Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
YSGRIFENAI Ficer o Kent i newyddiad- ur Llundeinig, meddai y Cambrian News, a dywed fod llwyr angen am ddeddfu ar fater y degwm, 'er achub llawer cartref rbag newvn.' Y mae hyn yn anwiredd, meddai y Cambrian. Oni chafodd Esgob Llanelwy yn dra diweldar, yr holl arian angenrheidiol er atal dinystr ar gartrefle- oedd, neu newyniad y clerigwyr? Heblaw hyny, os bydd i gynulleidfaoedd eglwysig ganiatau i'w parsoniaid newynu — a'r cynulleidfaoedd hyny yn cael eu gwneud i fyny o dirberchenogion, goreu po gyntaf i ni gael dadsefydliad. Beth all aelodau Eglwys Loegr yn Nghymru fod yu feddwl drwy ganiatau i'w hathrawon ysbrydol newynu? Y mae yr Anghydffurfwyr yn gyftredin yn dlawd, ond nid yw eu gweinidogion yn newynu,
[No title]
News
Cite
Share
DEALLIR fod Arglwydd Randolph Chur- chill yn bwriadu cymeryd llinell gref y n er- byn y Llywodraeth ar adroddiad Dirprwy- aeth Parnell. Barn ei Arglwyddiaeth yd y dylasai y Llywodraeth foddloni eu hunain fod, o leiaf, achos yn bod ar yr olwg gyntaf am y ffuglythyrau, a bod eu gwaith yn penodi dirprwyaeth hebu nrhyw ymchwil- iad blaenorol, yn gamgymeriad mawr. Dywedai wrth gyfaill yn ddiweddar:— 'Credodd Mr Walter yn Mr Pigott, a chredodd y Llywodraeth yn Mr Walter, a syrthiodd y cyfan i'r ffos. Am adroddiad y Ddirprwyaeth ar weithrediadau cyffred- inol y Cynghrair, yehydig iawn 0 bwys a osodai ei arglwyddiaeth arno. Y mae Arglwydd Randolph yn gweled lygad yn llygad a'r Rhyddfrydwyr ar y mater, a gall Mr Smith ddysgwyl am haner awr poeth gydag
Y CYNWYSIAD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y CYNWYSIAD. t'r Wythnol 1 o oror y Werydd. 2 Mr Raikea ar y degwm 2 Y diweddar Mr Talbot 2 3 'Oymru Fydd' 3 Y Wasg Gymreig 3 Yr Anwydwst 3 Manioa 4 Y Parch W. Meirion Davies 4 Ysbeilio eglwysi a chapeli 4 Dolgellou 5 Marwolaethau 5 "Smgaiaafc hunanladdiad ger Carnarfon 6 Manceinion 6 Gohebiaechau 7 Y Brif Erthygl 9 Barddoniaeth 11 Hysbysiadau 12-1
[No title]
News
Cite
Share
Y MAE tywydd ystormus y dyddiau diweddaf wedi gadael eu hoi mewn damweiniau lawer ar dir a dwfr. Yr oedd y llestri a gyrhaeddent afon Le'rpwl yn dwyn tystiolaeth eu bod wedi bod yn ymladd a tbywydd ffyrnig yn y Werydd, neu ar ranau amI wg o'n harfordiroedd ein hunain. Cyrhaeddodd agerlong o Glasgow, yn llwythog o dda byw o America, mewn cyflwr oedd yn dangos yn eglur ei bod wedi cael ei dyrnodio yn dost gan y dymhestl. Adroddid fod un dyn wedi ei olchi dros y bwrdd, rhyw haner cant o dda corniog a'u presebau wedi eu cario ymaith gan y mor, a lladdwyd yr un nifer o anifeiliaid drwy gael eu lluchio oddeutu yn ystod yr hyrddwyntoedd. Gorfu l'r Ontario, llestr Germariaidd perthynol i linell y Lake, yr hon a adawodd Le'rpwl am y Baltic prydnawn cyn y Nadolig, ar 01 cael ei dal gan yr ystorm ar dueddau Ysgotiand, droi yn ol, rhag iddi, wrth geisio myned rhagddi, suddo, neu ymddryllio yn erbyn creigiau.
[No title]
News
Cite
Share
YN hwyr nos Sadwrn llofruddiwyd dyn o'r enw Richard Davies, dilledydd, Crewe, ar y brif-ffordd rhwng Crewe a phentref oddeutu tair mill dir o bellder, o'r euw Hough, lIe y preswyliai ei deulu, a lie ) r arferai yntau adychwelyd ar derfyn yr wytbnos 0 Crewe. Oddeutu canol DOS, J yr oedd Davies yn gyru adref, yn oghwmni ei fab, a phan oddeutu chwe chant 0 latheni i'w dý-, ymosodwyd arno gan ddau ddyn, y rhai a ataliasant y cerbyd, un yn dal y merlyn, tra y llusgai y Hall Mr Davies i'r ffordd. Rhedodd y bachgen am help, yn cael ei erlyn gan un o'r dynion. Pan ddychwelodd gyda chynorthwy, cafodd ei dad yn farw ar y ffordd, a'i ben wedi ei hacio a'i ddyrnodio, a'i fawd deheu wedi ei dori ymaith, a dau o'i fysedd wedi eu tori. Yr oedd y llynoedd gwaed a sefyllfa y ffordd, yn profi fod yno ymdrech ffyrnig wedi bod am fywyd. Yr oedd yn dywyll iawn, ac nis gallai y bachgen adnabod y ddau fwystfil.
[No title]
News
Cite
Share
Bu Arglwydd Herschell yn siarad yn Bedford yr wythnos o'r blaen, achy huddai y Llywodraeth Doriaidd 0 ddyfod yn ddiweddar yn gymodlawn a deddfwriaeth a gondemnient bedair blynedd yn ol fel yn eh w) ldroadol ac afiach. Yr oedd yn ymddangos iddo ef fod llywod-ddysg yn dyfod yn rhywbeth tebyg i arwerthiant Is-ellmynaidd-pob plaid wleidyddol yn ymdrechu gyda'r llall i wneud y cynygiad mwyaf helaeth ac ad-dyniadol. Yr oedd ef yn eu cynghori, pa fold bynag, i lynu with y Radicaliaid fel y blaid debycaf o enill, ac anogai arnynt yr angenrheid- rwydd am gadwraeth yr ail dy, mewn trefn i aiolygu deddfwriaeth br\ sur. Fod yn rbaid i Lywodraeth Gartrefol barhau y gorchwyl cyntaf ar gyfer Llywodraeth Ryddfrydol.
[No title]
News
Cite
Share
DYWEO pellebyr o Vienna ddarfod i Frenhines Groeg fod mewn enbydrwydd am ei bywyd drwy wifren y goleuni trydanol. Yr oedd yn gyru cerbyd drwy heolydd Athens, pryd y torodd gwifren yr electric light-un rhan yn disgyn ar y Frenhines, gan ymlapio yn dyu am dani. Tynwyd hi ymaith yn ddiatreg, tra y gollyngwyd yr hylif yn mhen yehydig fomeiitau ar ol i'r peth ddigwydd. Y fath waredigaeth ryfeddol!
[No title]
News
Cite
Share
-V VI VNAI Syr Charles Russell, A.S., pan yn siarad yn Greenwich yr wythnos ddiweddaf, mai y mesur cyntaf y dylai y dosbarthiadau gweithiol alw am dano oddiwrth y blaid Ryddfrydol pan ddeuant i awdnrdod nesaf ydyw mesur un dyn un bleidlais. Dadleuai dros fan-ffermydd yn lie crynhoad mawr o dir, fel moddion i dynu pobl o drefydd gorboblog i gymyd- ogaethau gwledig teneu eu trigolion. Wrth son am y Werddon, dywedai mai yr hyn oedd eisieu gyda'r wlad hono ydoedd undeb gwiiioneddol, ac nid undeb ar femrwn. Y dylai y cyfrifoldeb cyfreithiol gael ei osod ar ysgwyddau oedd yn awr ynjiwyn y cyfrifoldeb^nioesol.
[No title]
News
Cite
Share
Ni bu y gwahaniaeth yn nhymheredd politifaidd dau Dy y Senedd erioed yn fwy amlwg nag yn y cylctilythyrau ag sydd newydd eu eyfeirio gan Arglwydd Salisbury a Mr Smith at yr Arglwyddi a'r Cyffredinwyr Toriaidd. Ni wna y Prif- weiuidog ood yn uuig sylwi fod yn debyg y bydd i orchwylion pwysig gael eu gosod gerbron ystyriaeth y Senedd yn gynar- ffordd ysgafn a choegffol o gyfeirio at waith y senedd-dymbor dyfodol. Y mae arweinydd Ty y Oyffredin, fodd bynag, yn gwybod fod amseroedd ystormus a blinion yn ystor iddo, ac felly dywed fod cwest- lynau o bwysigrwydd mawr yn cael eu dwyn ar unwaith o flaen y Ty, ac amlygai y gobaith dyfnaf y byddai i'r aelodau anrhydeddus fod yn eu lleoedd bob dydd. Nid yw Mr Gladstone wedi anfon at ei ganlynwyr eto.