Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

GWEDDIO DROS Y MEIRW.

News
Cite
Share

GWEDDIO DROS Y MEIRW. GWELIR fod y mater hwn yn cael cryn lawer o sylw y dyddiau hyn wrth fyfyrio arno, enynir tan, a llawer a lefarant. Y cyfrif am ei fod yn cael mwy o ystyria-eth na chyffredin yn awr yw terfysg echryslon y rhyfel. Gwesgir ni i chwilio am rywbeth a phopeth dichonadwy i weini dyddanwch i'r myrddiynau o galonau rhwygedig' yn eu galar am eu hanwyliaid. Y mae y teimlad yn naturiol; byddem yn annyn- ol hebddo.; ac ni ddylid rhyfeddu ei fod yn siglo ein hargyhoeddiad o rai syniadau yr ar- ferem edrych arnynt fel amddiffyn hanfodol i fuddianau uchaf dynoliaeth ar y ddaear. Ond os ymollyng'ir gyda'r teimlad hwn, prin y gellir disgwyl barn gyfiawn ar y syniadau a fygythir ac a siglir, er hwyrach y dylid gwrando- ar y teimlad ei hun fel tyst yn llys rheswm a chydwybod. Eithr hyd y gellir, pan yn cloriannu y syniadau, gadawer cyffro y rhyfel allan o'r cyfrif fel peth amherthynas- ol; canys os priodol g-weddio dros un marw, nis gall fod yn a.mhriodol gweddio' dros y myrddiynau a hyrddiwyd o dir y rhai byw. Nid oes dim ychwaith yn cael ei ennill trwy y cri gwrth-babaidd—y Purdan. Y mae hanes athrawiaeth y Purda.n yn rhedeg ym- hellach yn ol na'r Babaeth; ac y mae eglwys Groeg hyd heddyw yn dal athrawiaeth y Purdan, yn gystal ag eglwys Rhufain, gyda hyn o wahaniaeth-nad yw y gyntaf mor ynfyd anianol a'r olaf. Ond nid yw cyffroi ein rhagfarn at y Babaeth oherwydd ei hanes gwarthus ynglyn a'r P'urdan yn rhoi dim help i gyrraedd y gwir ar y cwestiwn mawr a syml am briodoldeb gweddio dros y meirw. Eiddigedd dros yr athrawiaeth efengylaidd sydd yn llosgi yn mynwesau y mwyafrif o ohebwyr Cymru a Lloegr ar y mater. Hyfrydwch i ni yw fod llu oi geidwaid y ffydd yn aros eto. Y mae galw uchel am eu gwasanaeth, a thebyg ydyw y daw eto fwy. Yr ydym yn gyfangwbl gyda hwynt yn eu condemniad a waith rhywrai y dywedir eu bod yn sicrhau y llanciau, y byddai eu gwaith yn ymrestru, gan aberthu eu hunain, yn diogelu iddynt fywyd tragwyddol, ac yn cymharu eu haberth ag aberth y Groes- sylwasom fod un gwr o ddylanwad yn dweyd, gydag ymddangosiad o ddifrifwch mawr, mai y peth tebycaf ar y ddaear heddyw i'r Gwr fu ar Galfaria yw sefyllfa y milwyr yn y trenches. Bydd gan y rhai sydd yn amhwyllo i ddywedyd geiriau cabledd o'r fath achos i fwyta eu geiriau mewn edifeirwch chwerw, wedi i'r cythrwfl presennol ostegu, os mynant ran yn y gwaith 0 ddysgu Cristionogaeth i'r byd. D'ywedasom fod y priodoldeb o weddio dros y meirw yn gwestiwn mawr. Yr hyn sydd yn ei wneud yn bwysig yw lei berthynas ag athrawiaeth yr Efengyl. Y mae gweddio dros y meirw, yn myned ar draws rhai o eiriau pendant y Testament Newydd, yn ymddang- osiadol o liaf, ac yn enwedig geiriau Crist ei Hun. Ofer disgwyl i ni mewn ychydig nodiadau fel hyn olrhain i fanylrwydd yr holl gysylltiadau. Cafwyd prawf yng Nghym- deithasfa Beaumaris nad oes i ni weledigaeth eglur am y pethau diweddaf." Teimlir yn y cysylltiad hwn, yn anad un rhan o'r Beibl, yr angenrheidrwydd am sicrhau uchaf- iaeth'yr ysbryd ar y llythyren yn y Bfeibl, _?ac am Ysbryd y Beibl ynom, mewn trefn i'w eiria.u fod yn wir ddatguddiad o Dduw i ni. Fie ddysg llyfr amhrisiadwy Puleston Jones ar Ysbrydoliaeth lawer o sobrwydd mewn barn uwchben y Beibl, ac ymhlith pethau eraill ar weddio dros y meirw. Y Beibl ydyw ein hawdurdod; ond rhaid i'r Beibl gydnabod yr Ysbryd a'i rhoes i ni fel ei awdurdod Ef, ac fel yr hwn yn unig a ddichon gyfrannu i ni i oleuni D'uw yn y Beibl. Rhaid i ni gredu fod Duw yn fwy na'r Beibl, ie, credu fel y wraig yr hon oedd Syrophenciad o genedl gyda lesu Grist, yn well na i air, yn well, an- feidrol well, nag y galla-i geiriau ei fynegi. Yr ydym ni wedi iei-n dysgu i gredu, ac yn dal i gredu, y derfydd am obaith yr annuwiol pan fyddo marw; y mae yn amhosibl i ni ddeall geiriau Crist a'i apostolion yn amgen. Ond nid gwiw i ni goledd meddyliau anfrawdol am frodyr sydd yn synied yn wahanol ar hyn, tra y glynant a'u holl galon wrth hanfod yr Efengyl-Yr Ymgnawdoliad a'r lawn,—ac hwyrach y dylem fod yn ddigon gostyngedig

-.--.-------AM BA BETH Y GWEDDIWN?