Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GENI, PRIODI, A MARW. PRIODASAU. Roberts—'Hughes.—Awst 9, yng Nghapel Engcdi (M.C.), Ffestiniiog gan y Parch. E. Powell, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. E. R. Parry (W.), Mr. R. J. Roberts, all fab Mr. David Roberts, River- side Cottages, Dolgelley, a Miss Margaret Hughes, 5, Belle Vue, Ffestiniog. Rhoddwyd y briodas- ferch ymaith gan ei brawd Mr. J, P. Hughes. Y forwyn ydoedd Miss L. C. Owens, Penybryn, a'r gwas ydoedd Mr. R. Roberts, brawd y priodfab. Ar ol gwledd mgorol yng nghartref y briodc.s- ferch, ymadawodd y par ieuanc am Lanelwy i dreulio eu gwyliau priodasoi. MIARW OL AETHIAU. Evans.—Awst 15, yn 78 mlwydd oed, Mr. David Evans, Rhippynilwyd, Blaenanierch. Ar ol bir nychdod a gwaeledd hunodd no; Fawrth, Awst i5fed, yn 78 oed. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf caredig a sirioil ei ysbryd, ac yr oedd pawb yn hoff iawn iawn ohono'. Bu yn ffyddlon nodedig tra y gallodd i fynychu pob moddion o ras er fod ganddo g-ryn bellter i deithio i'r Glyn. Hebryng- wyd ei ran farwol ddydd Sadwrn diweddaf i fyn- went Penmorfia gan dorf luosog. Gwasanaeth /yd yn y ty a phregethwyd yn Capel Penmorfa gan ei weinidog, y Parch. J. Davies, ac ar lan y bedd gweinyddwyd gan y Parch. Daniel Lewis, P'en- morfa. Gadawa ddau fab a thair merch a pherth ynasau i alaru ar ei ol. Nodded Duw fyddo dros- tynt. Evans.—Awst 15, Mr. Ellis Richard Evans, Salem Terrace, Llanllyfni, yn 24 mlwydd oed. Clerc ydoedd gyda Mr. R. O1. Roberts, Clerc Trefol, Caerniarfion, ac yn fachgen ieuanc miedrus a gallu- og. Gwan o gorff ydoedd, ond nid felly ei fedd- wl. Cydymdimlir yn fawr a'r teulu, Mr. William Evans, tad yr ymadawedig, efe yn flaenor ffydd- Ion yn Salem (.M.C.), ac ynro yr oedd Ellis Richard yn aelod ieuanc byw a defnyddiol. Torwyd ef i lawr ym mlodau ei ddyddiau. Evans.-Awst 14, Miss Kattie Evansi, Rhian.f.a, South Beach, Pwllheli, yn ei 35 mlwydd ced. Merch yd- oedd i'r diweddar Barch. W. O. Evans Nefyn, a Mrs. Evans, Rhianfa, a chwaer i'r Parch. Simon G. Evans, B.A., Birkenhead. Cymerodd yr ang- ladd le yn Nefyn ddydd lau, y Parch. Thomas Williams, Pwllheli, yn. gwasanaethu. Hughres.Awst i3eg, ar faes y rhyfel, yn Ffrainc, yn 31ain mlwydd oed, Private J. Leonard Hughes, A.'<S.'C' cyfireithiwr, Dinbych a Phrestatyn. Jones.—Awst 22, Ellen, annwyl briod Capten Jones, P,ost Office, Aberporth. Jones.—Awst 2ofed, yn hynod sydyn, yn 38an ml. oed, Mr. Isaac Jones, Temple Bar Square, Dinbych. Jones.—Awst 14eg, yn 79ain mlwydd oed, Mr. Wil- liam Jones, M'achno, Place, Dinbych, gynt o Cae'rhafod, Gyffylliog. !Bu yn trigiannox yn Ninhych am wyth mlynledd ar hugain, ac yn briod am 52ain mlynedd. Dyn tawel a chyson el rodiad ydoedd, yn aelod ffyddlawn 0 eglwys ac Ysgol Sul y Methodistiaid Calfinaidd yn. y Fron. Yr oedd yn Rhyddfrydwr egwyddorol, ac iddo- air da gan bawb a'i hadwaenai. Gadawodd weddw, un ferch, dau fab, brawd, a chwaer, a pherthynasau eraill, mewn hiraeth ar ei ol. Cymerodd y cladd- edigaeth le prynhawn dydd lau, yn y fynwent newydd. Gweinyddwyd gan y Parch. Evan Jones, Capel Mawr. Lewis-.—Awst 24, ar ol hiT gystudd, yn 59 mlwydd oed, Mrs. Catherine Lewis, Rhianfa, Upperfield St., Dolgellau. iLladdwyd ei phrdod yn chwarel Pemhyngwyn flynyddoedid lawer yn ol, ac ni bu ei weddw yn gryf byth ar ol hynny. Dioddefodd gystudd mawr yn dawel a siriol. Gadawa un ferch, sy'n athraw-es mewn ysgol ddyddiol, ^ith a dwy chwaer mewn galar mawr. Alerch ydoedd i'r diweddar Mr. Rt. Jones, gynt o Waunfechan, ger Dolgellau, a bu ar hyd ei hoes yn aelod ffyddlon gyda'r Annibynwyr, Claddwyd yn breifat yng nghladdfa'r teulu yn y B-rithdir. Lloyd.—Awst i4eg, yn 35ain mlwydd oed, Mrs. Mary Anne Lloyd,' priod Mr. Edward Lloyd, Garth, Ffynnongroyw. Ystyrid Mir'si. L-l-oyd yn un o rai llednais y tir, hynod am ei thynerweh a'i doethinieb, ac yn un o'-r ffyddloniaid gyda'r Ysgol Sabothbl, Dirwiest, &c. Oliad«d)Wyd hi y dydd lau canlynolj yn m-yn-went y Rhewl, Mostyn, ac \r oedd yn un o'r angladdau lluosocaf. Gweinydd- j wyd wrth y ty ac wrth y bedd, gan y Parchn. T. E. Williams, Mostyn, a T. M. Jones, G-ronant, ac ar ol yr angladd bedyddiwyd y plentyn bach (.naw wythno-s- oed), gan y Parch. T. M. Jones, a dwys iawn ydoedd y gwasanaeth. Parry. -Gorff e nnaf 30, ar faes y frwydr, Corporal John R. Parry, mab ieuengaf Mr. a Mrs. Hugh Parry, 6, Raymond Avenue, Bury. Roberts.—Awst 22, yn sydyn, yn 68 mlwydd oed, Mr. Edward Roberts, argraffydd, 19, Howard Gardens. Williams.—Awst igeg, bu farw M-ary Williams, 2, Penybryn Terace, Rhiw, yn 41 mlwydd oed, ar ol cystiadd maith. Bu yn gorwedd am yn agos i ddwy llynedd ond caiodd bob caredigrwydd a gofal oddiar law ei brawd yng nghyfraith Evan Jones a'i chwaer Elizabeth, gyda pha rai y cymer- y odd ei chartref ar 01 claddu ei rhieni. Claddwyd dydd lau yn mynwent Bethesda, yn cychwyn am ddau o'r gloch. Merch ydoedd i'r diweddar Ed- ward Williams, a Jemima Williams, Tanygrisiaa. Y mae taiir chwaer iddi eto yn fyw, sef Mrs. Grace J ones, Liverpool, Miss Jane Williams, Bettwsy- 1 coed, a Mrs. Eliz. Jones, gyda pha rai y mae ein cvdyindeimlad yn y brofedigaeth hon.

Advertising

LLANFECHELL.

,/NODION 0 FON.

WELSH AND ENGLISH BOOKS.