Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

MARWOLAETH DAU DDIACON.

News
Cite
Share

MARWOLAETH DAU DDIACON. Mae eglwys Salem, Caerdydd, wedi colli dau O'i diacmiaid da, mewn llai na- wythnos i'w gilydd. Bll farw Mr. Thomas John ar y 9fed o'r mis diweddaf, tra yn ymddyddan ag athraw yr ysgol Frytanaidd yn yr ysgoldy. Syrthiodd i lawr yn y fan. ac ehedodd ei vsbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes, pan ar gyrhaedd ei 72 oed. Claddwyd ef dydd LIun, yn y Cemetery newydd, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. W. Williams, D. Lewis, a'r ysgrifenydd. Un o blant yr enwog Christnns Evam; oedd Thomas J ohn. Bedydd- iwyd ef ganddo yn 1829. Yn mhen ychydig flynyddau, dewiswyd ef i'r swydd ddiaconaidd, yr hon swydd a gyflawnodd er boddlonrwydd i lawer, ac er anrhydedd mawr iddo ei hnn. Mae yn debyf. mai efe oedd y diacon henaf yn y dref I yn mhlith y Bedyddwyr. Yr oedd i Thomas John ei nodweddau gwahan- iac-thol, fel i bawb ereill. Mae i'r saint ei nod- weddau gwahaniaethol er fod ganddynt lawer o'r 11n pethau, etto, y mae i bob un rhyw nod- wedd a'i gwahaniaetha felly Thomas John. Un aodwedd arbenig oedd pwyll yn eglwys Dduw. Deallwyf ei fod ef m naturiol o dymher wyllt; ond yr oedd wedi <s§oe%hoelio yr hen ddyn mor lhwr. fp.l nad oedd dim ond y dyn newydd i'w weled yn nhy Dduw. Ni welais neb wedi deall ei wendid yn well a thrwy ras Duw, a gwyliad- wriaeth barhaus. yr oedd wedi dod yn gryf iawn He yr oedd yn wan. Yr oedd ym arafaidd, ym- chwilgar, a phwylloa: cyn ffurfio barn ond pan 'nnwaith y deallai ei rwymau, yr oedd yn ben- derfynol a sefydlog. Yr oedd ei gydwybodol- rwydd i'r Arglwydd. ac i'r eglwys, a'i barch i wirionedd, gymmaint, fel nas gallasai dim ei symud o r safle a fuasai wedi ei gymmeryd, ond perffaith argyhoeddiad, fod y peth, neu y safle arall, yn fwy cydunol a'r gwirionedd. Yr oedd mor hunanymwadol, fel nad oedd byth yn ceisio yr eiddo ei hun. Nid oedd yn chwennych y bIaen mewn dim, ond mor barod a neb i wneyd a allasai, er lies i bawb, ac er cysur i'r frawd- oliaeth. Yr oedd ei ffyddlondeb yn mhob peth gyda -chrefydd yn ddifwlcb. Nid oedd ei le ef byth yn wag, na'i logell byth yn nghau. Yr oedd ei bresenoldeb yn nerth i'r pregethwr, ei fuchedd yn addurn i'w broffes, a'i ysbryd a'i siamplauyn ddylanwadol yn y frawdoliaeth. Henuriad da, yn Ilanw yr enw, ac wedi ennill iddo ei hun radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist lesu, oedd efe. Gadawodd weddw oedranus ar ei ol, ac eglwys yn galaru am ei sytnudiad. Cyn claddu y brawd Thomas John, yr oedd y brawd da Mr. John Thomas,Roath, wedi liuno, yr lyu a gymmerodd le nos Sabboth, y 14eg o'r un mis, yn 57 mlwydd oed. Symudwyd ef oddiwrth ei waith i fwynbau llawenydd ei Arglwydd. Bedyddiwyd Mr. John Thomas Mehefia, 1836 a dewisiwyd ef i r swydd ddiaconaidd yn 1861. JjtMiness-man oedd J. TIlGmns-mor gywir, goncst, a sefydlog a'i gydswyddog T. John ond yr oedd y ddau yn gwahaniaethu. Yr oedd Mr. J. Thomas a'i alwedigaethau yn amrywiol, a'iofalon bydol yn fawr ac am hyny, yn methu bod yn y cvfarfodydd wytlmosol fel Mr.. T. John. Yr oedd yn aelod o'r Bwrdd lech yd, ac yn un o Guardians y plwyf ac mae y Bwrdd lechyd, a'r plwyf, a'r eglwys yn Salam. v/edi cael colled nid bychan yn ei symudiad o'r byd hwn i'r byd arall. Nid oedd genym yr un gwell "man of business na Mr. Thomas, yr hyn sydd yn hanfodol i ddiacon da. Tr oedd J. Thomas yn well diaeon na T. John, a T. John yn hnver gwell henuriad na J. Thomas. Yr oedd y ddau yn llanw eu cylchoedd er an- rhydedd iddynt eu hunain, ac er cysur a bodd- lonrwydd i'r eglwys. G-adawodd Mr. J. Thomas v/raig a phurnp o blant i alaru ar ei ol. Cladd- wyd ef dydd Iau, yn mynwent Tredelarcb, Rhymni. Cafodd yr eglwys yn Salem golled fawr yu symudiad y ddau ddiacon hyn oner bu (credwn) marw yn elw;iddynt hwy. J. G. OWEN

--. ----ymiebimilrnu.

MR. MAURICE A'R DEYSOEFA.

C YMD EITH AS EH A G-D D AEB…

AT YSGRIF'ENYDU EISTEDDFOD…

AT Y PARCH. W: B. MORGANS,…

AT v: PARCH. B. WILLIAMS,…

. PRIODAS-GERDD,

RHO UN YN DY BOOED, A R LLALL…

ENG-LYNIONI

[No title]

[No title]