Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PERSONOL.

News
Cite
Share

PERSONOL. Mae y Proff. T. A. Levi wedi dechreu pre- gethu yn gyson, a llawer o alw am ei wasanaeth. IT •• Yn eglwys Zion, Llanrwst, ffai-weliwyd a Mr. a Mrs. John Hughes, Berwynfa, ar eu hymad- awiad i Liverpool. Penodir darlithydd diwinyddol yng Ngholeg Llanbedr i fod yn olynydd i'r Parch. R. H. Richards, M.A., efe yn awr yh athro. Cynhygir >200p y flwyddyn o gyflog. 1f Canodd Mabon "Hen Wlad fy Nhadau" un tro yng nghlywedigaeth Madame Patti. Wedi iddo orffen: "Mabon," ebai'r Gantores fyd- enwog, "y mae gennych lais ardderchog." "'Fell-Y chwithau, Madame," ebai Mabon yn ol, gan ehnill marciau llawn am bertrwydd. IT Y mae eglwys M.C. Llandyssul wedi rhoddi gwahoddiad cynnes i'r Parch. Dan Jones, Tre- garon, i ddyfod yn fugail yno, yn olynydd i'r Parch. T. James, M.A. Y mae llais yr eglwys yn unfrydol, ond nid yw Mr. Jones yn gweled ei ffordd yn glir i dderbyn y gwahoddiad yn un- ion. IT Y mae y Parch. Thos. Bowen, Caerdydd, wedi cychwyn ar ei waith fel Ysgrifennydd y Drysor- fa Gynhaliaethol, ac eisoes wedi ymweled a rhai o'r dosbarthiadau. Y mae ei orchwyl yn un an- odd, ond trwy ymaflyd ynddo a'i ddwy law mae gobaith y cyrhaedda lys y brenin. Sicr ydym o un peth, na ffy gwr o'i fath ef. it Tuedd un pregethwr adnabyddus sydd y'n weinidog gyd,a'r Saeson yw pregethu hytrach yn 'faith. Cysgodd ei fachgen bach un Sul tra 'roedd ei dad yn pregethu, a phan ddeffrodd 'roedd y pregethwr yn parhau i ddal ati, a throdd yr un bach at ei fam gan ofyn iddi,— "Mamma, is it next Sunday?" Tybiai fod ei dad wedi dal ati am wythnos'. f If • Perthyn i Gyfarfodydd Blynyddol Pontmor- lais un nodwedd wahaniaethol, sef arfer yr zog- lwys i wahodd gwr blaenllaw o .enwad arall i gyd- bregethu ag un o weinidogion y Corff. Eleni syrthiodd y coelbren ar y Parch. W. Morris, D.D., Treorchy, un o wyr grymusaf y Bedydd- wyr. Ni ddylid ein cyhuddo mwy o gulni en- wadol. IT Y mae Mr. H. Irvon Jones, mab Mr. J. H. Jones, Llandudno, wedi ennill Ysgoloriaeth flynyddol 35P John Hughes, yng Ngholeg Bangor, ac Ysgoloriaeth Rd. Owen-30P- yn flynyddol; a chan mai efe oedd y goreu drwy'r sir yn arholiad Bwrdd Canol Cymru, enillodd ysgoloriaeth arall 2op. yn y flwyddyn am hynny hefyd, ac yntau ond dwy ar bymtheg oed. IT Gwelaf fod Mr. W. R. Williams, B.A., sydd yn efrydydd yng Ngholeg y Brifysgol i Gymru, Aberystwyth, wedi ei benodi'n 'Student Assis- tant' mewn Athroniaeth, i gynorthwyo'r Athraw W. Jenkyn Jones. Da gweled Athroniaeth y Coleg'yn nwylo pregethwyr dawnus ac union- gred. Enillodd Mr. Williams anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Groeg (heb ei hafal yn Aberystwyth) pan raddiodd eleni. Cofier mai fel cynorthwywr i athronydd enwog arall, sef Dr. Ward, y dechreuodd Principal Prys ei yrfa nodedig, ac nad oes dim a werthfawrogir yn fwy na philosophi wedi ei chyd-dymheru a'r Efengyl. Yn ei adroddiad diweddaf rhodda'r athronydd cywirfarn o Benygarn ganmoliaeth uchel iawn i waith Mr. Williams a dwy ferch athrylithgar y Prifathraw, sef Miss Elined a Miss Olwen Prys. Profa deddfau etifeddeg mai gallu naturiol ydyw hwn. Pregethwyr hefyd oedd rhagflaenwyr yr Athraw Jenkyn Jones yn y gadair gyfrifol hon, sef Syr Henry Jones a Dr. Joseph Brough, y naill yn Galfin a'r llall yn Armin. Mawr werth- fawrogid y llynedd y darlithiau arbennig ar Athroniaeth y Groegiaid a draddodwyd gan y Prifathraw T. F. Roberts, ef yn bregethwr bed- yddiedig a alwyd gynt gan un o'i gymydogion, "The Christian Platonist of Aberystwyth." Braint fawr yw i bregethwr ieuanc fel Mr. Wil- liams athrawiaethu gyda chyfarwyddid prif philosophyddion Ceredigion a Meirionydd, a hynny cyn dechreu ei efrydiau diwinyddol. *Nid yw Mr. Lloyd George yn symud o ii, "Downing Street fel y cyhoeddwyd yn rhai o'r papurau. Mae Mr. E. Jenkins, Y.H., Gwalia, Llandrin- idod, wedi ei ddewis yn aelod o bwyllgor Cyng- rair Eglwysi Rhydd Lloegr a Chymru. 7 IT Cyflwynwyd 'roll top desk' i'r Parch. Edwin Hughes, ar ei symudiad o Waenfawr i fod yn fugail eglwys Capel Mawr, Criccieth. it Llongyfarchiadau i'r Parch. G. A. Edwards, M.A., Croesoswallt, ar ei ddyweddiad a Miss Mary Nesta, merch hynaf Mr. a Mrs. Richard Hughes, Glentworth, Croesoswallt. # IT Mae y Parch. William Jones, Treforris, un o genhadon mwyaf llwyddiannus y Forward Movement, yn myned allan i Ffrainc am dri mis i weithio gyda'r Y.M.C.A. f Bu raid i'r Parch. D. Tyler Davies, bugail eglwys Clapham Junction, Llundain, roi heibio bob gwaith am beth amser ar orchymyn y medd- yg. Gobeithio y caiff adferiad buan. IT Bu athrawon Coleg Aberystwyth a chynrych- iolwyr eraill y Cbleg, yn rhoi tystiolaeth o flaen comisiwn Arglwydd Haldane ar addysg uwch- raddol Cymru. Yr wythnos hon cynrychiolwyr Coleg Bangor fydd y tystion. IT Ceir yn y "Lladmerydd" am Tachwedd ddwy ysgrif ragorol am y diweddar Mr. Daniel Davies, Ton,-ungan Mr. Abraham Morris, Casnewydd, a'r llall gan y Parch. E. W. Davies. Bron na thybiwn fod mantell y Cashier wedi disgyn ar ysgwyddau Mr. Morris. 11 Yn y rhifyn diweddaf o'r "Scottish Review" mae erthygl gan Mr. Edward T. John, A.S., dan y penawd, "Enter the Celt." Y gyntaf ydyw o gyfres sy?n cael eu trefnu gan y Golyg- ydd er dangos safle yr Ysgotiad, y Gwyddel a'r Cymro yngngwleidyddiaeth y dydd. A rhoddir y lie blaenaf i'r Cymro. IT Un o'r cymeriadau rhyfeddaf fagodd Method- istiaeth oedd y diweddar Mr. Daniel Davies, Ton, a rhyfeddaf oil yr a pa fwyaf wyddis. o'i hanes. Mae Mr. Abraham Morris, Casnewydd, wedi ysgrifennu yr hanes hwn, ac ymddengys mewn cyfres o ysgrifau yn y "Lladmerydd," a sicr gennym yr enynant edmygedd pawb. IT Haeddai Mr. John Lewis, Y.H., Caerfyrddin, ei longyfarch yn galonnog ar ei ddewisiad eto i fod yn Faer ei dref enedigol. Tystiolaeth ddi- amheuol uchel i'w allu a'i gymeriad yw'r profion adnewyddol hyn o ymddiriedaeth ei gyd-dref- wyr. A thra yn gwasanaethu'r byd yn y cyf- eiriadau hyn ni pheidia a gwasanaethu ei .,)-Iwys yr un mor selog. f Rhyfedd mor ychydig wyr yr awdurdodau am 'Dr. Ethe! Gofynnodd Syr Henry Dalziel gwestiwn yn ei gylch yn Nhy y Cyffredin, ac atebodd Mr. Samuel ei fod yn gwybod hanes Dr. Ethe am dair mlynedd a deugain, ond nas gwyr pa beth a wna yn awr, na pha faint yw ei gyflog. Os gwna Mr. Samuel alw gyda Nodwr caiff y manylion. Pa bryd y gwna awdurdod- au Coleg Aberystwyth gymryd y wlad i'w cyf- rinach a chael diwedd ar yr helynt hwn? IT Arolygydd un o ystafelloedd y Y.M.C.A. yn Doc Penfro yw y Parch. J. E. Roberts (gynt o Saundersfoot) ar hyn o bryd. Fd y goleuni a'r gwlith cyflawna ei waith yn ddidrwst ond yn eff- eithiol iawn: "Ni lefain ac ni chlyw neb ei lais yn yr heolydd," ond er hynny bendithir ami i filwr trwy ei gyffyrddiad ag ef. Brodor o'r un dref a'r "Cymro" yw Mr. Roberts. Dyna un rheswm hwyrach am ei Iwyddiant! IT Y mae Mr. O. R. Owen, B.A., Portdinorwig, wedi derbyn yr alwad unfrydol a gafodd oddi- wrth eglwys Trefnant, Dyffryn Clwyd. Gwyr pawb am yrfa Iwyddiannus Mr Owen, yn enwedig yn y Bala. Enillodd Ysgoloriaeth Pierce (£50) ar ei fynediad i'r coleg, a chadwodd hi am bedair blynedd. Bydd Mr. Owen yn dech- reu yn ei gylch newydd ym mis Tachwedd. Pob llwydd iddo, Gwr sydd wedi gwneud enw iddo ei hnr, ac yn parhau i ychwanegu at ei glodydd yw Mr Hugh Edwards, A.S. Nid oes pall ar ei ddi- wydrwydd. Nid oes angen ei ddanfon i v sgol y morgrugyn. Y mae yn ffafrddyn mawr yn Ysgotland, ac nid oes terfyn ar frwdaniaeth eu croesaw iddo. Gall Cymru fforddio teimlo yn falch o Huw Ystwyth. r(.. Gwron y diweddar Mr. Daniel Davies, Ton, oedd y Pregethwr, ac nid oedd dim a or- bwysai y gallu i bregethu yn' ei syniad ef. Fel hyn yr ysgrifennodd flynyddoedd yn ol: "Y mae yr eglwysi yn barnu pregethwyr, nid' fel ysgolheigion, ond fel pregethwyr, ac y maent yn igwneud1 yn. iawn. Y mae rhai eg- lwysi a gymerasant eu harwain gan rai oedd- ynt yn barnu y pregethwyr yn ol eu safle yn yr Athro-fa, wedi cael profi pethau chwerw cyn hyn mewn1 canlyniad, ob-leg-id, y mae yn ddigon hysbys fed. prize-men yr atbrofeydd yn troi allan weithiau yn dunces yn y pulpud." 11 Yn y "Cymru" am y mis hwn ceir dau ddar- lun o Cranogwen:—un gan John Thomas yr Ar- lunydd, a'r llall gan Job. Da fydd gan ei hed- mygwyr ei drysori er mwyn hyn. Wele ran o bortread y Bardd ohoni- "Gofkliodd am bechod Cymru, v -• Pryderodd am lwydd y wlad, Gweddiodd ac ocheneidiodd < Am wawr ei gwir ryddhad; Ac yn ei gwaith y bu farw, Fel yn ei gwaith y bu byw, A chlybu y Ilais gydag awel yr hwyr, Dos i mewn i lawenydd dy Dduw."

CYMRU A'R RHYFEL.