Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODIADAU WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. Merthyru Rwmania. Daeth cynllwyn mawr Hindenburg yn y dwyr- ain mor glir a hanner dydd yn ystod yr wythnos, ac y mae cydymdeimlad y gwledydd a Rwmania yn y dydd blin sydd wedi ei gorddiwes ac yn bygwth, ei gwneud fel Belgium a Serbia. Er nad oedd Germani yn yr achos hwn wedi gallu, nac wedi ceisio, celu na gwneud urirhyw. gyf- rinach o'i bwriad i ddarostwng a sarnu Rwm- ania, ac nad oedd y symudiad gelynol hwn yn annisgwyl, eto hyderid a disgwylid y gallai'r Cyngrheiriaid, ac yn enwedigRwsia, croi digon o gynorthwy i'r wlad fechan ddewr fel ag i droi cynllwyn Hindenburg yn fethiant. Ond ddech- reu'r wythnos daeth y newydd fod Mackensen wedi taro mor rymus ac effeithiol, a bod Con- stanza, porthladd Rwmania ar y Mor Du, wedi ei chymeryd, ac adroddir y dyddiau dilynol am ymdaith fuddugoliaethus y gelyn yng nghyfeiriad Tchernavoda, lie mae'r bont fawr yn croesi'r Danube; ac erbyn canol yr wythnos yr oedd y bont wedi ei chwythu i fyny gan y Rwmaniaid eu hunain. Ofer ceisio celu fod yr wythnos yn wythnos dywell i Rwmania, ac yn wir i'r Cyngr- heiriaid, er gwaethaf newyddion da o rannau eraill, yn enwedig o Verdun; a siom fawr yw cael allan nad yw nerth cyfunol Rwmania a Rwsia wedi profi'n ddigonol i atal y llifeiriant. -+- -+-+- Achiosion ac EffeitMau. Mae'n rhy gynnar i honni rhoi syniad clir a chywir am achosion nac effeithiau y rhuthr llwyddiannus yma o eiddo Germani; ond saif rhai ffeithiau allan yn ddigamsyniol. Mae'n ddigon amlwg erbyn hyn fod Rwmania wedi gwneud camgymeriad difrifol yn ei chynbwyn ymosodol ar ei dyfodiad i gylch y rhyfel. Pen- derfynodd anfon ei phrif nerth i Transylvania, a gwthio trwy fylchau Carpathia i Hungari; gan adael y rhannau yn y de ac ar y Danube yn wan a chymarol ddiamddiffyn. Paham y gwnaeth hynny, tra"n gwybod fod' Bwlgaria yn y fantais oreu i ymosod arni yn y lie olaf ? Er- byn hyn mae'r gwir esboniad yn hysbys. Yr oedd Rwmania wedi ei hargyhoeddi nad oedd ei gwaith yn cyhoeddi. rhyfel yn erbyn y Galluoedd Canol yn debyg o dynnu Bwlgaria i ymosod arni hi nac ar Rwsia. Ymddengys fod hynny cystal a bod yn ddealledig rhwng diplomydd- ion y ddwy wlad. Ond profodd Bwlgaria un- waith eto frad ei chalon; ac mor bell ag y gellir casglu, yr oedd y bradwriaeth yn rhano gyn- llwyn Germani i dwyllo Rwmania ac i'w chael i wneud y camgymeriad, nes gosod ei hun at drugaredd Mackensen a Falkenhayn. Nid yw'r Cyngrheiriaid eto wedi hanner deall ystrywiau "a dichellion -gwyr gwaedlyd Germani, er cymaint o wersi gafwyd yn ystod y ddwy flynedd ddi- weddaf, ac y maent yn amlwg wedi methu sylw- eddoii mewn pryd yr ystryw ddieflig hon. Mae Hindenburg heddyw yn fwy o arwr nag erioed yn Germani, a chred y bobl yn ddi-derfyn yn- ddo; ac y mae dau brif gadfridog y wlad fwyaf milwrol ar y ddaear ar flaen y Iluoedd yn yr ymgyrch ddyblyg 'yn erbyn Rwmania. Am yr effeithiau, y lleiaf ellir ddweyd yw fod parhad y rhyfel yn rhwym o gael ei estyn ymlaen, gan y. symudiad. Agorir sianel i gyflenwad goludog Rwmania mewn ymborth ac olew a llu o angen- rheidiau eraill .gael ei gludo i Germani. Bydd hynny yn help annirnadwy iddi ddal i ymladd. Cwyd galon y bobl hefyd am yr oruchafiaeth addawedig yn y diwedd; a chyfnertha Frenin Groeg yn ei bolisi Germanaidd. Heblaw hynny, dinoetha aden aswy byddin Rwsia, a newidia ag- wedd y rhyfel yn y Balkans i raddau pell. Nid ydym, wrth nodi'r pethau hyn, yn datgan un- rhyw farn ar y cwrs gymer pethau yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Ein hyder yw y gellir atal y llanw gelynol cyn i'r gwaethaf ddig- wydd. Diau fod y Cyngrheiriaid yn symud nef- oedd a daear i achub Rwmania ac i daro'n ol, a hyderwn fod yn bosibl cyflenwi Rwsia a digon o ynnau ac arfau i wrthsefyll y rhuthr yn effeithiol cyn hir. Ofnwn mai diffyg cyflawnder o gadar- par a. gynnau abl i sefyll tan magnelau Krupps, yn fwy na phrinder milwyr, sy'n gyfrifol am y trychineb hyd yn hyn. -+- -+- Buddugoliaeth fawr y Ffranood. Os yw'r awyr yn y dwyrain yn ddu a bygyth- iol, da yw gallu troi i'r gorllewin, lie y bu'r wythnos yn llawer mwy siriol a disglair. Gall i ■ Germani eto, mae'n amlwg, wneud gwrhydri ar un ffrynt, ac am ddwy flynedd bu"n abl i wneud gorchestion ar y naill ochr a'r llall trwy ofalu eu gwneud bob yn ail. Un o arwyddiàn mwyaf gobeithiol y sefyllfa erbyn hyn yw nas gall hedd- yw ymgymeryd ag ymgyrch fawr ar y naill ochr heb orfod dioddef, a dioddef yn sylweddol a pharhaol, ar yr ochr arall. Pan drodd y rhod ar y Somme, bu raid rhoi i fyny bob gobaith am Verdun, a gwanhau'r nerth yno,er fod pob dyf- ais ac ystryw wedi eu rhoi ar waith i gelu hynny, ac i barhau i wneud arddanghosiad o nerth di- leihad. Bu'r Ffrancod yn araf i fentro gormod, ac yn hir yn cael allan y man gwan. Ond yn ystod yr wythnos profasant eu bod er ys tro wedi taro ar un llecyn y gallent fentro ymosod arno. Fore Mawrth tarawasant yn sydyn ar hyd llinell o tua phum milltir o amgylch Donau- mont, a thorasant linell y gelyn ar hyd y ffordd, gan eu cilgwtliio yn ol ddwy filltir, ac yn Dou- aumont, tua thair milltir o ffordd. Meddian- wyd pentref a chaerfa Douaumont a chwarelau Haudromont, bryn ac amaethdy Thiaumont, ac ar y dde daethant i ymyl pentref Vaux. Yr oedd y carcharorion y dydd cyntaf dros dair mil a hanner, ac y maent wedi chwyddo mil arall pan ydym yn ysgrifennu. Pan gofir am ruthr- iadau arswydus y Germaniaid am fisoedd ar y rhannau hyn, gwelir beth a olyga eu gwaith yn eu colli mewn un diwrnod. Mae eu nerth yma wedi ei dorri yn ddigamsyniol, a rhwng y Somme a Rwmania, gwneir allan o'r cwestiwn iddynt allu adgyfnerthu cylchoedd Verdun. Pa faint bynnag a enilla Germani oddiwrth ei rhuthr yn Rwmania, rhaid iddi o'i herwydd ddioddef colli ei henillion blaenorol yn y gorllewin. A pha beth bynnag yw barn Hindenburg am bwysig- rwydd cymharol y ddwy ffrynt; nid yw'n an- nhebyg y profa'r perygl yn y gorllewin yn fuan yn ddigon i effeithio ar holl faes y rhyfel. Hyd- erwn fod y Ffrancod wedi dyfod o hyd i'r all- wedd i'r holl safle ar y Meuse, ac os felly, ni raid aros yn hir cyn y gellir rhyddhau lluoedd o'u milwyr i'r Somme, i drymhau'r pwysau yno; ac nid oes eisiau dychymyg byw iawn i broff- wydo canlyniad hynny. Araith Arglwydd Grey. Gwnaeth Arglwydd Grey ddatganiad pwysig gerbron Cymdeithas y Wasg Dramor yn yr Hotel Cecil, nos Lun yr wythnos ddiweddaf, ac y mae ei araith wedi rhoi argraff ddofn ar America a gwledydd amhleidiol, fel y gwnaeth datganiad diweddar Mr. Lloyd George. Ar y cychwyn cadarnhaodd bopeth oedd yr Ysgrifennydd Rhyfel wedi ei ddweyd, a hynod yw sylwi fel y mae hynny o eithriadau yn y wasg a feirniadent araith yr olaf, yn cymeradwyo datganiad yr Ysgrifennydd Tramor. Cwestiwn heddwch oedd prif destyn yr araith; ac er gwneud yn glir safle Prydain ar y cwestiwn, adolygodd yn bwyllog a gwir feistrolgar gychwyn y rhyfel. -Mae Ger- mani wedi proffesu a phrotestio cymaint ar goedd y byd mai cael ei gwthio i ryfel amddi- ffynol a wnaeth hi, fel na ddylid colli yr un cyfle i atgofio'r ffeithiau syml; a; dyna wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor nos Lun yn y^^)'33,?Tiriaf ac effeithiolaf. Yna pwysleisiodd berthynas eu- ogrwydd Germani ag adferiad ac a.thelerau heddwch. Nid oedd derfyn i fod i'r rhyfel heb sicrhau rhyddid i genhedloedd Ewrop. Am y Cyngrair Heddwch Americanaidd datganodd ei gydymdeimlad a'i amcan; ond atgofiodd nad oedd geiriau yn ddigon yn yr achos hwn. Dylai aelodau Cyngrair o'r fath fod yn barod i gym- ryd eu rhan, hyd yn oed at ymladd, i sicrhau heddwch ar dir iawnder. -+- -+- Mor 3rwydr yn y Sianel. Cymerodd brwydr fechan fywiog le yn y Sian- el ganol yr wythnos. Brwydr rhwng y rhyfel- longau a elwir "Destroyers" ydoedd; a dygwyd hi oddiamgylch trwy waith deg o'r llestri hyn o eiddo Germani lithro i lawr y glarinau o Bel- gium i wneud ymosodiad ar ein llongau sy'n cludo milwyr a chyflenwad a phopeth rhwng y wlad hon a Ffrainc. Un o brif ryfeddodau y rhyfel yw y llwyddiant didor sydd wedi bod ar ein gwasanaeth, mewn cludo drosodd er cych- wyn y rhyfel. Onibai ei fod wedi ei gario ym- laen mor ddifeth a didrwst, buasai wedi tynnu llawer mwy o sylw; ond gan fodein Llynges yn abl i'w gyflawni gyda chysondeb o daydd i ddydd ac o nos i nos, heb i'r gelyn feiddio ymyrryd, tueddem i anghofio'r orchest wyrthidl hon. Nis r gallasai Germani addef uwchafiaeth ein Llynges yn fwy effeithiol a diymwad nag y gwnaeth ar hyd y ddwy flynedd ddiweddaf trwy ymgadw rhag gwneud unrhyw ymgais ddifrifol i atal y drafnidiaeth. Pe buasai ganddynt y gobaith lleiaf i lwyddo i wneud hynny, ni raid dweyd y rhoisent eu holl allu ar waith i gyrraedd yr am- can, am y gwyddent y buasai ar ben ar y rhyfel yn y gorllewin pe y torrid y cymundeb rhyngom a'r Cyfandir hya'yn oed am wythnos. Nid yw'n hawdd deal ystyr yr ymgais fechan. wnaed yn awr. Nid ydym i dybio fod Germani mor yn- fyd a meddwl am dorri'r cymundeb gyda deg o longau. Gallasai fod wedi anfon deg a mwy o Gamlas Kiel lawer gwaith cyn hyn pe'n barod i fentro llywio trwy'r mines a'r peryglon. Tyb- ir nad oedd yr ymgyrch hon ond arbrawf ysbiol, er rhoi treial ar ein gwyliadwriaeth a'n nerth yn y culfor. Allan o'r deg a anfonodd ar y dasg suddwyd dwy, a gyrrwyd y gweddill yn ol. Suddwyd un o'n "destroyers" nirinau ac un gludlong wag, ac analluogwyd un arall o'n 'des- troyers.' Honna Germani fuddugoliaeth fawr. Dywedir o Berlin i'r llongau Germanaidd dreidd- io hyd y Ilinell rhwng Folkestone a Boulonge, a bod, yn ol adroddiad llywydd y llongau, o leiaf no agerlongau a 2 neu 3 o 'torpedo-boats' wedi eu dinistrio yn rhannol, o'r tuallan i'n porthladdoedd, tra y dychwelodd 'torpedo- boats' Germani adref heb ddioddef colled o gwbl. Gresyn fod y Morlys yn cyhoeddi ad- roddiadau mor anghyflawn o'n hochr hi, yr hyn a rydd fantais i gelwyddau'r gelyn gael eu lled- aenu led-led y byd, heb ddim manylion o'n hochr ni i'w cyfarfod a'u hateb. -+- -+- -+- XJofruddio Prifweinidogr Awstria. Prin y gellir ystyried llofruddiaeth y Count Sturgkh, Prifweinidog Awstria, yn dwyn perth- ynas uniongyrchol a phwysig a'r rhyfel, er fod yr amgylchiad yn ddiameu yn arwydd o an- foddogrwydd gwleidyddol yn Awstria. Ym- ddengys y weithred fel protest yn erbyn ei waith yn gwrthod galw ynghyd y. Reichsrath, neu'r Senedd Awstraidd, yr hon a ohiriwyd cyn dech- reu'r rhyfel, heb byth wedi hynny ei galw i gyf- arfod. Mae hyn yn cario unbennaeth ymhellach nag y gwneir yn Germani, ac hyd yn oed yn Hungari. Sosialydd penboeth yw AdLer, ond nid yw'n ymddangos fod y cynllwyn i symud Sturgkh o'r ffordd yn ddyledus i neb" ond i'r llofrudd ei hun. Ar yr un pryd rhaid fod cryn anesmwythter ac anfoddogrwydd yn J wlad yn y fath gyfwng, pan na roddir cyfle 0 gwbl i'r seneddwyr gyfarfod a thrafod y sefyllfa; ac y « mae protest gref wedi ei gwneud yn erbyn y J cwrs gormesol a thrahaus yn Senedd Hungari. G-wartfa. Gardelegen. Mae ymddygiad annynol Germani at garchar- Orion rhyfel wedi ei ddadlennu unwaith .eto yn yr adroddiad am yr hyn gymerodd le yn y gwer- syll yn Gardelegen yn nechreu 1915. Yr oedd yn y gwersyll hwn un mil ar ddeg o garcharor- ion, ac yn eu plith ddeugant neu dri o filwyr Prydain. Paciwyd hwy ynghyd yn y modd mwyaf gwarthus; gadawyd hwy mewn carpiau ac heb foddion ymgeledd o un math, ac heb hanner. digon 0 fwyd, heb son am driniaeth greu- Ion a bwystfilaidd y swyddogionc-yr is-swydd- ogion yn enwedig—tuag atynt. Nid rhyfedd i haint y typhus dorri allan yn eu plith dan y fath amgylchiadau. Fel yn Wittenberg, pan dorrodd y pla allan, diangodd y gwylwyr a'r meddygon Germanaidd, gan adael y trueiniaid i'w tynged arswydus.. O drugaredd gwnaeth meddygon, Rwsia, Ffrainc, a Phrydain eu rhan yn ardderchog, a chynorthwywyd gan, offeiiaid a milwyr. Bu dwy fil o dan y clefyd, a bu tri- chant farw. Mae'r hanes yn dangos fod Ger- mani wedi cyrraedd y pwll isaf y gall dynoliaeth syrthio iddo. -+- -+- Y Senedd. Mae cryn ddadleu wedi ei godi ynglyn a galw i'r fyddin ddynion sydd wedi cyrraedd 41 ar ol adeg eu hatystiad. Bu dadl yn y Ty ar y mater ddechreu'r wythnos, a dywedir yn ddifloesgni gan amryw fod y Llywodraeth yn torri ei hym- rwymiad pendant. Yr oedd Mr. Lloyd George yn gryf y rhaid cael dynion, a cheisiodd brofi nad oedd yr ymrwymiad yn dal gan fod yr am- gylchiadau wedi newid. Gan fod yr holl gwest- iwn i'w wyntyllio yn y Ty, gallwn ei adael am y pryd heb sylw pellach.