Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
f < r SEEDS Secured from a reliable source are bound to give Satisfaction. Send for my f Garden Seeds Catalogue, free. Kay's Nurseries, Fairbourne, S.O. i ■ ARGRAFFU Adroddiadau Eglwysig, Ystadegau, f Tafleni Cymanfaoedd, &c., &c. Yn brydlon a destltis, ac am y prisiau mwyal rhesymol x Anfoner archebion ar unwaith i- Swyddfallr 'Cymro,' Dolgellau. Use i"ML KEENOR SELF-RAISING FLOUR IT MAKES PERFECT PASTRY, SCONES, &c, &c. SOLE WHOLESALE AGRNTS- f MORRIS & JONES, Ltd., LiAerpool Manchester. y PARCH. J. H. SYMOND, TOWYN MEIRION- YDD. Cwersi Uwohmf aw* gyfer Adferiad Healdwak. (Higher Lessons pertaining to the Restoration of Peace) PRIS SWLLT (Net). PtOb Archeb a'i Thil i'w cyfeirio at- E. W. EVANS, Ltd., DOLGELLAU. DR. WILLIAMS' SCHOOL, DOLGELLEY. REQUIRED strong respectable giirl, age from 18 to 22, as laundry maid. Welsh preferred. Apply The House-Mistress.
CENEDLAETHOLIR "FASNACH."
News
Cite
Share
CENEDLAETHOLIR "FASNACH." GAN MR. HUGH EDWARDS, LIVERPOOL. YN bersonol yr wyf yn annhueddol iawn ac hwyr- frydig i gymryd rhan i drafod cwestiynau cy- hoeddus a dadleugar y dyddiau hyn a hynny yn bennaf oherwydd rhyferthwy yr amserau a'r ar- gyfwng difrifol y mae ein gwlad a'r gwledydd ynddo drwy y rhyfel. Rhywfodd y mae y cwestiwn o genedlaetholi'r fasnach wedi ei wthio i'r ffrynt yn ystod blwyddyn o amser yn neilltuol. Gan bwy, nis gwn yn iawn, ond, y mae gennyf fy marn. Yn ol fy nhyb i y mae a fynno areith- iau Mr. Lloyd George yn Chwefror a Mawrth y llynedd lawer, ie, mwy na dim arall a'r ffaith, pan y gwnaeth y datganiadau a'r datguddiadau. arbennig o bwys yn dangos perigl y wlad ynglyn a'r rhyfel—oherwydd y "fasnach" a'i chanlyn- iadau dinistriol. Cymrodd y darllawyr ac ael- odau blaenaf y fasnach feddwol fraw, oherwydd yr oeddyntyn ddigon craff a chyfrwys i ddeall y farn gyhoeddus ac arwyddion yr amserau o berthynas iddynt hwy a'u galwedigaeth. Nid yw public opinion o blaid y fasnach heddyw. Credaf yn gadarn mae oddiwrthynt hwy y mae'r cri wedi codi am genedlaetholi eu masnach. Os felly, mae hynny yn ddigon i gondemnio y cyn- ygiad ac i atal dirwestwyr i'w bleidio. Yr ydym yn cydnabod fod llawer o ddirwestwyr sel- og gystal a-ninnau yn pleidio'r cynllun-a rfrydd i bawb ei farn a datganiad ohoni-ac y maent yn ddigon gonest, dyna'r cyfaill y Parch. J. T. Rhys, Abertawe, fel enghraifft, wedi bod yn ymroddgar dros ben. Yn bersonol, efallai nad yw hynny o fawr o bwys, yr wyf yn wrthwyneb- ydd anghymodlawn i'r meddylrych o genedlaeth- oli'r fasnach feddwol drwy'r wladwriaeth ei phrynu a'i chario ymlaen. Pan yn gwynebu, ystyrried, popeth ynglyn a'r "Fasnach," rhaid edrych ar y Fasnach fel un yn hanfodolwa- hanol i bob masnach arall. Y mae hyn yn ddigon amlwg ac eglur i bob dyn ystyriol a chyfarwydd. Meddylier am ei gallu anferth yn wleidyddol a chymdeithasol-yn wir mewn byd ac eglwys, ie, hyd yn oed yn amser rhyferthwy rhyfel digyff- elyb, yn gystal ac mewn amser heddwch. Teim- lwn yr angenrhaid y dyddiau hyn i bwysleisio y ffeithiau. Cofier ein bod yn ymwneud a chwestiwn eitKriadol ac anghydmarol, ac mae nid ymarferol a doetli ydyw trafod a cheisio deddfu ynglyn ac achos o gymaint pwys ynddo ei hun ai ganlyniadau pellgyrhaeddol i'r wlad a;r werin yn yr amgylchiadau yr ydym ynddo tra paro'r rhyfel, ni fyddai hynny ond yn hollol yr hyn a elwir yn "panic legislation"-gwneud yr hyn nad oeddym yn gwybod beth! Y mat y cyfeillion o blaid cenedlaetholi yn chwarae i ddwylaw y fasnach a'i ffryndiau. Y mae'r wlad y dyddiau yma, yng nghanol y rhyfel a'i holl alanastra, ac yn dioddef yn dost mewn llawer modd oddiwrth y fasnach feddwol a'i ffrwytKau. Vr wyf o'r farn, ac wedi datgan gystal yn gyhoeddus, mae camgymeriad dybryd wnaeth y Llywodraeth ar doriadallan y rhyfel na buasai wedi gwahardd y fasnacn mewn diodydd meddwol yn ystodparhâd y rhyfel. Beth, pe buasai Arglwydd Kitchener, yn mis Medi, 1914, wedi gofyn am hyn? A fuasai y Llywodraeth — a'r wlad yn ei wrthod? Yr wyf o'r farn y bu- asai yn cael ei fifordd yn ebrwydd, Yr wyf wedi gwneud yr hyn allwn am lawer blwyddyn bellach tuag, at hyrwyddo yr achos dirwestol-yn bennaf, trwy ymdrin a'i agwedd- au bydol, cyllidol a chymdeithasol, ac y mae'r rhyfel, wedi pwysleisio yr angenrheidrwydd i ys- tyrried yr agweddau yma, ac yn fwy fyth ar ol y bydd y terfysg drosodd. Gan mai amhosibl fydd i'r wlad a'r werin ganiatau a goddef y fath wastraff ar nwyddau, amser, trysor, ac iechyd a achosir o flwyddyn i flwyddyn gan y diodydd meddwol. Pan ystyriwn y ddyled genedlaethol anferth., ac nas gellir ei sylweddoli a bentyrir o wythnos i wythnos mewn canlyniad i'r ymgyrch ryfelgar, a oes neb a gred y bydd yn bosibl i'r bobl wario yn uniongyrchol tua ^185,000,000 yn flynyddol ar y diodydd fel ag yn y gorffen- nol ? Eto, dyma ychydig o ddirwestwyr aidd- gar a da-yn bennaf am eu bod yn anfoddlawn ar y llwyddiant sydd wedi cymryd lie yn hanes yr achos dirwestol, a'u bod mewn rhyw "Gors Anobaith" gyda golwg ar y dyfodol, yn gwylltio ac yn cynhyrfu eu hunain, ac yn rhedeg ar ol y meddylrych o genedlaetholi gan feddwl y bydd hynny yn dwyn pethau a chymdeithas i'w lie. Nid oes dim galwad gyhoeddus am gymryd y fath gam hyd yn hyn. Bydded fod gennym bwyll nes ~darfolr rhyfel-pryd bynnag y bydd hynny—rhag y bydd i ni fel dirwestwyr a chym- deithaswyr ganfod maes o law ein bod wedi gwneud camgymeriad dybryd, nas gellir ei adfer ar ol gweled y trybini yr arweinir ni iddo drwy redeg gyda'r fasnach er ei galluogi i wneud y gor eu iddi ei hun yn yr argyfwng cul a dyryslyd y mae wedi cael ei hun ynddo yn wleidyddol a chymdeithasol, ac fe ganfydda hyn yn fwy fwy yn y dyfodol buan pan y daw heddwch, ac i'r wlad gael hamdden ac amser i ad-drefnu am- gylchiadau cymdeithas ym Mhrydain. Yr wyf o'r farn ddiysgog y bydd y pryd hynny yn llawer hawddach, ac yn wir, hawdd i ddelio a'r fasnach feddwol yn ol ei haeddiant a'i chyfiawnder, a gofyniadau arbennig cymdeithas er adfywio yr holl beiriant cymdeithasol. Yr ydym yn clywed llawer er ys misoedd bellach, am "reorganisa- tion, ""reconstruction," ac felly ymlaen, a fydd lie i fasnach feddwol, yn y byd newydd yr ydym yn edrych tuag ato? Waeth pwy ai cario ym- laen gan mai o'r drwg y mae Cenedlaeth- oli'r "Fasnach feddwoV yn wir! Y mae gan y Llywodraethau ormod o fudd ynddi eisoes a thrwy'r oesoedd, ac ar y cyfan, er hynny gofid a phoen anrhaethol ydyw wedi bod iddynt. Yr ydym wedi clywed a darllen llawer yn ddiwedd- ar am y "State," beth ydyw a pheth nad ydyw, ond pwy sydd wedi rhoddi dehongliad priodol a derbyniol i'r gair? Gadawn ef fel hyn, gan ddweyd y bydd gan y "State" ddigon ar ei llaw i edrych ar ei ol wedi pasio y rhyfel heb ofyn iddi gymryd i fyny lywodraethiad a rheoleidd- iad y diodydd meddwol. Pwy all ei llywodr- aethu ai rheoli ? Onid masnach aflywodraeth- us ac afreolaidd ydyw wedi bod, ac yn debyg o fod oherwydd ei natur hyd nes y gwaherddir, ie, y diddymir hi o'r tir. A yw hyn yn ormod i'w ddisgwyl cyn bo hir? Credaf nad ydyw ond i'r State yn awr y bobl wneud eu dyledswydd trwy ddeffroad cenedlaethol i sylweddoli angenrheid- iau cymdeithasol-pa rai ni ffynnant. Os bydd i'r diodydd meddwol barhau yn rhan ac elfen mewn cymdeithas-State drink trade yn wir!! A fydd rhaid cael Drink Minister a Drink De- partment? Y mae'r Government Departments ar gynnydd, ac felly y gweinidogion. Y mae galw am "Minister of Commerce," ac y mae hyn yn briodol ac angenrheidiol, "Minister of Pensions, etc., etc.. Yn y gorffennol mae y "Ministers" wedi bod yn rhy bleidiol i'r fas- nach, a gwneud datganiad cyffredinol. Apeliwn am fwy o ffydd gyda golwg ar y dyf- odol ynglyn a'r "fasnach" a'r diodydd medd- wol. Gwerthfawrogwji y farn gyhoeddus mewn perthynas iddi, phenderfynwn fod yn fwy gweithgar ac ymosodol, a bydded fod gennym nod amlwg a chlir on blaen, sef ei darostwng a'i gwahardd. Fe fyddai mor gyson i mi bron weled i'r eg- lwys o ba un yr wyf yn aelod, redeg Ty tafarn ac y byddai i'r "State" redeg miloedd ohonynt. Ynglyn a'r cyntaf os wedi cael digon arni, hawdd fyddai cael gwared ohoni, ond beth gyda'r "State?" I mi y mae yna rhyw fath o ddiniweidrwydd yn y syniad i'r Wladwriaeth gymryd y busnes