Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Ail Nadolig y Rhyfel,

News
Cite
Share

Ail Nadolig y Rhyfel, Dyma Wyl geni Tywysog Tangnefedd wedi ei threulio unwaith eto ynghanol rhyfel a, thywallt gwaed y cenhedloedd; a,c nis gallai'r ffaith arswydlawn lai na thiaflu cysgod trym- ddu dros y dydd. Mae cysgod angau a'r bedd ar aelwyclydd dirif yn y gwledydd, ac yr oedd y bylchau o gylch y bwrdd y fath na bu- ont erioed o'r blaen yn y cartrefi. Ac etc dyma ddydd dyfodiad Mab y Dyn" yn dyfod heibio yn ei rawd ac yn gwenu arnom trwy ganol trwch y cymylau-. Ai Mab y Diyn, pan ddel, a gaiff efe ffydd ar y ddaear 2 Gorchest ffydd yw byw heddyw mewn miliyn- au o galonnau; ac eto byw y mae yn ol pob a.rwyddion a welid gartref ar ddydd y geni, ac yn ol pob tystiolaeth am ysbryd y bechgyn sydd a'r Groglith a'r Nadolig wedi cydgyfar- fod yn eu hanes, a Gethsemane a Chalfaria wedi dyfod hyd Bethlehem iddynt. Llynedd trefnodd rhai o'r milwyr o'r ddeutu i ymatal rhag ymladd dros Wyl Bethlehem ond eleni ni chaed egwyl yn unman. Nid oedd y peth yn cymeradwyo ei hun i'r awdurdodau, am y credant mai gwell parhau i frwydro yn ddi- atal, er byrhau dyddiau'r alanas. Yr oedd yr ymladd yn ffyrnig dros Wyl y Nadolig eleni; ac ni fu'r fath Nadolig yn hanes yr oesau. Tra yr oeddym ni gartref yn troi i'r temlau i gofio'r geni ac i ganu hen gan yr angylion, yr oedd ein plant wrth y miloedd clan gysgod angel marwolaethi yn y ffosydd. Ac eto, gwelodd llawer o honynt y Mab Bychan yn gliriachi na ni, ac addolasant Ef gyda mwy o ddwyster ac angerdd. Nid oedd ganddynt anrhegion o aur a, thus a myrr i'w cyflwyno id do; ond meddent rhywbethi an- nhraethol werthfawrocach, a rhoisantyr an- rhieg honno wrth ei draed. Aberthasaht nid yn unig eu cysuron a'u hawddfyd, ond rhoi- sant eu heinioes i lawr am y credent fod y rhyfel hwn yn frwydr rhwng Herod a'r Mab Bychan- Nid oe's cariad mwy, nac addoliad uwch, na'r rhoddi dnioes" hwn dros eu gwlad a'u cartrefi, dros gyfiawnder a barn, dros grefydd a, Christ, 01 eiddo'n bechgyn. Ofna rhai o'n gohebwyr gymylu athrawiaeth cyfi'awnhad trwy ffydd wrth son am ddiogel- wch tragwyddol y bechgyn. Pa ffydd uwch na'r hbn sydd dan eu haberth? Daeth Mab y Dyn, a, cafodd ffydd ar y ddaear, ie, ymysg y bechgyn na ddeallent fawr ol ystyr eu ffydd eu hunain.

* * * Araith Mr. Lloyd George.

* * * Twysigrwydd yr Arfau-

-% % * Yr Angen am Weithwyr.

* * * Y Symudiad o'r Dardanels.

* * % ;', iY Colledion yn…

* * * Y Bedwaredd Filiwn I

* * * Gwaith a wnaed.