Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
,r" Telegraphic Address: u GWALIATEL, London. Telephone No-s. 5010 & 5011 City. Irl HOTEL GWALIA, IjnPPiHK WOBTJRlvr PALCE, LONDON, w.o. CENTRALLY SITUATED. (Within 5 minutes walk of Euston Station and 20 minutes from Paddington by Underground Rail- way to Gower Street Station). BED, BREAKFAST, BATH & ATTENDANCE, 5&. EACH PERSON. 180 Rooms Luxuriously Furnished. Passengers Lift to all floors. Fireproof Building. JOHN M. JENKINS, Manager. Anrheg Cjfaddas i'r Milwr. 4 4 Porfeydd Gwelltog." ADNODAU AR WAHANOL DESTYNAU At Wasanaeth Plant y Seiat, Athrawon yr Ysgol Sabothol, Gweini- dogion y Gair, a Saint Duw o bob oed a sefyllfa. Wedi eu casglu a'u trefnu gan y Parch. WM. LEWIS, Pontypridd, Gyda Rhagair gan y Parch. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn. i' Mewn Llian Hardd. Pris Dau Swllt. Danfonir un copi gyda'r post am didau swllt. I'r neb a gymer ch.we' copi ac uchod is. 6c. yr un gyda'r cludiad. Danfoner at REV. W. LEWIS, The Grove, Pontypridd. Opposite the British Museum. Thackeray Hotel Great Russell Street, London. Near the British Museum. Near the British Museum. I Kingsley Hotel Hart Street, Bloomsbury Square,London. I Bedroom, Attendance and Table d'Hite Breakfiwt Single from 6s. 6d. J With Table d'Hote Dinner, from 8s. 6d. Full Tariff and on Applieatin. Tel.—Regwnt 2041 <2 lines). 2088 (2 lines). Tel. Add.—' Thaokeray London. Bookeraft London." Tel. Add.—' Thttekemy London. Bookeraft London." ——————»< r, Use ago- as lEENBRA I Self-Raising I FLOUR If It Makes Perfect Pastry, Scones, &e. SMIC WHOUMALB, AGOM- immsss & jokes, iivwvwoi and Mmnmtkmmtmmm 80 t49 u .p CREFYDD a'r TEULU PRIS 4c I'w gaci oddiwrtfa yr awdwr- S. f. PRYTHERQH,\ Namtymoel, Glam. Llawlyfr ar y Gwyrthiaa. AT WASANAETH YR YSGOLION SABOTHOL GAN Y PARCH. J. E. DAVIES, TREFFYNNON. PRIS SWLLT. I'w cael1 gan yr Awdur neu yn SWYDDFA'R 'CYMRO,' DOLGELLAU.
GAIR AT EIN DARLLENWYR.
News
Cite
Share
GAIR AT EIN DARLLENWYR. BLWYDDYN nodedig yn hanes newyddiaduron Cymru yw 1915 wedi bod, a bydd 1916 yn un llawer difrifolach. Daw genllif newyddiadur- on Saesneg i mewn gan wthio'r papurau Cymraeg- i'r cilfachau. Mae pris y papur a tholl y llythyrdy wedi codi, a phob awel groes yn chwythu i guro'r llestri gwanaf yn erbyn y creigiau. Daw effaith hyn i'r amlwg yn hanes y cwmniau sy'n perchenogi amryw o'r newyddiaduron, a thebyg yw hanes pawb. Yn wyneb hyn teimlwn rwymau neilltuol i gydnabod cynhorthwy diball ein dosbarthw yr a'n derbynwyr ar yr adeg bresennol. Nid oedd gan y CYMRO neb i ganu ei glodydd mewn pwyllgor na Chyfarfod Mi sol, nac i ofyn am ffafr nac elusen id do- yn enw crefydd nac enwad. Mae wedi byw,-ac wedi llwyddo hyd yma,-ar ei deilyngdod, ac ar gefnogaeth ei ddarllenwyr. Cawsom gyn- horthwy parod a gwerthfawr llu 0 ysgrifen- wyr o bob enwad ac o bob rhan o Gymru, ac y maer ffaith syml mai un yn unig a wrthod- odd ysgrifennu iddo yn ystod y flwyddyn yn profi fod y CYMRO erbyn hyn wedi ennill ewyHys da llenorion a beirdd Cymru. I'r cynhorthwy parod a chyson a gawsom yr ydym yn ddyledus am safle y mae y CYMRO wedi ennill ym mywyd cnefyddol a llenyddol Cymru. Biydd yn dda gan ein cyfeillion glywed eu bod drwy ddalennau y CYMRO yn cyrraedd ymhell dros ddeuddeng mil o ddarllenwyr wythnosol cyson, a chredwn y bydd gwneud y ffaith hon yn hysbys yn symbyliad i bawb i ymdrechu i ddarparu newyddiadur mwy teilwng, ac i droi ei ddylanwad yn fwy-fwy ymhlaid pethau goreu a phwysicaf y genedl. Nid oes neb yn fwy ymwybodol na'r Golyg- ydd o golliadau a beiau y newyddiadur, ac o degweh llawer o'r feirniadaeth a anelwyd ato. O'nd yn wyneb hyn oil, cysur yw gwybod, er gwaethaf pob colliadau, fod y swyddfa yn Nolgellau wedi Ilwyddo, er ys deugain mlynedd i ennill dust o bymtheg i ugain mil o ddarllenwyr bob wythnos. Ac yr ydym wedi cael mwy na. digon 0 dal am bob pryder a thrafferth yn y cannoedd llythyr- au a dderbyniasom oddiwrth hen ddarllenwyr yn ystod y flwyddyn a hanner diweddaf. Apeliwn yn hyderus am barhad o gefnog- aeth ein darllenwyr a, chynhorthwy ein goheb- wyr. Yr ydym yn ddiolchgar am y geiriau calonogol a ddanfonir atom mewn llythyrau cyfrinachol, a phrofant y byddai yn hawdd i'n cyfeillion ein cynhorthwyo i ddyblu cylch- rediad y CYMRO ar ddechrou y flwyddyn newydd. Mae amryw eisoes wedi anfon ysgrifau i law at y flwyddyn nesaf, a phrofant y bydd y CYMRO yn y dyfodol yn fwy dyddorol nag erioed. Mae yr Hybarch John Evans, Abermeurig, yn ysgrifennu cyfres o atgofion am arweinwyr crefyddol a, gwladol Cymru. Ceir cyfres o ysgrifau hynod o ddyddorol, dan y pennawd O'riau Hamdden gyda Dr. Charles Edwards, gan y Parch. Z. Mathers, yn cynnwys llawer o ddefnydd- ia.u a roed at ei wasanaeth gan Mr. Edward Griffith, V.H., DIolgellau, ac eraill. Bydd y Parch. J. J. Morgan, yr Wyddgrug, yn rhoi rhagor o atgofion am y Parch. Evan Phillips, Castellnewydd Elmlyn. Olid nid gyda'r gor- ffennol yn unig yr ymdroir. Rhoddir sylw neilltuol i sefyllfa y Weinidogaeth yng Nghymru gan ohebydd sydd yn dilyn Cym- deithasfa'r Gogledd dros y CYMRO, ac y mae erthygl ganddo mewn Haw ar sylwadau y Parch. John Williams ar y gweinidogion sydd yn gadael y Cyfundeb ac yn myned i'r Eglwys Sefydledig. Ysgrifennir y prif erthyglau gan nifer o lenorion a beirdd blaenaf Cymru, a cheir adolygiadau ar lyfrau a'r holl gylchgronau a anfonir i'r Golygydd. Bydd y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., yn parhau i ysgrifennu y Golofn Gymraeg, a'r Parch. Ellis Jones, Bangor, y Golofn Ddir- westol, a bydd colofn y Beirdd dan ofal y Parch. T. Mordaf Pierce fel arfer. Dygir amryw nodweddion eraill i mewn yn ystod y flwyddyn, a hyderwn y bydd y newyddiadur ymhob adran o hono yn fwy effro a chyf- addas i wneud ei ran i wasanaethu ein cenedl yn yr argyfwng difrifol yr ydym yn wynebu arno,
-.--.-------AM BA BETH Y GWEDDIWN?
News
Cite
Share
AM BA BETH Y GWEDDIWN? WELE ni wedi cyrraedd diwedd blwyddyn eto, y fl'wyddyn lawnaf o ddigwyddiadau cyffrous a thrychinebus .velwyd erioed. Trefnir Saboith cyntaf y flwyddyn newydd yn ddydd ymostyngiad ac eiriolaeth, yr hyn sydd brawf o'n cred yn llywodraeth Duw ar yr holl am- gylchiadau, ac o'n cred hefyd yn effeithiol- rwydd gweddi. Yr anhebcor nesaf ynte yw i'r gweddiwyr fod yn eu lie, nid yn enau cy- hoeddus yn unig, eithr yr holl gynulleidfa yn ogystal. Cyn y bo y gweddio yn llwydd- iannus, rhaid wrth ysbryd gweddi, ac edifeir- wch am bechod, ac nid oes arwyddion mor amlwg ag y buasai ddymunol o'r pethau hyn. Hawdd cael y bob! i addoli yn Ffrainc, y mae y gelyn yn agos atynt, -a rhannau o'u gwlad yn sathrfa iddo, ac y maent yn byw bob dydd yn swn magnelau, ac yn nherfysg maes y gad. Hawdd cael addoldai llawn yn yr Al- maen hefyd, canys yno1 y mae y blaidd wrth y drws, y bob! yn byw ar lai na digon o fwyd, a llu yn rhodio'r wlad yn hainner newynog. O'nd ni ddaeth y wasgfa felly atom ni eto, ac nid oes ond nifer fechan mewn cymhariaeth yn dioddef prinder 0' achos y rhyfel, a'r can- lyniad yw y tueddwn i fod yn rhy dawel a di- fater, a dilyn ein harferion megis cynt, heb feddwl am huinanymwadu ac aberthu. Y mae y fasnach feddwol eto yn ei rhwysg, a bill y ddiod yn cynhyddu wrth y miliynau er y lleihad yn oriau yr yrnyfed. Er yr alanas ddinistriol, y gwir yw am lu mawr 0 drigolion ein teyrnas ni, y bob! oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd." Onid oes eto ormod 0' fyned ar ol eilunod, ac ang- hofio Duw ac esgeuluso ei gysegr yn y tir? Neges gyntaf dydd yr ymostyngiad gan hynny ddylai fod elrfyn am ysbryd gras a gweddiau baro inni alaru ac edifarhau am bechod. Os na fynnwn hunanymwadu a gadael ein pechodau, ni ddichon i'n gweddiau fod yn llwyddiannus. Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon ni wrandawai yr Arglwydd arinaf." Nid ei arfer Ef yw gwrandoi gweddiau pobl fo yn ymfoddloni i fyw mewn pechod. Pan weddioch lawer ni wrandawaf; eich dwylaw sydd' lawn 0 waed." Dymuna Apostol y Cenhedloedd i'r gwyr weddio ymhob man gan ddyrchafu dwylaw sanctaidd heb na digter na dadl." Dywed' loan fod ei weddiau ef yn llwyddian- nus oblegid ein bod yn cadw ei orchymyn- ion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei 0'I/wg ef." Yr hyn a'n rhoddai mewn cywair priodol at waith dydd yr ymostyngiad fyddai tywalltiad helaeth o ysbryd gras a gweddiau, a phenderfyniad i ymwadu ag annuwioldeb, ac y mae yr ysbryd hwnnw i'w gael ond erfyn yn daer am dano. Wedi y caffom yr Ysbryd hwn i'n dwyn i'n lie, hawdd fyddai llenwi yr addoldai ag- addol- wyr difrif a gwresog. Nid yr anhawster wed'yn fyddai cael rhai i'r cyfarfodydd, ond cael rhai i aros gartref i gadw'r dodrefn, fel y gwelwyd yn y dyddiau gynt yng Nghymru. Ni byddai nemawr angen ychwaith dweyd am beth i weddio-, a llawer lla.i y byddai angen cyfansoddi ffurf weddi. Y mae dynion pan yn yr ysbryd priodol yn gwybod megis yng ngrym greddf beth i weddio, ac ni raid i ddynion eu dysgu; ac i Ymneilltuwyr Cymru