Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y Brifysgol a Diwinyddiaeth.

News
Cite
Share

Y Brifysgol a Diwinyddiaeth. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Pan yn Llundain yr wythnos ddiwedd- .af, dywedodd dau aelod seneddol Cymreig gwrddais yn ddamweiniol wrthyf fod y Parch. John Williams, Brynsiencyn, erbyn hyn, ac am hynny y Corff Methodistaidd, o blaid sefydlu cadeiriau diwinyddol 'yn ein colegau athrofaol. Syndod i mi oedd hyn, oherwydd dangosai pob araith a glywais ganddo, a phob ymgom a gefais a Mr. Williams nad oedd neb yng Nghymru wedi cael ei feddiannu gan y fath atgasrwydd ag ef tuag at y mudiad materol hwn. Felly amcan fy llythyr yw gofyn ai nid mater yw hwn i'r holl Gyfundeb i'w ystyrried yn a thrwy ein Cyfarfod-, ydd Misol. Nid yw hyd yn hyn wedi bod ger- bron un o Gyfarfodydd Misol y Deheudir, ac ni chafodd gymeradwyaeth y ddau Gyfarfod Misol yn y Gogledd roddasant ystyriaeth iddo. Mater ydyw i'r holl Gyfundeb, ac fel aelod o'n Cyfundeb y mae gennyf hawl i wybod natur y cymeradwyaethau a fwriedir ddwyn gerbron y Dirprwywyr hyd yn oed pe gwrthodid i mi gyfle yn unol a ffurf lywodraethol fy enwad i dda'tgan barn--Srnynt Ofnaf yn fy nghalon fod y dylanwadau tan- ddaearol, hollol annheilwng o draddodiadau y Corff wrthi a'u holl egni yn ceisio gwasgu ym- laen ryw syniadau na wyr un o bob mil o'r en- wad ddim am danynt, ac ar yr un pryd yn gwirio y syniad goleddir yn awr gan rai o arweinwyr ein cenedl y try ei gyfoeth a'i swyddogaeth yn ddinistr, maes o law, i'r Corff Methodistaidd. Yn gywir, HEN FETHODIST.

MON.

TREGARON.

MEIRION A'R GL,ANNAU.

NODION 0 LEYN.

O'R YSTWYTH I'R DDYFI.

NODION O'R DEHEUDIR.