeth apel am weithwyr i fyned allan i gynorth- wyo. Cafwyd anerchiad (gohiriedig) wrth ymadael o'r Gadair gan y Parch. J. P. Davies, yn yr hwn y dygodd ni wyneb yn wyneb a sefyllfa isel crefydd yn y wlad, ac i yxaholi i ba raddau yr ydym ni fel swyddogion yn gyfrifol am y, sefyllfa honno. Ar- weiniwyd gyda Hianes yr Achosi yn Aberangell, Mallwyd, a'r Dinas, gan Mr. J. E. Mills, Caersws, a chaed hamdden ddymunol gyda hyn. Yr oedd golwg ddymunol ar yr achos, a llawer o ffyddlondeb yn cael ei ddangos, a phrofiadau y swyddogion yn dangos eu bod yn byw llawer dan y gwlith ar fynydd Seion. Etholwyd yn Gyfarwyddwyr—Ar Bwyllgor Dirwest y Sasiwn,-y Parch. Edw. Evans; y Forward Movement, y Parch. J. Williams, Seion, yn Ysgrifennydd, a Mr. Hugh Davies yn Drysorydd; y Gronfa Fenthyciol, y Parch, D. Davies yn Ysgrif- ennydd, a Mr. Richard Crosslyn yn Drysorydd. Cafwyd adroddiad o Gymanfa Ddirwesltol Gwynedd, gan y Parch. Edward Evans, a rhoddodd Mr. Rd. Jones, Pertheiri-n, adroddiad am sefyllfa ariannol Dirwest. Apeliwyd am i'r casgliad arbennig at y Drysorfa Gynorthwyol ddod i law ddiwedd y mis hwn. Hysbysyd focJI y £13 dyledus ar Hendreaur i'r Gronfa Fenthyciol wedi eu talu. Cyflwynwyd Deeds 'Mallwyd i'r safe. Galwodd y Parch. Edward Jones sylw at lyfr y Parch. J. H. Symond,—" Gwersi Uwchaf ar Gyfer Adferiad Heddwch." Gohiriwyd adroddiad o Gymdeithasfa Bangdr hyd y C.M. nesaf. Cafwyd cyfarfod i'r Bobl leuainc prynhawn Gwener. Mater, Ymgysegriad i Grist." Llywydd, Parch. J. T. Davies. Cymerwyd rhan gan y Parchn. T. Alun Williams, Edw. Evans, Mr. R. Bennett, a'r Parch. Alun T. Jones, Llanfair. Pregethwyd gan y Parchn. W. R. Owen, Elias. Jones, J. T. Davies, Alun T. Jones, Llanfair. ■ ■ GOGLEDD ABERTEIFI.—Soar, Hydref 2,ofed. Llywydd, y Parch. Isaac Joel. Dechreuwyd cyfar- fod y bore gan Mr. John Jenkins, Tabernacl. Dar, llenwyd llythyrau yn cydnabod cydymdeimlad oddi- wrth Mr. R. E. Owen, Welshpool, Miss D. A. Dav- ies, Trisant, Mr. David Evans, Trisant, a Mr. Jenkin Lewis, Mynach; ac oddiwrth Mr. Arthur Jones, Aberystwyth, yn datgan ei ofid oherwydd ei anallu i fod yn bresennol. Penodwyd i gynrychioli y C.M. ar y Pwyllgor Canolog, er gwneuthur darpariadau ar gyfer y Licensing Sessions, y Parch. T. E. Roberts, M.A., Proff. T. A. Levi, M.A., a Mr.-Daniel Thomas, Aberystwyth. Cadarnhawyd adroddiad y Pwyllgor Dirwest, fel y canlyn: i. Fod "Dyledswydd yr eglwys yn wyneb y symudiad, i genedlaetholi y Fas- nach mewn diodydd meddwol," i fod yn fater i gael ymdriniaeth arno yn y C.M. nesaf. Agorwr, Proff. T. A. Levi, M.A., B.C.L. 2. Ein bod yn anfon y penderfyniad' a ganlyn i'r Prifweinidog, Mr. Vaughan Davies, a Syr Herbert Roberts Ein bod yn datgan ein barn o blaid gwaharddiad llwyr ar y Fasnach Feddwol, yn gwrthwynebu yn gryf y-n erbyn unrhyw gynllun o genedlaetholi y Fasnach, a thrwy hynny ei gwneud yn faich parhaol ar ysgwyddau y wlad; a'n bod yn gofyn i'r Llywodraeth1 ganiatau i Gymru ei Mesur Dirwestol ei hunan, sef Dewisiad Lleol, yn ol cynllun Syr Herbert Roberts." 3. Fod1 y mil copiau o "Pwy sydd ar du yr Arglwydd," i'w dos- barthu trwy Ysgrifenyddion y Cyfarfodydd Dosbarth. Derbyniwyd adroddiad Pwyllgor Llyfr y Cyhoedd- iadau, a phasiwyd yn wyneb y codiad ym mhris y papur fod y llyfrau am 1917 i'w gwerthu am geiniog a dimai yr un. Fod yr eglwysl yn gyfrifol i'r C.M. am y nifer a gymerir i bob lie oddiwrth1 yr Argraff- ydd, ac i dalu am danynt, neu eu dychwelyd i Mr. John Morris, Penllwyn, cyn diwedd Chwefror, 1917. Cafwyd adroddiad Cymdeithasfa Troedyrhiw, gan Mr. J. Pugh Lewis, Penllwyn, Mr. Daniel Thomas, Aberystwyth, a'r Parch. R. J. Rees, M.A. Rhodd- wyd adroddiad ariannol Cymdeithasfa Penllwyn, gan Mr. John Morris, a phasiwyd i drosglwyddo yr arian gweddill i Drysorydd y Drysorfa Sirol. Pasiwyd fod crynhodeb o anerchiadau y Parch. David Lewis a Mr. Wm. Evans, Ponterwyd, yng Nghyfarfod1 Misol Madog, ar Hanner Can'mlwyddiant y Drysorfa Sirol, i gael ymddangos yn adroddiad y Drysorfa am 1916. Derbyniwyd cenadwri o Ddosbarth- Aberystwyth, a phenodwyd y Parch. J. C. Evans, Borth, a Mr. John Morgan, Siloh, i fyned i eglwys y Tabernacl ynglyTi ag ymgeisiaeth Proff. T. A. Levi, M.A., am y weini-- dogaeth. Coffawyd am farwolaeth Mr. Richard Phillips, Argoed, Llangwyryfon, a phasiwyd i anion cydymdeimlad a'i deulu. Penodwyd yn Bwyllgor i ystyried chos arbennig y Parchn. T. E. Roberts, M.A., R. J. Rees, M.A., J. C. Evans, a'r Mri. D. C. 'Roberts, Y.H., John Morgan, Siloh. Mr. John Morgan' i weithredu fel1 cynhullydd. Derbyniwyd llais yr eglwysi yn cymeradwyo M'r,. R. E. Owen, Bath Street, Aberystwyth, ar derfyn ei flwyddyn brawf, a derbyniwyd ef yn aelod o'r C.M. Pasiwyd i gyflwyno achos y pregethwyr ieuainc eraill i ystyr- iaeth y Pwyllgor Addysg. Dechreuwyd cyfarfod y prynhawn gan Mr. John Davies, Graig. Anerchwyd y cyfarfod yn wresog ac effeithiol ar ran y Genhad- aeth Dramor gan y Parch. R. J. Williams, Liverpool. Cafwyd a'nerchiad rhagorol hefyd gan Mr. D. Lloyd Rees, Llanilar, ar Safle bresennol yr Ysgol Saboth- ol yng Ngogledd Aberteifi, a'r mesurau goreu i atal lleihad yn nifer yr aelodau." Dilynwyd gan Mr. John Morris, Penllwyn, Mr. John Jenkins, Tabern- acl, Mr. John Morgan, Siloh, a'r Parch. William Jones. Cafwyd Hanes yr Achos yn y lie gan Mr. D. Lloyd Rees, ac ymddiddanwyd a'r Swyddogion gan y Parch. R'. J. Williams, Liverpool. Y C.M. nesaf i'w gynnal yng Nghapel Afan, dydd Gwener, Tachwedd 10. Pregethwyd gan y Parchn. William Jones ac R. J. Williams. GORLLEWIN MOiRGANNWG.— Moriah, Tre- boeth, Hyd. II. Mr. W. G. Roberts, Maesteg, yn y Gadair. Dechreuwyd gan Mr. Jenkins, Penycae. Wedi cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol mewn geiriau tyner iawn, cyflwynod'd' Mr. Roberts y Gadair i'w olynydd,—y Parch. Charles Williams, Ty- newydo, gyda mynegi y pleser roisai iddo gael ei chyflwyno i un mor ddeheuig a gwir'deilwng, heb anghofio ei fod yn. fei derbyn yng nghanol trallod a phrofed'igaethau mawr, wed'i colli dau fab annwyl,— y naill wrth ymladd dros ei wlad, a'r llall wrth ym- ladd a'r darfodedigaeth1; y maent hwy, weithian, ymhell o swn rhuadau'r llewod,' ac wedi myned i dderbyn eu gwobr. Diolchodd Mr. WilliamSl am yr anrhydedd, a gofynodd gan y C.M. beidio ei ladd a'i garedigrwydd. Yna traddododd Mr. Roberts anerchiad rhagorol, ar Grist fel Gwaredwr a Gobaith y byd, ac ar gynhygiad y Parch. William Jones', ac eiliad Mr. Daniel Williams, cyflwynwyd i Mr. Rob- erts ddiolchgarwch cynnes iawn, am ei lywyddiaeth fedarus, a'i anerchiad gwerthfawr, gan ei annog i'w anfon i'r wasg. Cafwyd hanes yr Achos yn y Dos- barth, gan y Parch. Walter Davies, Glandwr. Ad- roddiad calonogol iawn; er colli llawer drwy angau, ac er Iluosogi o'r byd, yn fwy nag erioed, ei atdyniadau i geisio denu plant a phobl ieuainc, y mae'r achos mawr yn Nosbarth Abertawe, nid yn unig yn dal ei dir, ond yn ennill nerth, yn ysitod y pymtheg mlynedd diweddaf. Cynnydd geir ymhob colofn,-cynnydd yn rhif yr. eglwysi, tair; yn rhif y blaenoriaid, 14; yn rhif y cymunwyr, 760; plant ac ymgeiswyr, 473; gwrandawyr, 446; ac yn rhif aelod- au yr Ysgol Sul, no. Casgliad' at y Weinidogaeth wedi cynhyddu ^541 16s. 4c., a chyfanswm yr holl gasgliadau wedi cynhydu Z7214 10s. 8c. Cafwyd hanes yr achos yn y lie gan Mr. David Jenkins, un o flaenoriaid Moriah; cynnydd sydd yno hefyd, a phethau yn weddol ddymunol yn eu plith. Nid oedd am ein cymryd yn ol, ond am 13 mlynedd, yr adeg y bu'r C.M'. ym Moriah o'r blaen. Gallasai'n cymryd yn ol i 1871, pryd y sefydlwyd yr achosi a son am y gweinidogion fu'n llafurio yn eu mysg, ond nid oedd amser yn caniatau. Yn 1909 cawsant eu Jiwbili, pryd y talwyd yr oil o'r ddyled. Yn 1913 ad- newyddwyd y capel, ac aethpwyd i ddyled drachefn 0 £ 720, ond y mae yn cael ei symud yn raddol. Yr oeddynt wedi galw daw i ddyfod i'w bugeilio, ond nid oedd un wedi ateb. Llawenydd gan y C.M. oedd deall fod cyflwr yr achos yn ei wedd ysbrydol yn weddol foddhaol yn y Dosbarth, a diolchwyd i'r brodyr am eu hadroddiadau. Cyflwynwyd i ystyr- iaeth y Dosbarth, gan y Cadeirydd, later teilwng iawn, Ai nid ydyw yn hen bryd', a dweyd y lleiaf, gychwyn achos a sefydlu eglwys yn y Mumbles ? Darllenwyd llythyrau yn diolch am gydymdeimlad y C.M. a hwy oddiwrth Mri. W. R. Williams, Cwm, Thomas James, Clydach, W. a C. Morgan, Creunant, Dr. Prell, Aberdulais, a'r Parch. Edward Owen, Aberafon. Darllenwyd hefyd llythyrau trosglwydd- iad y Parch. T'. Gwernogle Evans a'r Parch. John Evans, y naill yn dychwelyd o Sir Gaerfyrddin i fyw yng Nghastellnedd, a'r llall wedi ymneilltuo o ofal bugeiliol yr eglwysi yn Abercarn, wedi pum' mlynedd ar hugain o wasanaeth gwerthfawr iawn yn yr eglwys a Chyfarfod Misol Mynwy, ac yn awr wedi symud i fyw i Porthcawl. Y-n enw y C.M'. rhoddodd y Cad- eirydd i'r ddau groesaw calonnog, a galwodd ar y Parch. John Evans ymlaen i'r set fawr, gan ddatgan ein llawenydd o'i gael i'n plith, a dymuno ganddo gymryd ei le, a gwneud ei ran yn y C.M. hwn hefyd. Trefnwyd cynnal y C'.M. nesaf yn Bethania, Glyn- nedd, Tach. 2,9, i ddechreu am 10.30. Seiat am 2.30. Mater y Seiat fydd, L,Iawenydd' gwir grefydd," y Parch. William Thomas, Maesteg, i'w agor. Rhodd- odd y Parch. David Hughes wahoddiad cynnes i bawb o'r brodyr i gofio myned yno, a rhai rhesymau cryfion dros iddynt wneud'. Yn irnol a threfniant blaenorol, rhoddwyd i'r Parch. Clement Evans gyfle i osod gerbron sefyllfa ariannol yr eglwys yn Gwaun- caegurwen. Y mae'r llanw wedi troi yn hanes yr eglwys hon, bellach, a gwelir hi'n symud pethJ ac wedi cyfarch o'r Cadben y llongau eraill hwyliant gerllaw, y mae rhai o honynt eisoes wedi ateb. Nifer wedi myned yn gyfrifol am y llog ar gant neu fwy am ychydig flynyddau, a'r eglwys yn Pontardawe wedi talu Zioo o'r ddyled, a Rhys Davies, Ysw., Y.H., Trysorydd y C.M., wedi rhoddi iddi £5°, a phasiwyd pleidlais 6 ddiolchgarwch cynnes iawn i'r eglwys ym Mhontardawe a Mr. Rhys Davies ani-eu rhoddion gwerthfawr, a rhoddwyd i Mr. Evans anog- aeth i fyned rhagd'do, ac wedi gorffen y gwaith ceir adroddiad llawn o bob rhoddion personol ac eglwysig dderbynia. Darllenwyd taflen cyfrifon Cymdeithas- fa y Garth gan y Parch. T. H. Morgan, a deallid fod bron yr oil o'r eglwysi wedi anfon rhyw gyfran tuag at y treuliau, ac fod digon mewn llaw i gyfarfod a phob gofyn, ac ychydig yn weddill. Diolchwyd am yr adroddiad manwl, ac i'.r eglwys,am! wneuthur mor rhagorol. Yr oedd y Parch. Wm. Henry, Lerpwl (un o blant Moriah, fel y digwyddai) yn bresennol ar ran y Genhadaeth Dramor. Rhoddwyd iddo groesaw calonnog, a chafwyd ganddo anerchiad' ardderchog. "IDispatch," oedd ganddo, meddai, "asking for re- inforcements." Teimlai pawb fod gan Mr. Henry genadwri, a'i fod o ddifrif, a chredwn y bydd i Or- llewin Morgannwg gynorthwyo, beth bynnag, mewn rhoddi iddo yr hyn y gofynai am dano. Diolchwyd iddo am ei ymweliad, ac am ei anerchiad rhagorol, ac wedi iddo gyfarfod drachefn a Phwyllgor y Gen- hadaeth Dramor, ar gynhygiad y Parch. W. Talfan Davies, Ysg. y Pwyllgor hwnnw, pasiwyd a ganlyn: Ein bod yn gwneud ymdrech arbennig eleni gyda chasgliad y Genhadaeth Dramor, fel ag i wneud1 Casgliad Eithriadol fydd yn foddion i gyfarfod a rhan o'r ddyled (^6,000) erys ar y Genhadaeth. (2) Fod y Saboth olaf o'r mis hwn, Hydref 29, i gael ei neilltuo yn Saboth Cenhadol, a'r pregethwr fyddo yn yr Eglwys ar y Sul i draddodi pregeth genhadol. Hefyd fod i ymweled a phob eglwys flaenor i osod amgylchiadau y Genhadaeth gerbron yr eglwys gyd- a'r gweinidog. (3) Ein bod yn taer wasgu ar yr eg- lwysi i sefydlu ynddynt Gymdeithas Genhadol y Chwiorydd. Yr oedd y Parh. M. H. Jones, B.A., y Ton, hefyd, yn bresennol, yr hwn sydd ar hyn 0' bryd yn traddodi cyfres o ddarlithoedd ar waith yr Ysgol Sul o fewn cylch y C.M., a rhoddwyd iddo. yntau groesaw calonnog. Cafwyd ganddo anerchiad gwerthfawr, ar y modd inni gario allan yr hyn a geisiai ddysgu yn y Darlithoedd. Cafwyd ganddo, hefyd anerchiad dyddorol iawn ar Gymdeithas, Hanes y C'yfundeb. Trwy dalu 5s. y flwyddyn am. aelodaeth, ca pob aelod y Cylchgrawn hanes yn rhad, yr hwn sy'n argoeli bod yn ddyddorol iawn Diolchwyd i Mr. Jones am ei ymweliad' a'i wasan- aeth. Gohiriwyd penodi ysgrifennydd i ofalu am, fuddiannau y Gymdeithas hyd y C.M. nesaf. Bu'r mater gohiriedig o Bwyllgor yr Ysgol Sul, sef y cwestiwn o gyfyngu yr Arholiad yn. gyfangwbl i'r iaith Gymraeg o dan ystyriaeth, ac wedi tipyn a siarad, ac amryw gynhygion, penderfynwyd fod yr Arholiad nesaf i'w ddwyn ymlaen fel cynt yn y ddwy iaith, fel y mae eisoes wedi ei drefnu, ond ein bod yn cyfyngu yr Arholiad y flwyddyn ar ol hynny, 1918, i'r iaith Gymraeg yn unig. Ar ran y Pwyllgor Dirwestol, galwyd sylw at y Saboth Dirwestol gan y Parch. Thos. Davies, Cilffriw, a phasiwyd ein bod yn gwasgu ar y gweinidogion i bregethu ar ddirwest y Saboth hwnnw, sef Tach. 12Íed, ac fod hyn i gael sylw hefyd yn yr Ysgol Sabothol. Ar gynhygiad y Parch. D. E. Thomas, pasiwyd fod ein cofion a'n dymuniadau goreu i'w hanfon i'n hefrydwyr ydynt wedi ymuno a'r Fyddin a'r Llynges, ac yn gofyn hefyd' gan'yr eglwysi gofio am eu bechgyn, ac i gyd- ymdeimlo a'u teuluoedd. Ymddiriedwyd hyn i Mr. Thomas. Rhoddodd y Parch. W. Samlet Williams rybudd y bydd yn y C.M. nesaf yn galw, sylw at y pwysigrwydd o fod yr eglwysi a'r Ysgolion Sabothol yn cadw -cofnodio-n o'u gweithrediadau. Galwodd y Parch. William Jones sylw at gyfrol gyntaf Hanes Methodistiaeth Gorllewin Morgannwg gan y Parch. W. Samlet Williams, gan annog aelodau y C.M. a'r eglwysi i sicrhau copi o hono ar un waith. Hysbya- odd y cenhadau fu ym Moriah, Casllwchwr, fod y Mri. J. Emlyn Jones, David Lewis, Daniel Rees, a Henry Roberts, wedi eu dewis yn flaenoriaid', a chadarnhawyd. Enwyd" i fyned i'r Babell i gymryd llais yr eglwys yn newisiad blaenoriaid, y Parch. W. Rawson Williams, B.A., a Mr, John Evans, Cruglas. Enwyd i fyned i Resolfen i gymryd llais yr eglwys yn newisiad bugail, y Parch. William Jones, Aber- dulais,, a Mr. Thos. Williams, Glynnedd, ac ar yr un neges i Hermon, Caerau, y Parch. E. W. Pearce- a Mr. W. G. Roberts, Maesteg. Cymeradwywyd i'r.: eglwys yn Peniel Green, i roddi benthyg £250 it Jerusalem, Nantyffyllon, oddeithr fod yn yweithredt ryw rwystr ar ffordd gwneud hyn. Hysbyswyd fodi Gwauncaegurwen wedi talu yr ol-ddyled i'r Drysorfa. Fenthyciol; Seven Sisters wedi talu yr oil o'r £2'50 cyntaf fenthyciwyd ganddi yn ogystal a'r rhan sy'n ddyledus o'r loans eraill. Nantyffyllon ar wneud ei rhan, os nad wedi gwneud'. Derbyniwyd y blaen- oriaid a ganlyn yn aelodau o'r C.M., sef y Mir. Llewelyn Jones, Ystradgynlais, Daniel Rees, J. Emlyn Jones, a David Lewis, o Moriah, Casllwchwr. Holwyd hwy am eu profiadau crefyddol gan y Parch. M. H. Jones, B.A. a rhoddwyd iddynt gyng-. horion gwerthfawr gan Mr. Wm. Harrison, y Cwm, yn eu hannog gan eu bod wedi eu dewis, yn flaenor- iaid i flaenori, mewn bod yn barod i ddioddef, mewn bod yn ffyddlawn, a hyderai y byddai iddynt oil dyfu-tuag i Zawr; a thynnu llawer at Iesu Grist. Pasiwyd fod llythyrauo. gydymdeimlad i'w hanfon at y personau a ganlyn yn eu gwahlanol brofedigaeth- au: Parch. W. Williams, Hafod (colli ei unig fab yn y Rhyfel),, a'r Parch. R. C. Lewis, B.A., Pencoed (wedi colli ei unig fab yntau); y Parch. Wm. Jamea, M.A. (mewn llesigedd); Parch. D. G. Jones, Pontar- dawe (cystudd); Mri. William Jenkins, Penclawdd, a'i fab; John Rees, Gronant; D. L. Rees, Caerau; John Morgan, Bryncethin; John Jones, Blaengarw Thos. Evans, Gellilenox; Parch. W. Thomas, Maes- teg; Mr. David Lewis, \Caerau; Parch. T. R. Wil- liam's, Pyle; Mr. D. Griffiths, Pencoed; Mrs. Wil- liams, Bryngwenith, Pencoed; Mr. Griffith Roberts,. Castellnedd; a Mr. John Howells, Sciwen. Hys- byswyd fod Penclawdd wedi talu -fioo o'r ddyled,. ac yn cael dau nodyn ^50 yn lie dau ^100 yr un;; Cwmrhydyceirw yn newid nodyn £ 100 am ddau ^"50 yr un; Moriah, Penrhos, yn talu ^50 o'r ddyloo; Resolfen yn newid dau nodyn ^5 yr un; Saron, Pencae, yn talu £50 o'r ddyled; Dyffryn, Taibach, am newid nodyn, ac yn talu ^50. Hysbyswyd fod Tabernacl, Blaengarw, wedi cyflwyno 'lease' Cv y gweinidog i'w gosod yn y gist. Ar gynhygiad' y Parch., James Davies, B.A., gweinidog yr Annibyn- wyr ym Mynyddbach, at bresenoldeb yr hwn hefyd yn y C.M. y cyfeiriodd y Cadeirydd, talwyd diolch cynes iawn i'r eglwys ym Moriah, ac i'r chwiorydd1 am eu croesaw. Cyhoeddwyd i bregethu yn yr hwyr y Parch. D. John, B.A., Taibach, a Wm. Henry, Lerpwl. Gweler yr Hysbysiad am y LIyfr, GWERSI UWCHAF AR GYFER ADFERIAD HEDDWCH yn tudal. 8,