Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
CERDDORIAETH GAN TANYMARIAN, I'w gael o Swyddfa y DVDD, Dolgellau. Cyfodwn ac Esgynwn i Stion, Hen 0 Nodiant 6c; Solffa 2c Cofia fi Arglwydd, H. N. 3c; Solffa lc. Y rhai canlynol yn y wasy, Llawon floeddiwch i Dduw. Seren Bethlehem 0 Gollwng Fi Hen Gadair Freichiau Ardderchog ty Mam Tanymarian Caine y Delyn India-1 Song 1 AT EIN GOHEBWYB I Yn ein nesaf:-Natheu; Seren Gomer; f Arwerthiant hynod yn Llwyngwril, &c-
YR UNDEBWYR A HOME RULE
News
Cite
Share
YR UNDEBWYR A HOME RULE Anerchwyd Undebwyr Le'rpwl a'r gymydogaeth nos Wener diweddaf, gan ddau aolod seneddol, sef Mr W. P. Sinclair a Mr T. W. Russell, ac yr oejd araeth yr olaf yn dangos ya eglui ddigon yr angen am Lywodraeth Gartrefol yn y Werddon, a hyny mewn goleuni effeithiol a tharawiadol; a chydsyniai Mr Sinclair ei bod yn angenrheidiol er llesiant yr ym- herodraeth i ryw ddiwygiad gael ei ddwy n yn mlaen i'n deddfwrfa a'n cyfun- drefn weinyddiadol, ag a ryddhao Dy y Cyffredin 0 ryw gymaint o'r gorchwyl ion ag y mae y bresenol yn gwbl anallu- og i'w cyflawni. Wrth gwrs, ni chyfadd- eiai Mr Sinclair mai caniatau Home Rule fyddai y fiordd fwyaf effeithiol ellid ddymuno i ysgafnhau y baich; ond bu yn ddigon rhyddfrydig i ddwyn yn mlaen gynygiad arall, ac os mai ei ddull ef o gario pethau rhagddynt ydyw yr un a bleidir gan yr arweinwyr Undebol, y mae yn rhywfaint o fantais i ni ei gael gerbron Eigynygiad blaenaf ydyw, nad yw uwchaf- iaeth y Senedd Ymerodrol i gael ymyryd ag ef, a bod yr Undeb Deddfwrol i aros heb ei gyffwrdd. Nid oes berygl i'r Rhyddfrydwyr gweryla ag ef ar un o'r pwyntiau hyn. Buasai mesur cyntaf Mr Gladstone ar Home Rule, drwy gau allan yr aelodau Gwyddelig o senedd Westmin- ster, yn ymyryd a Deddf yr Undeb. Y mae y cynygiad hwnw wedi ei roddi i fyny, ac erys yr Undeb heb ei gyffwrdd. Yn ychwanegol at hyn, bydd yr holl Deyrnas Gyfunol yn cael ei .ihynrychioli yn senedd Westminster,yn yr holl helyntion ymerod- rol mor efteithiol ag y mae yn bresenol, a'i gorchwyl hi fydd datgan beth yw yr helyntion ymerodrol. Yn nesaf, gadawer i ni dalu sylw i'w ddull cynygedig i ryddhau Ty y Cyffredin oduiwrth y gwaith ag y cyfoddefa nad oes ganddo yn bresenol amser i'w gyflawni. Y mae, medd efe, ddwy ffordd i wneud hyn. Un ydy w, cenadu awdurdod i gyrff israddol p dan reolaeth efteithiol y cSenedd. Yr ail ydyw, rhoddi i fyny gyfran 0 aWlturdod y Senedd Ymeroarol i senedd arall, gyda l gallu i ddeddfu, gweithredu, a gweinyddu yn swyddogol. Gadawer i'r ddau ddull bwn, fel yr eglurid hv. y gan Mr Sinclair, gael eu harch wilio yn ol eu teilyngdod, heb gysylltu I hwy yr enwau Undebwr, Gladstoniad, neu Barneliad. Gadwer yu unig mewn golwg y gwrthddrych y cyrchir ato, ac effeithiolrwydd y moddion cynygiedig i'w gyrhaedd. Yr amcan ydyw ysgafnhau y dirwasgiad llafur yn Nhy y Cyffredin, ac ychwanegu At effeithiolrwydd gweinyddiad gorchwylion cyhoeddus. Pan y mae Mr Sinclair yn dweyd fod y dull cyntaf yn golygu rhoddi awdurdod i gyrff israddol, pa beth y mae efe yn feddwl? Os yw y cyrff hyn i fod yn debyg i'n cynghorau bwrdeisicl, byddai yn rhaid iddynt hsrwyddo mesurau drwy y Senedd cyn y galleut symad yn y naill gyfeiriad na'r llall, ac ychwanegiad at, yn hytrach na lleihad ar waith y Seneid fyddai hyuy, yr hon sydd yn barod yn ocheneidio 0 dan bwysau deddfwriaeth leol, ac arolygiaeth gweinyddiad gor- chwylion Ileol. Os ydyw y cyrff israddol ar y llaw arall, i gael awdurdod ddeddfwr- ol a gweinyddiadol ag a'u galiuogo i ryddhau Ty y C'yffjedin 0 rywfaint o'i orchwylion bychain ac anymerodrol, deuent yn seneddau lleol, ac oddiwrth gyfansoddiad y fath gyrff, buasai Mr Sinclair yn cilio yn ol mewa braw. Buasai y Senedd yn y cyfryw achos, medd efe, yn rhoddi i fYlll beth o'i hawdurdod goruchaf. Wrth reswm y byddai. Drwy y cyfryw roddiad i fyny yn unig y gall ) leihau ei gwaith. Ond byddai yn oruchaf eto, ac er na thybiai yn werth ei sylw i ymyryd a gwneuthuriad tfordd, neu gyfodiad pont mewn unrhyw barth o'r Deyrnas Gyfunol, byddai ganddi afael gadarnach ar yr holl orchwylion gwir genedlaethol neu ymerodrol, a byddai yn alluog i roddi ilawer mwy o sylw i I fuddianau llyclain byth gynyddol yr I ymerodraeth, nag y gall byth obeitbio ei roddi mor hired ag y bydd iddi geisio cydgysylltu galwedigaethau y Seoedd Ymeiodrol a'r festri. I fod yn effeithiol, rhaid i roddiad awdurdod i gyrff israddol gan y Senedd Ymerodrol fod yn wirioneddol, ac nid rhywbeth mewn enw yn unig, ac yr oedd holl araeth Mr T. W. Russell yn myned i ddangos fod y rhoddiad hwn yn y Werddon yn Uwyr ofynol. Nid yw y Saeson yn proffesu deall gorchwylion Ys- gota'dd, ac ychydig iawn a wyr aelodau Ysgotig, fel rheol, am ofynion lleol Lloegr, ac ychydig, mewn cymhariaeth, wyr aelod- au Seisomg ac Ysgotig am Gymru. Ond llai na hyny y mae riaeson, Ysgotiaid, a Chymry yn ei wybod am wir sefylla y Werddon a gofynion ei phobl. Siaradodd Mr Russell nos Wener ar helynt etifedd- iaeth Coolgreany ac etifeddiaethPonsonby, ar waith Bwrdd y gweithiau Gwyddelig a Chynllun y Rhyfelgyrch, ac am oruchaf. iaeth Protestaniaeth a llaw-weithyddiaeth mewn rhan 0 Ulster. Yr oedd Mr Russell ar yr holl faterion hyn, mewn ymornest uniongyichol a Mr Parnell. Byddai i senedd Wyddelig yn fuan ddatgan barn gywir ar yr adroddiadau croes hyu. Nis gall y Senedd Ymerodrol wneuthur hyny. Y mae yn barhaus yn cael ei chamarwain, ac mewn. canlyniad yn gwneud camsyn- I iadau. Dywed Mr T. W. Russell yn bre- senol mai y cwestiwn o drosglwyddiad tir yn y Werddon ydyw y d rnyn mwyaf o waith a welodd y wlad hon, ac mai ar ei lwyddiant y mae holl gwestiwn yr Undeb yn dibynu. Fod yn llwyr an- mhosibl gydberchenogaethtir yn Werdd- on barhau. Y bydd yn rhaid dyfod a hyn i dei f,V Diad.' Pe cawsai pohl y Werddoa eu ffordd, buasai wedi ei derfynu er's hiramser, Gosod y bobl ar y tir fel meddianwyr, meddai Mr Hussell, ydoedd program i gwreiddiol y Cyngbrair Tirol, a bwn I ydoedd un o brif amcanion y Cynghrair I Cenedlaethol. Y mae polici y Cynghrair Tirol fel hyn, yn ol Mr T. W. Russell, I wedi dyfod yn brif ateg yr Undeb, ac nid I yw diddymiad cydberctienogaeth—mewn geiriau eraill diddymiad landlordiaeth—o I IDodwedd chwyldroadol, nac angen am ei I gyflawni drwy foddion chwyldroadol.' Fa dystiolaeth fwy diymwad ellid ddymuno I am anghenion y Werddon nag a feddienir I gan y blaid Genedlaethol? Y mae y I Llywodraeth Undebol wedi derbyn polici 1 y Cynghrair, ond wedi mabwysiadu 1 moddion o'r eiddynt eu hunain i geisio ei gario allan.
HUNAN-ABERTH ARDDERCHOG.
News
Cite
Share
HUNAN-ABERTH ARDDERCHOG. MYNED ALLAN I HELPU Y GWAHANGLEIF- ION. Gadawodd Miss Annie C. Fowler ei chartref yn Hath dydd Sadwrn amLe'rpwl ar ei thaith i sefydliad v GwahangleiSon yn Molokai, i gario yn mlaen y gwaith a ddechreuwyd gan y Tad Damien. Y mae Miss Fowler yn ferch i'r Parch F. W. Fowler, caplan Tloty Undebol Bath. Y mae yn saith ar hugain oed, » ffurfiodd y meddyiddrych 0 eyflwyno ei bywyd i'r amcan hwn ryw saith mlynedd yn ol, ar ol ymulIo a'r grefydd Babaidd. Bu yn e rydu yn Paris, ac yr oedd yn ddysgybl Pasteur. Bydd yn matron yn ysbyty y Tad Damien yn Kalawayo, ac i'w hadnabod fel y Chwaer Rose Gertrude. Yn ei araeth yn ngwledd Trysorfa Genedlaethol 7 Gwahangleifion yn Llundain, yr wythnos ddiweddaf, dywedai Tywysog Cymru:—Er pan ddaethum yma y prydnawn hwn, derbyniais ohebiaeth, natur yr hon yr wyf yn bryderus am i shwi ei gwybod. Y mae boneddiges yn myned allan i weinyddu ar y gwahangleifion yn Molokai, a bydd yn hwylio y Sadwrn nesaf 0 Le'rpwl. Y mae yn saith ar hugain mlwydd oed, ac yn ferch i glerigwr o Eglwys Loegr, er mai Pabyddes yw hi wedi bod yr am wyth mlynedd c iweddaf. Nid wyf yn meddwl fod hwn yn achlysur anmhriodol i ddymuno 'Duw yn rhwydd' iddi, ac i amlygu gobaith y bydd iddi wneud llawer i liniaru dyoddefaint y bobl anffodus y mae yn myned atynt —A diamheu fod y gwahanol wersylloedd Cristionogol drwy Brydain Fawr yn dymuno yr un peth i'r foneddiges ieuanc hunanaberthol.
[No title]
News
Cite
Share
Dywedir fod Mr Gladstone wrthi yn oyfansoddi dim llai na chwech o erthyglau ar gyfer oyfnodolion pw/sig Nid y leiaf dyddorol fydd ei adolygiad beirniadol ar ganeuon Arglwydd Tennyoon.