Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

, NED GARTER; A'R

News
Cite
Share

NED GARTER; A'R INDIAID GOCHION. PENNOD X. BRYSIAI y fintai a gawsant ofal Arthur Brown yn mlaen gyda phob brys, a dilynid hwynt ganNed Carter. Er fod y nos yn lied dyw- ell, etto huNed yn alluog i wneyd allan mai pump dyn yn unig oeddyn yr orymdaith, heb- law y carcharor. Yr oedd y nifer yn ormod iddo ef anturio yn mlaen atynt, yn enwedig drwy fod breichiau Arthur yn rhwym o can- lyniad, parhaodd i'w dilyn o bell. Deallodd eu bod yn gwneyd am yr ynys, am yr hon y soniasom o'r blaen; a gobeithiai, yn eu gwaith yn croesi yr afon, y gallai rywfodd gynnorth- wyo ei gyfaill i ddianc o'u gafael. Wedi teithio yn mlaen am gryn amser, cyr- haeddasant lan yr afon. Yr oeddyijt yn awr yn ymbarotoi er croesi i'r ynys, lie yr oedd yr Indiaid yn gwersyllu. Gwyddai Ned lie yr oedd y bad, ac ymlusgodd yn mlaen i'r cyfeir- iad hwnw, a llwyddodd i guddio ei hun mewn perth o lwyni bychain tewion, ar lan yr afon. Pr berth hon yr oedd v bad wedi ei dynu i fewn gan r Indiaid. Yr oedd y bad ychydig fFordd oddiwrth y man y safai yr Indiaid, a danfonwyd un o honynt i'w gyrchu. Canfu Ned ef yn dod, ac ymaflodd yn ei fwyell. Gorweddai yn dcligyfFro yn ei guddle, hyd nes y daeth yr anwariad yn agos ato, ac yna neid- iodd ar ei draed, a tharawodd ef ar ei ben a'i fwyell, fel y syrthiodd yn gelain yn ei ymyl, heb roddi eymmaint ag ochenaid- Cymmer- odd Ned feddiant o'r oil oedd o'i eylch, yn cynnwys hugan, dryll, pylor, &c. Yna gwth- iodd y bad i'r afou ond, wedi cymmeryd ei eisteddle ynddo, canfu ei fod yn amddifad o rwyfau. Tybiai fod yri rhaid eu bod yn agos wrth law ac wedi neidio i'r lan, daeth o hyd iddynt yn y perthi cyfagos. Cymmerodd ei eisteddle drachefn yn y bad a thrwy gym- horth y rhwyfau, dygodd ef yn agos i'r man lie y safai Arthur a'i wylwyr. Y mae y gwa- haniaeth rhwngdyn gwyn ac Indiad morfawr, fel mai gwaith anhawdd yw i un i efelychu y y lIall; ond yr oedd tywyllwch y nos o du Ned, ac nid oedd yr anwariaid wedi cymmaint a breuddwydio fod un dyn gwyn, oddicithr eu carcharor, yn agos atynt Rhwyfodd Ned v bad yn agos i'r lan, ac arosodd ar ei eisteddle. Yna gosodwyd Arthur i eistedd yn ei ochr, a chanlynwyd ef gan un o'r anwariaid. Gwthiodd y rhai oedd ar y lan y bad i'r afon, gydai; ychydig eiriau cyfar- wyddol yn eu hiaith eu hunain, a mwmiodd Ned rywfath o atebiad aneglur. Rhwyfai Ned y bad yn mlaen, a rheolid ef gan yr an- wariad, yr hwn a eisteddai wrth y llyw. Wedi myned ynmlaen am ychydig amser, ac iddynt fyned o olwg yr anwariaid a'u gwylient ar y lan, gorphwysodd Ned ar ei rwyfau, a safodd y bad-. Yr oedd mor dywyll yn awr, drwy fod tarth ar yr afon, fel braidd y gallai y naill ganfod y llall. Yr oedd yr adeg wedi dod yn awr, pan y bwriadai Ned ddwyn ei gynllun i ben. Teimlai yn bryderus wrth feddwl am yr hyn oedd yn fwriadu ei gyflawnu ond pan gofiai am y llofruddiaeth annynol a cyflawn- wyd yn Brownsville, diflanodd- pob teimlad o dosturi o'i fynwes. Pan safodd y bad, plygodd yr Indiad oedd wrth y llyw yn mlaen, er ymholi a'i frawd, fel y tybiai, beth oedd yr achos ei fod wedi attal rhwyfo. Dygodd y symudiad hwn hwynt yn agos i'w gilydd a chyda h ny, suddocld Ned ei fwyell yn ei ymenydd. Treiglodd yr Indiad dros ymyl y bad fel boncyff o bren, ac er gwaethaf pob ymdrech o eiddo Ned, dym- chwelodd y bad, a cliwympodd y ddau ddyn gwyn i'r afon, braidd yr un pryd a'r Indiad. Yr oedd Ned yn nofiedydd rhagorol, a'r hyn a ddaeth i'w feddwl gyntaf oedd diogelu Arthur, dwylaw yr hwn oedd yn rhwym. 0 herwydd y gwlawogydd mawrion diweddar, yr oedd llif mawr yn yr afon, ac o'r braidd y gallai Ned gadw ei gydymaith uwchlaw y dwfr. Gwnaeth ymdrech i gael gafael yn ei gyllell, er tori rhwymau Arthur; ond methodd yn ei amcan. O'r diwedd, cariwyd hwy gan y llif tuag at yr ynys, a daeth yn agos i dir, aciddyfroedd mwy llonydd. Teimlodd Ked y tir dan Gi draed; ac wedi aros ychydig, er diluddedu ei hun, gwaeddodd allan, Diolch i Dduw am hyn 1" Hyd yn hyn, nid oedd Arthur yn meddu y meddylddrych lleiaf yn nghwmni pwyydoedd. Yr oedd dymchweliad y bad mor sydyn, fel y credai ef mai dygwyddiad oedd y cwbl. Ond yn awr, wedi clywed llais ei gyfaill, dygwyd goleuni i'w feddwl ar y mater.. Ned ai chwi sydd yma V gofynai Arthur. "Bid siwr," ebe Ned. "Pwy arall allech ddysgwyl fod yma ?" "Yna," ebe Arthur, "cydunaf a chwi i ddiolch i Dduw am y waredigaeth. Yr oeddwn ar roddi fyny bob gobaith i ddianc." Wel, peidi weh meindio," ebe Ned; rhaid i ni beidio siarad yn awr; gadewch i ni yn gyntaf fyned i dir." Adnewyddodd Ned ei ymdrecbion, a llwydd- odd i gyrhaedd v lanyn ddiogel. Yna tynodd allan ei gyllell, a thorodd y rheffynau oeddynt oamgylch breichiau y dyn ieuanc. Gwnewch ymdrech i ddwyn eich breichiau i'w lie yn fuan," ebe Ned, "o herwydd y mae yn dra thebyg y bydd raid i chwi eu defnydd- 'io yn fuan. Y mae ymdrechfa galed yn debyg o fod o'n blaen, cyn y cyrhaeddwn ein hamcan." Erbyn hyn, yr oedd y gwlaw wedi attal, y cymylau yn ymwasgaru, ac ambell i seren yn britho y wybren uwchben. Canfyddid ar- wyddion hefyd yn y dwyrain fod y wawr ar dori. Llongyfarchai y ddau gyfaill y naill y Ilall yn y rhagolwg o ddynesiad ydydd; er fod Ned yn dra ammheuus pa un a fyddai hyny yn fanteisiol iddynt i ddwyn eu ham- canion i ben ai peidio Teimlai ef yn sicr yn ei feddwl fod Ellen, a'r carcharorion ereill, wedi eu cymmeryd i'r ynys, i brif wersyll yr Indiaid a gwaith nesaf y ddau gyfaill oedd ymdrechu dod o hyd iddynt.

DYDD GWENER, Chwef. 7.

DYDD IAU.

DYDD GWENER.■,

,DYDD LLUN.'

[No title]

'M, ' CRAWSHAY BAILEY.