Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Dl-DDARBODAETH Y CYFUNDEBi.

News
Cite
Share

Dl-DDARBODAETH Y CYFUNDEBi. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Cynnyg arddercbog y'w eiddo Blaenor Pryderus i roi arweiniad1 i'r Cyf- undeb am y misoedd dyfodol. Y mae wedi taro ar fater teilwng o sylw, seT galw ein sylw at y priodoMeb o arbed gwastraff,7 a gochel gwario arian yn ddiangenrhaid1 yn ystod cyfytngdër a dirwasgiad y Rhy,fel pres- ennol. Gwir yw nad yw ein cyfyngder o bosibl yn fawr Tawn eto, ond mae digon o hono o'n hftmgylch i beri i ni fel Cristionogion i roi prawf i'r byd ein bod yn sylwi ar arwydd- ion yr amserau.. Goddefer I ml, Mr. Golyg- ydd, i ddifynnu ychydig o lythyr Blaenor Pryderus." Pan y mae'r Wladwriaeth yn crdu arnom bawb i arbed gwastraff, a pheidio gwario arian yn ddiangenrhaid yn awr gyfyngaf ein hanes oblegid y Rhyfel, wele gynnal yr un nifer o Gymdeithasfaoedd, Cyrddau Pregethu costus, Cyrddau Misol, a Phiwyllgorau, ag arfer. E!r gwybod nad oes tocynau teithio, rlIad i'w cael i unlle a bod Prisiau bwyd a llety yn uehel iawn, wele ben- tyru Sasiynau ar ben. en: gilydd-yn y De, wele un Maesteg, Llanwrtyd, Penllwyn, a Throedyrhiw, o fewn oorff chwe' mis o amser. a thebyg yw yn y Goigledd." A oes eisiaiu pedair Cymdeithasfa 0 féwIll chwe' mis? Atebaf yn ddifloesgni, Nac oes; gallesid yn hawdd wneud ar ddwy Gymdeithasfa. Nid oes eisiau bod yn Fethodist mawr i weled hynnychwaith. Dengys y sefyllfa bresenno] ar bethau fod ein pobl hynaf yn fwy dall i arwyddion yr amserau na phobl eraill. Gwir nas gallwn wneud dim i atal y Rhyfel mewn cylch crefyddol, mewn modd bydol ac union- gyrchol; ondgaIlwn yn hawdd Wneud rhyw- beth mewn llysoedd crefyddol, a fydd yn hrawf i'r byd ein bod fel credinwyr yn d'eall arwyddion yr amserau. Ar bwnc cynhildeb a darbodaeth, pwy a ddylasai siymud gyntaf gyda y rhinweddau hyn, pwy hefyd ond can- lynwyr Crist. Ein braint ni fel crefyddwyr yw arwain gyda y rhinweddau hyn mewn cymdeithas. Pwy bia Cynhildeb ai Darbod- aeth? O ba le maent wedi dod? Rhinwedd- au yw y rhai hyn wedi blag-uro .allan o wraidd Celstion-oga,et,b. Yr eglwys yw eu perchen, a hi sydd i arwain gyda hwy. Yn lie pedair Cymdeithasfa, byddai d'wy mewn chwe' mis yn llawn digon, yn lie cynnal cwrdd hanner blynyddol, a chwrdd blynyddol ynglyn a'r un eglwys, gwell o lawer fuasai gadael i'r cwrdd hanner blynyddol i fyn'd yn ystod y dirwasgiad presennol. Yn gyffredin cyferfydd y Cyrddau Misol ddeg neu unarddeg 01 weith- iau mewn blwyddyn, oni fydd.ai chiwe' cwrdd yn. llawn digon, arbedai hyn lawer o draul i'r eglwysi, a byddai diogelwch y gwaith yr un mor effe,ithiol. Wrth edrvch ar bentwr mawr y cyfarfodydd a fynychir gennym, rhaid cyf- addef fod peth luxury yn ei wneud i fyny. Peth hynod o ddiafael yw i'r Gymdeithasfa geisio annog y bobl i'r peth hwn a'r peth arall, eisiau caie1 esiampl sydd ,drwy dynnu lawr nifer y Cymdeithasfaoedd mewn blwy- ddyn, a rhoddai hynny don newydd i bethaiv. Gweddus ynom fel pobl yn proiffesu pethau ysbrydol, fyddai symud i gyfeiriad darbod- aeth, a hynny am fod y wllad yn cyflym suddo i ddyled. Gwir nad oes dim i alw ein sylw at hyn, eto llithro yn ddistaw mae y wlad i ganol dyled fawr yr oesau, i waeiod dyfnder na fu hi erioed ynddb o'r blaen. Yr unig beth a ddywed crefydd a moesoldeb gyda dim 01 bwyslais yw, y dylasem drefnu ein, byd i gwrdd a'r sefyllfa eitbriadol hon. Wedi dwy flynedd O! brofiad qhwerw, nid oes dim wedi ei wneud eto. Onid yw hyn yn syn, ac eto ef- aUai nad yw yn gymaint felly. Cymerwch y Cyrddau Misol a'r Cymdeithasfaoedd, yr un pobl sydd wrthi hi byth beuinydd, ac efallai oblegid hyn, mai nid priodol disgwyl iddynt i wneud dim a fyddo yn gwtogiad ar eu breint- iau. Bodd neu anfodd i hyn y daw -hi yn fuan, mae'r dydd wrth y drws i sicrhau llei- had yn nifer y cyfarfodydd, yn enwedig y rhai mwyaf costus a threulfawr. Y mae glynnu wrth yr hen arferiad o'u cynnal, o dan yr am- gylchiadau presennoi, yn ynfydrwydd i'r eithaf. Diolchaf i'r Blaenor Pryderus am fod yn ddigon gwrol i ddweyd y gwir, ac ysg- rifennu ei argyhoeddiad. Anoigaf ef i baratoi ei ail lythyr ar yr un, mater, a gallaf ei sicrhau pe bai eisiau, fod i'w syniadau amserol adlais gonest mewn miloedd o galonnau. Elfallai y bydd gennyf air arall. GWEINIDOG.

Y PRIF BREGETHWYR A'R MILWYR.

DI-DDARBODAETH Y CYFUNDEB.

NODION 0 LEYN.-

NODION 0 FALDWYN.

CWESTIWN CADWRAETH Y SABOTH…