Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y GENADAETH.

News
Cite
Share

Y GENADAETH. Yn achospwysic-af ar wyneb yr holl ddaear yw, achos mawr yr efengyl. Chwareu plant yw pob achos i'w gymharu a'r achos I pwysig hwn. Y cenndwr Cristionogol, & llon'd ei galon o ysbrvd y gwaith, y w y dyn penaf ac ardderchocaf yn yr holl fyd. Yr unig fodd-io" mawr effeithiol er dyrehafu ein byd truenus, yn dymhorol ac ynysbryd- ,ol, yw yr efengyl. Y mae yr efengyl yn rhyw fodd yn agor llygaid gwledydd a Ifceyransoedd i ymaflyd yn y pethau angen- rheidiol er dyrehafu dynoliaeth yn mhob modd. Y mae hanes pob gwlad wareidd- iedig, yn profi hyn yn v modd mwyaf eglur. Effeithiau yr efengyl yn Mrydain sydzl wedi ei gwneyd hi yn Brydain Fawr. llyn befyd yw mawredd pob gwlad y mae dim mawredd yn perthyn iddi. Byddaf yn wftstad yn edrych ar Gym- deithns Genadol y Bedyddwyr fel un o'r pethau ardderchocaf a berthyna i'n cyfenw- ad. Yr wyfwedi gwneyd fy egni o'i phlaid yn fy nghylch bychan er ys 35 mlynedd. Y mae Bedyddwyr sir Gaernarfon hefydYDr oleurhifyn gwneyd mwy gyda yr achos llwn nag un sir arall yn Nghymru. Y mae ein Cymdeithas Genadol wedi dechreu yn gynt nâ'r holl gymdeithasau, ac wedi gwneyd daioni annhraethol yn y byd. Y mae ein cenadon eyntaf wedi bod fel pioneers ar y maes cenadol, ac wedi cynhyrfu am- ,rywiol enwadau yn Ewrop ac America i ymgymmeryd a'r gwaith pwysig hwn. Y mae ein cenadon ffyddlawn wedi gwneyd daioni dirfawr mewn cyfieithu yr Ysgryth- yrau i gynnifer o ieithoedd, heblaw bod yn yn llaw yr Arglwydd i ddych- welyd myrddiynau o bechaduriaid. Yr ydym wedi cael llawer o genadon sydd wedi anfarwoli eu henwau. Y mae bendith ac amddiffyn yr Argl wydd wedi bod arnynt hefyd yn amlwg iawn. Ond er pob peth, nid ydym ni fel enwad wedi gwneyd vn agos v peth a allasem yn y mater hwn. Y mae sjenvm lawer o eglwysi, a llawer o bersonau ardderchog yn Nghymru a Lloegr, yn gwneyd yn ardderchog. Ond y mae geriym gannoeddo gvnnulleidfaoedd bob blwyddyn heb wneyd dim, a channoedd -ereill yn gwneyd rhyw ychydig, ond heb wneyd hanner yr hyn a allasent. Y mae llawer o'n heglwysi yn Nsrhymru, lIe y mae tri chant nen ragor o aelodau, yn gwneyd cyn lleieda dwy bunt at yr achos hwn, tra y mae amryw eglwysi bvchain, heb fod yn agos i gant o rifedi, yn gwneyd Cymmaint dair gwaith neu bedair a byny. Buasai yn ddigon hawdddwynenghreifft- iau i brofi hyn, ond dichon mai creu.tram- gwydd, yn hytrach na gwneyd daioni, y buasai hyny. Yr oedd ein casgliad cenadol ddeugain mlynedd yn ol tuag ugain mil o bunnau yn y flwyddyn, tra nad oedd ein nifer, yr wyf yn meddwl, yn hanner-yrhyn ydyw yn awr. Nid wyf yn ammheu nad yw ein gallu a'n dylanwad yn v Deyrnas Gyfunol yn dri chymmaint ag oedd y pryd hyny, etto, rbyw brin ddeng mil o bunnau yn rhagor yw ein casgliad presenolni. Yr ydym yn awr tua dau gant o dau ugain o filoedd (240,000) o aelodau yn y deyrnas hon, heblaw ugeiniau o filoedd o wrandaw- wyr a chyfeillion. Nid wyf yn meddwl ein bod yn gorff cyfoethog, ond y mae cryn luaws o ddynion yn meddu llawer o gyfoeth yma a thraw yn ein mysg. Yr ydym wedi cynnyddu yn ddirfawr yn Nghymru yn yr ystyr yma yn y deng mlynedd ar hugain diweddaf. Nid oes dim cymhariaeth rhwng y Bedyddwyr yn ngogledd Cymru yn awr a'r hyn oeddynt yn fy nghof I. Wrth ddweyd ein bod ar ol yn ein cyf- raniadau cenadol, nid wyf yn golygu ein bod ni y Cymry ar ol y Saeson. Nid wyf yn gwybod pa gymhariaeth sydd rhyngom â hwy yn hyn. Fy meddwl yw, ein bod ni a hwythau, cydrhyngom a'n gilydd, yn mhell ar olo wneyd yr hyn a ddylem mewn cyfraniadau tuag at daenu yrefengyldros zn y byd. Rhyw un ran o dair lluosocach na ni yw y Weslevaid yn y deyrnas hon ond y mae eu casgliad cenadol yn gymmaint bedair gwaith a ni. Pa beth yw yr achos o hyn ? Nid yw yr Annibynwyr yn rhyw lawer lluosocach nâ ni yn y Deyrnas Gyf- unol; nid wyf yn credu y meddant ryw lawer mwy na ni o ddynion cyfoethog, er y rhaid addef eu bod yn gryfach; ond y maent yn cyfranu at eu eenadaeth, yr wyf yn meddwl, gymmaint ddwy waith a ni. Yn awr, auwyl gyfeillion, onid yw yn rhwymedig arnom i wneyd ymchwiliad dif- rifol am yr achos o hyn, a pha fodd y gallwn ni lwyddo er cael diwygiad. Byddai yn dda genyf weled rhyw frodyr galluog yn myn- egu eu meddyliau ar hyn. Y mae yn ddi- ammheu y gellid gwneyd llawer mwy nag a wneir gyda phlant ein Hysgolion Sab- bothol, gyda diwydrwydd a doethineb. Pe byddai pob plentyn yn ein Hysgolion Sab- bothol yn cyfranu dimai yn y mis at y genadteth, buasai hyny yn unig yn agos i wyth mil o bunnau yn y flwyddyn, yr hyn sydd tuag un ran o bedair o'n holl gasgliad. Yr wyf wedi meddwl lawer gwaith y dylai ein casgliad blynyddol at ein Cymdeithas Genadol fod yn rhywle o ddeugain i hanner can mil o bunnau yn y flwyddyn ond yr oedd ysgrifenydd aftlluog yn ddiwedaar yn y Baptist Magazine, yn dweyd yn ddifloesg- ni, y dylasai fod yn fuan yn gan mil! Pwy a fydd byw pan y del hyn! Y mae genym gystal pregethwyr yn ddiau ag un cyfenwad yn y deyrnas. Yr ydym yn weithgar a ffyddlawn gyda pheth- au ereill. Nid dim byd oedd y drysorfa fawr a wnaed yn Nghymru flynyddau yn 01 at y Drysorfa Fenthyciol, at ddyledion ein haddoldai. Y mae Bedyddwyr Lloegr yn gweithio yn rymus, yn euwedig ynLlun- dain. Yr ydym yn fwy llwyddiannus yn y blynyddau hyn nag yr un enwad yn y deyrnas. Mae vn agos iddeng mil o gyn- nydd wedi bod arnom y llynedd yn y deyrnas hon ond yn nghanol pob peth, y mae fel pe byddai swn parhaus yn fy nglust- iau yn gofyn, Pa beth yw yr achos na wnai Bedyddwyr Prydain. fwy yn eu cyfraniadau at eu cenadaeth, tra y mae yr Arglwydd wedi bendithio eu cenadon mewn modd mor hynod ? Er y caraswn pe buasai llawer mwy o grefydd yn ein plith," etto, nis gallaf yn fy myw rywfodd gredu mai diftyg crefydd yw y prjf achos o'r dili'yg hwn. Ein diffyg mawr ni yn y mater hwn yw, diffyg trefn a ehydweithrediad. Y mae ein hannibyn- iaeth wedi rhedeg i bellafoedd annibendod. Yr wyf yn meddwl y gellid tynu llawer" mwy o ddaioni o honora gyda hyny o gre- fydd sydd genym, pe gellid cael gwell trefn, a mwy o unoliaeth a ehydweithrediad cyff- redinol yn ein plith. Y mae genyf hyder er hyn igyd, y deuwn ni yn mlaen ettoyn y diffyg hwn. Boed i ni ei gymmeryd yn ddwys i'n hystyriaeth. Bydded y mater hwn yn fater ein gweddiau, ein cyfeillachau, a'n cyfarfodydd cvhoeddus. Er nad allwn ni yn Nghymru wneyd rhyw lawer, etto, y mae yn fraint i ni wneyd yr hyn a allwn ni. Y mae llygaid y Sawson yn fanwl ar ein symudiadau. Pe gallem ni gael deffroad yn Nghymru gyda yr achos pwysig hwn, fe effeithiai hyny yh fuan ar Loegr, a mannau ereill. Mae y byd yn fwy agored yn awr i dderbyn yr efengyl nag y bu erioed. Y mae gorsedd y Pab yn crynu hyd ei seiliau. Mae Rhufain ae Itali yn agored i'r efengyl, a miloedd yn sychedu am air y bywyd. Y mae Ethiopia yn estyn ei dwylaw yn brysur at Dduw. Mse Yspaen babyddol yn ym- agor i dderbyn y gair. Y mae yn dda genyf weled ambell i fachgen yn Nghymru yn meddiannu yr ysbryd cenadol. Mae arnom eisieu cenadon bron cymmaint ag arian. Gweddiwn am i Arglwydd y cynhauaf anfon llawer o blant yr Ysgol Sabbothol, a bechgyn ein Hathro- feydd, i'r gwaith mawr hwn. Pe caffai y tan cenadol ei ddodi gan Dduw yn nghalon- au rhai o'n pregethwyr ieuainc, fe agorai yr Arglwydd galouau yn rhyw le i gael moddion i'w danfon. Y mae yr ysbryd hwn yn rhyw fodd yn creu y moddion. Gan fod Uuaws o'n heglwysi heb wneyd casgliad at y genadaeth cleni, gobeithiaf y bydd ymdrech yn mhob eglwys cyn diwedd Mawrth, a fyddo yn deilwng o honynt. Bydded i ni oil lafurio yn ffyddlon yn nghyn- hauaf mawr Mab Duw, tra y byddo ein dydd byr ni yn parhau. R. JOKES. Llanllyfni.

ATHROFA PONTYPWL A'R MAES…