Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

tfetoSttoion tffsmteig.

News
Cite
Share

tfetoSttoion tffsmteig. Tra yr oedd nifer o foneddigion allan yn saethu ddydd Mercher diweddaf gyda Mr. Blecard, Pool Park, ger Cerrigydruidion, saethwyd John Steer, ceidwad, yn ddamwein- iol yn ei ben gan un Mr. Ray. Y mae yn d'od yn mlaen yn dda. Cymerodd tan dinystriol Ie ger Casnewydd, trwy yr hyn y dinystriwyd yn hollol ffermdy, a thy gwair perthynol iddo. Nid oedd y lie wedi ei yswirio. Mae tywyllwch yn bodoli o barth i achos y tin. Ofnir mai rhai o ddosbarth y tramps fu yno yn addoli y duw myglys. Darfu i William Owen, oriorydd, Amlwch, syrthio dan y trên ddydd Llun wythnos i'r diweddaf, wrth geisio myned i mewn iddo pan oedd wedi cychwyn. Cafodd y dyn an- ffodus ei niweidio gymaint fel y bu farw yn mhen awr ar ol i'r dygwyddiad gymeryd lie. Pa bryd y rhoddir terfyn ar ryfyg dyniont Yn Mrawdlys Chwarterol Aberystwyth, dedfrydodd gwtr y fainc Mary Evans, gwraig Evan Evans, Ilefurwr, i garchar am ddau fis, gyda llafar caled, am ladrata darn o linsey o fasnachdy C. M. Williams. Yn llys ynadon bwrdeisdref Dinbych, caf- odd Evan Hookes, ceidwad helwriaeth, ei ddirwyo i bunt ar, costau am ymosod ar John Jones, garddwr. Cafwyd corff dyn heb ddim ond llodrau am dano, ynAfon Llwyd, Pontnewydd. rhwng Pontypool a Casnewydd. Nid yw y trancedig wedi ei adnabod eto, apha fodd y cyfarfyddodd &'i farwolaetbs7dd hyd yma yn ddirgelwch. Trodd owch ger Amlwch a'i wyneL yn isaf, a thaflwyd y rhai oedd ynddo i'r dwfr. Llwyddodd un William Owen, mor- wr o Fangar, i achub dau fachgen rhag boddi Achubwyd y cadben hefyd. Dylid gwneud rhywbeth i gydnabod gwroldeb Owen. Dygvyd aohos poenus gerbron ynadon bwrdeisdrej Caerfyrddin ddydd Sadwrn, pryd y dirwywyd un Jane Jones, Pencnwc, Abergwili, i bum' punt a'r costau am niweid- io ei morwyn, Mary Jones, trwy ei harcholli 1 chyllell. Rhaid rhoddi amddiffyniad y gyfraith yu fwy effeithiol dros ein gwasan- aethyddion. Mae yn llawen genym ddeall fod y Parch. W. Rees, D.D., (G. Hiraethog), Caer, wedi gwella gymaint oddiwrth effeithiau ei gystudd diweddar, fel ag i fod yn alluog i ddefnyddio y llwyfan eto ar brydiau i ddarlithio a phreg- ethu. Cafodd Colwyn, a lleoedd eraill, yn ddiweddar, y mwynhad o glywed yr efengyl- ydd hybarch. Bydded iddo hir oes eto i wasanaethu ei genedl. 0 flaen Pwyllgor y Trwyddedau, Abertawe, dygwyd tri cais am drwyddedau newyddion i werthu diodydd meddwolj un yn Treforiis, a'r ddau arall yn mhlwyf Llandilo, Talybont. Gwrthodwyd y tri. Da iawn, onide? Yr oedd pwyllgor yn Eisteddfod Genedl- aethol yn Gwrecsam wedi rhoddi o X500 i Jil.OOO fel amcan-gyfrif o swm y gweddill fyddai mewn Haw ar ol talu yr holl gostau. Ond os gwir yr adroddiad, darfu i'r ysgrifen- ydd, ar ol tyiiu cynllun y balance-sheet, gael allan na fyddai dim o gwbl yo weddill! Tarawodd y newydd y pwyllgor 4 syndod. Nid oedd fawr ryfedd iddynt synu. Ar y dyddiau Llun a Mawrtb, wythnos i'r diweddaf, agorwyd addoldy newydd per thynol i'r Methodistiaid Wesleyaidd yn Pont- rhydygroes, Aberystwyth. Yr oedd y cynull- ad yn dda, y gwrandawiad yn aatud, a'r pregethu yn fywiog. Cost yr adeilada ydyw £ 1,500. Cynaliwyd cyfarfod dylanwadol er cynorth- wyo achos y Brif Athrofa, yn Dinbych, yn ddiweddar, dan lywyddiaeth Mr. Thomas Gee. Hysbysodd y dirprwywr, Mr. Hugh Owen, Llundain, fod y sefydliad, o ran yr addysg a gyfrenir ynddo, yn d'od yn mlaen yn rhagorol. Ail etholwyd pwyllgor lleol Din- bych gydag unfrydedd. Ymwelwyd a Deheudir Cymru gan ystorm neillduol yr wythnos a aeth heibio. Cododd yr Afon Ebbw dros ei cheulanau, a gyrwyd llawer o bobl o'u tai. Niweidiwyd gweithiau Cwmni y Glofeydd yn Abertilleri yn fawr, a thaflwyd pont anferth i lawr. Mae y Parch. R. Roberts, diweddar wein- idog eglwys Seisnig y Methodistiaid Calfin- aidd yn Connah's Quay, Fflint, wedi derbyn gal wad daer ac unfrydol oddiwrth eglwys Annibynol Guisborough, York. Addysgwyd Mr. Roberts yn Athrofa y Methodistiaid yn y Bala. Llwyddiant iddo yn ei gylch newydd.

CYFARFOD CHWARTEROL UNDER…

CWRDD CHWARTER MEIRIOH,

CYFARFOD CHWARTEROL MALDWYN.