Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

gglw^ig.

News
Cite
Share

gglw^ig. JUBILI AINON, G-LAN W YDDEN. (Par had o'r JRhifjin Diweddaf.') DYCHWELWN yn awr at linvn yr banes. Pan briododd Robert Roberts etifeddes Glanwvddeu, fel y nodwyd yn y Rhifyn diweddaf, daeth i fyw yno, gan amaethu I y tyddyn, bugeilio yr eglwysi yn Fforddias a Roewen, ac ymdrechu planu egwyddorion y Bedyddwyr vn y Creuddyn. I'r dyben hwnw, efe a recordiodd ei dy ei hun, Glan- wydden, yn gapel; pregethai yno yn fyn- yeh, deuai lluaws o bobl yr ardal i wrando arno, ac y mae lie i gredu fod amryw o honynt wedi eu dychwelyd i'r ffydd. Ond gan nad oes yma un Uyfr eglwys wedi bod erioed, nid oes hysbysrwydd yn awr am yr ,aelodau cyntaf a fedyddiwyd yma. Vr aelodau cyntaf ag y mae hen bobl yr ardal yn gofio ymaydoedd, Richard Jones, Pydew, ac Elen ei wraig Betti Jones, Penrho3 Betti Jones, Storehouse; Dafydd Thomas Siors, Tywyn a William Davies, Ffynnon- loyw. Dylai y rhai hyn gael eu cadw mewn ooffadwriaeth, oblegid hwynthwy ydyw Tblaenffrwyth yr ardal hon yn Nghrist. Robert Roberts hefyd a ddechreuodd vr achos yn Llandudno, tua'r flwyddyn 1796- 8, trwy bregethu yrro ar ddydd Sabboth ar ben carreg farch yr Hen Dafarn, yr hwn a berchonogid y pryd hwnw gan Owen Williams, a Betti Williams, ei nith. Ym- ddengys fod yno un dyn, Robert Edwards, Llwynhelyg, yn aelod yn Fforddlas cyn byny. Ennillwyd Betti Williams a'i hewytbr, Owen Williams, i'r ffydd. Bed- yddiwyd Owen Williams gan Robt. Roberts, yn y m6r o dan Penymorfa, medd rhai, ond yn llyn Tydraw medd ereill, tua'r flwyddyn 1798. Yna daeth Margaret Owen, Plas- hach (o barchus goffadwriaetb), i'r gyfeill- achyn Fforddlas; ondtra y bu hionaen yr eglwys, ymadawodd y tri ereill a enw- wyd, sef Robert Edwards, Owen Williams, a Betti Williams, gyda'u gilydd i America, Z, fely gallent, meddent hwy, gael digon o bobl o'r un grefydd a hwy eu hunain. Felly gadawyd Margaret' Owen "yn unig sant yn Ynys Tudno." Dyn nodedig oedd Robert Roberts, yn yr hwn yr oedd gwybodaetb, sêl, ac eofndra duwiol, wedi cydgyfarfod i raddau mor helaeth, nes ei wneydyn un o'r braenarwyr mwyaf effeithiol. Un tro, pan yn bedyddio yn afon Conwy, yn Cilowen, rhwng Tegan- wy a'r Fferi, cymmerodd yn destun Preg. 12.13.—"Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchymynion; canys hyn yw holl ddyled dyn." Sylwai fod bedydd yn un o'r gorchymynion, er bod rhyw rai yn ei alw yn Iriwsiooyn ond bod Iesu Grist yn gorchymyn am gasglu y briwfwyd gweddill, fel na choller dim ac yn ngwres ei hyawdledd, gwaedd- ai,—" Guyse, a sethri di y briwsionyn hwn? Peter Edwards, a sethri di y briwsionyn hwn ? Y cawr o Llanuwchllyn (Dr. Lewis), a feiddi di osod dy droed ar hwn ?" Wedi gorphen pregethu, aeth i'r dwfr, ac o'i am- gylch yr oedd holl fadau tref Conwy, wedi eu trefnu yn hanner cyleh; pob bad yn llawn, a phob tafod yn llefaru o helaeth- rwydd calon ddrwg, nesy gellid tybied fod uffern wedi ei gollwng yn rhydd o'i am- gyIch. Wedi i'r bedyddiwr ddewis ei le i Weinyddu yr ordinhad, trodd ei wyneb at yr anwariaid, a gwaeddodd, Gosteg, yn enw Brenin y nefcedd!" ond nid ym- ddangosai fod yno neb yn adnabod hwnw -yr oedd eu baldorckl yn llaweruwch nao- o'r blaen. Yna rhoddodd ei law yn ei fynwes, a thynodd allan ei licence i bre- gethu, a chan <ei chodi i fyny, gwaeddodd, Gosteg, yn enw George y Trydydd." Ar ,hyny, dystawodd pob tafod, a chafodd y bedyddiwr hamdden. i weinyddu yr ordin- had wrth fodd y Nefoedd. Adroddai Dr. Ellis Evans, Cefnmawr, yr hanesyn hwn am dauo:—Un tro, pan yn pregethu yn Nglanwydden, gwaeddodd dyn ieuanc, o'r enw William Davies, Ffynnon- loyw, allan, "Beth a wnafp O! beth a wnaf?" Edrychodd y pregethwr aruo, a dywedodd, Beth a wnei ? Gwnt yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctyd; rhodia yn ffordd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid." Ie, ie," ebe yr ymofynydd, ond mae vchwerwder ar ol!" Wei, am hyny ynte," ebe y pregethwr, bwrw ym- aith ddi-j; oddiwrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddiwrth dy gnawd; canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctyd." Dychwelwyd y dvn ieuanc i'r ffydd, a thrwy lav/er o er- lidigaeth deuluaidd, efe a wisgodd Iesu yn y bedydd. Dywedir bod ei rieni mor greulawn yn ei erbyn i gymmeryd ei fed- yddio, fet y bu raid iddo ddianc allan o'r ty heb un pilyn o ddillad am dano. Wedi cael ei fedyddio, efe a ymadawodd yn fuan i America-dinas noddfa yr erlid. ;edig. Yr oedd Robert Roberts yn pregethu yn JSTghymmanfa Ebenezer, Mon, yn 1802, a John Jones, Pydew, yn dechreu yr oedfa o'i flaen, ac Edmund Francis, Caernarfon, yn pregethu ar ei ol. Yn niwedd y flwydd- yn ganlynol, bu farw o dwymyn boeth, a chladdwyd ef yn mynwent Fforddlas, Rhagfyr 2il, 1803, yn 39 oed. 0 Wedi marwolaeth Robert Roberts, cyf- logodd ei weddw, yr hon oedd wedi ei gadael gyda dau fachgen ieuanc, John a Benjamin, John Evans, mab Penyriardor, plwyf Eelwysbach, i ddyfod ati yn ben gwas. Yr oedd John Evans wedi ymuno ag eglwys Fforddlas yn ei ieuenctyd; a chan ei fod yn wr ieuane o alluoedd cryfion, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, dewisiodd yr eglwys efyn ddia-con, ac yn mhen yspaid wedi hyny yn bregethwr. Tra yr oedd John Evans yn Nglanwydden yn ben gwas, gwnaeth Thomas Jones, y pryd hwnw o'r Glyn, ac wedi hyny o Rhydwilym, ym- drech deg am ddyfod yn wr Glanwydden a dywedir i John Evans yn ei ddiniweid- rwydd a'i gywirdeb diarebol, wneyd ei oreu yn ei ffafr; ond y weddw brydferth a wrth- ododdThomas Jones, ac a ddewisodd John Evans. Felly daeth John Evans yn olyn- ydd Robert Roberts, ac yn dra enwog fel dyn da, gweinidog llafurus, a magwr pre- gethwyr. Yn y ddawn olaf a no iwyd, feallai, nad oedd yn ail i neb yn Nghymru. Dywed Dr. Prichard, Llangollen, mai efe a fagodd lawer ar y pregethwyr canlynol:— John Griffiths, Llandudno John Prichard, D.D., Llangollen; Hugh Jones, Ruthin; William Jones, Preston; Thomas Davies, gwr leuanc tra gobeithiol, ond a fu farw pan ar fyned i'r Athrofa a John Williams, Rhos-dynion, na fagodd un ardal yn Nghymru eu gwell. Yn 1812, daith Thos. Rhys Davies i'r arda), ac ymsefydlodd yn weinidog ar Fforddlas a'i changhenau. Dywed ef (gwel ei gofiant); mai dau gapel oedd y pryd hwnw yn y gylchdaith, sef Roe a'r Fforddias, ac heb un capel arall yn perthyn i'r enwad yn nes na sir Fop. o un tu, na Ruthin o'r tu arall, ac un yn Llan- rwst; mai rhif yr aelodau oedd 35, a bod y rhai hyny yn wasgaredig dros ddeuddeg o blwyfi, sef Conwy, Caerlun, Eglwysbach, Llansantffraid, Llandudno, Llanrhos, Llan- gystenyu, Llandrillo,* Llanelian, Bettws, a Llangernyw." Yn y flwyddyn 181fi, neu 1817, trwy vm- drech ganmoladwy John Evans, adeiladwyd capel bychan mewn lie a elwir y Ffoit, ar dir Glanwydden, ar lease o 999 o flyn- yddoedd, a chawd claddfa fechan o'i flaen. Yn nghylch adeiladu y capel hwn, cyfododd annghydfod blin iawn rhwng Thos. Rhys Davies a John Evans, yr hwn, wedi methu ei wastadhau mewn degau o gyfarfodydd a alwwyd i'r pwrpas, a ddygwyd i derfyniad yn Nghymmanfa Ruthin, yn 1818, trwy gyfiawnhau John Evans, a diarddelu Thos. Rhys Davies. Ymunodd T. R. Davies a'r corff Wesleyaidd, a bu yn Hafurio gyda hwynt fel pysgodyn allan o'i elfen, er hyny yn dra phoblogaidd, am tuag wyth mlynedd yna dychwelodd %n ei ol, fel aciod i'r > i: joint," chwedl yntau, trwy offerynoliaeth Hugh Jones, Rhuthin, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog yn Fforddias, a bu yn llafurio yn ddiwyd a ehymmeradwy gyda'r Bedvddwyr o hyny hyd ei farwolaeth, Meh. 26,1859. Bu Thos. Rhys Davies yn byw am yr 16 mlynedd diweddaf o'i oes mewn t^ o'r enw Yr Orsedd, a adeiladodd efe yn ymyl capel Glanwydden. Efe a bregethodd yn ystod ei oes 13,145 o weifchlau! Ond i ddychwelyd etto wedi vmadaw- iad Thomas Rhys Davies at v Wesleyaid, cafodd y ddwy gangen, Glanwydden a Llan- dudno, lie yr oedd yn awr gapei gan bob un, ollyngdod o'r fam eglwys: a dechreu- asant weithredu yn egniol, gyda chynnal yr achos yn mlaen gartref, i helaethu lie y babell, a phlanu eglwysi vn Llanelian a Llanddulas. Daeth John Roberts, o Ben- sarn, ac wedi hyny o Lansilin, yn weinidow i'r tair eglwys, Fforddias, Glanwydden, a Llandudno. Nid wyf wed i cael allan beth oeddigwerth capel Glanwydden; nid oedd ond bychan, ond ymcldengys oddiwrth hanes y Cymmanfaoedd, fod y ddyled oedd arno yn pwyso yn drwm ar y fra wdoliaeth wan oedd yno ar y pryd canys yn N ghymmallfa y Gogledd, a gynnaliwyd yn Llangefni, Mon, yn 1820, cafodd yr eglwys hon ganiatad yn unobedair i gasglu at ei chapel; yn y Gymmanfa Ddeorllewinol, a gynnaliwyd yn Maesyberllan, 1823, cafodd ganiatad yn un o dair i gasglu trwy y gymmanfa hono; ac yn y Gymmanfa Orllewinol, a gynnal- iwyd yn Penyparc, 1825, cafodd ganiatad yn un o dair i gasglu trwy ei chylch hithau. Erbyn hyn, gallwn dybied bod y ddyled wedi ei symud, gan nas gallasai fod yn y dechreu yn fwy na thua £150, a bod holl Gymru wedi cael cyfle i roi ergyd ar ei phen hi. Wedi ymadawiad John Roberts a'r eg- lwysi hyn, neiliduodd pob un o'r tair wein- idog; iddi ei hun—Hugh Jones i Ffordd- las; John Evans i Glanwydden, a John Griffiths i Landudno. Cymmerodd hyn le yn niwedd 1827, neu ddechreu 1828, gan fod y tri neillduad yn cael eu cydnabod yn Nghymmanfa Cefnmawr, 1823. Parhaodd John Evans i lafurio yn Nglanwydden a'r eylchoedd vn ddiwyd a llwyddiannus hyd oni hunoda yn yr Arglwvdd, mewn modd hynod o ddisymmwth, IIydref 22, 1833 a chladdwyd ef yn mynwent ei eglwys, He hefyd y gorphwvs ei wraig a'i unig ferch. Mite enw John Evans yn uchel yn yr ardal hyd heddyw, ac adroddir ami hanesyn difyr am dano. Cafnodwn y canlynol er dano-os ei fodyn ddyn i'w oes, ac i'r cyfuodvr o-edd efe yn byw ynddoAeth i geisio trwydded i bregethu at y Parch. Mr. Reynolds, Ficer Conwy, yr hwn oedd hefyd yn ynad hedd- wch, gan ddywedyd, "Mi addaethum atoch i geisio licence i bregethu, Mr. Reynolds." Gyda phwy wyt ti yn pregethu, John Evans ?" "Gydajr Baptists, syr." 0, gyda'r Pabists, ai ie?" "Nage, gyda'r Baptists." Wel, rhaid iti fyn'd i'r chwarter sessiwn i gaellicence." "Na raid, syr, ymae genych chwi, fel ynad, awdurdod i roddi i mi fy nghais," ebe John Evans, gan dynu deddf y goddefiad (Act of Tolera- tion) allan o'i logeli, a dangos i'r ynad ei awdurdod. Ni wn i yn y byd sut i wneyd yn ol fy awdurdod." Mi'ch dysg- af fi chwi," ebe y pregethwr. Wedi i'r ynad gael ei ddysgu, ac ysgrifenu a Haw- nodi y drwydded, dywedodd, Y mae i ti dalu hanner gini i mi am dy drwydded." "Naeoes," ebe y pregethwr, "dim ond hanner coron," gan ddangos iddo drachefn y ddeddf Seneddol. Wei, wel," ebe yr hen ynad," yr wyt ti yn deall y fusness yma yn well na fi rhaid cymmeryd yr hanner coron;" ac feHy bu. Gan y dichon na wo) odd 11a wer o ddar- llenwyr y SEREN drwydded pregethwr t3 erioed, gosodaf yma gopi:— Carnarvon County (Conway), I, the Reverend ———, Clerk, of his Ma- jesty's Justices of the Peace, for the County of Carnarvon, do hereby certify, that -——— of in the said County of Carnar- von, did this day appear before me, and did make and take, and subscribe the several Oaths and Declarations specified in an Act made in the fifty second year of the Reign of King George the Third, entitled, An Act to repeal certain Acts and ammend other Acts relating to Religious Worship and Assem- blies, and persons teaching or preaching therein.' ".Witness my haa l this —— day of ——— one thousand, eight hundred, and —— Wedi marwolaeth John Evans, ni buyma un gweinidog sefydlog am lawer o flynydd- oedd, ond byddai yr eglwys yn arfer derbyn rhan o weinidogaeth Llandudno, yn nghyd a rhywrai a fedrai gael i ddyfod yma 111 bythefnosol neu fisol. Tua'r flwyddyn 1640, aeth yr hen gapel yn rhy fychan i gynnwys y gynnulleidfa felly daeth y frawdoliaeth i benderfyniad i adeiladu capel newy ld mewn lie mwy cyf- leus. I'r dyben hwnw, prynwyd darn o dir gan deulu Glanwydden yn ymyl y brif tfordd, ac adeiladwyd yno gapel yn mesur un Hath ar ddeg a hanner wrth ddeg, gyda'r draul o £ 150. Gallwn feddwl oddiwrth hen lyfrau cyfrifon a welais gan rai o'r ael- odau, fod yma y pryd hwnw tua 50 o aelod- au eglwysig a thybiwyf hefyd eu bod wedi llwyddo i dalu dyled y capel hwnw heb fyned i gasglu tu allan i gylch yr ardal. Cymmerodd llawer o frwydrau blin ac an- dwyol le yn y capel hwnw, y rhai na ddy- munwn eu hadgyfodi er dim, gan fod y pleidiau a gymmerasant ran ynddynt, braidd i gyd erbyn heddyw, yn gorwedd yn ddigoa tawel yn mynwentydd Glanwydden ac Aber- tawe. Yn y blynyddoedd rhwng 1854 ac 1864, pan oedd tref Llandudno yn cael ei hadeiladu, daeth yr ardal hon yn un o'r rhai mwyaf bywiog yn y wlad, gan fod yma ddigonedd o waith da i'r trigolion, haf a gauaf. 0 Tua'r flwyddyn 1859, rhoddodd Mrs. Davies, gweddw y Parch. T. Rhys Davies, 920 i'r eglwys tuag at brynu darn o dir i helaethu y fynwent. Ychwanegodd yr eglwys, yn nghyd a chyfeillion yr achos, y swm i tua £ 30, a phrynwyd tua chwarter erw i'r perwyl a nodwyd. Yn y flwyddyn 1861, unodd y ddwy eg- lwys yn Nglanwydden a Chonwy A'u gilydd i roddi gal wad i'r brawd W. E. Watkins, yn awr o Amlwch, i ddyfod yma yn wein- idog. Dechreuodd Mr. Watkins ei wein- idogaeth gyda rhagolygon pur ddymunol; ond rywfodd ni pharhaodd ei gyssylltiad â. Chonwy ond am dymhor byr." Yna efe a gymmerodd at Glanwydden yn unig; ych- wanegodd y gynnulleidfa, a bu raid hel- aethu y capel yn 1863, yr hyn a wnawd gyda'r draul o £220. Yn 1867, symudodd y brawd Watkiiis i Amlwch, a rhoddodd yr eglwys alwad i'r brawd John Thomas, Llan- dudno, yr hwn a fu yma yn llwyddiannus hyd yn ngwanwyn 1870, pan y symudodd i gymmeryd gofal yr eglwys yn Birken- head, ac y rhoddodd yr eglwys "hon alwad i J. bpinther James, yr hwn sydd yma ya bresenol. Trwy ystod yr wyth mlynedd diweddaf, sef o 1863, pryd yr helaethwvd y cape!, hyd yn bresenol, gwnaeth yr eglwys ymdrecnioa difrifoltuag at symud cyfran o'r ddyled unwaith hob bhvyddyn, trwy gynnal cyfar- fod te a darlith ya rheolaidd, "ar y 2oain a Ragfyr, fel erbyn hyn, y mae te parti Glanwydden wedi dyfod i gael ei ystyried gan yr ardal yn un o anrhegiou y Nadolig. Ar foreu y 26ain o Ragfyr diweddaf, ye oedd fl8 o ddyled yn gorphwys ary capel, ac 98 ar y fynwent; ond daeth yr ardal yn nghyd i yfed te, areithio, a chanu; ac erbyn yr hwyr, yr oedd £20 5s. 2c. wedi eu derbyn oddiwrth y tocynau, a £ 15 15s. 6c. yn rhoddion—broidd i gyd o'r tu allan i'r eglwys. Felly claddwvd y ddyled, a chawsom gymhorth i godi "Ebenezer; gan ddywedyd, Hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd nyni." Dengys y ffeithiau uchod nad yw y frawdoliaeth yn GlanwyddclI. ddim wedi bod yn ddiwaith, nacyn bwriadu bod felly ychwaith. Crybwyllwyd yn y • dechreu am y :;arn tir sydd newydd gael Ji