Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

....-..--. Y DYSGEDYDD AM…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y DYSGEDYDD AM 1890. DAN OLYGIAETH Y PARCH. E. HERBER EVANS, D.D., CAERNARFON ♦— Y MAE y gefnogaefch ddidor a roddwyd iddo, er pan dan ei olygiaeth bresenol, yn galondid mawr i barotoi ar gyfer y dyfodol. Bydd ei Olyg- ydd yn sicr o ymddeol pan y derbynia yr awgrym lleiaf fod ei wasanaeth yn annerbyniol. Am y pymtheng mlynedd diweddaf, y mae wedi clust- feinio am yr awgrym, ond heb ei gael. Y mae yr hen gyhoeddiad yn abl er's blynyddoedd bellach, i roddi help i bob pregethwr a gweinidog oed- ranus a ddaw ar ei ofyn. Dydd o lawenydd mawr ydyw dydd rhanu yr elw oddiwrtho. Ond dydd o lawenydd mwy ydyw hwnw pandderbynir y rhodd flynyddol mewn llawer teulu. Nid ydym wedi arfer y ddadl hon dros i neb ei dderbyn, am ein bod yn credu ei fod fel misolyn yn llawn gwerth yr hyn a ofynir am dano yn annibynol ar hyn. Ond byddai yn burion i weinidogion a lleygwyr da arnynt, gofio fod ei elw blynyddol yn sirioli llawer cartref a llawer calon. Y mae rhesymau digon eglur dros beidio eyhoeddi enwau y rhai a dderbyniant help oddiwrtho. Ond pe y gwnai pob darllenydd ymdrech i sicrhau un newydd i'w dderbyn am 1890, gellid dyblu y rhodd i bob un o honynt. Rhoddwn yma ran o'n Rhaglen am 1890. ° Bin Darluniau. Yn hytrach na rhoddi un darlun yn Ionawr, fel arferol, ein bwriad ydyw, rhoddi amryw ddarluniau yn ystod y flwyddyn. Gyda rhifyn Ionawr rhoddir Darlun o Goleg Mansfield, Uliy&ycJi&in. Gydag ysgrif eglurhaol gan un o'r myfyrwyr. 1. Yn ystod y flwj ddyn ymddengys ysgrifau gan athrawon ein colegau- yr Athrawon John Morris, D.D., Aberhonddu; M. D. Jones, Bala; Thos. Lewis, B.A., Bangor; David Rowlands, B.A., Aberhonddu; D. E. Jones, M.A., Caerfyrddin; a T. Rees, B.A., Bala. 2. Ysgrif fisolar Hen Letydai Cymru, gan Dr. Thomas, Lerpwl. 3. Ysgrifau ar Ymweliad a Denmark a'i Hysgolion, gan D. M. Lewis Ysw., M.A., Prifgoleg Bangor. 4. Ysgrifau ar Cydberthynas Athroniaeth a Duwinyddiaeth, gan y Parch D. Adams, B.A., Bethesda. 5. Dynion Ieuainc i'r oes "-cyfres o ysgrifau gan y Parch. M 0 Evans (Eraut), Bangor. 6. Trem ar Hen Wirioneddau mewn goleuni newydd-tair ysgrif gan y Parch. J. Charles, Croesoswallt.—(1.) Creadigaeth dyn a'i dynged. (2.) Bwriad (Design) mewn natur. (3.) Y goruwchnaturiol a'r gwyrthiol. 7. Addysg Ganolraddol, gan y Parch. Cynffig Davies, B.A. 8. Diwylliant y Werin yn Nghymru," gan Proffeswr Lloyd, M.A Prif- ysgol Aberystwyth. Yr Tsgol Sataathol. 9. Y mae brawd ieuanc medrus wedi addaw ymgymeryd a gofalu am rywbeth gwerth ei ddarllen ar y testyn hwn yn fisol. 10. Addawa y Parch. Machreth Rees i barhau Y Darganfyddiadau diweddar, y ceir ysgrif ar y mater yn rhifyn Rhagfyr. 11. Gofala hefyd am farddoniaeth y DYSGEDYDD, a rhydd ambell ysgrif ar destynau cysylltiedig-y gyntaf ar lyfr y Parch. Elfet Lewis- oiveet omgers of Wales. 12. Waeth beth," gan Waeth Pwy." IS. Parheir yr ysgrifau ar Scorpion gan Mr. W. R. Owen. Hanes ei Daith i Awstraha, gan y Parch. Alun Roberts, B.D.; ac ar Dr. Bushnell, gan y Parch. T. Johns. U. Cyfres o ysgrifau ar y Tadau Pererinol, gan y Parch. Ivor Joneo. Ceir ysgrifau hefydynystody flwyddyn gan y Parchn. Dr. Owen Evans, Llundam, R. Williams (Hwfa Mon), Elfet Lewis, Justin Evans, Lewis Probert, Pari Huws, B.D., ac eraill. Bydd H. D. wrthi ar hyd y flwyddyn, fel y wenynen yn casffln Cry- bwyllion Enwadol;" Bryniog » yn gofalu am y GenadaeV a Herter" am ei Nodiadau Misol, a llawer heblaw hyny. Yr ydym oil yn barod i'n gwaith, gwnaed ein Dosbarthwyr, ein brodyr yn y weimdogaeth, ac Arolygwyr yr Ysgol Sul eu goreu i'n cynorthwyo trwy agor drws I ni ddyfod i mewn i bob teulu, a sicrhau un derbynydd yn mhob cartref. Nis gallant wneuthur gwell gwasanaeth i'w henwad. Da chwi, frodyr, cynorthwywch ni. Pris Pedair Ceiniog y Mis. Anfonir un rhifyn neu ychwaneg i uarhyw ardal. Anfoner yr Arch- ebion at y Cyhoeddwr— J WILLIAM HUGHES, DYSGEDYDD OFFICII, DOLGJKI»LBY.

Advertising