Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
YSPAEN. Ymddengys fod bradwriaeth yn erbyn y Frenines Isabella wedi ei darganfod yn y wlad yma, a chredir fod nifer mawr o'r fyddin a'r bobl yn gyfranogion o hono. Yn ngwersyll Torrejo de Aidoz, heb fod yn mhell o Vical- varo, gwaeddodd rhai o'r milwyr cyffredin perthynol i'r Cacadores, Byw fyddo Reina! I lawr ag O'Donnell!" ond yr oedd y gwrthryfel bwriadol nn at wedi ei lunio yn ddrwg, neu wedi cael derbyniad drwg, canys fel yr oedd y nos yn nesau, ymdorodd y Cacadores yn finteioedd, ac ymwasgarasant. Ymlidiwyd a daliwyd y troseddwyr profwyd a saethwyd un o honynt yn y fan alltudiwyd 40 neu 50 o filwyr cytfredin i'r sefydliad cospawl yn Ceuta. Aryr un diwrnod, pastiwyd papyrau ar furiau Barcelona yn erfyn ar y bobl i daflu ymaith iau y gorthrymwr, yn ol siampl pobl Italy. Daliwyd nifer mawr o bersonau, ag oedd y pryd hwnw yn Barcelona, mewn dychryn mawr. Nid ydyw yr olaf o deulu Bourbon yn cael nemawr o barch gan ei phobl, ac er fod chwyldroad yn Yspaen yn ddygwyddiad tra anhebgorol, dichon, er hyny, y gwneir ymgais i'w godi cyn hir, os na ddiwygia Uywodraeth y Frenines Isabella. AWSTRIA. Dywedir fod parotoadau helaeth yn cael eu cario yn mlaen yn Awstria, ond gyda chyn lleied o so ag y mae yn bosibl, fel ag i beidio creu drwgdybiaeth. Mae cer- bydresi trymion tlawn o filwyr a chad-ddarpariaethau yn cael eu hanfon yn y nos, ac yn pasio drwy y ddinas heb sefyll. Mynega yr Universal Gazette fod 20,000 o wgr wedi eu hanfon i Italy er pan wnaeth Piedmont yr ymos- odiad ar y Marches, a bod gorchvmynion wedi eu hanfon i evfarwyddwyr y Ffordd Haiarn Ddeheuol i wneyd paro- toadau i drosglwyddo 15,000 o filwyr bob dydd yn ystod yr wythnos. Gosodwyd swyddog perthynol i'r llynges amherodrol vn ngoleudy Trieste i'r dyben o wylio pob llongau a ddeuant i'r golwg, ac anfonwyd gorchyniymon i'r llyngesydd i danio ar bob llestr drwgdybus, hyd y nod er ei bod yn cario baner Sardinia, a nesao yn rhy agos at y CHINA. J- Newyddion o'r amherodraeth bellenig yma a hysbysant fod y milwyr unedig wedi cyrhaedd i'r Peiho ar y laf o Awst, 0 herwydd iddynt gael allan fod yr amddifiyn- feydd ogleddol wedi eu gwaghau, ymsefydlasant yn Peli- Ar y 12fed o Awst, ymosodasant ar wersylly Tartariaid. Ffodd y Chineaid yn yr annhrefn mwyaf. Pan ymadaw. odd y llvthyr-gerbyd, yr oedd y milwyr wedi cyrhaedd amddiffynfeydd Taka, ae ymddengys fod y Chineaid yn gwneyd parotoadau i'w gwrthsefyll. Dysgwylid y cym- merai brwydr fawr le ar y lofed. NEWYN YN KANSAS. Newyddion o'r wlad hon o hysbysant fod y trigolion mewn eyflwr truenus iawn. Ymddengys fod teuloedd cyfain heb ddim i'w fwyta, a bod amryw yn marw o newyn. Boneddwr a fu yn teithio yn ddiweddar drwy y wlad a ddywed fel y canlyn Nid oes °-an Kansas ddim gwenith i'w fwyta, na dim hadyn gwenith i'w hau eleni na'r flwyddyn nesaf! Nid oes gan Kansas ddim hadyn erbyny gwanwyn dyfodol, ac nid oes ganddi heddyw, yn ei holl derfynau, ddim digon o hen yd nac yd newydd i gynnal ei phoblogaeth yn hwy na mis Mawrth nesaf, ac nid oes ganddi arian i'w brynu, nac un moddion i gael arian Mae ei chnydau yn gyff- redinol eleni yn fethiant hollol, odclieitnr liwyrach ilr cawodydd diweddar acbub ychydig o rug. Nid oes ganddi ddim gwenith, na phytatws, na dim llysiau ereill; ac ni wnai ei holl gyfienwad o hen wenith a newydd besgi ei moch yn unig Y rhai sydd yn meddu bara eu hunain, nid oes ganddynt ddim i'w cyminydogion I A r rhai nad oes ganddynt ddim bara ydyw y rhai nad oes ganddynt hefyd ddita arian Y mae cysgod newyn n awr dros wyneb yr holl wlad. Mae y newyn euoea wedi dechreu 1"
. Ct I ll; .",I. /,1 "¡d'f,
News
Cite
Share
Ct I ll; .I. /,1 "¡d'f, Ar y 29ain o Fedi, yr oedd Mr. Lowe ar gychwyn i Ewrop yn ei falloon, pan y drylliodd y sidan, ac y gollyngwyd y nwy allan. Y mae un Mr. Srerelmey, Hungariad, wedi cael allan ffordd effeithiol i rwy&tro yr adfeiliad yn y gwaith ceryg yn y Senedd- dai newyddion. Ymddengys nad yw ach y cewri wedi darfod. Unofeibion diweddar Anak yw Mr. Frederick Decker, o Ossian, swydd Livingston, Caerefrawg Newydd, yr hwn sydd yn 19 oed, yn 7 troedfedd o uchder, ac yn pvvyso 300 pwys. Y mae y nifer mawr o 1,613,115,459 o wyau wedi eu dwyn i'r deyrnas gyfunol yn ystod y 15 mlynedd diweddaf. Dywed yr Observer fod Mr. Laing, A. S., Ysgrifenydd i'r Trysorlya, wedi boddloni cymmeryd Ile y diweddar Mr. James Wilson yn nghynghorfa Calcutta. Dywed llythyr o St. Petersburgh, fod 100,000 o ryfelwyr ar ochr ddeau y Caucasus, y rhai ydynt yn barod i ymladd yn erbyn Rwsia, mewn amddiifyniad o'u hannibyniaeth. Y mae y llynges Americanaidd, yr hon a arosai ar ran Or- Ilewinol Affrica, newydd ddala dwy gaeth-long. Yr oedd ar fwrdd y llong gyntaf 619 o gaethion, ae 800 ar fwrdd y Hall. Cafodd y negroaid druain eu gosod ar dir yn Monroria. Y mae y Foneddiges Franklin yn bresenol yn aros yn London, Canada Orllewinol. Y mae gorsedd berlawg ardderchog Delhi wedi ei hanfon i Loegr gyda'r llong Saladin, er ei chyflwyno yn rhodd i'r Frenines. Pasiodd ystorm enbyd dros New Orleans ar yr ail o'r mis hwn, gan achosi niwed mawr i'r dref. Y mae amryw ager- longau wedi eu colli; 40 o dai sugr wedi eu dinystrio, a gwnawd niwed mawr i'r cnydau. Y mae cryn deimlad wedi ei gynnyrchu yn Paris gan draeth. odyn o waith Tywysog Frederick Charles o Prwsia, o'r enw Pa fodd i orchfygu y Ffrancod." Aeth mochyn i mewn i dy llafurwr yn mhlwyf Tullagh, Iwerddon, yn ystod absenolaeb y wraig, a bwytaodd blentyn tri mis oed oll ond y penglog. Ymddengys fod y cnwd pytatws wedi bod yn fethiant hollol yn Meath a Louth; nid oes un bytaten o ugain yn gymhwys i fod yn ymborth dynol. Y mae dyn ieuanc o'r enw Lines, un o'r cludwyr llythyrau perthynol i lythyrdy Manchester, wedi ei draddodi i garchar i sefyll ei brawf ar ddau nyhuddiad o ysbeiliocynnwys llythyrau a ymddiriedwyd iddo i'w cludo. Ymddengys fod yr ystorm a ymwelodd ychydig ddyddiau yn ol a'r rhau ogleddol o'r deyrnas wedi ysgubo glenydd y Baltic gyda tfyrnigrwydd dychrynllyd, a chymmerodd rhai ngeiniau o longddrylliadau le. LLOPRUDDIAETH !—Cymmerodd trychineb alaethus le yn ddiweddar ger Sacramento, Califfornia, yr hyn a achlysurodd deimlad dwys yn y rhan hono o'r dalaeth. Ar y 17eg o Fe- hefin, cafodd dyn o'r enw Witzler ei lofruddio yn ei gwsg yn ninas Sacramento, ac ysbeiliwyd ei dy o gryn swm o arian, ac amryw bethau ereili. Ymddengys oddiwrth adroddiad a gyflwynwyd i'r Senedd fod 31,543 o dlodion gwallgof yn pwyso ar yr undebau plwyfol, y mwyalrif o ba rai oeddynt ferched. Yr oedd en traul blyn- yddol uwchlaw £ 250,000.> Dywed uohebydd y Times yn Paris fod trydydd adran o filwyr Ffrainc yn ymbarotoi i fyned i Rufain. Y LLYSOKDD SIROL.— Y mae adroddiad i anerehiad Ty yr Arglwyddi, dyddiedig Gorphenaf 30ain, 1860, yn rhoddi y crynodeb canlynol o orchwylion y llysoedd hyn yn y blynydd- oedd 1858 a 1859Nifer y cwynion a roddwyd i mewn yn 1858 oedd, 738,854; yn 1859, 714,562 swm yr arian yeeis- iwyd eu codi yn 1858 oedd XI,908,219 yn 1859, £ 1,754,971; nifer y dedfrydiadau a rodd wyd yn 1858 dros yr achwynwyr, oedd 375,952 yn 1859, 424,550 y nifer dros y diffynwyr yu 1858 oedd 13,992; yn 1859, 17,950 TRETH EGLWYS.—Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynnal- iwyd yn Exeter, Mr. Latimer, wrth weled John Thorogood yn bresenol, a gyflwynodd i'r cyfarfod y gwrthwynebydd penderfynol a gonest hwnw i'r Dreth Eglwys, Ir hwn oedd wedi dyoddef tri mis ar hugain o garchariad ya ngarcbar Chelmsford am wrthod talu swm bychan 0 Dreth Eglwys. Derbyniwyd Mr. Thorogood gyda ban- lleiau uehel o gymmeradwyaeth, a thraddododd araetb synwyrol.