Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
- TRYSOR SUDDEDIG Y "ROYAL…
News
Cite
Share
TRYSOR SUDDEDIG Y "ROYAL CHARTER." Yn ddiweddar, galwwyd sylw y cylioedd at rybydd a roddwyd yn y newyddiaduron dyddiol ar gais yr adtan forawl o'r bwrdd masnach, yn hysbysu fod swm o ernau, oriaduron, ac eiddo gwerthfawr creill, wedi eu hadferu o longddrylliad y Royal Charter, wedi dyfod i'w meddiant. Desgrifiwyd yr amrywiol erthyglau fel y byddai i'w per- chenogion honi hawl ynddynt, trwy ymofyn ag ysgrifenydd yr adran forawl. Ar y cyntaf, rhoddodd y rhybydd hwn le i dybied fod yr ymsoddwyr wedi ail ddechreu eu gwaith ar y llongddrylliad, ac mai y gemau o dan sylw oedd ffrwyth eu llafur; ond wrth wneyd ymchwiliad, hysbyswyd i ni fod yr eiddo y cyfeiriwyd ato wedi ei adferu cyn belled yn ol a Tachwedd diweddaf, ae er pan dynwyd yr ymsuddwyr yn I i'r Ile yn lonawr diweddaf, y mae y HongddryUiad wedi ei gadael, o ran dim sydd yn cael ei wneyd i adferu y trysor. Ymddengys yn anhawddach i roddi cyfrif dros yr attalfa hwn wrth ystyried eu bod yn credu fod etto rhwng deugain mil o bunnau a hanner can mil o bunnau mewn sovereigns ac aur wedi eu claddu yn y llongddrylliad sudd- edig ac y maeyn ddiamheu y gall yr ymsuddwyr yn hawdd eodi'rhai neu y rhan fwyaf o honynt. Hyd y nod i fyny i'r dydd olaf o'r gweithrediadau, yr oeddynt yn cael cryn lawer o aur yn mhob bwced a go,lid i fyny. Y rheswm a roddwyd dros attal y gwaith oedd traul fawr yr agerlestri ac ereill oeddvnt yn gweini ar yr ymsuddwyr, ac o'r diwedd gwerthodd yr yswirebwyr y llongddrylliad am £1000 i Meistriaid Gibbs, y rhai oeddynt i wneyd ymgais i adferu y gweddill o'r trysor, a thynu allan y treuliadau gweithiol, &c. Dygwyd agerlestri o Liverpool at y llongddrylliad i'r dyben o godi i fyny gwaith haiarn, &c., y Hong, ond ni wnaed dim tuag at adferu yr aur. Y mae yr arianwyr, y rhai oeddynt yn meddu y symiau mwyaf o aur yn y Royal Charter, yn addef fod y cwbl perthynol iddynt hwy wedi eu hadferu ond haera yr yswirebwyr fod o ddeunaw i ugain mil mewn sovereigns ynddi, tra y mae y perchenogion yn cyfrif fod yr aur a'r arian oedd yn mediiant y teithwyr yn cyrbaedd o leiaf i ddeugain mil o bunnau.
TYNGED LLOEGR YN OL Y PROPHWYDOL-IAETHAU.
News
Cite
Share
TYNGED LLOEGR YN OL Y PROPHWYDOL- IAETHAU. Dydd Mawrth, y 9fed o'r mis hwn, traddododd y Parch. Ddr. Cumming ddarlith yn Neuadd y Fasnach Rydd, Manchester, ar Dynged Prydain Fawr yn y Cofnodion Prophwydol." Wrth ddechreu, dywedodd Dr. Cumming nad oedd ef yn brophwyd, na mab i brophwyd, ac nid oedd yn argymmeryd arno i ragfynegu y dyfodol; ond ymdrechai fynegu pa beth oedd y prophwydi ysbrydoledig wedi ei ysgrifenu. Nid oedd ef yn credu fod Lloegr i fyned lawr yn ngbanol dymchweliad y cenedloedd credai mai hi oedd i fod yn Israel a Judea Ewrop, a bod gan Dduw waith rhy fawr iddi i'w wneuthur, a chenadwri rhy fawreddog i'w chyflawnu, i adael i'r wlad hono i drengu yn nghanol y cyffroadau ofnadwy oeddynt yn awr yn dechreu terfysgu ac ysgwyd cenedloedd y ddaear. Nis gallai neb edrych o'i atngylch ar Ewrop yradeg bresenol, heb ganfod ein bod yn prysuro yn chwyrn i ryw amgylchiadau a sef- yllfa newydd ac anmhrofedig. Ymddangosai Rhufain fel yn myned i ddystryw, er nad oedd ef yn credu y darfyddai y pab am beth amser. Yr oedd ei ysgrechfeydd am gyn- northwy yn gras, ei ytnbiliau ar y rhai y byddai yn arfere u melldithio, yn h awdl; efe a appeliai at eu hunangarwch, at eu crefydd, ond clywai adlais, ac anfynych y derbyniai atebiad. Yr oedd y farn yn tynu at y diwedd; ac ar y terfyn, byddai i'r pab gael ei Iwyr ddystrywio gan ogon. iant dyfodiad personol y Gwaredwr. Y gyfran ar ba un y sylfaenai efe ei dyb oedd y 18fed bennod o Esaiah, yr hon a ddarllenodd. Yr oedd y bennod yn crybwyll yn gyntaf am genedlaeth wedi ei mesur a'1 sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir, ond yr hon oedd i gael ei rhoddiyn offrwm iArglwydd ylluoedd. Yna, yr oedd yr ail adnod yn desgrifio rhyw genedl ag oedd i gyf- Iwyno y bobl hyn i'r Arglwydd. Gwnaeth yj darlith- ydd ymchwiliad maith i'r desgrifiadau o'r genedl oedd i gael ei dwyn, a'r genedl oedd i'w dwyn hi j a dywedodd inai yr Iuddewon oedd yr unig bobl oedd yn ateb i'r desgrifiad cyntaf. Yr oedd yr Iuddewon 1 gael eu hail ddwyn i'w gwlad eu hunain, ac yn ol iaith y 18fed bennod o Esaiah, i gael eu cyflwyno i Arglwydd Y lluoedd ar Fynydd Sion. Ac ai nid peth hynod oedd gweled llyngesoedd Ewrop yn awr ar dueddau Palestina ? Yr oedd biclogau Ffrainc yn awr yn mblith y bobl yn0, Yr oedd ar Rwsia eisieu Palestina. Y traddodiad oedd, mai Caercystenyn oedd y brif-ffordd i Jerusalem, ac Y mynai hi ei chael. Dadleuai y Ffrancod y dylai Mor 1 Canoldir fod yn llyn Ffrengig, a diau y gwneid ymdrech i'w gael felly. Ond ni chydsyniai Lloegr,ac efe a ymdrechai ddadlenu, cyn belled ag yr arwyddid yn y bennod dan sylw, pa waith oedd gan Loegr i'w wneyd, a pha fendith ion a fedai hi. Y pwnc yr oedd yn dadleu drosto oedd hyn-mai y genedl ydyw yr Iuddewon, fod yr Iuddewon byn i gael eu cyftwyno i Dduw yn eu gwlad eu hunain fel offrwm cymmeradwy ganddo ef, a desgrifid y modd y maent i'w chyflwyno iddo ef, yn y 18fed bennod o Esaiah. Credai mai Lloegr a fyddai yn offeryn i'w dwyn i'w gwlad eu hunain. Yr oedd pob gwlad yn y Beibl yn meddu arwydd neillduol. Yr eryr oedd arwydd Rhufain, y wen- ynen, Awstria; y crocodil, yr Aifft; gafr, Macedonia; y tri llyfaint, Ffrainc. Pa beth oedd arwydd mawr Lloegr? Y Hew, brenin y goedwig. Lloegr a feudylid wrth Tarsis yn Esaiah. Credai yr adferid y genedl Iuddewig i'w gwlad yn niwedd yr oruchwyliaeth bresenol, yr hon, yn ei farn ef, oedd yn nesau yn gyflym at ei therfyniad. Ynft gwnaeth gyfeiriad at y fradwriaeth yn Syria a dywedai ei bod yn ddiammheu fod Rwsia a Ffrainc am feddiannu y wlad hono, ond na chaniatai Lloegr iddynt. Yr oedd yo credu y clywid swn hwyliau gwynion Lloegr-arwydd o gospedigaeth i'r gorthrymwr, ac o waredigaeth i'r gorth- rymedig, hyd yr awr olaf o hanesiaeth byd. Yr oedd yo credu y dadblygid hwyliau gwynion Lloegr yn mhob gwynt, ac y gollyngid ei hangorau yn mhob mor. Yr oedd yn credu y teimlid gallu, mawredd, a dylanwad Lloegr trwy Ewrop a'r byd hyd y diwedd, ae na fachludai haul eu mawredd cenedlaethol-er ei boll bechodau- hyd nes y collid ef yn nysgleirdeb y mil blynyddau. Dranoeth, traddododd Mr. Cumming ail ddarlith yc yr un neuadd, ar y Ddaear a'i Thynged." Credai nad oedd y ddaear mewn gwirionedd ond bombshell fawr; yr oedd yf arwyneb ar ba un yr oeddym yn byw oddeutu tri ugain milltir o drwch, ac yr oedd pob peth odditanodd yn un mor mawr o hylif tanllyd, yn cael ei gadw, nid gan nerth y crystyn, ond gan Air yr Hwn a ddywedodd with y mor, Hyd yma y deui, ac nid yn mhellach," Nid oedd efe yn meddwl y diddymid y byd gan dan ond yr oedd jn credu y deuai y ddaear o'r bedydd olaf y corff harddaf yn mhlith lioll ser y bydyssawd. Yr oedd efe yn credu fod y ddaear wedi ei bwriadu i fod yn gyntedd y nefoedd, y preswylid hi gan bobl a fyddent oil yn gyfiawn —mewn geiriau creill, lie yr amlhaodd pechod y rhagor amlhaodd gras lie yr oedd pechod wedi taflu pob peth o'i le, gosodai y llwyddiant dyfodol bob peth yn ei le yo fwy gogoneddus nag erioed.
MARWOLAETH SYR HARRY SMITH.
News
Cite
Share
MARWOLAETH SYR HARRY SMITH. Drwg genym hysbysu fod afiechyd hir y gwron yrnø. wedi terfynu yn yr angeu, ar foreu dydd Gwener, Hydref 12fed, yn ei dk ei hun, Eaton-place, Llundain. Canfyddwn oddiwrth Hart's Army List, i Syr Harry dreulio amser mawr yn ngwasanaeth ei wlad. Yr oedd yn bresenol yn ngwarchae Monte Video, dan Syr S. Auchmuty, ac yo yr ymosodiad ar Buenos Aynes, dan y Cadlywydd Craudfurd. Yr oedd gyda'r catrodau yn yr Ygpaen, dan Syr iohn Moore, o frwydr Vimiera hyd yr ymadawiad yn Tiriodd yn y Gorynys dan y Cadfridog R. Craufurd yn 1809; a chlwyfwyd ef yn ddrwg yn yr ymosodiad ar botft Coa, ger Almeida. Yr oedd yn bresenol yn yr hell