Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

GOHEBIAETHIAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHIAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyirifol ,am syniadau yr ysgrifenwyr). PERYGLON PABYDDIAETH. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Dywed Mr. Evans yn ei ysgrif ar y "Peryglon oddiwrth Babyddiaeth" yn eich rhif- yn Hyd. 18, ymhlith pethau eraill pabyddol, geir mewn cannoedd o'n heglwysi, ceir gwisg- oedd offeiriadol,-coleri Rhufeinig, etc. (gan gyfeirio at yr Eglwys Wladol. Ai yr un rhai (neu debyg) yw y gwisgoedd offeiriadol a'r coleri Rhufeinig y cyfeirir atynt a'r rhai a wisgir gan y mwyafrif mawr o bregethwyr Methodistaidd ? Os felly, oni ddylid eu condemnio yr un modd ? A rhyfedd y brys sydd ar lawer o'n pregethwyr ieuainc yr eiliad y byddant wedi eu hordeinio i wisgo yn y dull pabyddol hwn, a phe cyfarfydd- em ac ambell un ohonynt heb fod yn ei adnabod byddai yn syndod mawr eu clywed yn siarad Cymraeg gan y cymerem yn ganiataol mai off- eiriad Pabaidd fyddai. Yr eiddoch, &c., METHODIST. Y DIWEDDAR BARCH. T. J. WHELDON, B.A. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Darllenais gyda dydd- ordeb prudd eich hysgrif ragorol ar y diweddar Barch. T. J. Wheldon, B.A., yn y "Cymro" ddoe. Yr oeddwn yn ei adnabod pan yr oedd yn gweinidogaethu yn y Drefnewydd yn y Sixties, ac felly hyderaf y caniatewch i mi osod un peth yn eich herthygl ragorol yn gywir. "Adeiladwyd addoldy Saesneg yn y Drefnew- ydd." Mae hynyna dipyn yn gamarweiniol. Yr oedd yno gapel Saesneg cyn i Mr. Wheldon fyned yno. Yno y bu y diweddar Dr. Owen Thomas yn gweinidogaethu yn y Fifties, a'r di- weddar Barch. David Charles Davies cyn iddo' fyned i Lundain, a hynny cyn adeiladu y capel presennol ar gongl Milford Road, lie y mae y Parch. Edward Parry, M.A., yn gweinidogaethu yn bresennol. Yr eiddoch, etc., R.J. O.Y.—Yr oeddwn yn aelod o'r eglwys Gymraeg yn y Drefnewydd o 1856 hyd 1862, a fy rhieni hyd 1896.—R.J. AWDURIAETH EMYN. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Mae cais yn y CYMRO am Hyd- ref 1 ieg, am wybod pwy ydyw awdwr y pennill, "Dyma Feibl Annwyl lesu." Dymunaf hys- bysu mai Richard Davies, mab i William a Miriam Davies, Glanymor, Towyn Meirionydd, ydyw. Ganed ef Mai 31, 1793, bu farw yn 33 oed. Yr oedd yn flaenor yn hen gapel y Gwalia, Towyn, ac y mae ei lwch yn gorwedd yn hen fyn- went St. Cadvan, Towyn. Hwn oedd gwir awdwr y pennili "Dyma Feibl Annwyl lesu." Anfonais o'r blaen, ond wnaed dim sylw ohono.. Anfonodd y. Parch. Thomas Levi, Aberystwyth, i gyhoeddiad misol Methodistaidd, mae person arall oedd ei awdwr; wnaiff hynny ddim gwa- haniaeth, Richard Davies ydyw ei awdwr. Yr wyf fi yn ferch i Thomas Davies, brawd i Rich- ard Davies. Ganed fy nhad Rhagfyr 5, 1790. Dyma fi yn anfon y gwir i chwi. Gellwch chwi enwi personau eraill, wnaiff hynny ddim llwchyn o wahaniaeth i'r emyn neu y pennill, nac i'w awdwr. Yr eiddoch, &c., Glantywodyn. ANNE DAVIES. Towyn. NEUADD YR EGLWYSI RHYDDION YM MHARC KINMEL. Casgliad Eglwysi y Methodistiaid Calfinaidd. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Dymuna'r pwyllgor ddiolch i'r- eglwysi a'r personau sydd wedi cyfrannu yn hael ac yn brydlon at yr uchod. Buddiol fyddai i'r eglwysi sydd hyd yn hyn heb wneud, gofio fod gennym fel Methodistiaid yng Ngogledd Cymru i gasglu S,500 fel ein rhan ni o'r cyfrifoldeb, a'n bod heb gyrraedd y nod 0 gryn lawer. Os dymuna'r cyfeillion ofalant am y casgliad » yn y gwahanol Gyfarfodydd Misol gael rhagor or cylchlythyrau at yr eglwysi, bydd yn dda gennyf eu hanfon iddynt. Er nad oes ar hyn o bryd lawer o filwyr yn y gwersyll, mae'r Neu- add yn cael ei defnyddio a'i gwerthfawrogi fwy- fwy o wythnos i wythnos. Yn fuan bydd yng Nghinmel filoedd mwy o'n gwyr ieuainc, a byddai yn sirioldeb mawr i'r rhai lafuriant yn eu plith weled clirio holl ddyled y Neuadd. Gellir talu'r arian drwy unrhyw gangen o'r London City and Midland Bank i gyfrif Mr. J. Venmore, Soldiers' Hall A/c yn y North Branch, Liverpool. Yn dilyn ceir trydydd restr o'r cyf- raniadau ddaeth i law yn y drefn y derbyniwyd hwy. Ceir y gweddill eto. Abergele. W. R. OWEN, Ysg. y Casgliad. Millom. £ 1 2s. Parkfield, Birkenhead, £ 18s. 8c.; Carmel, Mon, £ 1 is., Tlabernacl, eto, Li 10s. Wheeler St., Birmingham, Ll 2s, Clwyd St., Rhyl, £ 10 8s. ice. Anfield Road (ychrwanegol), ^13 7s. 3s. Rock Ferry (Lerpwl), ios. Fitzclarence Street (eto), ^4; Eto,—Er Cof am Lieu't. Yale Lloyd, Li is.; Easington Colliery, Lerpwl, 1251.; Hebron, Col- wyn Bay, £ 2 13s. 6c. Y Gro, Dwyrain Meirionydd, 19s. Princes St. Rhyl, Li 15s. 6c. Bodffari, Ci 6s.; Trefnant, Li Sunderland, 9s. (I'w barhau). EFRYDWYR METHODISTAIDD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Y mae y myfyrwyr canlynol yn gorffen eu cwrs colegawl y flwyddyn hon ac ar dir i dderbyn galwadau :—; 0'1' Gogledd (Bala)- H. J. Evans, Solva. Llew. Evans, Johnstown. W. W. Ffoulkes, B.A., Brynrefail. O. T. Jones, B.A., Rhostryfan. E. Ll. Lewis, B.A., Bl. Ffestiniog. J. Pierce, B.A., Llandegfan. J. M. Roberts, Bl. Ffestiniog. O'?, De (Aberystwyth)- D. W. Bundred, Abertillery. D. E. Davies, B.A., Caerfyrddin. L. J. Davies, Crynant. R. S. Hughes, B.A., Rhostryfan. E. C. Pugh, B.A., Trehafod. H. J. Phillips, B.A., Berth. R. M. Thomas, B.A., Cray. D. J. Williams, B.A., Treorchy. Yn gywir, E. LL. LEWIS. THE REVISION OF OUR HYMN BOOK. TO THE EDITOR OF THE CYMRO. Sir,—Will you permit me to put myself right with your readers by saying that I did not con- template the revision of our hymn book by a board of hack-preachers, but of poet-preachers, as E. G. says is the case with the Congregation- alists. I fear your compositor must have been the means of creating prejudice at the start, though unwittingly. However, with your permission, I offer an essay in the translation of one of Ann Griffiths' «tapMMHMl^^ Book, No. 140. 0, for a faith to peer, With angels from above, Into the mighty mysteries Of the deep sea of love; Two natures in one Person, In harmony are found; The virtue of His sufferings For ever will abound. The fitness of this Person Divine, 0 see, my soul; Thy life upon Him venture, Thy burden on Him roll A man He is to pity Thy many weaknesses, A God, to wrest the Kingdom From all thine enemies. f "R." "SYMUD GWEINIDOGION." AT OLYGYDD Y CYMRO. Mr. Golygydd,—A wnewch chwi ganiatau i mi ychydig o'ch gofod i draethu fy lien ar y mater uchod. Gwelaf fod amryw o bapurau wedi eu darllen yn ddiweddar yn cymell hyn. Ym- ddangosodd un papur tra galluog yn y CYMRO; ac, oddiwrth ohebiaethau yn y Wasg Gymreig gwelir fod gogwydd llawer o blaid symud gweinidogion ar derfyn tymor neilltuol, dyweder o dair i chwe blynedd. Credaf mai da fyddai rhoddi yr ochr arall gerbron eich darllenwyr, a dymunwn nodi rhai ystyriaethau a fyddai yn fantais i ni ffurfio barn ar y cwestiwn. Beth yw yr arferiad ymhlith enwadau a chyf- undebau eraill. Y mae yn hysbys fod llawer o weinidogion y Presbyteriaid yn treulio eu hoes yn yr un eglwys, neu nad ydynt yn symud ond unwaith neu ddwy, megis o eglwys fechan i eg- lwys fwy yn y dref, ac y mae gofal yr eglwysi Presbyteraidd ar drigolion Scotland yn fwy nag un eglwys arall yn Iwrop. Nid ydym yn deall fod cri yn eu mysg hwy am symud mwy mynych. Eglwysi yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Cyd- nabyddwn fod symud ymhlith gweinidogion yr enwadau hyn yn fwy mynych nag eiddo y Pres- byteriaid, ond credwn y gellir profi lie bynnag y mae yr enwadau hyn yn gryf, fod yr un gweini- dogion wedi treulio blynyddoedd ynddynt. Y mae hyn yn wir am Gymru yn ogystal a Lloegr. Y Wesleyaid. Gwneir cyfeiriad parhaus at yr enwad parchus hwn fel y safon y dylai y Methodistiaid Cymreig ei ddilyn yn y mater hwn. Canmolir athrylith drefniadol ei sylfaen- ydd John Wesley. Goddefwch i ni ofyn (a dyma yw y safon i farnu gwerth Cyfundrefn), a ydyw y Wesleyaid yn ennill tir yn ystod y blyn- yddoedd diweddaf ? Ai nid y ffaith alarus ac un a brofir gan eu hystadegau, ac a gydnabyddir ganddynt bob blwyddyn yn eu 'Conference' ydyw eu bod yn lleihau yn eu rhif flwyddyn ar 01 blwyddyn? Beth yw barn ein brodyr y Wes- leyaid eu hunain am y gyfundrefn symudol? Nid ydynt yn credu ynddi, a defnyddir llawer dull i geisio osgoi y symud. Y gwir yw, ffurf- d eu trefn o "symud dan amgylchiadau gwa- ol, pan yr oedd y Cyfundeb i raddau helaeth yn Gyfundeb Cenhadol. AVhyn sydd wir am y Fam Eglwys Wesleyaicld sydd hefyd yn wir am y gwahanol gyfundebau darddodd ohono. Awgrymir fod y Methodistiaid Cymreig i impio y drefn Wesleyaidd ar eu dull presennol o alw a sefydlu gweinidogion. Dymunem ofyn i'r brodyr da sydd yn pleidio y cam hwn, A ydyw yn ymarferol ? A syrthiai ein heglwysi a'n gweinidogion i mewn a'r dull hwn? Ai nid yw yn ffaith fod yna elfen gref o annibyniaeth eg- I Iwysig yn ein Cyfundrefn? Yn wir ni fethem wrth ddweyd ein bod yn fwy o Annibynwyr nag o Bresbyteriaid. Nid ydym am geisio dadleu pa un yw y Gyfundrefn oreu. Credwn fod yn rhaid barnu pob un yn ol nodweddion y wlad y plennir hwy, ac yn ol traddodiadau y gorff- ennol. Ofer ydyw ffurfio cynlluniau yn yr awyr heb gymryd i ystyriaeth ein hanes blaenorol. Dywed amryw o'r brodyr da sydd wedi traethu ar y mater hwn, fod yna anesmwythyd cyffred- inol yn yr eglwysi, a dymuniad ymysg y gweini- dogion eu hunain i symud. Beth yw eu prawf o hyn. Dim amgen na hearsay. Beth yw y fedd- yginiaeth? Barnwn yn ostyngedig, Mai nid symud y gweinidogion yn barhaus. Dylid ceis- io codi safon bywyd ein heglwysi a gwella eu harchwaeth. Nid oes amheuaeth nad oes chwaeth afiach yn nodweddu llawer o'n heg- lwysi. Y mae arnom angen am type uwch o flaenoriaid,-Dynion fydd yn abl i arwain yr eg- lwysi a rhaid i mi ychwanegu, a dyma mi gred- af ein hangen pennaf. Mae arnom angen am weinidogion sydd yn abl i borthi praidd Duw. Prin ni gredwn fod ein colegau, er y cynnydd a wnaed yn addysg ddiwinyddol ein gweinidogion, yn talu y sylw dyladwy i'w gwaith arbennig fel gweinidogion ar eglwysi. Hoffwn weled trafodaeth bellach ar y mater hwn. Ydwyf, HENURIAD.

ABERHONDDU.,