Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
II.
News
Cite
Share
II. Yn llety'r anifail y cawsant hwy Ie, Mewn preseb gorweddoddi Tywysog y Ne'; Yn dlawd mewn cadachau- —Emmanuel mawr! Rhyfedded y nefoedd, rhyfedded y llawr!
CAROL NADOLIG.
News
Cite
Share
CAROL NADOLIG. Ton-" Brynawel. I. o I Fethlem Ephratah daeth Joseph da'i air Yn brydlon i'w drethu yng nghwmni pur Mair, Ac yno yr Iesu, yn Dduw ac yn ddyn A anwyd yn Geidwad—ni ganwn bob un.
III.
News
Cite
Share
III. Uwch meusydd Ephratah tra'n gwylied yr wyn, Bugeiliaid a glywsant rhyw seiniau llawn swyn.; Da newydd a g'awsant am eni Mab Duw. Ac aethant i'r ddinas i'w addoli mor wiw.
IV.
News
Cite
Share
IV. Yn Fiaiban bach tyner, mor annwyl E,i bryd, Fe'i gwelwyd ym Methlem gan ddoethion y .byd; Anrhegion tra gwerthfawr ddygasant bob un, Gan wylaidd addoli y Duw ddaeth yn ddyn.
V.
News
Cite
Share
V. Daw doethion y ddaear a'u gwybod i gyd Yn fuan i foli lachawdwr y byd; Trysorau y gwledydd yn ddibrin a ddaw Yn deyrnged i'r Brenin mae'r byd yn ei law.
VI.
News
Cite
Share
VI. Fe wawria y bore, mor hyfryd y dydd! Bydd terfyn arormes, y caeth ddaw yn rhydd; Ni sonir am ryfel, bydd pawb mewn mwyn- had, Tywysog Tangniefedd, fydd Brenin pob gwlad.
VII.
News
Cite
Share
VII. Bydd geni y preseb a marw y groes Yn destyn gorfoledd i seintiau pob oes; Glan engyl a dynion yn lluoedd diri' Glodforant yr Iesu Ein Ceidwad mawr ni.
VIII.
News
Cite
Share
VIII. Creawdwr y bydoedd, Cynhaliwr pob peth, Mawr Lywydd ein Bywyd, Gwaredwr difeth; Ni flinwn Dy ganmol, Ti haeddi bob clod, Ar Dy Ben y bo'r goron tra'r nefoedd yn bod. Cydgan: Am hynny yn llawen ni g'anwn bob un Mae'r Baban a anwyd yn Geidwad i ddyn. Welsh Church, JOHN LEWIS. Dublin. -+-, Gwelir mewn colofn arall apel ar ran Casgl- iad y Symudiad Ymosodol gan Mr. John Owens, Y.H., Caer. Blwyddyn nodedig yw hon, nid yn unig yn hanes casgliadau, ond yn hanes argraffwyr. Gydag anhawster mawr y llwyddir i gael papur, a pharodd hynny oed- iad difrifol gyda cha.el yr adroddiadau allan. E.rfynir cydymdeimlad a chydweithrediad yr ysgrifenyddion sirol a lleol. Bydd y rhan olaf o'r adroddiadau yn cael eu hanfon cyn y 3iain o'r mis, a. dylent gyrraedd yr wythnos gyntaf o'r flwyddyn. -+ Mae gan y Parch. S. E,. Prytherch:, Nanty- moel, Ivfr (Jy!do-ro'l ac amserol vn y wasg yn Sv/yddfa'r Cymro ar C-refydd a'r Teulu.' Mae'r Bwrdd Amaethyddol yn Llundain wedi rhoddi 649 tuag at gyfrannu addysg amaethyddol i amaethwyr yn ystod y flwydd- yn nesaf. -+- -+- -+- Cyfeiriais wythnos yn ol at Gofiant Watcyn Wynn. Bydd adolygiad ar y lyfr gan yr Archdderwydd Dyfed yn un o'r rhifynau nesaf o'r Cymro.' -+- Mae argraffiad newydd o Lawlyfr Mol- iant y Bedyddwyr newydd ei gyhoeddi. Cynhwysa 382 o donau, a nifer dda 01 emynau. Ysywaith, nid yw wedi dianc heb gryn nifer o wallau, y rhai yn ddiau a gywirir yn yr ar- graffiad nesaf. Mae haner yr argraffiad cyntaf eisoes wedi ei werthu. Amrywiaeth barn geir ar bob peth. Ym Mon yr oedd cyfaill yn canmol cylchgronau y Cyfundeb yng anghyffredin. Yn Lleyn ae Eifionydd yr oedd y cymhellion yn cael eu cym- ysgu a beirniadaeth finiog i.awn gan gyfaill graddedig a blaenor. Ymhob pen y mae op- iniwn,a dyna gyfle pob golygydd. Da gennyf glywed fod yr Hybarch John Evans, Abermeurig, yn ysgrifennu cyfres o atgofion i'r Cymro.' Mae Mr. Elvans yn un o weinidogiün hynaf y Cyfundeb, ac mor gyd- nabyddus a hanes y Cyfundeb a'i arweinwyr ag odid neb yn y wlad. Er mewn pedran mawr, parha yn dirf ac iraidd, a'i lawysgrif mor glir ag erioed. O'r tuallan i Gaerdydd a chylch; dylanwad personol y rhai sydd ar y ddirprwyaeth, nid oes amheuaeth nad OIes teimlad cryf yn y wlad dros ddileu y Ddirprwyaeth Yswiriol i Gymru. Mae costau y Dirprwywyr wedi bod yn eithaf- ol, ac nid ydynt wedi tennill ymddiried y wlad. O'r tu arall teimla llawer mai colled i Gym- ru yw gwneud i ffwrdd a'r mymryn yma o ym- reolaeth. -+- -+- -+- Cylymau Cymdeithas ydyw testun dar- lith a draddbdir yng nghapel Llidiardau nos Iau gan y Parch. J. Puleston Jones, ,a,c anodd yn ami yw gwneud allan oddiwrth y testun beth fydd pennau'r ddarlith. Wrth son am hyn clywais ef yn adrodd am goedwigwr ystad y Rhiwlas yn myned i siop lyfrau yn y Bala i brynu llyfr ar Blanu Coed wedi clywed fod El- fed wedi cyhoeddi cyfrol ar y testun hwnnw. Da gennyf hysbysu fod y Parch. W. M. Jones, Birkenhead, wedi ateb yn ffafriol yr alwad gynnes a thaer i fugeilio eglwysi Llan- santffraid a Llanfechain, Maldwyn, a dder- byniodd yn ddiweddar. Dteallwn y tyr Mr. Jones ei hir gysylltiad ag eglwys Parkfield yn mis Mawrth. Dymunwn iddo lawer o lwyddiant a chysur yn ei faes newydd. Diau y bydd yn gaffaeliad mawr i, gylch Cyfarfod Misol Trefaldwyn Isaf. -+- Gwneir ymdrech neilltuol yn holl adrannau y Llywodraeth yr wythnosau hyn i leihau y treuliau ond mae yn sicr na theimla y cyhoedd effeithiau hynny yn gymaint mewn dim ac a wna ynglyn a gweithrediadau a chyfleusterau y llythyrdy. Tebygol yw y byrheir llawer ar oriau gweithio yn y llythyrdai; ac y bydd mfer i y gweithiau y danfonir llythyrau allan bob dydd yn cael eu lleihau, os nad yn cael eu tynnu ymaith yn hollol mewn rhai mannau I gwledig. Clywais bostfeistr yn un o drefi bychain Gogledd Cymru yn dweyd y lleiheir costau y dosbarth sydd dan ei ofal ef, 0 chwech i wyth ,gant o bunnau trwy yr ad-; drefniant hwn. Mae yn ddigon tebyg nad oes neb yn y dosbarth hwnnw deimla ddim ang- hyfteustra gwirioneddol oherwydd hyn. Mae copyright y Y Dehonglwr a, phob hawliau ynglyn ag ef wedi eu trosglwyddo i Mr. E. W. Evans, perchenog "Y Lladmer- ydd." Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn 1903 at wasanaeth yr Y sgol Sabothol gan y Parch. John 'Morgan Jones, Ca,erdydd, ac efe oedd ei berchenog1 a'i olygydd am flynydd- oedd. Yn ddiweddar daeth Dr. Phillips yn i olygydd. Mri. Evans a Williams, Caerdydd, oedd y cyhoeddwyr er y cychwyn, ac y maent hwy a'r perchenno'g wedi gwerthu pob hawl- iau i Mr. Evans, ac unir Y Dehonghvr gyda'r "Lladmerydd ar ddechreu y flwy- ddyn newydd. -+- -+- -+- Gohebydd a ysgrifenna.—" Cyfeiriwyd yn y rhifyn d'iweddaf o'r Cymro at gysylltiad hapus y Methodistiaid a'r Eglwys Sefydledig yn Sir Aberteifi. Dichon na wyddai eich go- hebydd mai yn eglwys y M.C. Capel Afan y magwyd prifathro newydd Ysgol Ystradmeu- rig, y Parch. David John Jones, a'i briod. Yr oedd ei rieni ac yntau a'i briod yn aelodau ffyddlon o'r eglwys a'r Ysgol Sabcthol, a phan yn Ysgol Ystrad Meurig yr aeth efe drosodd i'r Eglwys Sefydledig. Enillodd wobrwyon yn arholiadau Gogiedd Aberteifi amryw weithiau. Ie, parhaed hrawdgarwch." Dywedodd Syr Isambard Owen lawer o bethau ym Mhontypridd yr wythnos ddiwedd- af haeddant yr ystyriaeth ddifrifolaf. Han- fod Addysg, meddai, yw dysgu'r efrydydd yng ngwahanol gyfnodau bywyd i ymladd yn effeithiol a'r anhawsterau ei hun gan gym- hwyso atynt yr hyn gasglodd o sylwadaeth meddyliau eraill. Nid llwyddo mewn arho!- iad yw'r prif beth, ond llwyddo yng- ngwaith bywyd, ac nid yr arholwr ddylai fod yn gyf- arwyddwr ond yr ysgolfeistr. Diau, meddai, y teimlid prindir aritn yn y wlad yn fuan, ond ymha g-ylchoedd bynnag y barnai y Llywodr- aeth yn dda gynhilo ni ddylai ar un cyfrif gyn- hiloi mewn addysg1. Mae amryw eglwysi ym Maldwyn Uchaf heb fugeiliaid ar hyn 0 bryd, nid amgen Eglwys Seisnig Llanidloes, Sychnant a Pantydwr; Gleiniant, Berthlas, a Llawryglyn, Cemaes a'r Waen; Bont a Phennant, Llanbrynmair ac erbyn yr ymddengys y nodyn hwn yn y Cym- ro bydd tymor ymddiswyddiad y Parch. El- ias Jones o gwmpas dirwyn i'r pen yn y Dref- newydd a'r eglwys yno wedi ei gadael heb fugail. Felly bydd y flwyddyn 1916 yn dod i mewn gydag o leiaf bump 0 fugeiliaid yn eis- Z!1 iau ynghylch y C.M. hwn; ac nid oes fawr son am lenwi i fyny y bylchau. Dyddorol fyddai gwybod beth yw y rheswm paham y mae rhai o'r eglwysi hyn mor hir heb yr un bugail. -+- -+- Gwneir ymdrech y misoedd hyn i wneud i ffwrdd a dau neu dri o dylotal Sir Drefaldwyn. Mae pedwar yn y sir ar hyn 0 bryd, sef yn Llanfyllin, Forden, Caersws, a Machynlleth. Mae yr awdurdodau yn y lie diweddaf a en- Z, wyd mewn trafodaeth a phobl Caersvvs yng- hylch symud y tlodion yno, fel y garllont hwythau roddi y tloty yn ysbyty i'r milvvyr. Mae pobl Forden hefyd mewn trafodaeth a'r awdurdodau milwrol gyda golwg ar wneud y ty" yno yn ysbytty, ac os felly anfonir y tlodion i Llanfyllin neu Caersws. Mae yn debyg fod tloty Forden yn un o'r rhai hynaf yn y wlad, gan ei fod wedi ei adeiladu er ys tua saith ugain mlynedd ac felly ymhell cyn i gyfraith y tlodion fel y mae yn bresennol gael ei gwneud. Mae yn y ty Ie i tua phum' cant 0 bobl. Ma,e hefyd dros fil o- dlodion wedi eu claddu yn y gladdfa perthynol i'r lie. yn ystod y tymor er pan y mae wedi ei wneud.