Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y GOLOFN GYMRAEG

News
Cite
Share

Y GOLOFN GYMRAEG f v GAN V PARCH. D. TECWYN EVANS, B.A. Mr. John Williams, Willesden.—Atebwyd tn 0'. cwestiynau ar GymTaeg y Llyfr Gweddi Gyffredin y tro diweddaf, a dyma ragor ar y pen diddorol hwnnw. Gwel Mr. Williams nad wyf yn ateb y cwbl o'r. pethau a ofynnodd,—dim ond y pethau mwyal anodd a tharawiadol. (4) Y mae unrhyw yw'r Tad yn gywir am "such as the Father is," gan fod "unrhyw" yn gol- ygu same, of the same kind, neu such, yn ogystal ag alt,y. (5) Pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gad- vedig, synied felly o'r Diindod." Y mae'r modd gorchymynnol synied (trydydd person unigol) o synio," yr un motr naturiol a chywir ag yw caned o eanu. (6) y cyfyd pob dyn yn eu cyrff eu hunain." An- soddair yw pob" yn golygu every.' Yr enw (nonn) yw pawb," everybody. Megis everybody yn Saes- neg, unigol yw pawb mewn gwirionedd, ond ar- ferir ef weithiau fel, lluoaog: "pawb a'm gadaw- sant," a Tim. iv. 16. Ac felly y gwneir a pob weithiau o bop kyfryw vwydeu (Y Seint Greal— Llawysgrifau Hengwrt),-of all viands. Felly yn y dyfyniad a roddwch; ond pob dyn yn ei gorff ei hun sy'n fanwl gywir. Cymharer i Cor. vii. 20: Fob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef (unigol); a i Cor. xv. 38, ac i bob hedyn ei gorff ei hun." (7) ac ymgais yn wastad a'th anrhydedd." Y mae ymgais yn ferf-enw, yn ogystal ag yn enw. Ar ol geiriau'n dechreu ag ym- ceir "ä" yn ami. 'Cymharer,—"Ymgais a than,gnefedd (Y Beibl), ymgael ag ystlys y llannerch (Y Mabinogion), "ymado wnaf i'r babell" (,emyn), "ymgeisio A chywiro," etc. (8) ddwyn i'r ffordd wir bawb a'r a aeth." Y ma,e'r ymadrodd "a'r a" yn ddigon dyrys i ni erbyn hyn. Y dull diweddar ydyw, yn lle'r hen" o'r a." Dyma'r eglurhad amo bob yn llythyren (a) arddod- iad (preposition yw o yn golygu out of; (b) y rhagenw dangosiadol (demonstrative pronoun) yw yr (a dalfyrrir yma yn 'r) yn golygu this, these, those; (c) y rhagenw perthynol yn y cyflwr enwedig- 01 (relative pronoun, nominative case) yw a." Gan hynny ystyr o'r a aeth" neu "ä\r a aeth" yw of those that went. (9) modd na'n briwer ni." Daw briwer o "briwo," to hurt- Yn y GogLedd brifo a ddy- wedirnghraifft arall o f ac w yn newid a'i gilydd rhwng llafariaid, megis "diwinydd" a "difinydd," "tywod" a "tyfod." Ond briwo" sy'n gywir, —cymharer briw," nid brif." Enghraifft yw "modd pa" o ragferf (adverb) wedi ei ffurfio o enw, a'r rhagenw perthynol mewn cyflwr traws (oblique case) yn ei ddilyn. Yr enw yma wrth gwrs yw "modd," a "na" yn ei ddilyn. Yn gadamhaol, "modd y" yw'r ymadrodd, yn golygu in the manner in which, so that. Ystyr "modd na" gan hynny yw so that not. Cymharer pryd y,"—at the time when, when; "lle y,in the place where, where. Y mae modd," "pryd," a "lie" yn yr enghreifftiau hyn yn y cyflwr traws (oblique case). (xo) Yn fy myw ni allaf weled fod amserol ffrwythau'r ddaear" yn gywir amhindly fruits of the earth." Ystyr kindly" yw "naturiol," y mae'n wir fod y ffrwythau'n amserol" am eu bod yn yn dyfod yn eu hadeg "naturiol," ac efallai mai oherwydd hynny y defnyddiwyd y gair. Maldtvijn.-D,o, gwelais gyfrol hardd a gwerth- fawr y Parch. Edward Griffiths, Meifod, ar "Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf" a darllenais hi a bias gwirioneddol. Bydd cyfrol fel hon yn drysor yng ngolwg pawb a gar hanes bywyd a meddwl a chrefydd Cymru, a bydd yn werthfawrocaclPyn y dyfodol nag y mae hyd yn oed heddyw. Mr. Griffiths yw Esgob Ymneilltuaeth yn Nhrefaldwyn Isaf, fel y gwyddoch chi'n dda, ac ar ol bod dipyn yn ei gwmni'n ddiweddar, yr wyf yn synnu llai nag erioed at hynny. Y mae per aroglau Crist yn drwm ac yn hyfryd arno, a rhyw hynawsedd yn ei ys.bryd sydd ymysg y pethau nad adnabu'r byd mohonynt. Y mae'r hanes fel yr adroddir ef yn y llyfr hwn 3^1 rhamantus o ddiddorol, ac y mae'r olwg Gymreig gartrefol sydd ar y rhan fwyaf o'r capelau y ceir darluniau ohonynt yn y gyfrol, yn swyno calon dyn y mae edrych arnynt yn orffwyrtra enaid i bawb a fagwyd yn y wlad mewn capelau tebyg iddynt. Ond igofyn yr oeddych beth am laith y llyfr. Yn ddiau y mae Cymraeg y llyfr, er nad yn gwbl ddifefl, yn llawer gwell na'r cyffredin; yn wir, yn anhraethol well na Chymraeg ambell un dipyn mwy honiadol fel lienor nag awdur y llyfr hwn. Cymraeg natur- iol, di-ymgais ydyw, ac oblegid hynny'n goeth a seinber. Hir oes a gaffo'r gwr annwyl a hybarch o Feifod I Gan fy mod yn son amdano, y mae gennyf un newydd i'w fynegi fydd o ddiddordeb i Mr. Griffiths, ac i filoedd o ddarllenwyr y Cymro. Y mae'n hysbys fod yr Annibynwyr Cymreig ar fin dwyn allan argraffiad newydd o'u Llyfr Emynau. Ymysg y Golygwyr y mae'r Prifeirdd J. J. Williams ac Elfed. Cynhwysir yn y Llyfr newydd emyn Ann Griffithsemyn sy'n dra amserol heddyw- Cofia Arglwydd Dy ddyweddi," &c. Y ddwy linell olaf, fel y cofir, yw Addewidion diamodol Duw ar gyfrif gwaed y groes." Ond yn ol yr hyn a ddywedodd y Parch. J. J. Wil. liams wTthyf y dydd o'r blaen yn y tren yn Sir F6n, Addewidion diymodol" (sef sicr, didroi, sefydlog) sy'n gywir. Dyna, ebe ef, a ddywed Elfed, ac 03 dywed Elfed hyn-iy y mae'n bur sicr ei fod yn iawn: nid oes neb a wyr fwy am emynau nag Elfed,-o,s oes rhywun yn wir a wyr gymaint. Yn ol J. J. Wil- liams, dywed Elfed mai "diymodol" a ddywedodd Ann Griffiths ei hun, a diddorol iawn fydda.i derbyn cadarrihad i hyn, os oes eisiau hynny, ac os yw hynny'n boaibl. Prin y gellir dywedyd fod yr un addewid yn gwbl "ddiarnQdol," ond rhywbeth ar- dderchog yw cono eu bod oil yn ddiymodol bob un. Ystyr" ymod" yw "symud" (gweler Geiriadur Bodfan) j "ymodbren" yw stirring-stick," a detn- yddir "ymod" ti hun ym Meirionydd am y pren a arferir i "droi" uwd neu lymru ag ef pan fyddont yn berwi. Llithrodd dati. wall bach i'r Golofn ddiwedd- af, rof ddyfyitir yn lit "ddyfynnir," ac "adfer- fa" ym 11. "adferaf."

Y BALA A R CYFFINIAU

O'R YSTWYTH I'R DDYFI.

Advertising