Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

-t\'U,411' «*» ,-sv t:i^T…

News
Cite
Share

-t\'U,411 «*» ,-sv t:i^T FeCHGYN IliUAINC. i*l< • '"Fechgyn ieuainc! Peidiwch a listio. Chwi sydd yn gwneud y ranks i fyny; Darfyddai Khyiel, .pe darfyddai dynion ag ymrestru yn filwyr.. Ghwi sydd raid ini anerch gyntaf o baw%S ^Cteshelwch recruiting Sergeant fel pe gocheie^h rhag sarph dorchog. Gwyliwch rhag i swn y seingor, a'r olwg arl got gocb, a'r| bluen wen, a'r ablet pres eich witchio. Ofe chwi am ogonimt bywyd milwrol, peidiwch a choelio. Y mae gweled bachgen ieuane ar yr heol, a llathen neu ddwy o ysnoden goch yn ei ben, yn wir wrthddrych gresyndod. Y mae ysnodenau brithion yn gweddu yn well yn mhen ystal- wyn nag yn mhen gwr ieuanc. Y mae ef yn debyg i eidion ciniaw gwr mawr, ar ei ddyfodiad i'w oed, wedi ei besgi, a giltio ei gyrn, a'i addurno a blodau a garlantau. I ba betM I'w ladd! Y foment yr ymrestrwch, byddwch yn slaves mewn gwirionedd. Pa betM gwerthu eich rhyddid, gwerthu eich cysur, a gwerthu eich genedigaeth fraint, am ryw dair punt a dau ar bymtbRg a chwech o bounty money gwirion—s'w potio i gyd yn y dafarn mewn tridiau! Dyn yn gweithu ei hun, yn mlodau ei ddyddiau, i fod yn nod i saethu bwledi plwm ato, neu ynte yn beiriant i saethu rhai at ei frawd? Holl oes dyn yn myned i ladd a dysgu lladd ei gydgreaduriaid! Dyn yn eymeryd ei rwymo, nid â. dirwy, ond a chadwyn, a hualau, ac ag angeu ei hun, i saethu dynion na wnaeth- ant ddim erioed yn ei erbyn, ar word of command creadur o ddyn fel yntau! Y mae yn syndod fod eisieu ymresymu ar y fath bwnc. Gwyliwch gymeryd eich trapio gan filwyr. Y fath nifer o wyr ieuainc sydd wedi rhuthro i'r fyddin heb erioed ystyried y canlyniadau! Y mae piaui. yn y ffair yn edrych gyda syndod ar ddarlun y crocodile ar y canvass oddiallan, ac yn dysgwyl cael ei weled yn fyw am y geiniog. Ond mawr y siomedigaeth wedi myned i mewn. Beth sydd yno? Dim ond hen groen garw pigog wedi ei ystwffio a gwellt! Felly y mae plant hynach yn edrych ar show wirion y sawdwyr—y baneri yn chwifio, y bluen yn ysgwyd, a'r drum yn chwareuj y mae yntau y gwr ieuanc yn ymrestru ar feddwl cael gweled gogoniant y fyddin a'r frwydr; ond wedi i'r eidion druan fyned i'r lladdfa, beth sydd yno? Dim ond siomedigaeth, gruddfan, ac ochenaid, anobaith yn bwyta'r cysur, trallod yn lladd y teimlad, cywilydd yn I gordoi yr enaid, "angeu a ymborth arnynt." Gochelwch y fath brofiad. Gwedi i chwi ladd dyn, cofiwoh y gofyna Duw ei waed oddiar eich llaw! Ymgedwch, ymochelwch, gwyliwch! Cofiwch am y Gwaredwr bendi- gedig, yr hwn a ddaeth i'r byd, nid i ddystrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw. —"Rhyfel a Heddwch" gan Parch, R. Parry, {&walchmai), Llandudno.

.-------.------..-.----.-"---.--'-Y…

; A OES HEDDWCH?