Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GANWYD,- Awst 31ain, priod Mr. Thos. Phillips, Mason's Arms, Llanelli, ar ferch. PRIODWYD,- Medi 2, yn Adulam, Felinfoel, gan y Parch. J. G. Phillips, Llantrisant, Mr. W. Samuel, Aberdar, a Miss Mary Ann Griffiths, Minehurtach, get Horeb. Ar yr un dydd, yn yr tfn lie, a chan yr un gweinidog, Mr. W. Jenkins, Aberdgr, ,A Miss Mary Bowen, Llwyncelyn, ger Horeb. Hyd. 12, yn Llatgathei, gan y Parch. David Lloyd Isaac, trwy drwydded, Mr. Richard George White, Lion, Llandilo, a. Miss Jane Simon, Dryshvyn. Hydref 2, yn ngbapql y Bedydd wyr Seisnig, Soho, Oxford Street, Llundain, Mr. William Lewis, gynt o Gaerfyrddin, a Miss Margaret Nicholas, merch heisaf Mr. Thomas Nicholas, o Abergwaen, swydd Bcnfro. MARWOLAETHAU. Hyd. 15, yn 86 oed, Mrs. Jane Parry, Heol China, Llan- idloes. Hi fu yn aelod diargyhoedd iawn gyda'r Bedyddwyr am tua 40 mlynedd. Bedyddiwyd hi yn mis Mawrth, 1808, gan y diweddar Barch. Thos Davies, Argoed yn 1847, o herwydd rhyw bethau nad oeddent wrth ei bodd, ymadawodd a'r Bedyddwyr, ac ymunodd a't Tretnyddion Calfinaidd, a bu yn aelod hyd ddiwedd ei hoes, er y byddai yn dweyd yn ami taw Bedyddwraig oedd hi o biyd.-DApyi)D RISIART. Hydref 7fed, yn 5 mlwydd oed, wedi trwm ac hirfaith gystudd, Catherine, anwyl ferch Mr. Isaac Griffiths (Odydd Glanymor). Daearwyd ei gweddillion ar y lOfed, yn mynwent Llangattwg, ger Castellnedd. Chwerw iawn, gwn, ydyw'r ergyd Ddaeth i gwrdd a'r teulu hyn, Colli geneth oedd mor fwyngu, 'R hon er galur aeth trwy'r glyn. Chwi, hoff riaint, peidiwch wylo, Ymgysurwch 'nawr mewn hedd, Gan ystyried fod eich plentyn 'N canu'n iach tu draw i'r bedd. MELYNOG TEG. Ehedodd y wreichionen fyw Tu fewn i'r wynfa wen, I uno gyda'r corsydd fry 'N rhoi mawl i Frenin nen. 'Rhieni hyn fo'n byw i Dduw, Tra yma ar y llawr, Fel caffont etto gael cydgwrdd 0 gylch yr orsedd fawr. Llanelli. CADWGAN.

LLYTHYRAU CYMMANFA ABERTEIFI.

PROPBWYDOLIAETH HEBREIG.