Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Nid oes amheuaeth nad y cwestiwn pwysicaf yng Nghymru yr wythnosau hyn ydyw dyfodol y Fasnach Feddwol. Mae'n bwysig yhddo ei hun, ac yn bwysig am ei bod yn peryglu undeb a chydweithrediad dirwestwyr. Felly y teimlai Syr J. -Herbert Roberts yn yr Abermaw. Dal- iodd yr awenau yn dyn, a llwyddodd i gadw'r ddadl i lawr. Ond dadleu wneir er hynny, ac os cedwir yn yr ysbryd iawn, gwna dadl les. -+- -+- Er pan ysgrifennais yr wythnos ddiweddaf, cefais gyfle i wybod barn dau Gymro adnabydd- us a pharchus. Y Parch. Dr. Cernyw Williams ydoedd un. Efe'n un o weinidogion hynaf a pharchusaf y Bedyddwyr, yn wr o farn a phrof- iad, ac heb fod yn eithafol ei syniadau ar gwest- iynau cyhoeddus. Y llall oedd Mr. Haydn Jones, yr aelod seneddol dros Feirion, un o gefnogwyr aiddgar y cynygiad i brynu y Fasnacn Feddwol gan y wladwriaeth. Ar gwestiynau cyffredin bywyd nid ydynt yn gwahaniaethu yn eu barn. Maent .ill dau wedi bod yn ffyddlon i'r hyn a adwaenir fel egwyddorion Rhyddfryd- iaeth," wedi cydweithio gyda Dirwest ym Meir- ion, ac nid oes neb a amheua nad yr un amcan sydd gan y naill a'r llall. Gwahaniaethant ynghylch y modd i'w gyrraedd. Datganodd Dr. Cernyw Williams ei farn yn y ffurf o Apel at Ddirwestwyr Cymru." Profa hynny ei fod yn teimlo yn gryf ar y cwestiwn. Siomedigaeth yw un rheswm am hynny. Cyd- nabydda fod mwy o arian wedi eu gwario am ddiodydd meddwol y llynedd na'r flwyddyn flaenorol, er fod y boblogaeth yn llai a'r sefyllfa mor hynod o ddifrifol. Cydnabydda mai hyn sydd wedi peri i nifer o.ddynion ddod i'r casgl- iad na ellir byth gyrraedd diwygiad heb newid y dull o weithredu, ac i godi cri am brynu y fas- nach a'i chenedlaetholi. Dyna, yn ol barn y dynion hyn, ddaw a'r anialwch i flodeuo. -+- -+- Cydnabydda Dr..Cernyw Williams beth arall. Cydnabydda y cymerir y tir hwn gan rai o'n dyn- ion goreu, oddiar yr amcanion puraf, gan gredu y bydd effeithiau daionus yn dilyn. Ond ed- rycha Dr. Williams ar hyn fel cri anobaith. Nid ar arfogaeth y dirwestwyr yn y gorffennol yr oedd y bai. Cryfder ofnadwy y gelyn, a diffyg sel a dyfalwch dirwestwyr oedd y gwir reswm. Ein gwendid ydyw rhoddi i fyny yn rhy fuan. Mae yr amser yn galed, a rhyw dawch o farug difater- wch wedi ymdaenu dros y wlad. Er hynny, mae nifer yn gweithio yn ddiwyd a distwr, ac ni all na ddaw llwyddiant, a ni yn gwybod nad yw eu lafur yn ofer yn yr Arglwydd." -+- -+- -+- Paham y mae Dr. Cernyw Williams yn credu na byddai cenedlaetholi y fasnach yn foddion i ddwyn oddiamgylch y diwygiadau a ddisgwylir ? Creda pleidwyr y symudiad-o leiaf y dirwest- wyr yn. eu plith-y gellir drwy hyn leihau yn ddirfawr y tai yfed, a chyn bo hir efallai gael llwyr waharddiad. Ond sail go wan sydd dros gredu hyn. Mae Dr. Cernyw Williams yr un farn a'r Apostol Paul, mai Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch," ac y mae perigl mawr i wladwriaeth pan y bo arian yn y cwestiwn bar- hau y fasnach ar y tir y bydd sefyllfa y cyllid yn galw am hynny. Mae y rhyfel erchyll presen- nol yn llyncu arian y deyrnas i'r fath raddau, fel pa bryd bynnag y daw i derfyn bydd ein tlodi yn llethol, ac nid oes eisiau dychymyg cryf i glywed rhai dynion da yn gwaeddi am beidio gwneud i ffwrdd am y presennol" a ffynhonnell cymaint o elw. Yn wir, dadleuir dros y cynllun gan rai i bleidwyr amlycaf, ar y tir bod elw i'w dder- byn oddiwrtho, ac y byddai yn fwy rhesymol i'r Llywodraeth—neur mewn geiriau éraiU-y bobl oil i dderbyn y fantais ariannol, yn hytrach na nifer o bersonau preifat. Mae y beis-donnau hyn yn dangos fod creigiau geirwon gerllaw. Gwyddom hanes meinciau ynadol, a chynghorau yn pleidio mesurau nad oedd yn bosibl bod y gydwybod yn eu cymeradwyo, yn unig oherwydd rhyw fantais ariannol. -+- -+- -+- Ond," meddir, paham na allem ddilyn es- iampl Rwsia, a dileu y fasnach, ar ol iddi fyned yn feddiant i'r Llywodraeth?" Ie, ond bu gwaith llywodraeth y wlad honno yn prynu y fas- nach yn achos o drueni anaele, cynyddodd meddwdodi raddau alaethus, ac yr oedd y wlad yn cyflymu tua dinistr. Cafodd y wlad honno waredigaeth drwy waharddiad, ond nid oes un math o sicrwydd y byddai i'r wlad hon sydd mewn enw beth bynnag yn cael ei llywodnetha gan y bobl, ddilyn esiampl gwlad sydd a'i llyw- odraeth ynunbenaethol. Heblaw hyn, ni wydd- om beth a wna Rwsia eto-ar ol y rhyfel. (. Dadleuir gan na byddai rheolwyr y tai yn der- byn mantais uniongyrchol oddiwrth werthiant diodydd meddwol, ac felly yn peidio cymell yr alcohol ar y cwsmeriaid, y byddai yr yfed yn llawer llai. Ofnai fod y rliai Sydd yn ymresymu fel hyn yn anghofio am- y swyn marwol sydd yn- y ddiod ei hun. Nid cymhellion y tafarnwr ond gwanc am y ddiod sydd yn fwyaf cyfrifol am yr yfed a'r meddwi sydd yn ffynnu: -+- -+- -+- Pe prynid y fasnach mewn trefn i'w chario ymlaen gan swyddwyr y llywodraeth, byddem oil yn gyfranddalwyr yn y gwaith, ac y mae gan liaws ohonom wrthwynebiad pendant i hyn. "Os na chawn y dorth i gyd," meddir, "gwell i ni gael yr hanner na bod heb ddim." Gwir, ond bydded yr hanner hwnnw yn fara iach, neu gwell i ni fod hebddo. Cawsom ambell dafell eisoes, ac yr ydym yn diolch am hynny, ac ym- egniwn i gael tafellau eto. Cyngor Dr. Cernyw Williams yw am i ni fyned ymlaen ar hyd yr un llwybr ag y cychwynasom, ond awn ymlaen yn fwy egniol, gyda chryfach ffydd, a inwy o egni nag erioed. -+- Gwyr pawb o'ch darllenwyr am Mr. Haydn Jones, a'r rhai sydd yn ei adnabod oreu fydd yn rhoddi mwyaf o bwys ar ei farn. Nid oes i'r cynhygiad am Genedlaetholi y Fasnach yr un cefnogwr pwysicach yng Nghymru. Paham y mae efe felly.? Atebiad i'r cwestiwn yna a geis- iwn wrth ddilyn fy nodiadau o'i araith yn yr Abermaw. -+- Dad] fawr Mr. Haydn Jones yn liechreu ei ar- aith ydyw hon, Nad ydym ddim yn nes ymlaen nag oeddym haner can' mlynedd yn ol gyda di- wygiadau. Mae medd dod yn myned ar gyn- nydd a'r Fasnach sydcl yn rheoli y wlad. Gwnaed ymgais deg i afael yn y bwystfil yn 1908, ond yr oedd yn rhy gryf ac yn rhy gyfrwys. Mae buddiannau yn y fasnach yn cyrraedd i bob cyf- eiriad, ac yn llesteirio pob. egni, ac yn parlysu braich y neb a geisio daflu carreg i dalcen y Goliath hwn. A ydym ni, gan hynny, i eistedd yn dawel, ac edrych ar y difrod a wna yn hanes miliynau yn ein gwlad bob blwyddyn? -+- Hyd yma teimlwn"fod Mr. Haydn Jones a Dr. Williams,—gwleidyddiaeth a chrefydd, os myn- .er,—yn cerdded fraich ym mraich. Addefa pawb y ffeithiau. Ond beth yw y feddyginiaeth ? Dyma'r groesffordd. Dywed Mr. Haydn Jones y byddai yr arian a delir am brynu y fasnach yn fuddsoddiant da am mai yr amcan yw achub dyn- ion, yn gorff ac enaid. Wrth gwrs dyna'r prif amcan, ac amhosibl prisio ei werth mewn ffigyr- au. Ond os oes rhywun yn caru ffigyrau, ed- ryched, os myn, pa faint a enillid mewn arian j wrth ddwyn y Fasnach yn eiddo y Wladwriaeth. Pwynt pwysig yn nadl un adran ydyw hwn, Y gellid cyrraedd yr un amcan gyda gwaharddiad heb ad-daliad, ag a ellir drwy genedlaetholdeb gydag ad-daliad. Ond barn Mr. Haydn Jones ydoedd fod buddiannau personol yn rhy gryf i unrhyw Weinyddiaeth roddi Gwaharddiad llwyr heb ad-daliad. -+- -+- Gyda golwg ar roi arian y wladwriaeth at yr amcan, creda Mr. Haydn Jones y dylem ddysgu Ilawer oddiwrth esiampl Rwsia. Yr oedd der- byniadau Rwsia oddiwrth y vodka yn bedwar- ugain-a-deg o filiwnau yn flynyddol. Ond pan yr oedd y bob! yn yfed, ychydig oedd yn cael, ei gynhilo. Yn wir, yn yr hanner blwyddyn olaf cyn atal y vodka, tynwyd allan bedair miliwn o arian oedd wedi eu cynilo, ac ni roed i mewn ond dwy filiwn. Ond beth oedd effaith y Gwa- harddiad ? Yn ystod yr hanner blwyddyn yn di- weddu Mehefin, buddsoddwyd tri-ugain miliwn o bunnau, ac mewn blwyddyn o amser, byddai hynny yn ddeng miliwn ar hugain yn fwy na'r swm a gollodd y Llywodraeth wrth atal y vodka -+- Yr wyf am osod o flaen eich darllenwyr syn- iadau Dr. Cernyw Williams a Mr. Haydn Jones er mwyn dangos fod y ddwy ochr i'r cwestiwn yn cytuno a'u gilydd yn y pendraw. Mae y ddau yn credu mewn llwyr waharddiad fel y nod i ymgyrraedd ato. Creda Dr. Cernyw Williams fod gwaharddiad yn bosibl heb ad-daliad, a chreda Mr. Haydn J-ones fod gwaharddiad yn amhosibl heb ad-daliad. Dyna yn fyr y gwa- haniaeth barn sydd ymhlith dirwestwyr. A siar- ad mewn gwedd gyffredinol, yr achos o'r gwa- haniaeth barn ydyw y gwahaniaeth yn y safle o edrych ar y cwestiwn. 0 safle crefydd, mae'r fasnach yn ddrwg digymysg, ac y mae gan y Llywodraeth hawl i'w difbdi. Yn wir, hi esgeu- lusa ei dyledswydd wrth beidio ei difodi. Ac nid oes ganddi hawl i ad-daliad. 0 safle gwleid- yddiaeth, mae goddefiad y fasnach am gynifer o flynyddoedd, wedi creu buddiant cyfreithiol yn- ddi; a rhaid cyfarfod hwnnw cyn y gellir ei di- fodi,—fel y gwnaed yn America gyda chaethwas- iaeth. Hyd yn oed pe credem nad oes ganddi hawl foesol i ad-daliad, mae'n amhosibl argy- hoeddi y wlad o hynny. Ac yn hytrach nag oedi i ddadleu'r cwestiwn, gwelljrw talu a darfod a hi. Dyna, mor gywir ag y medraf ddeall, beth yw safle y ddwy blaid yng Nghymru ar y cwest- iwn. Ac amhosibl oedd i mi daro ar ddau yn cynrychioli y ddwy farn yn fwy teg a gonest na Dr. Cernyw Williams a Mr. Haydn Jones. -+- Cyfranodd eglwys Seion, Gwrecsam, agos i £60 tuag at dreuliau'r achos fel offrwm diolch i'r Arglwydd am y Cynhaeaf. -1, Yng Nghyfarfod Misol Dyffryn Conwy a gyn- haliwyd yn Llandudno, Hydref 18, 1916, ar ol trafodaeth yn yr hon y cymerodd rhai o wyr blaenaf y Cyfarfod Misol ran, pasiwyd y pen- derfyniadau canlynol yn hollol unfrydol:—(a) Yr ydym yn anghymeradwyo unrhyw ad-drefniad fyddo yn darostwng safle ein Colegau Diwinydd- ol yn eu perthynas a Phrifathrofa Cymru, ac yn gwneud yn amhosibl i'n myfyrwyr fyned am y radd o B.D. heb fynychu dosbarthiadau diwiri- yddol y Colegau Cenedlaethol.. (b) Dymunwn ar i'r Gymdeithasfa ddod i gyd-ddealltwriaeth a Chymdeithasfa y De ar y mater hwn rhag i ni fel Cyfundeb ymddangos yn rhanedig gerbron, y Ddirprwyaeth. Bydd hyn yn gwneud yn angen- rheidiol dwyn y mater hwn eto o flaen y Gym- deithasfa yn Connah's Quay. Dengys hyn fod y wlad ymhell o fod mewn cvHv^-1 penderfyniadau